Wicipedia:Ar y dydd hwn/Ebrill
1 Ebrill: Ffŵl Ebrill; Gŵyl mabsant Tewdrig
- 1815 – ganwyd Otto von Bismarck, y gwleidydd o Brwsia a unodd yr Almaen
- 1939 – daeth Rhyfel Cartref Sbaen i ben gyda buddugoliaeth i fyddin Cadfridog Franco
- 1943 – ganwyd y gwleidydd Dafydd Wigley
- 1973 – cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r Dinesydd, sef y papur bro Cymraeg cyntaf
2 Ebrill: Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd
- 1502 – bu farw'r Tywysog Arthur, mab hynaf Harri VII, yn 15 oed
- 1805 – ganwyd yr awdur Danaidd Hans Christian Andersen
- 1840 – ganwyd yr awdur Ffrengig Émile Zola ym Mharis
- 1926 – agorwyd Portmeirion yn swyddogol
- 1982 – dechrau Rhyfel y Falklands neu'r Malvinas
- 1810 – bu farw Twm o'r Nant, bardd ac anterliwtiwr
- 1882 – bu farw'r herwr Americanaidd Jesse James
- 1924 – ganwyd Marlon Brando, seren y ffilmiau The Godfather a Last Tango in Paris
- 1962 – daeth Jawaharlal Nehru yn brif weinidog India
- 2007 – bu farw Marion Eames, nofelydd Cymreig ac awdur Y Stafell Ddirgel
4 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Senegal (1960)
- 186 – ganwyd Caracalla, ymerawdwr Rhufain
- 1870 – bu farw'r bardd a'r awdur Owen Wynne Jones (Glasynys) yn Nhywyn; awdur Straeon Glasynys (1943)
- 1896 – ganwyd y cerddor W. S. Gwynn Williams ym Mhlas Hafod, Llangollen
- 1949 – arwyddwyd Cytundeb Gogledd yr Atlantig yn Washington, D.C.; sefydlwyd NATO
- 1968 – llofruddiwyd Martin Luther King ym Memphis, Tennessee.
- 2007 – darganfod Gliese 581 c, planed newydd allheulol
5 Ebrill: Gŵyl mabsant y seintiau Brychan a Derfel Gadarn
- 1588 – ganwyd Thomas Hobbes, athronydd gwleidyddol o Loegr
- 1891 – ganwyd y gantores opera Margaret Jones, neu Leila Megàne, ym Methesda, Gwynedd
- 1899 – bu farw'r gwleidydd Cymreig Thomas Edward Ellis
- 1976 – bu farw'r biliwnydd Howard Hughes, Americanwr o dras Gymreig
- 1994 – bu farw'r canwr a chyfansoddwr Americanaidd Kurt Cobain
- 1320 – llofnodwyd Datganiad Obar Bhrothaig, datganiad o sofraniaeth annibynnol yr Alban.
- 1520 – bu farw'r arlunydd Eidalaidd Raffaello Sanzio.
- 1896 – cychwynnodd y Gemau Olympaidd Modern cyntaf yn Athen.
- 1896 – agorwyd Rheilffordd yr Wyddfa, rheilffordd rhac a phiniwn.
- 1912 – ganwyd y tenor David Lloyd yn Nhrelogan, Sir y Fflint.
7 Ebrill: Diwrnod Iechyd y Byd; gwyliau mabsant Brynach Wyddel a Doged
- 1770 – ganwyd y bardd William Wordsworth
- 1861 – ganwyd y gantores Clara Novello Davies, mam yr actor a'r cyfansoddwr Ivor Novello
- 1947 – bu farw Henry Ford, sylfaenydd cwmni moduron Ford, yn 83 oed
- 1948 – sefydlwyd Cyfundrefn Iechyd y Byd
8 Ebrill: Diwrnod Rhyngwladol y Sipsiwn
- 1421 – derbyniodd Maredudd, mab Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, bardwn brenhinol ar ôl 20 mlynedd o wrthryfela.
- 1761 – bu farw Griffith Jones, Llanddowror, sylfaenydd 3,495 o Ysgolion Cylchynol Cymreig.
- 1930 – ganwyd y sgriptiwr teledu Terry Nation, a ddyfeisiodd y Daleks yn y rhaglen Doctor Who, yng Nghaerdydd.
- 1938 – ganwyd Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn Kumasi, Ghana.
- 1973 – bu farw'r arlunydd Pablo Picasso.
9 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Georgia (1991). Gwylmabsant Santes Madyn.
