Wicipedia:Ar y dydd hwn/25 Mehefin
25 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Mosambic (1975)
- 1595 – bu farw William Aubrey, Aelod Seneddol o Gymro ac un o syflaenwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen
- 1903 – ganwyd George Orwell, awdur y llyfr proffwydol 1984.
- 1906 – ganwyd yr actor Roger Livesey yn y Barri
- 1950 – dechreuodd Rhyfel Corea pan ymosododd lluoedd Gogledd Corea ar Dde Corea
- 1953 – cyhoeddwyd Blodau'r Ffair am y tro cyntaf; ffrwyth llafur Aneurin Jenkins Jones
- 2006 – bu farw'r actor a'r gwneuthurwr ffilmiau dogfen Kenneth Griffith.
|