Llanddingad

pentref yn Sir Fynwy

Pentref bychan yng nghymuned Llanfihangel Troddi, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanddingad[1] (hefyd Llandingad; Saesneg: Dingestow).[2] Fe'i lleolir ger ffordd yr A40, rhwng Rhaglan i'r gorllewin a Threfynwy i'r dwyrain, ar lôn fynydd sy'n arwain dros y bryniau i bentref Llandeilo Gresynni. Llifa afon Troddi heibio'r pentref.

Llanddingad
Eglwys Dingad Sant, Llanddingad.
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfihangel Troddi Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.79°N 2.79°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO457102 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Enwir yr eglwys a'r pentref ar ôl Sant Dingad (c. 5g), un o feibion Brychan, brenin Brycheiniog, yn ôl traddodiad.[3] Cyfeirir at yr eglwys yn Llyfr Llandaf am iddi gael ei rhoi gan Tudmab fab Pawl i Landaf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[5]

Hanes golygu

Codwyd castell ger Llanddingad gan y Normaniad Ranulph de Poer, siryff Henffordd, ar ddechrau'r 1180au. Yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru, mae Gerallt Gymro yn adrodd fel y bu i ryfelwyr Gwent ymosod ar y castell i geisio dial ar laddfa ysgeler arnynt gan Wiliam de Braose yn 1177. Lladdwyd de Poer a rhai o'r amddiffynwyr eraill ond llwyddodd de Braose i ddianc.[6]

Mae gan y pentref le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am i Frut Dingestow, un o'r testunau Cymraeg Canol pwysicaf o Historia Regum Britanniae (testun Lladin) Sieffre o Fynwy gael ei diogelu yno (ac efallai ei sgwennu yno).[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  4. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  5. Gwefan Senedd y DU
  6. Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938).
  7. Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942), rhagymadrodd.