Wicipedia:Cymorth iaith/archif/3

Yn y rhestr brenhinoedd y Deyrnas Unedig mae teitlau'r brenhinoedd i gyd wedi eu hysgrifennu yn ôl y patrwm 'Gwilym I o Loegr', er bod Gwilym er enghraifft yn hannu o Normandi ac nid o Loegr! Oni ddylem ysgrifennu 'Gwilym I, brenin Lloegr'? Dyma'r patrwm geir yn 'Hanes Cymru'. Lloffiwr 20:35, 17 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Cytunaf. Mae nifer o ddysgwyr yn defnyddio "o" i olygu "of", er ei fod gan amlaf yn golygu "from". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:45, 17 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Onid 'Harri VIII, Brenin Lloegr' (ag ati) gyda llythyren fawr ar 'Brenin' ddylai hi fod, gan fod 'Brenin Lloegr' yn deitl (fel, dyweder, 'Arlywydd yr Unol Daleithiau'). Daffy 22:50, 22 Hydref 2006 (UTC) - wedi copïo o dudalen sgwrs Daffy.[ateb]
Cwestiwn da. Nid oedd unrhyw un o'r gramadegau sydd gennyf yn trafod hwn yn uniongyrchol. Rwyf wedi dilyn patrwm John Davies yn Hanes Cymru (e.e. yn y mynegai - 'Edward I, brenin Lloegr'). Yn ôl Y Golygiadur a Gramadeg y Gymraeg byddai dyn yn rhoi priflythyren os yn sôn am 'y Brenin Edward I' (ac fe fyddai'r Y mewn priflythyren pe na bai ar ganol brawddeg). Rwyn cymryd mai rhesymeg John Davies yw mai egluro rhagor amdano mae ychwanegu ', brenin Lloegr' yn hytrach na'i fod yn ran o'r teitl. Fe fyddai dweud rhywbeth fel 'Y Brenin Edward I, brenin Lloegr' siwr o fod yn gywir ond braidd yn hirwyntog! Lloffiwr 21:38, 27 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Helo. It's not wrong to adopt a new convention, but it's worth thinking about consistency as well. For example, we have the French kings and some other nationalities that are also named "xxx o Ffrainc" or whatever. Once again, sorry about using English, but my Welsh is not good enough to express any complex ideas. Here is an extract from the relevant convention on the English wikipedia, on which our convention was loosely based:

Monarchical titles golygu

  1. Pre-emptively disambiguate the names of monarchs, of modern countries in the format "{Monarch's first name and ordinal} of {Country}". Examples: Edward I of England; Alfonso XII of Spain; Henry I of France.
    • This is an exception to the general rule of most common English name. Nevertheless, Monarch's first name and Country should both be the most common form used in current English works of general reference. This convention is not applied to Roman or Byzantine Emperors, or to the older monarchies of antiquity.
  2. Where there has only been one holder of a specific monarchical name in a state, the ordinal is used only when the ordinal was in official use. For example, Victoria of the United Kingdom, not Victoria I of the United Kingdom; Juan Carlos I of Spain, not Juan Carlos of Spain. The use of ordinals where there has been more than a single holder of a specific monarchical name is correct and appropriate. For example, William I of England, not William of England, as William II of England and William III of England hold the same monarchical name.
  3. Take care to use the correct name of the state at the time when a monarch reigned. So it is
    1. with the British: monarchs of England only up to 1707 (e.g., Henry VIII of England), Great Britain from 1707-1800 (e.g., Anne of Great Britain), the United Kingdom since 1801 (e.g., Elizabeth II of the United Kingdom). "England", "Great Britain" and "United Kingdom" describe different historical states covering different geographic areas, and so they do need to be clarified.
    2. with German monarchs: Holy Roman Empire until 1806 (e.g., Henry V, Holy Roman Emperor), Germany from 1871 (e.g., William I, German Emperor), Austria after then, etc. Germany is especially complex; when in doubt, refer to List of German Kings and Emperors.
    3. But if an obscure official name of a state exists alongside a clearly understood one, it is fine to use the more widely known version. For example, Kings of Greece rather than the technically correct Kings of the Hellenes.
  4. Where a monarch has reigned over a number of states, use the most commonly associated ones. For example, Charles II of England, not Charles II of England, Scotland and Ireland; William I, German Emperor, not William I of Prussia, although there should be redirects from these locations. When several states are so associated, it is proper and often desirable to give the others compensating prominence in the intro when one gets the name of the article.
  5. European monarchs whose rank was below that of King (e.g., Grand Dukes, Electors, Dukes, Princes), should be at the location "{Monarch's first name and ordinal}, {Title} of {Country}". Examples: Maximilian I, Elector of Bavaria, Jean, Grand Duke of Luxembourg.

The above rules are not perfect - and indeed, users on wikipedia are currently talking about changing them - but they have worked well for about three years now, and they do ensure consistency. I would like more people to contribute to this debate before we change our naming conventions. Deb 15:51, 28 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Gyda llaw, dwi o blaid newid i arddull Gwilym II, Brenin Lloegr ac ati (am y rhesymau sydd wedi cael eu trafod yn barod). Jyst y cwestiwn o lythyren fawr neu bach oedd yn fy nrysu. Does dim rheswm dros dilyn y Wicipedia Saesneg. Er bod llawer o'r Wicipedias eraill yn defnyddio'r un patrwm â'r un Saesneg, mae rhai yn defnyddio ffurfiau sy'n cytateb yn well i'w ieithoedd nhw:
  • Almaeneg: Wilhelm II. (England)
  • Rwsieg: Вильгельм II (король Англии) = Gwilyn II (brenin Lloegr)
  • Croateg: Henrik VIII., kralj Engleske
Daffy 22:10, 28 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Dyma gynnig ar drafftio arfer enwi erthyglau ar gyfer:

Teitlau erthyglau ar deyrnoedd ac aelodau teuluoedd brenhinol

  1. Argymhellir y ffurf: {Enw cyntaf y teyrn} {Rhif trefnol os oes rhagor nag un o'r un enw}, {disgrifiad o'i safle gyda phriflythyren} {ei brif diriogaeth}. Enghreifftiau: Edward I, Brenin Lloegr; Boris I, Tsar Bwlgaria; Jean, Archddug Lwcsembwrg.
  2. Gellir hepgor y teitl ac enw'r wlad wrth ddisgrifio teyrnoedd yr henfyd, gan roi'r enw a arferir amlaf heddiw amdano, e.e. Nero; Genghis Khan.
  3. Pan fydd y drafodaeth ar Gymreigio enwau wedi ei gwblhau gellir trafod sillafiad yr enw fan hyn.
  4. Defnyddir yr enw ar brif diriogaeth y teyrn pan y teyrnasai. Hynny yw, Gwilym I, brenin Lloegr ond Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig; Henry V, Ymerawdwr Rhufeinig Sanctaidd – hyd at 1806; William I, Ymerawdwr yr Almaen – wedi 1806; Ferdinand I, Ymerawdwr Awstria – wedi 1804. Ar gyfer y cyfnod rhwng 1603 a 1707 ym Mhrydain rhoddir defnyddir y patrwm Iago I, brenin Loegr. Gellir enwi holl diriogaeth y teyrn yn yr erthygl amdano.
  5. Ar gyfer tywysogion Cymru defnyddir naill ai:
    1. yr enw mwyaf adnabyddus, e.e. Hywel Dda, Owain Gwynedd, neu
    2. yr enw ffurfiol, e.e. Llywelyn ap Gruffudd, Rhys ap Gruffudd.

