Llanwytherin

pentref yn Sir Fynwy

Pentref gwledig a phlwyf yng nghymuned y Grysmwnt, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanwytherin[1][2] (Saesneg: Llanvetherine). Fe'i lleolir ar y B4521 tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Fenni, ar y ffordd i Ynysgynwraidd.

Llanwytherin
Mathplwyf, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8497°N 2.9244°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO364172 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Cyfeirir at y pentref yn y llawysgrif Gymreig gynnar Llyfr Llandaf fel Ecclesia Guitherin (Lladin am 'Eglwys Gwytherin'). Sefydlwyd yr eglwys gan y sant Gwytherin, yn ôl pob tebyg. Cafwyd hyd i faen gydag arysgrif Ladin arno yn dwyn y geiriau S. Vetterinus a Ixcob Psona, sydd efallai er cof am offeiriad o'r enw Jacobus.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Chwefror 2022
  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000), t.316.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato