Diniweidrwydd Mwslemiaid
Mae Diniweidrwydd Mwslemiaid (Saesneg: Innocence of Muslims, Arabeg: براءة المسلمين) yn ffilm fer Islamoffobig dadleuol a ysgrifennwyd gan Nakoula Basseley Nakoula, cyfarwyddwr ffilm Cristnogol o'r Aifft. Roedd y ffilm yn wreiddiol yn Saesneg ac yn ddiweddarach fe'i trosleisiwyd i Arabeg. Uwchlwythwyd dwy fersiwn o'r ffilm i YouTube yng Ngorffennaf 2012, Bywyd Go Iawn Muhammad a Trelar Ffilm Muhammad. Rhyddhawyd y fideos Arabeg yn gynnar ym Medi 2012, gyda chynnwys gwrth-Islamaidd yn cael ei ychwanegu ar ôl ei gynhyrchu, trwy ddybio a throsleisio heb yn wybod i'r actorion. Achosodd y ffilmiau brotestiadau treisgar ar draws y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica, Maleisia, Awstralia, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a'r Iseldiroedd.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm, video work |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 2012 |
Genre | ffilm ddychanol |
Lleoliad y gwaith | Yr Aifft |
Hyd | 14 munud |
Cyfarwyddwr | Nakoula Basseley Nakoula |
Cynhyrchydd/wyr | Nakoula Basseley Nakoula |
Iaith wreiddiol | Saesneg [1][2][3] |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dadl
golyguMae'r ffilm yn cynnwys cynnwys sy'n feirniadol o Islamiaid a'r proffwyd Muhammad. O ganlyniad, digwyddodd protestiadau treisgar mewn nifer o wledydd lluosog; tywalltwyd nwy dagrau gan heddlu yn Sydney ar y protestwyr. Tra bod y protestiadau'n parhau i fod yn wrth-Americanaidd a phro-Islamaidd iawn, targedodd y protestwyr lysgenadaethau UDA, y DU a'r Almaen. Dywedodd y ffilm fod Muhammad yn gyfunrywiol, yn fastard, yn dwp, yn gelwyddog, yn hel merched, yn gamdriniwr plant ac yn unben.[4] Rhwystrodd YouTube y fideo yn yr Aifft, Libia, Indonesia, Sawdi Arabia, Maleisia, India a Singapôr, yn wirfoddol, oherwydd deddfau lleol, tra bod Rwsia, Twrci a Brasil wedi cychwyn camau i rwystro'r fideo yn eu gwledydd. Ym Medi 2012, rhwystrodd llywodraethau Affganistan, Bangladesh, Swdan, Pacistan, Dagestan a Chechnya hefyd YouTube nes nes fod y fideo'n cael ei dileu.
Cyhoeddodd Iran hefyd ei bod wedi rhwystro YouTube, Gwgl a Gmail yn y wlad. Holodd y Tŷ Gwyn YouTube a ddylai barhau i gynnal y fideo ai peidio. Gorchmynnodd nifer o Fwslimiaid radical ladd pobol a oedd yn rhan o gynhyrchiad y ffilm. Yn yr Aifft, cafodd saith o Gristnogion Coptig sy'n gysylltiedig â'r fideo eu dedfrydu i farwolaeth a threuliodd y cyfarwyddwr amser yn y carchar yn Los Angeles am dorri gorchymyn prawf. Mae'r cyfarwyddwr ei hun bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau.
Protestiadau mewn cenadaethau diplomyddol
golyguCenadaethau diplomyddol fel llysgenadaethau a chonsyliaethau oedd prif darged y protestiadau. Llosgodd protestwyr faneri America ac Israel ger llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain a llosgwyd protestwyr yn Antwerp faner America hefyd. Mae map rhyngweithiol o'r protestiadau ar gael yma (ar Mapiau Gwgl yn Saesneg).