Nodiadau:

  1. Mae'r pwynt am ba ffurf a sillafiad i'w ddefnyddio ar enw yn cael ei drafod ar hyn o bryd yn yr adran ar Wicipedia:Y Caffi#Cymreigio Enwau Priod – gorau i gyd po fwyaf o drafod sydd ar hwn.
  2. Ceir nodiadau ar y gramadeg perthnasol yn Wicipedia:Canllawiau iaith#O a materion cysylltiedig. Croeso i'r rhai mwy gwybodus na mi wella ar y nodiadau hyn neu eu cywiro efallai!
  3. Mae cynnig wedi dod i roi prif lythyren i deitl y teyrn, Tsar, Brenin, ayb er mwyn trin y darn wedi'r comma fel estyniad o'r teitl yn hytrach na disgrifiad pellach o'r person (a fyddai'n galw am lythyren fach). Mae'r drafft uchod yn cynnwys priflythrennau.
  4. Ar gyfer y cyfnod 1603 hyd at 1707 mae'r drafft uchod yn cynnig bod y teitl yn enwi un tiriogaeth yn unig. Y dewis arall byddai defnyddio'r patrwm James I/VI, brenin Lloegr a'r Alban. James I, brenin Lloegr yw'r cofnod ym mynegai John Davies i Hanes Cymru.
  5. Mae Deb yn cynnig i ni ddechrau tudalen sy'n casglu'r confensiynau y byddwn yn cytuno arnynt at ei gilydd, yn yr un modd ag mae'r dudalen en:Wikipedia:Naming Conventions yn gwneud ar Wikipedia Saesneg. Gellid galw'r dudalen yn rhywbeth fel 'Wicipedia:Arferion enwi erthyglau'. Y syniad (os ydw i wedi deall yn iawn) yw bod y confensiynau sydd yn cael eu derbyn gan y gymuned a'u rhoi ar y dudalen arferion enwi erthyglau yn cario mwy o rym nag argymhellion – h.y. bod rhaid dilyn yr arfer a gytunwyd arno. Byddai rhai o'r paragraffau sydd ar hyn o bryd ar y dudalen Wicipedia:Arddull yn cael eu symud i'r dudalen arferion enwi erthyglau. Byddai'n gyfle i ehangu ar argymhellion megis defnydd y fannod ac enwau gwledydd wrth enwi erthyglau, neu eu hail-ystyried.

(Don't have the energy to translate this contribution at present – will do sometime unless somebody else manages it first) Lloffiwr 15:25, 3 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Wedi rhoi'r canllaw ar Wicipedia:Arddull am nawr, heb unrhywbeth am bwynt 3 uchod gan nad yw'r drafodaeth ar ffurf enwau personol o dramor ond megis ddechrau. Wedi cymryd bod diffyg sylwadau ar y drafft yn golygu nad oes gwrthwynebiad iddo. Wedi rhoi hwn ar arddull yn hytrach na dechrau tudalen newydd ar arferion enwi erthyglau am nawr - yn teimlo bod angen rhagor o drafod ar y pwynt hwn. (Have put the above guidance on Wicipedia:Arddull for now, without anything for point 3 above since the discussion on the forms of foreign personal names has not been concluded. Have taken lack of comment on the draft to mean there are no objections. Have put this on arddull instead of starting a new page on naming conventions for now since I feel this suggestion needs further discussion.) Lloffiwr 22:50, 24 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Translation request - Rheilffordd Talyllyn golygu

en:Talyllyn Railway is a featured article on enwiki, but only a stub here. Is there anyone who fancies trying to translate it? – Tivedshambo (talk) 17:32, 28 Awst 2008 (UTC)[ateb]

bathu termau ar gyfer Wicipedia golygu

Mae angen bathu rhai termau sy'n cael eu defnyddio ar Wicipedia. Oes cynigion ar gyfer y canlynol?

Rhagor o dermau i'w bathu, sef y termau am ddefnyddwyr y gwahanol grwpiau galluoedd:

  • Saesneg
    • Term Cymraeg cyfredol
      • Cynnig term newydd
  • Sysop
    • Gweinyddwr
  • Sytem Administrator
    • Gweinyddwr y System (wedi ei osod)
  • Bureaucrat
    • Biwrocrat
  • Check user
    • Archwiliwr defnyddwyr (wedi ei osod)
  • Steward
    • Stiward
  • Importer
    • Mewnforiwr (wedi ei osod)
  • Transwiki importer
    • Mewnforiwr rhyngwici (wedi ei osod)
  • Developer
    • Datblygwr (wedi ei osod)
  • Oversighter
    • Goruchwyliwr (wedi ei osod)
  • Rollbacker
    •  
      • Gwrthdröwr
  • Autopatroller

Mae'r dudalen en:Wikipedia:Glossary yn egluro'r termau. Mae'r sgwrs geirfa yn trafod cynigion eraill yn y gorffenol. Lloffiwr 19:50, 2 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Chile neu Chile? golygu

Just out of interest...

I was trying to sort alphabetically a list of countries, and came across "Chile". Should it be listed under "C" or "Ch"? In this case, it happened not to make any difference, but suppose that "Cymru" had also been in the same list, then what order would you write them in? Alan 20:05, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

treiglo enwau sydd i fod yn ddolennau golygu

Beth yw'r ffurf gywir i wneud hyn er mwyn i'r cyswllt gael ei gofnodi ac i'r treiglad fod yn gywir? 89.241.54.218 09:40, 30 Ebrill 2009 (UTC) Daniel Owen[ateb]

fel hyn e.e. "Dw i'n byw yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]]" --Ben Bore 11:07, 30 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Shwmae! Er gwybodaeth, mae'r botwm | er mwyn ei rhoi rhwng yr enw gwreiddiol a'r gair wedi ei dreiglo ar ochr chwith y bysellfwrdd nesaf at y botwm Shift. Sori os ydw i'n datgan rhywbeth gwbl amlwg, ond pan ddechreuais i fan hyn, cymrodd e oes i fi ddod o hyd iddo fe! (Ond wedi dweud hynny, falle mai fi oedd/sy'n dwp!!) Rhodri77 11:34, 30 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

rhestr gwylio golygu

Pam "rhestr gwylio" yn lle "rhestr wylio"? Mae 'rhestr' yn fenywaidd, ond dydy hi? A dw i'n meddwl bod 'gwylio' 'n disgrifio 'rhestr'. Mae'n flin 'da fi os nad ydw i'n deall peth syml (sy'n debyg iawn, gwn i). --Cfr 01:29, 4 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Yn cytuno mai 'rhestr wylio' dylai fod. Fe af ati i newid y nodiadau perthnasol o dipyn i beth. Ar yr un pryd, hoffwn holi a all rhywun awgrymu term gwell yn lle 'rhestr wylio'? Mae gen i ryw frith gof bod hwn wedi cael ei drafod cyn hyn ond nad oedd cytundeb, neu syniad da efallai - ddim yn cofio'n iawn. Beth am 'dilyn hynt', neu 'hynt tudalennau' ar gyfer y tab ar frig y dudalen? Ond gallai ddim ar fy myw meddwl am deitl addas yn lle 'fy rhestr wylio' - dim dawn bathu o gwbl gennyf 'nai ofon. Lloffiwr 21:18, 25 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Wyt ti'n gallu'i newid yn fuan, Lloffiwr? Mae wedi bod yn "Fy Rhestr Gwylio" ers imi fod fan hyn (ychydig dros flwyddyn bellach). Ac hefyd, dwi'n eithaf lico "FRG" a dweud y gwir - ddim yn gallu meddwl am enw gwell :| -- Xxglennxx 14:41, 17 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Translation request - Du Fu golygu

en:Du Fu is a featured article on enwiki,but the Cymraeg vertion doesn‘t exist. Is there anyone who can help to creat it?Thanks!--brhf 15:53, 8 Mai 2009 (UTC)

One of my favourite poets! We need the article, for sure. The problem is not one of lack of interest but of time and resources... Anatiomaros 18:33, 8 Mai 2009 (UTC)[ateb]

UDA, neu yr UDA? golygu

Mae 159 o erthyglau yma ar hyn o bryd yn cynnwys yr ymadrodd "yr UDA". Yn fy marn i mae hyn yn gwbl anghywir, gan fod "yr Unol Daleithiau America" yn anghywir. Dylem ddweud "Califfornia yn UDA", "talaith ail fwyaf UDA" ac ati, NEU "Califfornia yn yr Unol Daleithiau" ac ati. Cyn i mi fynd ati i newid yr enghreifftiau, oes barn arall? --Llygad Ebrill 20:26, 19 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr. "Yn UDA/Unol Daleithiau America", ond "yn yr Unol Daleithiau", er nad ydw i'n siŵr os yw "yr UD" yn dalfyriad cyffredin yn y Gymraeg. Nid oes gen i ffafriaeth bersonol dros UDA neu UD, ond yn fy marn i dylswn cadw categorïau dan yr enwau Hanes yr Unol Daleithiau, Gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau ac ati er lles cysondeb, gyda'r prif gategori fel Unol Daleithiau America, ac yn sicr ni ddylid defnyddio yr enw anffurfiol (a dadleuol) "America". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:00, 19 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]
Hollol. Ymadrodd Saesneg mewn gwisg Gymraeg yw "yr UDA". Anatiomaros 22:40, 19 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Pam Japan ac nid Siapan? golygu

Mae'n flin 'da fi os mae trafodaeth wedi bod am hwn.

Wy'n deall bod j yn cael ei ddefnyddio i eiriau benthyg, ond mae'n ymddangos yn od i mi, gan fod siapan wedi bod yn rhan o'r iaith eisioes. (DafyddLlwyd)

Croeso i'r Wicipedia, Dafydd. Yn bersonol, dwi'n cytuno. Siapan a Siapaneg dwi wedi arfer erioed, nid 'Japan' a 'Japaneg' (ffurfiau Saesneg, mewn gwirionedd: basai'n well gen i gael y Nihon Siapaneg os nad ydym am ddefnyddio 'Siapan'). Mae'r enwau gwledydd yn yr Atlas Cymraeg Newydd a rhestr Bwrdd yr Iaith yn anghyson a dadleuol, a deud y lleia. Hefyd mae gennym yr enwau yn Geiriadur yr Academi - gwahanol eto. Cewch weld yr amrywiadau ar y dudalen yma: Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg. Os oes gennych chi ddiddordeb mae 'na drafodaeth (eto byth!) ar ein dewis o enwau gwledydd yn digwydd yn y Caffi. Gyda llaw, i arwyddo neges rhowch bedwar tild ar ddiwedd y neges (fel hyn ~~~~) a bydd eich enw a'r dyddiad yn ymddangos ar ôl cadw'r dudalen. Hwyl, Anatiomaros 17:15, 14 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Wel dyna gyd-ddigwyddiad! Rwan ta, Dafydd llwyd, (hym hym! clirio gwddf, edrych o gwmpas...) os wyt ti'n bodoli... wyt ti'n bwyta Siam? Tost a siam? Ac a wyt ti'n canu "Sion Sions yr hogyn pren" efo'r tebot piws, ac yn gwiso Sins denim!!! neu a wyt ti'n derbyn fod y Gymraeg yn ddigon cyhyrog i ymgorffori ieithoedd eraill? "Plant bach yn tsieni a thiroedd Japan..." oeddwn i (a'r Trwynau Coch" yn ei ganu, flynyddoedd yn ôl!
Mae 99.9 o'n dinasyddiuon Cymraeg (gan gynnwys fi fy hun) wedi ein cyflyru gan y Sais a'r Americawr i dderbyn y lythyren "J", wyt ti? Esblygwn! Llywelyn2000 20:33, 14 Awst 2009 (UTC)[ateb]

"Allergology" yn Gymraeg? golygu

Unrhyw syniadau am gyfieithiad Cymraeg o "allergology" (astudiaeth alergeddau)? Does dim canlyniadau Cymraeg ar Google am alergeddeg, alergoleg, alergeddoleg, neu alergeg. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 14:48, 16 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n hoffi dy fathiad syml, dealladwy: alergeddeg. Llywelyn2000 18:16, 16 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Llywelyn, byddaf i'n dewis "alergeddeg" os nad oes rhagor o adborth. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 13:03, 19 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Naming New Category golygu

I want to create a create a new category for images stored on this Wicipedia, that have text in the Welsh language, so they can only be used on this Wicipedia, e.g Delwedd:Ayerbemapa2.cy.png.
Would [[Categori:Delweddau gyda testun Cymraeg]] be a good translation? Paul-L 16:32, 12 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Strictly speaking there should be a treiglad llaes - [[Categori:Delweddau gyda thestun Cymraeg]]. An alternative would be [[Categori:Delweddau sy'n cynnwys testun Cymraeg]]. Anatiomaros 17:26, 12 Medi 2009 (UTC)[ateb]
The Second seems a better translation, so I'll use that. Diolch yn fawr, Paul-L 18:55, 13 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Would [[Categori:Delweddau Posteri Ffilm]] be correct?, as I'm not sure which of the words should be plurals. Paul-L 12:45, 17 Medi 2009 (UTC)[ateb]
I'd say that's correct - but wait for another confirmation first!--Ben Bore 10:45, 18 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Anyone else able to confirm/correct? Paul-L 16:54, 24 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Perfect, but lower case for posteri and ffilm for uniformity of style: 'Categori:Delweddau posteri ffilm'. Btw, I think you deserve a wiki medal for your work on these image categories, Paul - what do they call them on en:, 'barnstars' I think? Campus! Anatiomaros 17:18, 24 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Oh, Diolch yn fawr! I'm getting gradually closer to being able to write that featured-class article on Stan Laurel! I'm categorising the pictures so it becomes easier to add similiar Copyright templates to them (e.g. TV programme title screenshots) or deleting them when they are (or have similiar versions) on Commons (e.g. many of the maps). Paul-L 18:34, 25 Medi 2009 (UTC)[ateb]
On a side-note, I recently made this edit correcting mutations (without using a dictionary or the BBC mutation checker), and when Anatiomaros edited the article, the only mistake I'd made was using a capital letter. For a learner, mutations can be quite dificult, so I'm really pleased I got that correct. Paul-L 16:26, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Llongyfarchiadau ar dy lwyddiant gyda threigliadau. Yn bersonol, dwi'n meddwl bod treigliadau yn gwastraff o amser. Ond dw'i ddim yn an-obeithio, achos byddwn nhw wedi diflannu o'r Gymraeg yn gyfan gwbl cyn ddiwedd y canrhif hon, siŵr o fod. Ar ôl i ddigon o ddysgwyr gamtreiglo, neu anghofio i dreiglo weithiau, penderfynai'r llywodraeth i adnabod y Gymraeg Heb Treigliadau fel iaith swyddogol yng Nghymru, sy'n mwy addas i ddysgwyr na'r Cymraeg gwreiddiol. Dechreuai hi bod yn well hyd yn oed gan nifer o Gymry Gymraeg, ac o fewn nifer o flynyddoedd fe dderbyniau hi gefnogaeth yr Academi. Cyn hir, caiff ei chlywed nid yn y Fro Cymraeg yn unig ond ar draws Cymru i gyd o Fôn i Fynwy, a chafwyd ei siarad fel prif iaith Cymru yn hytrach na'r Saesneg. Yn olaf, fe fyddi hi'n ddisodli'r Iaith Main fel y iaith rhyngwladol mwyaf poblogaidd y blaned.

"Yr UDA"? golygu

Any explanation for the following?

Term # Google hits
"arlywydd yr unol daleithiau america" 4
"arlywydd unol daleithiau america" 9070
"arlywydd yr UDA" 2490
"arlywydd UDA" 123

It seems people tend to insert the "yr" when using the abbreviation. Why?

Luke 16:12, 20 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Quite simply they shouldn't use the definite pronoun 'y/yr' before UDA as it's gramatically superfluous. Yet another example of the influence of English on Welsh today (the USA). It's rather like writing "y mynyddoedd Eryri" instead of "mynyddoedd Eryri" - something no Welsh speaker would do, I hope! - but maybe the fact that there were only 4 hits for "arlywydd yr unol daleithiau america" shows that it happens because people are so used to hearing "the USA" in English? Anatiomaros 17:14, 20 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Thanks. I corrected "yr UDA" in an article, but then became unsure when I did a Google search. It is hard for a learner to muster enough confidence to go against the majority. Luke 17:36, 20 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
P.S. sorry, only just noticed that this is already discussed above! Luke 17:43, 20 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

Diagram ffordd camlesi golygu

Dwi ddim yn siarad Cymraeg. Rydw i eisiau gosod diagram ffordd camlesi ar Wicipedia. I have used clo and cloeon for "canal lock" but notice that the text of Camlas Morgannwg uses lloc and llocau. Do they both mean the same, or should I change the maps? Bob1960evens 10:03, 2 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Sorry, should have replies earlier. 'Cloeon' ar locks in a door. Loc/Lociau or Lloc/Llociau should be used for canals according to Bruce (Academi) and Geiriadur y Brifysgol. Best stick to Lloc for consistency.--Ben Bore 09:13, 18 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. All maps changed. Bob1960evens 20:50, 18 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Termiadur newydd ar y we golygu

Mae Canolfan Bedwyr wedi cyhoeddi fersiwn Beta o dermiadur newydd o'r enw 'Porth Termau'. Casgliad yw hwn o dermiaduron eraill, rhai ohonynt heb eu cyhoeddi cyn hyn ar y we. Wedi ei ychwanegu at ein rhestr geiriaduron Cymraeg.

gender golygu

How can you tell whether a word is masculine or feminine? Dysgwr 12:49, 6 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Cenedl enwau are usually denoted in dictionaries. Thaf 12:55, 6 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Rob Terry golygu

A user who has apparently been banned from this site (I don't know why) is making a number of requests over on the English site for the article on Rob Terry to be translated into Welsh. Is anyone here willing to do that? Ghmyrtle 11:58, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

He was banned for copying and pasting from google Translate. I'm afraid I have no interest in wresting so I'll leave that article to someone else. Thaf 12:17, 7 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Paneidiwch golygu

This is unrelated to my Wicipedia contributions, but there's a song by Y Diwygiad called 'Paneidiwch'. What does that translate as? I assume this to be the imperative of 'Paned', so does it mean '[Get Me] A Cup of Tea!'? Diolch yn fawr, Paul-L 19:52, 20 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

I don't think it's a real word - probably intended as 'Make tea'.--Ben Bore 17:40, 21 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

"Verifiability" yn Gymraeg golygu

"Gwirio" yw "to verify," "gwiriadwy" yw "verifiable," ond beth yw "verifiability" yn Gymraeg? Oes gair. Dwi wedi chwilio ar-lein a mewn geiriaduron sydd gen i, ond dwi'n methu dod o hyd iddo. Os 'sdim gair yn bodoli, beth am "gwiriadrwydd" gan ddilyn "atebol" > "atebolrwydd"? -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 14:56, 3 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n methu cael hyd i'r gair Cymraeg hefyd - os oes 'na un. Rhaid i ni fod yn ofalus i beidio bathu geiriau rhag ofn bod un yn bodoli eisoes, ond mae "gwiriadwyedd" yn un cynnig arall. Yn anffodus does gen i ddim copi o eiriadur Bruce. Wyt ti wedi chwilio fan'na? Anatiomaros 18:57, 3 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Nac ydw. Dyw'r geiriadur 'na ddim 'da fi. Chwilia' i'n fwy, ac os fy mod yn dod o hyd i rywbeth, dyweda' i amdano fan hyn. (Ond dyw hynny ddim yn golygu dyw cyfranwyr eraill ddim yn gallu cyfrannu eu "two cents" -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 01:30, 4 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Gwiriadwyedd? Llywelyn2000 (sgwrs) 19:26, 23 Mai 2013 (UTC)[ateb]

Yr iaith Lezgi golygu

Mae un defnyddiwr draw ar y Wiciadur wedi gofyn beth fyddai'r Gymraeg am yr iaith "Lezgi". Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad o'n i erioed wedi clywed amdani (ac o edrych yn Ngeiriadur yr Academi, 'dyw Dr. Bruce ddim wedi chwaith!) A oes rhywun yn gwybod am gyfieithiad swyddogol ar gyfer enw'r iaith neu a fydd angen Cymreigeiddio'r enw i fod yn "Lesgi" neu "Lesgeg" efallai? Pwyll 19:27, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Un o ieithoedd Dagestan ydy hi? Os felly mae 'Lezgin' yn ffurf arall ar yr enw (dim mod i'n gwybod mwy amdani na'r ffaith ei bod yn un o ieithoedd yr ardal honno!). Byddai 'Lesgeg' neu 'Lesgaeg' yn Gymreigiad safonol. Anatiomaros 19:41, 13 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Diolch Anatiomaros! Pwyll

Bathu termau grwpiau defnyddwyr Wikimedia golygu

Mae Xxglennxx wedi bod yn ddiwyd yn bathu termau Cymraeg am rai o'r grwpiau defnyddwyr di-ri sydd ar Wikimedia. A allwn ni gael eich barn arnynt a chynigion eraill hefyd os yw'r awen yn taro?

  • Saesneg
    • Term Cymraeg cyfredol
      • Cynnig term newydd
  • Abuse filter editors
    • Golygyddion hidlo camdriniaeth
      • Golygyddion hidlo sbwriel
  • Autopatrollers
    • Awto-batrolwyr
      • Oto-batrolwyr
  • Autoreviewers
    • Awto-adolygyddion
      • Oto-wiryddion
  • Big exporters
    • Allforwyr mawr
  • Protected page editors
    • Golygyddion tudalennau wedi'u diogelu
  • Patrollers
    • Patrolwyr
  • Rollbacker
    • Gwrthdroiwr

Lloffiwr 15:22, 29 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Mae nhw'n swnio'n grêt i mi. Llywelyn2000 21:56, 29 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ydw i? Lle? Ha. Maent yn swnio'n iawn i minnau hefyd, ond falle rwy'n bod yn dueddol, ha. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:50, 29 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Yn neu ym o flaen blwyddyn rhwng 1000 a1999? golygu

Pan oeddwn yn hogyn ysgol blynyddoedd maith yn ôl roedd yr athro yn mynnu y dylid defnyddio'r term YM o flaen y blynyddoedd o 1000 i 1999; ee bu farw Llywelyn ym 1282 sef ym mil dau wyth dau. Ers troad y mileniwm yr wyf wedi sylwi bod mwyfwy o awduron yn y wasg Gymraeg yn defnyddio YN o flaen pob blwyddyn (Enillodd y Goron yn 1987). Dydy o ddim yn fater o bwys mawr i ddyfodol y byd pa un sydd gywiraf, ond mewn ambell i erthygl, ac ambell i frawddeg mae yna enghreifftiau o'r ddau ddefnydd, sydd yn edrych yn hyll o anghyson. A oes modd cael dyfarniad o ba ffurf dylid ei defnyddio er mwyn cysondeb ar Wicipedia? 18:34, 27 Chwefror 2011 (UTC)

Pa hwyl Alwyn? Yden, da ni'n anghyson - mewn sawl ffordd! Mae 'na erthygl ar hyn ond fedra i yn fy myw 'mo'i ffindio! Ro'n i'n meddwl mai Wicipedia:Arddull oedd o, ond na! Mae "Ym mil-naw-naw-saith..." yn fwy naturiol, fel rwyt ti'n ei awgrymu. Mi chwilia i ymhellach beth drafodwyd yn y gorffennol. Byddai cysoni yn goblyn o dasg - newid eu haner, ond mae'r blwch chwilio o fendith i ni wneud hyn. COFIA arwyddo dy sylwadau - mae 'na lwybr tarw reit ddefnyddiol i wneud hyn: pedwar "tilde" ("tonnau mor" dw i'n ei alw) - un ar ol y llall, a mi wneith y peiriant roi dy Enw Defnyddiwr a'r dyddiad ayb. Diolch am dy gymorth hefyd, fel y dywedodd rhen D.I. 'Does dim digon yn y fyddin i ennill y tir yn ôl...' Ond i weld yr ochor ola - mae 'na fwyn a mwy o ysgolion yn defnyddio Wici fel adnodd dyddiol. Llywelyn2000 20:30, 27 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]
Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n cytuno â chi, Alwyn - pan dwi wrthi'n ysgrifennu erthyglau, dwi wastad yn defnyddio "ym" o flaen blynyddoedd sy'n dechrau gyda 1, ac "yn" o flaen y rhai sy'n dechrau gyda 2. Fel y nodir uchod gan Llywelyn2000, mi fyddai'n andros o dasg hir i'w gwneud i rywun os canolbwyntiant hwy ar y dasg honno yn benodol. Felly, awgrymaf ichi, a chyfranwyr eraill, i'w cywiro hwy wrth ichi eu sbïo hwy :) Ewch amdani, felly! -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 01:49, 28 Chwefror 2011 (UTC)[ateb]

Helo, Mae fy Cymraeg (treuglo!) yn eitha wan! Beth yw'r fordd orau i dweud "sweet dreams my little angels" yn Gymraeg? Diolch am eich cymorth. Thatsitivehadenough 22:14, 12 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]

Mae fy Nghymraeg braidd yn crap, dweud y gwir, felly ymunwch â'r clwb! Ond gyda'r caveat hwnnw, beth am rywbeth fel "freuddwydion hyfryd, f' angylion bach"? Mae braidd yn llythrennol - dwi ddim yn gweld pam na chewch ei ddweud, ond efallai wnaiff un o'r siaradwyr iaith gyntaf gynnig cyfieithiad mwy idiomatig. Peredur ap Rhodri 22:55, 12 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
O.N. wna i ddim symud eich cwestiwn - ond mae'n ymddangos i mi mai Wicipedia:Cymorth iaith ydy'r lle i ofyn cwestiynau tebyg yn y dyfodol. Mae'r dudalen hon ar gyfer trafodaeth am gynnwys yr erthygl Cymraeg. Peredur ap Rhodri 23:01, 12 Ebrill 2011 (UTC) symudwyd erbyn hyn[ateb]
Dw i ddim yn arbennigwr ar iaith (er mod i'n diwtor Cymraeg rhan amser - dwi'n beio'r system addysg!), ond fyddet ti byth yn treiglo gair ar flaen brawddeg (Breuddwydion > Freuddwydion), oni bai am ei fod yn ferf (e.e. Breuddwydiaist ti), a bod y frawddeg yn unai cwestiwn (Freuddwydiaist ti?) neu bod y frawddeg yn un negyddol (Freuddwydiaist ti ddim.). Gobeithio bod hyn o help. Parthed cwestiwn Thatsitivehadenough, dw i'n cytuno, does dim cyfieithiad llythenol, baswn i'n dweud 'Cysgwch yn dawel fy angylion bychain". --Ben Bore 08:32, 13 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Yn yr enghreifftiau eraill, mae'r treiglad yn dilyn gair sy'n galw arno ond sy wedi cael ei adael allan, sef "(A) Freuddwydiaist ti?", a "(Ni) Freuddwydiaist ti ddim." Roeddwn i'n meddwl am "(Cewch) Freuddwydion da", ac yn disgwyl sefyllfa debyg, felly. Ond, wedi ail-feddwl amdano, dwedir "Blwyddyn newydd dda" yn hytrach na "Flwyddyn ...", felly gallai fod nad ydy fy rhesymeg yn gweithio... Peredur ap Rhodri 09:26, 13 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]
Diolch i pawb am eich cymorth. Mae gen i fwy o syniad nawr beth i gael. Diolch yn fawr. Thatsitivehadenough 12:51, 13 Ebrill 2011 (UTC)[ateb]

"ŵy" neu "wy"? golygu

Newidiais i "ŵy" i "wy" mewn nifer o fannau ar y sail na ddangosir to bach yn fy ngeiriadur poced bach, ond dw i rwan yn gweld llawer o enghreifftiau o'r sillafiad "ŵy" ar y we. A fedrai rhywun chwilio mewn geiriadur mwy awdurdodol os gwelwch yn dda - does dim un gennyf. Diolch. Peredur ap Rhodri 08:44, 17 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Ô.N. mae'n "wy" yn ôl [1] Peredur ap Rhodri 08:53, 17 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Yn ôl Geiriadur yr Academi, Y Geiriadur Cyfoes a gwefan geiriadur.net, "ŵy" yw'r sillafiad cywir. Dw i'n credu'n gryf y dylid newid y sillafiad yn ôl i "ŵy". Pwyll 13:04, 17 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Diolch, Pwyll. Dwi'n ymddiheuro am fy mod wedi achosi gwaith ychwanegol... dim ond wedi ei newid sylweddolais i bod cymaint o bobl yn defnyddio "ŵy". Mae'n anodd i ddadlau yn erbyn Geiriadur yr Academi, ond mae'n rhyfedd bod Geiriadur Prifysgol Cymru yn defnyddio ffurf wahanol (fy nolen uchod). Peredur ap Rhodri 16:27, 17 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Yn ôl Geiriadur Idiomau, (efo'r priod-ddull "wy clwc"), 'wy' yw e. Mae'r BBC yn cynnig wy ac ŵy, ac mae'r Geiriadur Mawr hefyd yn rhoi'r ddau yn yr ochr Cymraeg, ond wy yn unig yn yr ochr Saesneg. 'Sdim ots 'da fi naill ai air rydym yn ei ddefnyddio, ond mae Firefox hefyd yn awgrymu wy. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:35, 17 Mai 2011 (UTC)[ateb]
P'un a ddaeth yn gyntaf - yr ŵy neu'r wy? Peredur ap Rhodri 16:41, 17 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Termau Ymarfer Corff golygu

A oes rhywun yn gwybod lle alla i gael gafael ar restr o dermau am ymarfer corff. Dw i'n ceisio cyfieithu "rep" fel "repetition" pan yn codi pwysau ond mae rhywbeth fel ailadrodd neu ailwneud yn swnio'n od. "Rep" yw'r term mae'r rhan fwyaf o Gymry'n defnyddio ond a oes gair gwell neu fwy safonol ar gael? Pwyll 09:01, 21 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Beth yw'r term Cymraeg gorau am "quadriceps femoris muscle"? golygu

Unrhyw syniadau? Geiriadur yr Academi yn awgrymu Cyhyryn Pedryben ond Y Termiadur yn awgrymu cwadriceps. Pa un sydd orau? Pwyll 16:45, 16 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]

Mae Cysgeir yn awgrymu "cwadriceps" hefyd. 'Sdmin byd yn y Geiriadur Mawr... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 19:51, 16 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]

Doctrine polisi tramor golygu

Beth yw'r cyfieithiad gorau am doctrine yn yr ystyr foreign policy doctrine? "Athrawiaeth", "gwerseb", neu rywbeth arall? Gweler Sgwrs Categori:Athrawiaethau polisïau tramor. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 15:09, 20 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]

Apple tree yn Gymraeg golygu

Beth yw apple tree mewn Cymraeg modern? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 16:04, 22 Mehefin 2011 (UTC)[ateb]

= Afallen

Angen cymorth ar Wikiepdia Saesneg golygu

Mae angen cymorth arnaf ar y wikipedia Saesneg. Mae pobl yn dweud fod ystyr y gair Cymraeg "peth" yn "part". Rwy wedi dweud fy mod i'n siaradwr Cymraeg heb effaith. Rwy wedi rhoi dolen i'r geiriadur ond mae'r broblem yn parhau. Efallai mae'n well i rywyn arall ceisio datrys y broblem. Maen nhw wedi darllen erthygl yn "The Sun" felly mae rhaid i'r peth fod yn wir !:-)

