William Henry Preece
Peiriannydd o fri, arloeswr yn natblygiad telegraff a pheirianneg trydan a ddaeth yn Brif Beiriannydd Swyddfa Bost Prydain (1892) oedd y Cymro William Henry Preece KCB FRS (15 Chwefror 1834 – 6 Tachwedd 1913).[1][2][3] Trwy ei ddiddordeb a'i swydd yn y Swyddfa Bost, bu'n fentor ymarferol pwysig i Guglielmo Marconi.[4] O ganlyniad i hyn, o bosib, bu i Marconi berfformio sawl campwaith hanesyddol yng Nghymru.
William Henry Preece | |
---|---|
William Henry Preece; llun allan o Oliver Heaviside: Sage in Solitude | |
Ganwyd | 15 Chwefror 1834 Caernarfon |
Bu farw | 6 Tachwedd 1913 Penrhos |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, dyfeisiwr, peiriannydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Telford Medal |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Preece ym Mryn Helen, Bontnewydd, Sir Gaernarfon yn fab hynaf i Richard Matthias Preece a oedd wedi dod i'r Gogledd o'r Bontfaen ym Morgannwg a phriodi merch o Gaernarfon, Jane Hughes. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Coleg y Brenin (Y Strand, Llundain ar y pryd) cyn mynychu Coleg y Brenin, Llundain. Bu hefyd yn astudio wrth draed Michael Faraday yn y Sefydliad Brenhinol yn Llundain. Faraday a daniodd ynddo ddiddordeb oes mewn trydan. Yn 1870 ymunodd a'r Swyddfa Bost - a bu yno am 29 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwn cyfrannodd i nifer o ddyfeisiadau a gwelliannau; gan gynnwys system signal a ychwanegodd yn sylweddol i ddiogelwch y Rheilffordd. Bu'n flaengar ym myd telegraff - a datblygodd ei gyfundrefn ddiwifr ei hun yn 1892. Dibynna hwn ar anwythiad electromagnetig. Er i Preece lwyddo i anfon negeseuon ar draws Môr Hafren, pellter hyd at ryw 3.1 milltir, roedd y drefn yn anhylaw - yn dibynnu ar drosglwyddydd a derbynnydd milltiroedd o hyd. Er hynny, daliodd ati i anfon negeseuon dros gulforoedd eraill megis Afon Menai a'r Solent, o'r tir i oleudy (e.e. Ynysoedd y Moelrhoniaid) a rhwng pyllau glo a'i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn bu Preece yn gyfrifol (gyda George Gabriel Stokes[5] ac eraill) am ddigalonni David Edward Hughes yn ei ymchwil (1879) a fyddai, mae'n debyg, wedi arwain at ddarganfod tonnau radio. Mynnai'r "arbenigwyr" mai anwythiad oedd yr hyn yr oedd Hughes wedi'i ganfod. Mae'n debyg nad oedd Preece yn arbennig o hyblyg a'i syniadau a bu dadlau (diddichell) rhyngddo a sawl cawr yn ei faes gan gynnwys Oliver Lodge[6] ac Oliver Heaviside[7] dros y blynyddoedd.
Yn 1880 dyfarnodd yr Uchel Lys mai telegram oedd y teleffon newydd. Gan mai'r Swyddfa Bost oedd a phob hawl rheoli technoleg y telegram yng ngwledydd Prydain, bu Preece yn rhan o'r broses o gyflwyno teleffon Alexander Graham Bell yma. Yn 1881 manteisiodd y Swyddfa Bost ar y sefyllfa drwy addasu rhai o'r cyfnewidfeydd i ddelio a teleffon. Yn Ne Cymru (Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd) y bu'r cyntaf o'r rhain. Yn 1881 etholwyd Preece yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ac yn 1892 fe'i hapwyntiwyd yn Brif Beiriannydd y Swyddfa Bost. Mae'n debyg y bu'n enwog am ei ddarlithoedd syml ac ymarferol i'r cyhoedd ar y datblygiadau newydd. Cyhoeddodd ddau lyfr a nifer o bapurau ar y teleffon.[8][9]
Marconi a Radio