- 1852 – ganwyd Gwenllian Elizabeth Fanny Morgan, y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei gwneud yn Faer (neu'n Faeres)
- 1959 – bu farw'r pensaer Americanaidd o dras Gymreig Frank Lloyd Wright
- 1981 – etholwyd Bobby Sands, aelod o'r IRA, yn Aelod Seneddol dros Fermanagh
- 1867 – pleidleisiodd Senedd yr Unol Daleithiau America i brynu Alaska oddi wrth Rwsia
- 1898 – ganwyd Paul Robeson, actor a chanwr a serenodd yn y ffilm The Proud Valley
10 Ebrill: 100fed diwrnod y flwyddyn yng Nghalendr Gregori (heblaw mewn blynyddoedd naid).
- 1870 – ganwyd Vladimir Lenin, chwyldroadwr Rwsiaidd ac arweinydd 'Chwyldro Hydref'
- 1890 – etholwyd David Lloyd George yn Aelod Seneddol etholaeth Caernarfon
- 1930 – agorwyd hostel ieuenctid gyntaf gwledydd Prydain, yn Nyffryn Conwy
- 1932 – ganwyd Omar Sharif, actor a serennodd yn y clasur Doctor Zhivago (1965)
- 1998 – llofnodwyd Cytundeb Belffast gan lywodraethau y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon
- 1240 – bu farw Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, yn Abaty Aberconwy.
- 1241 – bu farw Cadwgan o Landyfái, Esgob Bangor.
- 1765 – bu farw Lewis Morris, bardd, llenor a hynafiaethydd.
- 1969 – ganwyd y gantores Cerys Matthews yng Nghaerdydd.
- 1970 – cychwynnodd y daith i'r gofod Apollo 13; ddeuddydd yn ddiweddarach bu'n rhaid ei gohirio a dychwelyd y gofodwyr i'r ddaear ar ôl i danc ocsigen chwythu.
- 238 – bu farw Gordian I, ymerawdwr Rhufain
- 1933 – genedigaeth Montserrat Caballé, soprano o Farcelona
- 1945 – bu farw Franklin Delano Roosevelt, Arlywydd Unol Daleithiau America - yn union 63 oed
- 1961 – Yuri Gagarin, y dyn cyntaf yn y gofod, yn cylchdroi'r ddaear yn Vostok 1.
- 2000 – bu farw'r naturiaethydd R. M. Lockley a anwyd yng Nghaerdydd.
13 Ebrill: Dechrau Songkran yng Ngwlad Tai, eu dydd Calan; gwylmabsant Caradog
- 1742 – yn Nulyn, perfformiwyd yr oratorio Messiah gan Georg Friedrich Händel am y tro cyntaf
- 1890 – etholwyd David Lloyd George yn AS Bwrdeistref Caernarfon
- 1903 – bu farw Daniel Silvan Evans, geiriadurwr, yn 85 oed
- 1992 – enillodd Tiger Woods Gystadleuaeth y Meistri yn UDA pan oedd yn 21 oed, yr ieuengaf erioed i wneud hyn
14 Ebrill: Diwrnod bara lawr a Diwrnod yr iaith Georgeg
- 1864 – saethwyd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Abraham Lincoln, mewn theatr yn Washington, D.C.; bu farw drannoeth
- 1895 – ganwyd y bardd Cynan, awdur 'Pan wyf yn hen a pharchus...'
- 1985 – bu farw Kate Roberts, awdures
- 1986 – bu farw'r awdures a'r athronydd Ffrengig Simone de Beauvoir
- 1992 – cyhoeddwyd y rhifyn olaf o'r Faner
- 2003 – cwblhawyd gwaith Prosiect y Genom Dynol
- 2010 – lladdwyd 2,700 o bobl yn Naeargryn Yushu, Yushu, Qinghai, Tsieina.
15 Ebrill: Diwrnod Rhyngwladol Celf; diwedd Songkran (Gwlad Tai)
- 1450 – Brwydr Formigny yn y Rhyfel Can Mlynedd; bu'r Cymro Mathau Goch yn filwr blaenllaw yn y frwydr
- 1452 – ganwyd Leonardo da Vinci yng ngweriniaeth Fflorens, yr Eidal
- 1780 – ganwyd yr hynafieithydd Angharad Llwyd yng Nghaerwys, Sir y Fflint
- 1912 – boddwyd 1,514 o bobl pan suddodd y Titanic
- 1937 – ganwyd Tony Lewis un o arweinwyr Byddin Rhyddid Cymru
- 1989 – bu farw 96 o gefnogwyr pêl-droed yn Nhrychineb Hillsborough
16 Ebrill: Gŵyl Mabsant Padarn; Diwrnod annibyniaeth Syria (1946)
- 1881 – ganwyd yr ysgolhaig Ifor Williams ym Mhendinas, Tregarth, Gwynedd
- 1889 – ganwyd yr actor Charlie Chaplin yn Walworth, Llundain
- 1927 – ganwyd y Pab Bened XVI ym Marktl, Bafaria
- 1929 – bu farw'r bardd, yr ysgolhaig, y gramadegydd a'r beirniad llenyddol John Morris-Jones
- 1939 – ganwyd Dusty Springfield, cantores Cerddoriaeth yr enaid (soul)
- 1998 – lansiwyd Gwennol y Gofod, gyda'r gofodwr Dafydd Rhys Williams arni
- 1621 – ganwyd dau efaill yn Sgethrog, Sir Frycheiniog: yr athronydd, Thomas Vaughan, a'r bardd Henry Vaughan
- 1903 – ganwyd 'y dewra o'n hawduron' - T. Rowland Hughes
- 1957 – sefydlwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- 1970 – dychwelodd y llongofod Apollo 13 yn ddiogel i'r ddaear, wedi iddi fethu a glanio ar y lleuad
- 1975 – daeth diwedd ar ryfel cartref Cambodia pan ildiodd lluoedd y llywodraeth i'r Khmer Rouge.
18 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Simbabwe (1980)
- 1849 – bu farw'r arlunydd Japaneaidd Hokusai
- 1906 – trawyd San Francisco, Califfornia, gan ddaeargryn a ddilynwyd gan dân a lladdwyd o leiaf 3,000 o bobl.
- 1949 – daeth Deddf Gweriniaeth Iwerddon (1948), a basiwyd gan yr Oireachtas Éireann, i rym gan greu gweriniaeth yn Iwerddon a thynnu'n ôl ei haelodaeth o'r Gymanwlad
- 1955 – bu farw'r gwyddonydd Albert Einstein wedi iddo wrthod rhagor o driniaeth llawfeddygol
- 2004 – bu farw'r gwleidydd Geraint Howells, AS Aberteifi ac yna Ceredigion, rhwng 1974 a 2004.
- 1770 – 'darganfuwyd' Awstralia gan y Capten James Cook
- 1775 – dechreuodd Rhyfel Annibyniaeth America
- 1900 – ganwyd y nofelydd Richard Hughes
- 1958 – bu farw Billy Meredith, pêl-droediwr Cymreig yn 83 oed
- 1971 – bu farw Niclas y Glais, sosialydd a bardd
- 1971 – lansiwyd yr orsaf ofod gyntaf erioed, Salyut 1
- 1176 – bu farw'r awdur Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro
- 1795 – ganwyd y bardd Evan Evans (Ieuan Glan Geirionydd)
- 1881 – bu farw'r pensaer William Burges
- 1893 – ganwyd yr actor Harold Lloyd a'r arlunydd Joan Miró
- 2010 – cafwyd ffrwydrad ar rig ddrilio olew Deepwater Horizon yng Ngwlff Mexico gan ladd 11 o bobl a arweiniodd at arllwysiad olew ar raddfa fawr.
21 Ebrill: Gŵyl mabsant Beuno a Sant Dyfan
- 1729 – ganwyd Catrin Fawr, ymerodres Rwsia
- 1910 – bu farw Mark Twain, awdur Adventures of Huckleberry Finn
- 1927 – yr agorodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei drysau
- 2003 – bu farw'r gantores Affricanaidd-Americanaidd Nina Simone
- 2005 – bu farw Gwynfor Evans, cyn-Lywydd Plaid Cymru.
22 Ebrill: Diwrnod y Ddaear
- 1724 – ganwyd yr athronydd Immanuel Kant yn Königsberg, Prwsia
- 1902 – ganwyd y gwleidydd Megan Lloyd George yng Nghricieth, Gwynedd
- 1915 – defnyddiwyd nwy gwenwynig (clorin) am y tro cyntaf mewn rhyfel, yn Ail Frwydr Ypres
- 1933 – ganwyd y mathemategydd John Rigby a fu'n gweithio o Goleg Prifysgol De Cymru, Caerdydd
- 1977 – defnyddiwyd ffibr optig am y tro cyntaf i gludo sgyrsiau ffôn byw
- 1977 – bu farw Ryan Davies, canwr, actor a digrifwr.
23 Ebrill: Dygwyl Siôr, nawddsant Brasil, Ethiopia, Georgia, Portiwgal a gwledydd eraill
- 1616 – bu farw Miguel de Cervantes a William Shakespeare
- 1887 – bu farw'r bardd John Ceiriog Hughes, bardd o Lanarmon Dyffryn Ceiriog
- 1912 – ganwyd y cricedwr Haydn Davies yn Llanelli
- 1927 – enillodd Dinas Caerdydd Gwpan yr FA, yr unig dro i dîm o Gymru ei ennill
- 1993 – bu farw'r cyfansoddwr Daniel Jones.
24 Ebrill: Gwylmabsant Meugan. Diwrnod coffa Hil-laddiad Armenia
- 1558 – priododd Mari, brenhines yr Alban François, Dauphin Ffrainc, yn Notre-Dame de Paris
- 1800 – sefydlwyd Llyfrgell y Gyngres yn Washington, D.C.
- 1886 – ganwyd y cowboi a'r biliwnydd Hywel Hughes (Bogotá) yn yr Wyddgrug
- 1916 – dechreuodd Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn
- 2014 – cydnabyddwyd y Cernywiaid yn lleiafrif cenedlaethol gan Lywodraeth Lloegr.
25 Ebrill: Diwrnod Ymwybyddiaeth Malaria, Gŵyl Sant Marc (Cristnogaeth)
- 1283 – syrthiodd Castell y Bere i'r Saeson
- 1792 – cyfansoddwyd La Marseillaise, anthem genedlaethol Ffrainc
- 1944 – ganwyd yr actor John Ogwen yn Sling, ger Tregarth, Gwynedd
- 1953 – cyhoeddwydd y papurau gwyddonol cyntaf ar adeiledd DNA
- 2004 – bu farw'r awdur a'r cenedlaetholwr Eirug Wyn
26 Ebrill Gwylmabsant Bidofydd a Fidalis
- 1937 – dinistriwyd Gernika yng Ngwlad y Basg gan fomiau awyrlu'r Almaen, yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
- 1952 – defnyddiwyd brechiad yn erbyn polio am y tro cyntaf, mewn treialon a gynhaliwyd yn UDA
- 1964 – unwyd Tanganyika a Sansibar gan ffurfio Gweriniaeth Unedig Tansanïa
- 1986 – ffrwydrodd gorsaf ynni niwclear Chernobyl yn yr Wcráin.
27 Ebrill: Diwrnod annibyniaeth Togo (1960) a Sierra Leone (1961)
- 1759 – ganwyd Mary Wollstonecraft, athronydd
- 1794 – bu farw Syr William Jones, ieithegwr
- 1955 – bu farw William Ambrose Bebb, hanesydd, llenor a gwleidydd
- 1963 – ganwyd Russell T. Davies, cynhyrchydd teledu a sgriptiwr
28 Ebrill: Diwrnod cenedlaethol Sardinia
- 1197 – bu farw'r Arglwydd Rhys, Arglwydd y Deheubarth; claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi
- 1844 – ganwyd y bardd Thomas Jones (Tudno) yn Llandudno
- 1923 – cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn Stadiwm Wembley am y tro cyntaf
- 1976 – bu farw'r nofelydd Richard Hughes yn Nhalysarn, Gwynedd
- 2012 – bu farw Matilde Camus, bardd o Sbaen, yn 92 oed
29 Ebrill: Diwrnod Dawns Rhyngwladol; Gŵyl Mabsant Sannan
- 1429 – daeth Jeanne d'Arc i Orléans er mwyn codi'r gwarchae ar y ddinas
- 1803 – bu farw'r arlunydd Thomas Jones
- 1865 – bu farw'r bardd Thomas Evans (Telynog) yn 24 oed
- 1968 – cyhoeddodd y Swyddfa Bost stamp â thestun Cymraeg arni am y tro cyntaf: stamp 'Pont y Borth'.
- 1980 – bu farw'r cyfarwyddwr ffilmiau Alfred Hitchcock
- 1789 – gwnaed George Washington yn Arlywydd cyntaf Unol Daleithiau America
- 1907 – canwyd yr emyn-dôn Cwm Rhondda am y tro cyntaf
- 1945 – bu farw Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen, yn ei fyncer ym Merlin
- 1975 – daeth diwedd ar Ryfel Fietnam pan ildiodd lluoedd y De i luoedd y Gogledd.
- 1983 – ailagorwyd y cyfan o Reilffordd Ffestiniog
- 1993 – rhoddodd CERN y We Fyd-eang ar drwydded agored, gan ei rannu a'r byd cyfan.
|