Cymuned Gwladwriaethau America Ladin a'r Caribî
Sefydliad rhyngwladol o genhedloedd America Ladin a'r Caribî yw Cymuned Gwladwriaethau America Ladin a'r Caribî (Sbaeneg: Comunidad de Estados Latinoamericanos y Caribeños, CELAC, Portiwgaleg: Comunidade de Estados Latino-Americanos e Caribenhos, Ffrangeg: Communauté des États Latino-Américains et Caribéens, Iseldireg: Gemeenschap van de Latijns-Amerikaanse en Caribische landen) a grewyd ar 23 Chwefror 2010 yn Playa del Carmen, Quintana Roo, Mecsico.[1][2] Mae'r gymuned yn cynnwys pob gwlad yn yr Amerig—sef cyfandir Gogledd a De America—ar wahân i Unol Daleithiau America a Chanada. Ni chynhwysir ychwaith gwledydd Ewropeaidd sydd â thiriogaethau yn yr Amerig, e.e. y Deyrnas Unedig, Ffrainc, yr Iseldiroedd a Denmarc.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhanbarthol, sefydliad rhynglywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 23 Chwefror 2010 |
Lleoliad | Latin America and the Caribbean |
Rhagflaenydd | Rio Group, Latin American and Caribbean Summit on Integration and Development |
Pencadlys | Caracas |
Gwefan | http://sela.org/celac |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pwrpas y corff ydy ceisio lleihau dylanwad gwleidyddol yr Unol Daleithiau ar y cyfandir. Mae'n brysur ddisodli Grŵp Rio ac Uwchgynhadledd America Ladin a'r Caribî ar Integreiddio a Datblygu (CALC). Yng Ngorffennaf 2010 etholwyd Arlywydd Feneswela Hugo Chávez ac Arlywydd Tsile Sebastián Piñera ill dau i'r gadair. Ym mis Mehefin 2023, cydnabu CELAC gymeriad America Ladin a Charibïaidd ynys Puerto Rico ac “yn galw ar Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i archwilio cwestiwn Puerto Rico yn ei gyfanrwydd ac yn ei holl agweddau, a rheoli ar y mater hwn cyn gynted ag y bo modd. ag y bo modd”.[1].
Gwledydd
golyguMae CELAC yn cynnwys 33 gwlad gyda 5 iaith wahanol:
18 gwlad sy'n defnyddio Sbaeneg fel prif iaith: (56% o'r arwynebedd, 63% o'r boblogaeth)
12 gwlad sy'n defnyddio Saesneg. (1.3% o'r arwynebedd, 1.1% o'r boblogaeth)
Un wlad sy'n defnyddio Portiwgaleg. (42% o'r arwynebedd, 34% o'r boblogaeth)
Un wlad sy'n defnyddio'r Ffrangeg. (0.1% o'r arwynebedd, 1.6% o'r boblogaeth)
un wlad sy'n defnyddio'r Iseldireg. (0.8% o'r arwynebedd, 0.1% o'r boblogaeth)
Mae 12 o'r gwledydd uchod yn Ne America, ac mae ganddyn nhw arwynebedd 87% o'r boblogaeth a 68% o'r boblogaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.mexidata.info/id2573.html Archifwyd 2012-04-26 yn y Peiriant Wayback Mexidata (Saesneg) Mawrth 1, 2010
- ↑ Acuerdan crear Comunidad de Estados Latinoamericanos y Caribeños, Associated Press, 23 Chwefror, 2010.