Cemais Comawndwr

pentref yn Sir Fynwy

Pentref bychan yn Sir Fynwy yw Cemais Comawndwr[1] (Seisnigiad: Kemeys Commander). Fe'i lleolir yng ngogledd y sir, tua 3 milltir (5 km) i'r gogledd-orllewin o Frynbuga, fymryn i'r de o'r Betws Newydd.

Cemais Comawndwr
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Fynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.7383°N 2.9428°W Edit this on Wikidata

Mae'n rhan o gymuned Gwehelog Fawr.

GeirdarddiadGolygu

Yn yr Oesoedd Canol roedd nawdd yr eglwys yn nwylo'r Templariaid (Urdd y Deml) ac roedd yn commandery, fel y gelwid rhai o dai'r Urdd. Pasiodd i ddwylo Marchogion yr Ysbyty ac yn yr 17g roedd yr urdd honno yn ennill £2 13s. 4c. y flwyddyn o'i thiroedd demesne yn y plwyf.

CyfeiriadauGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato