Melysion

(Ailgyfeiriad o Da-da)

Bwydydd gyda chynnwys uchel o siwgr yw melysion. Gan amlaf maent ar ffurf danteithion bychain a ellir eu bwyta'n gyfleus, yn wahanol i bwdinau a melysfwydydd eraill a fwyteir fel pryd o fwyd neu fyrbryd mawr.

Siop losin draddodiadol yn Lloegr

Mae plant yn hoff iawn o felysion. Mae hoffter melysion yn nodwedd a ymddengys dro ar ôl tro mewn llyfrau Roald Dahl, gan gynnwys ei gofiant Boy.

 
Map sy'n dangos dosbarthiad gwahanol eiriau am felysion yng Nghymru (o'r llyfr Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg... gan Peter Wynn Thomas a Beth Thomas)

Melysion a pethau melys yw'r termau Cymraeg cyffredinol am y bwydydd hwn.[1] Mae "melysion" yn dyddio'n ôl i 1851 ac fe geir yn yr iaith lafar ar draws Cymru. Gellir defnyddio'r ffurf unigol "melysyn".[2] Defnyddir "melysion" yn enwedig yn ardaloedd Teifi a Thywi,[3] a defnyddir "pethau melys" yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.[4][5] Ceir nifer o enwau eraill sy'n perthyn i ardaloedd penodol, y mwyafrif ohonynt yn fenthyceiriau o'r Saesneg. Gan amlaf dywedir losin yn ne Cymru a fferins yn y gogledd.[6]

  • Losin neu losins (ffurfiau unigol: losinen, losen). Gair o'r de[1] sy'n dyddio o 1908. Daw o'r gair Saesneg lozenge.[7] Defnyddir mewn ardal sy'n cyfateb yn agos i siroedd Penfro, Caerfyrddin, a Morgannwg.[8]
  • Fferins neu weithiau ffeirins (ffurfiau unigol: fferen, ffeiryn). Gair o'r gogledd orllewin[1] yw hwn a ddaw o'r gair Saesneg fairings, hynny yw melysion neu anrhegion a brynid mewn ffair. Mae'n dyddio o'r flwyddyn 1722. Yn gyffredinol defnyddir ar lafar yn y gogledd yn yr ystyr melysion, ac yn y de yn amlach yn yr ystyr anrhegion o'r ffair.[9] Ceir weithiau y ffurf luosog fferis.[1] Fe'i glywir ar draws Cymru i ogledd Afon Rheidol,[8] yn enwedig siroedd Meirionnydd a Dinbych.[5]
  • Da-da. Gair gogleddol[1] a geir yn enwedig yn y gogledd-orllewin sy'n efelychu'r term Ffrangeg bonbon. Mae'n dyddio'r o'r flwyddyn 1881.[10] Noda D. Geraint Lewis taw "gair plant" yw "da-da".[3] Ceir hefyd y term peth(au) da[1] a ddefnyddir yn Arfon a Môn.[4]
  • Minceg, minciac, minciag, neu mincieg (i gyd yn ffurfiau lluosog ac unigol). Gair o'r gogledd sy'n dyddio o 1881 ac yn fenthycair o'r Saesneg mint cake. Defnyddir yn bennaf am felysion mintys.[11] Ceir yn enwedig yng ngogledd Meirionnydd,[8] ym mhen Dyffryn Conwy.[3]
  • Cacenni (ffurf unigol: cacen). Gair a ddefnyddir yn y canolbarth[1] yn unigryw, yn enwedig dwyrain y canolbarth[8] (Trefaldwyn).[3][5] Defnyddir y gair "cacen" yn amlach i ddisgrifio melysfwyd pob, hynny yw teisen.
  • Cisys (ffurf unigol: cisen). Daw o'r gair Saesneg tafodieithol kiss, sef "melysfwyd o gynhwysion amrywiol".[12] Gair a ddefnydir ar lafar weithiau yn y de ddwyrain[1] ac yng ngogledd Ceredigion[12] (Rheidiol ac Ystwyth)[3] ac yn ysbeidiol yng ngogledd Sir Benfro.[6]
  • Swîts (unigol: switsen).[1] O'r gair Saesneg sweets a ddefnyddir yn Gymraeg gyntaf yn yr 20g.[13] Gair a geir yn y de-orllewin,[8] yn enwedig ar lafar yn Nyffryn Teifi, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.[13]
  • Candis (ffurfiau unigol: candi, canden, candisen).[1] O'r gair Saesneg candy. Defnyddir yn Gymraeg gyntaf yn yr 16g.[14] Ceir ar Ynys Môn ac yng nghanol Ceredigion, ac hwn yw'r prif air am felysion yn rhannau o Frycheiniog.[6] Defnyddir hefyd ym mhen Dyffryn Wysg.[3]
  • Neisis (ffurf unigol: neisi).[1] O'r gair Saesneg tafodieithol nicey. Ar lafar yn Sir Benfro.[15]
  • Trops[1] neu drops (ffurf unigol: dropsen).[16] Mewn dau bentref yn y de-orllewin yn unig y'i cofnodwyd: Cynwyl Elfed a Brechfa.[8]
  • Lemons.[1] Hynny yw, losin lemwn. Defnyddir fel enw cyffredin ar felysion yn ne Ceredigion.[5]
  • Taffis neu taffins (ffurf unigol: taffen).[1] Gair a geir yn unigryw rhwng Afon Tawe a Afon Nedd.[8]

