Llandidiwg

pentref yn Sir Fynwy

Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru, yw Llandidiwg (Saesneg: Dixton).[1] Fe'i lleolir tua milltir i'r gogledd o dref Trefynwy yng ngogledd-ddwyrain y sir, heb fod nepell o'r ffin â Lloegr.

Llandidiwg
Eglwys Sant Pedr, Llandidiwg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8196°N 2.6984°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO519136 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Llifa Afon Gwy heibio i Landidiwg. Ar ei lan ceir eglwys y plwyf, sef Eglwys Sant Pedr. Credir fod yr adeilad gwyngalchog hwn yn dyddio yn ôl i'r 12g yn wreiddiol ac y bu canolfan grefyddol yno cyn hynny hefyd.

Croes Geltaidd ym mynwent Eglwys Llandidiwg

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 25 Tachwedd 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato