Llanddewi Rhydderch

pentref yn Sir Fynwy

Pentref gwledig yng nghymuned Llanofer, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanddewi Rhydderch.[1][2] Fe'i lleolir yn y bryniau yng ngogledd-orllewin y sir, 2 filltir i'r dwyrain o'r Fenni.

Llanddewi Rhydderch
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Rhydderch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8119°N 2.9428°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO352128 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map
Gweler hefyd Llanddewi.

Mae'r pentref yn gartref i is-gennad anrhydeddus cenedl-ynys, Kiribati ar Deyrnas Unedig ers 1996. Dyma'r unig gynrychiolaeth swyddogol o'r wlad yn Ewrop.[3]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[5]

Pobl o Landdewi Rhydderch golygu

  • Josh Wardle, peiriannydd meddalwedd a datblygydd y gêm eiriau Wordle.[6] Datblygodd Wardle y gêm tra'n byw yn Brooklyn, Efrog Newydd. Mae enw'r gêm ar-lein yn chwarae ar eiriau ei gyfenw. Daeth y gêm yn hynod lwyddiannus yn ystod 2022 gan arwain iddo'i werthu am $1,000,000.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Chwefror 2022
  3. "The Kiribati 'embassy' in Welsh village Llanddewi Rhydderch". BBC News. 12 October 2014.
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. https://golwg.360.cymru/newyddion/2084629-eiriau-eang-gymro-arwain-ffrae
  7. Welsh creator of Wordle sells the game for at least $1m after its success becomes ‘overwhelming’