Gan nad oedd siwgr ar gael ar draws y rhan fwyaf o'r Henfyd, defnyddiwyd mêl fel melysydd a gyfunwyd â ffrwythau, cnau, perlysiau a sbeisys.[17] (Mae'r geriau "mêl" a "melys" yn rhannu'r un wreiddyn Indo-Ewropeg, melit.)[2][18] Ceir tystiolaeth o felysion siwgr mewn hieroglyffau Eifftaidd sy'n dyddio'n ôl i 1000 CC. Ystyrid y cyffeithydd (gwneuthurwr melysion) yn grefftwr medrus gan y Rhufeiniaid. Yn ystod yr Oesoedd Canol lledaenodd y Persiaid yr arfer o amaethu'r gansen siwgr, ei choethi a'i defnyddio i wneud melysion â siwgr yn gynhwysyn elfennol. Roedd maint bychan o siwgr ar gael yn Ewrop yn ystod y cyfnod hwn a defnyddiwyd i wneud cyffeithiau a werthid yn yr apothecari. Dechreuodd Fenis fewnforio siwgr o Arabia yn y 14g. Erbyn yr 16g gwnaed melysion o law drwy gymysgu siwgr berwi gyda ffrwythau a chnau mewn i siapiau cywrain. Adeiladwyd y peiriannau cyntaf i gynhyrchu melysion ar ddiwedd y 18g.[17]

Mathau

golygu
Prif: Cisys

Conffits

golygu
Prif: Conffit

Licris ac anis

golygu
 
Olwynion licris

Melysion berwi

golygu

Melysion jeli

golygu

Melysion tynnu

golygu

Siocled

golygu
Prif: Siocled
Prif: Trops

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1422 [sweet].
  2. 2.0 2.1  melys. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 50.
  4. 4.0 4.1  peth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 54–55.
  6. 6.0 6.1 6.2 Thomas a Thomas (1989), t. 15.
  7.  losin. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 8.5 8.6 Beth Thomas a Peter Wynn Thomas, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg...: Cyflwyno'r Tafodieithoedd (Caerdydd: Gwasg Taf, 1989), t.13
  9.  fferins. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  10.  da-da. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  11.  minceg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  12. 12.0 12.1  cisen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  13. 13.0 13.1  swîts. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  14.  candi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  15.  neisi. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  16.  drop. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  17. 17.0 17.1 (Saesneg) candy (food). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.
  18.  mêl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2014.