golyguRhwng 1885 a 1889 roedd yr Almaenwr Heinrich Hertz[10] wedi gosod sylfaeni damcaniaethol tonfeddi radio - ac wedi gwneud sawl arbrawf i'w arddangos. Ond nid oedd wedi meddwl am ddefnydd ymarferol i'r ffenomen. Yn 1894, yn ddatblygiad o syniadau Herz, gwnaeth Eidalwr o'r enw Guglielmo Giovanni Maria Marconi[11] arsylliadau tyngedfennol. Erbyn 1895 roedd yn argyhoeddedig ei fod wedi darganfod modd newydd (radio yn hytrach nag anwythiad) o ganfod signal o bellter. Anfonodd ei syniad i'r Weinyddiaeth Bost a Thelegraff yn Rhufain. Anwybyddwyd ei lythyr yn llwyr (yn wir ysgrifennwyd nodyn yn cyfeirio at y gwallgofdy lleol ar ei thraws). Sicrhaodd Marconi lythyr cyflwyniad i lysgennad yr Eidal yn Llundain gan gyfaill o ddiplomydd uchel a theithiodd, gyda'i fam, i Loegr. Ym mhorthladd Dover bu gryn ddiddordeb yn cynnwys ei fagiau ac ar unwaith anfonwyd neges i Bencadlys y Llynges. Fe'i gwahoddwyd yno'n syth - lle'i cyflwynwyd i William Henry Preece. Dros y blynyddoedd i ddilyn bu Preece yn gefn ac yn gymorth iddo. Defnyddiodd Preece ei ddoniau cyfathrebu i gyflwyno syniadau Marconi i'r cyhoedd mewn dwy ddarlith dyngedfennol (Neuadd Toynbee, 11 Rhagfyr 1896 a'r Sefydliad Brenhinol, 4 Mehefin 1897). Ar ôl arbrofion ar dir y fyddin ger Gaersallog, ar 13 Mai 1897 danfonodd Marconi signal radio o Drwyn Larnog yn ne Cymru i Ynys Echni, 3.7 milltir i ffwrdd ym Môr Hafren. Yn 1892 roedd Preece wedi defnyddio'r un lleoliad ar gyfer ei arbrofion ef ei hun.[12] Profodd hyn y gallai radio weithio dros ddŵr yn ogystal â thir ac felly fod o ddefnydd i'r Llynges hollbwysig ac i longau eraill. Preece oedd prif gynorthwyydd Marconi, gan sicrhâi iddo gefnogaeth ariannol o'r Swyddfa Bost.
Ym 1901, anfonodd Marconi signalau radio o Poldhu, Cernyw i Newfoundland, Canada. Ychydig wedi hynny adeiladodd Marconi orsaf radio bwerus yn y Waunfawr ger Caernarfon; nepell o gartref William Preece. Tyfodd hwn i fod yn un o orsafoedd cyfathrebu (radio donfedd hir) pwysicaf Ymerodraeth Prydain am nifer o flynyddoedd (1912-1938).[13] Felly, er i ymdrechion Preece ei hun i ddatblygu system ddiwyfr dros bellter fethu, roedd ei gymorth i Marconi'n allweddol yn natblygiad cyfathrebu torfol.
Blynyddoedd olaf
golyguBu Preece yn Llywydd Sefydliadau’r Peirianwyr Trydanol (1893) a'r Peirianwyr Sifil (1898-99). Yn 1899 ymddeolodd o'r Swyddfa Bost ac fe'i hurddwyd yn Farchog (KCB) yn Rhestr Pen-blwydd y Frenhines Fictoria (3 Mehefin) y flwyddyn honno. Cafodd ei urddo yn Swyddog y Légion d‘Honneur a derbyniodd radd D.Sc. Prifysgol Cymru yn 1911. Symudodd yn ôl i Gaernarfon ar ôl ymddeol, ac yno y bu farw ar 6 Tachwedd 1913.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Llên Natur; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback Rhif 69 Tachwedd 2013
- ↑ "Sir William Henry Preece". Encyclopaedia Britannica. 11 Chwefror 2019. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
- ↑ "William Henry Preece". Grace's Guide to British Industrial History. 20 Mehefin 2016. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
- ↑ "Guglielmo Marconi". History.com. 31 Ionawr 2019. Cyrchwyd 21 Ionawr 2019.
- ↑ Petrunic, Josipa. "George Gabriel Stokes". The Gifford Lectures. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
- ↑ "Sir Oliver Lodge". Electronics Notes. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
- ↑ Hunt, Bruce (2012). "Oliver Heaviside: A first-rate oddity". Physics Today 65 (11): 48-. https://physicstoday.scitation.org/doi/10.1063/PT.3.1788.
- ↑ William Henry Preece a Julius Maier (1889). The Telephone. https://books.google.co.uk/books?id=Wdg3AAAAMAAJ: Whittaker & Company.CS1 maint: location (link)
- ↑ William Henry Preece a Arthur James Stubbs (1893). A Manual of Telephony. https://books.google.co.uk/books?id=g-4OAAAAYAAJ: Whittaker and Company.CS1 maint: location (link)
- ↑ J J O'Connor a E F Robertson (2007). "Heinrich Rudolf Hertz". MacTutor History of Mathematics. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
- ↑ "Guglielmo Marconi". History.com. 31 Ionawr 2019. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.
- ↑ Arwyr Cymru Archifwyd 2010-06-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Tachwedd 2013
- ↑ "Marconi long wave transmitting station, Waunfawr Transmitting Station, Plas y Celyn, Cefn Du". Coflein. 2009. Cyrchwyd 22 Chwefror 2019.