Marwolaethau ac anafiadau fesul gwlad
golyguGwlad | Nifer y marwolaethau | Nifer yr anafiadau |
---|---|---|
Pacistan | 23[5] | 280 (o leiaf)[5][6][7] |
Affganistan | 12[8] | 1 (o leiaf)[9] |
Yemen | 4[10] | 35[11] |
Tiwnisia | 4[12] | 35[12] |
Israel | 4 (ar Gororau Israel) | 0 |
Swdan | 3[13] | 0 |
Libanus | 1[14] | 15 |
Aifft, Yr | 1 (yn Cairo)[15] | 250[16] |
India | 0 | 25[17] |
Awstralia | 0 | 25 (yn Sydney, protest yn Melbourne wedi'i chanslo)[18] |
Ffrainc | 0 | 4 (yn Paris)[19] |
Indonesia | 0 | 2 (yn Jakarta)[20] |
Niger | 0 | 1[21] |
Gwlad Belg | 0 | 1 (yn Antwerp)[22] |
Byd | 50 (o leiaf) | 694 (o leiaf) |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ http://bigstartrucking.com/innocence-of-muslims-english-subtitle.htm.
- ↑ http://en.titlovi.com/subtitles/innocence-of-muslims-154296/.
- ↑ http://www.thehindu.com/todays-paper/tp-national/tp-tamilnadu/shops-closed-in-melapalayam/article3934237.ece.
- ↑ "The Innocence of Muslims controversy" (yn Saesneg). Canolfan Berkeley. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-03. Cyrchwyd 2022-02-03.
- ↑ 5.0 5.1 "Violent protestors against video rock Pakistan" (yn Saesneg). Al-Jazeera. Medi 22, 2012.
- ↑ "Timeline: Protests over anti-Islam video" (yn Saesneg). Al-Jazeera. Medi 21, 2012.
- ↑ "Fallout of film: Pakistani mob sets church ablaze, paster's son injured in attack" (yn Saesneg). The Indian Express. Medi 24, 2012.
- ↑ "Female suicide bomber strikes Kabul bus" (yn Saesneg). Al-Jazeera. Text "Medi 18, 2012" ignored (help)
- ↑ Bowater, Donna ac Farmer, Ben (Medi 14, 2012). "British troops help fight off Taliban attack on Afghan military base housing Prince Harry" (yn Saesneg). The Daily Telegraph.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "4 killed as Yemeni police and demonstrators clash at U.S embassy" (yn Saesneg). CNN. Medi 13, 2012.
- ↑ "4 killed as Yemeni police and demonstrators clash at U.S embassy" (yn Saesneg). CNN. Medi 13, 2012.
- ↑ 12.0 12.1 "Tunisia death toll rises to four in US embassy attack" (yn Saesneg). Trust.org. Medi 18, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-18. Cyrchwyd 2022-02-03.
- ↑ "Embassies under attack over anti-Islam video" (yn Saesneg). Al-Jazeera. Medi 15, 2015.
- ↑ "One killed in protest over anti-Islam film" (yn Saesneg). The Daily Star. Medi 14, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-15. Cyrchwyd 2022-02-03.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Blair, Edmund ac Elyan, Tamim (Medi 15, 2012). "Protesters clash with police near US embassy in Cairo" (yn Saesneg). Reuters.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "224 injured so far at US embassy clashes in Cairo: Health ministry" (yn Saesneg). Ahram Online. Medi 13, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-03. Cyrchwyd 2022-02-03.
- ↑ George, Daniel P. (Medi 14, 2012). "US consulate targeted in Chennai over anti-Prophet Muhammad film" (yn Saesneg). The India Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd 2022-02-03.
- ↑ "As it happened: Violence erupts in Sydney over anti-Islam film" (yn Saesneg). ABC News. Medi 18, 2012.
- ↑ "Over 100 arrested in protest of anti-Islam film outside U.S. embassy in Paris" (yn Saesneg). New York Daily News. Medi 15, 2012.
- ↑ Bachelard, Michael ac Doherty, Ben (Medi 18, 2012). "Embassy under attack as protestors spread" (yn Saesneg). The Sydney Morning Herald.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "Niger church ransacked in demonstration over anti-Islam film" (yn Saesneg). Radio Netherlands International. Medi 16, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-19. Cyrchwyd 2022-02-03.
- ↑ France-Presse, Agence. "Belgian police detain 230 protesting anti-Islam film" (yn Saesneg). Brwsel, Gwlad Belg: Hurriyet Daily News.