Dyma'r ddolen http://en.wikipedia.org/w/index.php?title=Astrid_Peth&action=history —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Neilj (sgwrscyfraniadau) 14:29, 22 Ionawr 2012‎

Museology golygu

Bathais "amgueddyddiaeth" fel term dros dro am museology ar gyfer Nodyn:Eginyn llyfrgellyddiaeth, gan efelychu "llyfrgellyddiaeth". Dwi 'di chwilio gwefan Amgueddfa Cymru, a darganfod un enghraifft o "amgueddfoleg" ac un enghraifft o "gwyddor amgueddfeydd". Barnau? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:43, 19 Hydref 2012 (UTC)[ateb]

Categori dall golygu

Beth yw'r enw gorau am gategori sy'n cynnwys unigolion gyda dallineb: "Categori:Deillion" neu "Categori:Pobl ddall"? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:05, 31 Ionawr 2013 (UTC)[ateb]

Mae'r naill cystal â'r llall, glei! Gwedaf "Deillion" er mwyn cael cynnig rhywbeth. Lloffiwr (sgwrs) 17:17, 23 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Cytuno! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:26, 23 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

y gair 'wici' golygu

Rwyn gweld y gair 'wici' yn cael ei drin weithiau fel enw gwrwaidd ac weithiau'n fenywaidd. Oes rhyw farn ar ba genedl i'w ddefnyddio i 'wici' yn y rhyngwyneb? Rwyf hefyd wedi gweld 'wicis' a 'wicïau' am luosog 'wici'. Oes barn am hyn hefyd? Lloffiwr (sgwrs) 22:28, 23 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Benywaidd i mi - ac mae hwnna'n dod o guriad fy nghalon! A'r lluosog: dw i wedi defnyddio wicis yn y gorffennol, mae'n fwy naturiol yfmi (imho), fel jins a syms a nicyrs! Llywelyn2000 (sgwrs) 22:42, 23 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Dw i wedi dod ar draws sawl enghraifft o "Wiciau" yn ystod yr oriau dwaetha ac mae'n edrych yn gwbwl dderbyniol. Yn y pendraw, oni ddylem ddilyn fersiwn Canolfan Bedwyr? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:40, 24 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Pa fersiwn Canolfan Bedwyr? Lloffiwr (sgwrs) 23:39, 25 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]
Fy awgrym ydy ein bod yn eu holi rhag ofn ei fod ar eu rhestr. Dw i angen trafod mater arall gyda nhw, felly mi wna i godi hwn yr un pryd. Llywelyn2000 (sgwrs) 23:46, 25 Chwefror 2013 (UTC)[ateb]

Bathu term am y parth newydd ar Wicipedia, sef Module golygu

Mae parth newydd wedi ymddangos ar Wicipedia yn ddiweddar o'r enw module. Y prosiect Lua sy'n defnyddio'r parth hwn, i symleiddio infoboxes a nodiadau eraill, hyd y gwelaf.

Does dim tudalennau yn y parth eto, ond rwyf am drosi enw'r parth i'r Gymraeg erbyn yr adeg y bydd rhywun yn ei ddefnyddio. 'Modwl' a 'modiwl' sydd gan eiriadur Cysgair ac mae Geiriadur yr Academi yn ychwanegu 'uned' at y dewis. Dwi'n fwy cyfarwydd a modiwl na modwl fy hunan, ond efallai bod modwl yn fwy cyfarwydd i eraill? Beth yw'r farn? Lloffiwr (sgwrs) 13:30, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Cytuno efo modiwl. Mae Lua'n hynod o gymhleth ac nid yw'n flaenoriaeth gen i ar hyn o bryd. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:16, 24 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

cyfieithu rhyngwyneb Wiciddata golygu

Rwy'n palu drwy'r negeseuon rhyngwyneb sy'n deillio o Wiciddata, ac am gael cyngor ar fathu rhai o'r termau newydd sydd eu hangen. Caiff y termau eu diffinio ar eirfa Wiciddata. A gaf fi farn ar y canlynol? Rwyf wedi rhoi rhai posibiliadau o eiriaduron amrywiol.

  • alias - arallenw
  • Data entry - cofnod data
  • entity - endid data
  • Entry - cofnod
  • Identifier - Dynodwr
  • item - eitem
  • property - nodwedd
  • Quantity - mesur, maint, swm, nifer
  • qualifier - goleddfwr
  • remove (a link) - datgysylltu, tynnu i ffwrdd, diddymu
  • site - wici
  • site-link - cyswllt cydwici, nod cydwici (Sylw: cyswllt rhyngwici yn cael ei ddefnyddio'n barod i olygu 'inter-wiki link')
  • Statement - mynegiad, gosodiad (Sylw: Mae gosodiad yn fwy cyfarwydd, ond mae'n cael ei ddefnyddio yn barod i olygu 'setting' mewn sawl man ar y rhyngwyneb)
  • undo - gwrthdroi
  • Value - gwerth, enrhif

Lloffiwr (sgwrs) 21:48, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Bendigedig! Mae angen bod yn ymwybodol o'r terminoleg a ddefnydir yn barod, wrth gyfieithu; mi rwyt ti'n ymwybodol ohonynt, ac mae gen i lawer i'w ddysgu! Mae cyfieithu Statement i'r dewis a roddi yn dibynnu ar ei gyd-destun, wrth gwrs. Cofia hefyd fod chydig o waith deor ar Wicidaith yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:13, 23 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Caf fi bip ar Wicidaith pan fydd amser gennyf. Am yr uchod, ydy'r cynnig cyntaf am bob gair uchod yn drosiad derbyniol? Lloffiwr (sgwrs) 13:11, 24 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]
Mae'r cyfieithiadau'n gwbwl dderbyniol gen i. Cymer gip hefyd ar y dolennau Cymraeg yn Comin - dim ond eu hanner sydd wedi eu cyfieithu; nid eu cyfieithu ydy'r peth anodd ond darganfod ble mae nhw yn y das wair! Llywelyn2000 (sgwrs) 18:16, 24 Mawrth 2013 (UTC)[ateb]

Dilynwyr Islam golygu

Mwslemiaid, Mwslimiaid, neu Moslemiaid? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:26, 22 Ebrill 2013 (UTC)[ateb]

Moslemiaid sydd fwyaf cyfarwydd i mi (hwn sydd gan Eiriadur yr Academi), ond mae'n debyg ei fod braidd yn henffasiwn erbyn hyn. Mae'r gair yn dod o'r Arabeg, a'i ystyr yn Arabeg yw 'un sy'n darostwng ei hun i Dduw'. Yn ôl yr hyn y gallaf ei ddyfalu, Mwslim yw'r trawslythreniad agosaf yn Gymraeg at yr ynganiad yn Arabeg: gweler YouTube. Ond mae'n debyg bod ynganiad llafariaid yn Arabeg yn gwahaniaethu'n fawr o fro i fro. Mwslimiaid sydd gan y Termiadur a'r Gweiadur. Mae'r ddau sillafiad yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru, 'Moslem' yn ailgyfeirio i 'Mwslim'. Ar y cyfan rwy'n ffafrio Mwslimiaid, o ryw ychydig, a bwrw y byddai erthygl arnynt yn cynnig y sillafiad amgen rhywle yn y cyflwyniad i'r erthygl. Lloffiwr (sgwrs) 15:41, 6 Mai 2013 (UTC)[ateb]
Ateb gwych, diolch. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:01, 6 Mai 2013 (UTC)[ateb]

"Magician" golygu

Beth yw'r term Cymraeg am magician/illusionist sy'n perfformio triciau ar lwyfan, megis Houdini neu David Copperfield? A beth yw'r term am stage magic? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 14:09, 5 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Cyfieithu canllaw y Golygydd Gweledol (VisualEditor) golygu

Mae'n debyg y bydd y Golygydd Gweledol yn weithredol ar y Wicipedia Cymraeg cyn bo hir (29 Gorffennaf i fod). Rwyf wedi dechrau ar gyfieithu'r rhyngwyneb i'r estyniad ar translatewiki.net, a'r canllaw i'w ddefnyddio ar Mediawiki. Ond mae'n ormod o waith i un. Byddwn yn falch o gael help gyda'r canllaw yn bennaf. Os wnewch fewngofnodi i Mediawiki a rhoi Cymraeg yn eich gosodiadau iaith, dylech weld gyswllt 'translate this page' ar frig y dudalen Help:VisualEditor/User guide. Os pwyswch arno, dylech fynd yn syth at y dudalen cyfieithu i'r Gymraeg. Lloffiwr (sgwrs) 10:57, 30 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Mae 'na flwch "Error" yn codi pob tro dw i'n ceisio ei arbed! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:08, 1 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Wyt ti'n ceisio cadw rhai o'r negeseuon hyn? Lloffiwr (sgwrs) 22:23, 4 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Ta waeth, mi es i fewn a hadw'r gwaith yn iawn y bore ma. Talp go dda wedi'i wneud. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:26, 6 Gorffennaf 2013 (UTC)[ateb]
Byddai'n gret petai rhywun yn gallu cymryd at y gwaith o wneud sgrinluniau Cymraeg i fynd ar y canllaw, a'i rhoi ar Gomin Wikimedia, yn y categori VisualEditor. Rhowch wybod fan hyn pan sgrinluniau Cymraeg ar gael. Lloffiwr (sgwrs) 20:35, 12 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Rhwystro neu flocio? golygu

Symudwyd y sgwrs i'r Caffi gan Lloffiwr (sgwrs) 10:03, 26 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Enwau trenau rheilffyrdd prydeinig golygu

Bwriadaf ysgrifennu erthyglau an rhai trenau ond nid ydw i'n siwr sut ddylem cyfieithu enwau trenau megis 'British Rail Class 153' i'r Gymraeg. 'Class 153 Rheilffyrdd Prydeinig'? Neu rhywbeth mwy Cymraeg? A ddylem cysylltu National Rail? Danielt998 (sgwrs) 11:58, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Efallai byddai eraill yn anghytuno gyda fi, ond baswn i
  1. Ddim yn cyfieithu enw British Rail. Dw i jyst a bod yn rhy ifanc i gofio British Rail, a dychmygaf nad oed dganddo enw Cymraeg (swyddogol nac answyddogol).
  2. Baswn i hefyd falle jyst yn cadw'r enw llawn fely mae ('British Rail Class 153') yn hytrach na

Class 153 British Rail na chwaith Dosbarth 153 British Rail.--Rhyswynne (sgwrs) 21:17, 30 Awst 2013 (UTC)[ateb]

Arglwydd "is-gapten" golygu

Mae nifer o dudalennau yn cyfeirio at Lieutenancies of Counties ee Arglwydd Is-gapten Sir Feirionnydd Er mae "Is-gapten" yw Lieutenant yn y fyddin Rhaglaw yw Lieutenant of a County AlwynapHuw (sgwrs) 13:28, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Er engraifft http://yba.llgc.org.uk/en/s-PULE-HEN-1829.html "He was knighted in 1887 , and was at one time lord-lieutenant of the city of London"

http://yba.llgc.org.uk/cy/c-PULE-HEN-1829.html "Gwnaed ef yn farchog yn 1887 , a bu'n rhaglaw dinas Llundain " AlwynapHuw (sgwrs) 13:37, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Diolch am godi hyn. Gan bod rhai cyfeiriadau at Is-gapten yn gywir, allwn ni ddeim defnyddio BOT i wneud find and replace. Felly bydd rhaid eu newid â llaw. Bydd rhaid mynd drwyddynt y unigol. Dw i wedi dechrau arni. Os wyt ti am wneud hefyd Alwyn, cofi 'Symud' y dudalen hefyd (drwy glicio ar y saeth 'ar i lawr' sydd drws nesaf ond un i 'Gweld yr hanes' uwchben pob erthygl).--Rhyswynne (sgwrs) 15:16, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Rwy'n credu gellir cyfiawnhau defnyddio "bot" i newid pob achlysur o'r defnydd o is-gapten, gan fod is-gapten yn derm hynod diweddar, yn wir byddwn yn fodlon cyngwystlo'r tŷ bod yr Is-Gapten Alan Davies ym mysg y cyntaf i ddefnyddio'r teitl! Mae adroddiadau papurau newyddion Cymraeg ar [2] yn defnyddio rhaglaw ar gyfer lieutenants y fyddin a'r heddlu hyd 1919. Gan fod llawer, llawer mwy o enghreifftiau o gam ddefnydd o is-gapten na'r defnydd cywir, haws byddid newid yr ychydig "is-gapteniaid cywir" yn ôl a llaw na newid pob cam defnydd a llaw. AlwynapHuw; Diwygiad 03:17, 9 Hydref 2013
Byddai barn eraill yn dda, achos does dim digon o wybodaeth gennyf ar y pwnc. Dw i'n siwr mod i'n clywed is-gapten yn cael ei ddefnyddio ar y cyfryngau Cymraeg wrth drafod y fyddin, felly hyd yn oed os mai rhywbeth diweddar ydy o, mae'n addas (a phriodol) ei ddefnyddio yma os mai dyma a ddefnyddir 'ar lawr gwlad' (ha!). Nid bod hyn yn brofi dim (a falle'n cryfhau dy ddadl di mewn ffordd), ond sylwaf nad yw Geiradur y BBC hyd yn oe dyn cynnig 'Rhaglaw fel cyfieithiad o Liietenant.--Rhyswynne (sgwrs) 09:46, 9 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Mae Geiriadur yr Academi (tud L:818) yn cytuno gydag Alwyn. Lieutenant = lefftenant; Lord Lieutenant = Arglwydd Raglaw; second Lieutenant - is-lefftenant; Lieutenant-general = is-gadfridog; Lieutenant-governorship = dirprwy raglawiaeth; Lieutenant Governor = is-lywodraethwr; lieutenancy - is-gapteiniaeth ayb. O ran y bot: be dw i'n ei wneud fel arfer (bellach!) ydy defnyddio dull hanner-otomatig, sef gwiro efo llaw a llygaid cyn derbyn, drwy ddefnyddio'r bot i wneud hynny. Be da ni ddim isio'i wneud ydy newid is-gapten gemau chwaraeon i ar yr un pryd! Awgrymiadau pellach? Llywelyn2000 (sgwrs) 14:53, 9 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Cyfieithu Enwau Prifysgolion golygu

Sut ddylai cyfieithu enwau prifysgolion os nad oes enw Cymraeg? Mae'r rhan fwyaf o erthyglau yn cyfieithu (er engraifft) 'University of x' i 'Prifysgol x' ond beth am rhywbeth megis 'Birmingham City University'? 'Prifysgol Birmingham City' neu 'Prifysgol Dinas Birmingham'? neu 'x Metropolitan University'? Danielt998 (sgwrs) 22:02, 30 Ebrill 2014 (UTC)[ateb]

Yn bersonol byddwn yn defnyddio'r ffurf byddwyf yn fwyaf cyffyrddus efo fo - sydd fawr o help er mwyn creu rheol! Byddwn yn ddigon hapus defnyddio "Prifysgol Dinas Byrmingham", ond yn fwy cyffyrddus efo Prifysgol "Birmingham Metropolitan". Sut mae'r Saesneg yn ymdrin â Phrifysgolion / sefydliadau eraill o wledydd fel Ffrainc, Tsieina, Rwsia ac ati? AlwynapHuw (sgwrs) 01:15, 1 Mai 2014 (UTC)[ateb]
Cytuno efo Alwyn; o'r dewis uchod, yn bersonol, y ffurf mwyaf cyfforddus gen i ydy: Prifysgol Dinas Birmingham, gan edrych ar Prifysgol / dinas fel disgrifiad yn hytrach nag enw. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:27, 1 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Crowdsource golygu

Shwmae ffrindiau.

