Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008 oedd y 53ydd Cystadleuaeth Cân Eurovision, a gynhaliwyd yn Serbia. Cynhaliwyd y rowndiau cyn-derfynol ar 20 a 22 Mai, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar y 24ain o Fai 2008 yn y brifddinas Belgrade. Rwsia enillodd y gystadleuaeth, gyda chân Jim Beanz a Dima Bilan o'r enw "Believe" a berfformiwyd gan Bilan. Mae Arena Belgrade Arena, sef lleoliad y Gystadleuaeth, ymysg yr arenas dan-do fwyaf yn Ewrop, a gall ddal dros 20,000 o bobl. Enillodd Serbia'r hawl i gynnal y gystadleuaeth ar ôl i Marija Šerifović ennill y gystadleuaeth yn 2007 yn Helsinki, y Ffindir. Darlledwyd y digwyddiad gan RTS.
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2008 | |
---|---|
"Confluence of Sound" ("Cydlifiad Sain") | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 20 Mai 2008 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 22 Mai 2008 |
Rownd terfynol | 24 Mai 2008 |
Cynhyrchiad | |
Cyflwynyddion | Jovana Janković Željko Joksimović |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | Awstria |
Canlyniadau | |
Agorodd gwefan swyddogol cystadleuaeth 2008 ar y 15fed o Ionawr 2008. Am y tro cyntaf erioed, darlledodd Eurovision.tv y rowndiau terfynol cenedlaethol ar ESCTV gyda chaniatad y darlledwyr. Ar y 30ain o Ionawr, 2008, datgelodd Eurovision.tv thema'r Gystadleuaeth sef "Cydlifiad Sain", thema a ysbrydolwyd gan leoliad Belgrade ar gydlifiad yr afonydd Sava a'r Danube. Cyflwynwyd y sioe gan Jovana Janković a Željko Joksimović. Cynrychiolodd Jelena Tomašević Serbia gyda chân a gyfansoddwyd gan Joksimović; arweiniodd hyn at gryn dipyn o ddadlau ynglŷn â'r rôl yn y gystadleuaeth.
Fformat
golyguAr 24ydd Ionawr 2008, tynnwyd enwau allan o het i weld pa wledydd a fyddai'n ymddangos yn y rownd gyn-derfynol cyntaf neu'r ail. Rhannwyd gwledydd i mewn i chwech pot yn unol a phatrymau pleidleisio cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r chwech pot i benderfynu pa wledydd fyddai yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a phwy fyddai yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd y bydda'r Almaen a Sbaen yn pleidleisio yn y rownd gyn-derfynol gyntaf, tra bod Ffrainc, Serbia a'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio yn yr ail rownd gyn-derfynol.
Pot 1 | Pot 2 | Pot 3 |
---|---|---|
Pot 4 | Pot 5 | Pot 6 |
Canlyniadau
golyguY rownd cyn-derfynol gyntaf
golygu- Digwyddodd y rownd cyn-derfynol gyntaf ym Melgrade ar y 20fed o Fai.
- Aeth y naw gwlad a dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ar y ffôn i'r rownd derfynol ar yr 24ydd o Fai.
- Penderfynodd y rheithgor ar y degfed gwlad i fynd trwyddo.
- Pleidleisiodd Sbaen a'r Almaen yn y bleidlais hon.
- Dengys y lliw peach pa wledydd aeth drwyddo i'r rownd derfynol.
- Dengys y lliw mwstard y wlad a ddewiswyd gan y rheithgor i fynd drwyddo i'r rownd derfynol.