Y Cynghrair Arabaidd

(Ailgyfeiriad o Y Gynghrair Arabaidd)

Sefydlwyd y Cynghrair Arabaidd (Arabeg: الجامعة العربية‎ al-Jāmiʻa al-ʻArabiyya), a elwir Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd (Arabic: جامعة الدول العربية‎ Jāmiʻat ad-Duwal al-ʻArabiyya) yn swyddogol, er mwyn hyrwyddo undod a chydweithrediad rhwng y gwledydd Arabaidd. Fe'i sefydlwyd ar 7 Mawrth, 1945, gan saith o wledydd Arabaidd, sef Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria ac Iemen. Ar hyn o bryd ceir 22 aelod. Prif nod y cynghrair yw creu perthynas agosach rhwng yr aelod-wladwriaethau a threfnu cydweithrediad rhyngddynt, amddiffyn eu hannibyniaeth a'u sofraniaeth, a thrafod mewn modd gyffredinol buddianau'r gwledydd Arabaidd a materion sy'n ymwneud â hwy.

Y Cynghrair Arabaidd
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhanbarthol, uno gwleidyddol, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu22 Mawrth 1945 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLibanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary General of the Arab League Edit this on Wikidata
SylfaenyddYr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria, Iemen Edit this on Wikidata
Isgwmni/auArab Monetary Fund, Arab Air Carriers Organization, Arab League Educational, Cultural and Scientific Organization, Arab Parliament Edit this on Wikidata
PencadlysHeadquarters of the Arab League Edit this on Wikidata
Enw brodorolالجامعة العربية‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.leagueofarabstates.net/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau'r Cynghrair Arabaidd

Lleolir ei bencadlys yn ninas Cairo yn yr Aifft. Mae tua 316 miliwn o bobl yn byw yng ngwledydd y Cynghrair, ar diriogaeth sy'n ymestyn o'r Maghreb yn y gorllewin i'r ffin rhwng Irac ac Iran a de-ddwyrain gorynys Arabia yn y dwyrain. Mae'r mwyafrif yn Arabiaid ond ceir lleiafrifoedd fel y Berberiaid hefyd. Mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw Baghdad, Khartoum, Damascus, Riyadh, Alexandria a Casablanca.

Aelodau golygu

 

Aelodau presennol y Cynghair yw (ynghyd â'u dyddiad aelodaeth):

  Yr Aifft 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
  Irac 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
  Gwlad Iorddonen 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
  Libanus 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
  Sawdi Arabia 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
  Syria 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
  Iemen 5 Mai, 1945 (Sefydlydd)
  Libia 28 Mawrth, 1953
  Swdan 19 Ionawr, 1956
  Moroco 1 Hydref, 1958
  Tiwnisia 1 Hydref, 1958
  Coweit 20 Gorffennaf, 1961
  Algeria 16 Awst, 1962
  Emiradau Arabaidd Unedig 12 Mehefin, 1971
  Bahrein 11 Medi, 1971
  Qatar 11 Medi, 1971
  Oman 29 Medi, 1971
  Mawritania 26 Tachwedd, 1973
  Somalia 14 Chwefror, 1974
  Palesteina Gwladwriaeth Palesteina 15 Tachwedd, 1988, yn olynnu'r PLO (o 9 Medi, 1976)
  Jibwti 9 Ebrill, 1977
  Comoros 20 Tachwedd, 1993

Yn Ionawr 2003, ymaelododd Eritrea fel sylwedydd.

Ysgrifenyddion Cyffredinol golygu

  Yr Aifft Abdul Rahman Azzam 1945 hyd 1952
  Yr Aifft Abdul Khalek Hassouna 1952 hyd 1972
  Yr Aifft Mahmoud Riad 1972 hyd 1979
  Tiwnisia Chedli Klibi 1979 hyd 1990
  Libanus Assad al-Assad 1990 hyd 1991
  Yr Aifft Ahmad Esmat Abd al Meguid 1991 hyd 2001
  Yr Aifft Amr Moussa 2001 hyd heddiw

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.