Sut mae cyfieithu 'crowdsource' i'r Gymraeg?

Diolch yn fawr iawn.

Stifyn (sgwrs) 17:48, 5 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

'Torfoli' faswn i'n ddefnyddio, ac mae ambell esiampl ar chwiliad Google, ond ddim llawer.--Rhyswynne (sgwrs) 12:34, 6 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

Y fanod mewn enw gwlad - Yr Almaen ynteu yr Almaen? golygu

Llythyren fawr ynteu llythyren fach? Mae'r sgwrs yma'n deillio o ychydig drafod a fu ar Sgwrs_Defnyddiwr:Llywelyn2000#Yr_neu_yr wedi i HAM newid y teitl 'Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Ariannin' i 'Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin'. Newidiais innau restr o enwau gwledydd ar Nodyn:UEFA o y fach i Y fawr. Unrhyw sylwadau? Yn rhyfeddol, dw i'n gweld y cyntaf yn well gyda Y fach a'r ail yn well gydag Y fawr! Os oes angen cysondeb (ia, fy hoff air!), yna fe ddywedwn Y fawr, ond beth ydy narn y gweddill? Mae Blogdroed hefyd (fel y gwelwch) yn ffafrio Y fawr.Llywelyn2000 (sgwrs) 22:36, 28 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Yn ôl Peter Wynn Thomas yn ei lyfr Gramadeg y Gymraeg: "Llythyren fach a ddefnyddir fel rheol wrth ysgrifennu'r fannod pan fydd yn elfen gyntaf mewn enw lle a heb ddod ar ddechrau brawddeg, e.e. yn y Rhyl." Y fach dylai fod mewn enwau erthyglau fel Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Ariannin, Hanes yr Almaen, Llywodraeth yr Alban, ayyb, ond does dim o'i le ar ddefnyddio Y fawr mewn rhestr neu nodyn, pan fo'r enwau ar ben eu hunain ac nid yn rhan o frawddeg. (Sylwch ar nodiadau megis Nodyn:Cymraeg a Nodyn:Rhyw, mae pob dolen yn dechrau gyda llythyren fawr hyd yn oed os nad yw'n enw priod.) —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:45, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)[ateb]

Golygathon cyfieithu "yr oedd" golygu

O ran diddordeb, be sy'n bod efoYr Oedd, onid ydyw'n Gymraeg cywir yn ôl Y Gymraeg a'i Gystrawen JMJ? Ac o chwilota yn y geiriaduron mae roedd (efo collnod) yn cael ei ddisgrifio fel talfyriad o yr oedd. Dydy Cysill dim yn codi yr oedd fel camgymeriad ieithyddol. Pan oeddwn yn ceisio dysgu'r Gymraeg yn Ysgol y Gader llawer blwyddyn yn ôl, yr oeddwn yn cael fy meirniadu am ddiogi wrth ysgrifennu roedd yn hytrach nag yr oedd a mae'n yn hytrach na mae yn, pa bryd y penderfynwyd bod JMJ yn anghywir ei gystrawen?

Y brif reswm dros gyhoeddi Y Gymraeg a'i Gystrawen JMJ, oedd bod gan bron i bob newyddiadur Cymraeg rheolau cystrawen annibynnol, amhosibl eu dilyn, os oedd dyn am gyfrannu at sawl gyhoeddiad, Y Dydd, Y Goleuad ac ati!
Rwy'n melltithio JMJ am safoni'r Gymraeg ar Gymraeg Môn, llawer gwell pe byddai wedi gwrando ar Gymraeg De Meirionnydd a Gogledd Maldwyn er mwyn cydbwysedd, ond cafwyd safon; safon lle 'roedd roedd ac yr oedd yn dderbyniol. Onid oes berygl mynd yn ôl i'r dyddiau du cyn y Gymraeg a'i Gystrawen trwy greu safon iaith golygyddawl, unigawl i Wicipedia trwy newid manion megis yr oedd (Cymraeg cywir) i roedd (Cymraeg cywir)? (Cwestiwn onest er mwyn dysgu mwy am ddefnydd yr iaith, nid cwestiwn i greu dadl dibwys) 07:12, 18 Chwefror 2015 (UTC)AlwynapHuw (sgwrs) 07:19, 18 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

Cyfieithu teitl Arglwydd golygu

Llywelyn2000 Rwyf wedi creu pwt o erthygl am George Rice Rice-Trevor a chafodd ei ddyrchafu i'r Arglwyddi fel 4th Baron Dynevor a ddylid cyfiethu ei deitl i Farwn Dinefwr, neu i Farwn Dynevor? AlwynapHuw (sgwrs) 03:42, 13 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

@AlwynapHuw: Beth bynnag a benderfyni di Alwyn: ti ydy'r arbenigwr yn y maes; trosolwg cyffredinol sydd gen i a dim byd mwy! Pe tae'n enw arno (fel Derek Conway) mi faswn i'n awgrymu ei adael fel ag y mae, ond os yw'r enw hefyd yn ddisgrifiad, yna yn fy marn bach i, mae perffaith hawl ei Gymreigio? Dw i'n meddwl y baswn i, ond fel dw i'n dweud - ti ydy'r awdurdod. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:13, 13 Ebrill 2015 (UTC)[ateb]

Deer stones golygu

Helo bawb, gobeithio mod i'n postio hyn yn y lle cywir. Hoffwn i sgwennu/cyfieithu'r erthygl hon, ond dwi'm yn siwr beth fyddai deer stone yn Gymraeg. Carreg carw? Maen carw? Byswn i ddim yn licio creu tudalen gydag enw anghywir, a dwi heb ffeindio unrhyw ffynonellau arnyn nhw yn y Gymraeg. Diolch Cedny (sgwrs) 20:26, 3 Mehefin 2016 (UTC)[ateb]

@Cedny: Newydd weld hwn; mae'r ddolen yn doredig, felly - at ba erthygl wyt ti'n cyfeirio? Llywelyn2000 (sgwrs) 09:11, 31 Rhagfyr 2016 (UTC)[ateb]
@Cedny:@Llywelyn2000: Deer Stones, mae'n debyg . Meini Cernunnos yn y Gymraeg? AlwynapHuw (sgwrs) 04:36, 1 Ionawr 2017 (UTC)[ateb]

Scottish National Party a National Party of Scotland - gwahaniaethu golygu

@Llywelyn2000: Cyn creu'r SNP (Plaid Genedlaethol yr Alban) bu blaid arall The National Party of Scotland (NPS). Rwyf am sgwennu erthygl am y dyn bu'n gyfrifol am greu'r ddwy blaid (John MacCormick), ac o bosib pwt am yr NPS, ond yn methu meddwl am gyfieithiad amgen na Phlaid Genedlaethol yr Alban am yr NPS. Unrhyw awgrymiadau? AlwynapHuw (sgwrs) 05:01, 15 Mawrth 2017 (UTC)[ateb]

Ystyriaethau: ydy 'Scottish' yn y cyntaf yn golygu mwy na Scotland? Os nad yna mae'r geiriau'n gyfystyron, os yw'n golygu diwylliant, iaith ayb, yna mae angen cyfleu hynny e.e. Plaid ALbanaidd yr Alban, ond chlywais i rioed neb yn defnyddio hynny, felly allan ag o! Efallai mai un ffordd ymlaen ydy rhoi'r Saesneg mewn cromfachau ar ei ôl - dw i'n gwneud mwy a mwy o hyn gyda geiriau newydd eu bathu, lle ceir yn amlach na pheidio sawl bathiad gwahanol mewn geiriaduron gwahanol. Ar ddiwedd y dydd mae defnyddio'r term gwreiddiol Ffrangeg, Llydaweg, Tsieinieg... yn beth da i'w wneud, a dylid ei gymeradwyo. Felly hefyd gyda'r Saesneg. Dim ond ystyriaethau! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:09, 15 Mawrth 2017 (UTC)[ateb]