Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019 yn Llanrwst, Conwy, ar 2-10 Awst 2019. Dyma oedd Eisteddfod gyntaf y trefnydd newydd Betsan Moses a'r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.[3]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Conwy 2019
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Llanrwst
Cynhaliwyd 2-10 Awst 2019
Archdderwydd Myrddin ap Dafydd
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Trystan Lewis
Llywydd Dylan Jones
Enillydd y Goron Guto Dafydd
Enillydd y Gadair T. James Jones
Gwobr Daniel Owen Guto Dafydd
Gwobr Goffa David Ellis Erfyl Tomos Jones
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Megan Llŷn
Gwobr Goffa Osborne Roberts Dafydd Jones
Gwobr Richard Burton Morgan Llywelyn-Jones
Y Fedal Ryddiaith Rhiannon Ifans
Medal T.H. Parry-Williams Falyri Jenkins[1]
Y Fedal Ddrama Gareth Evans-Jones
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Fiona Collins
Tlws y Cerddor Neb yn deilwng
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts John Ieuan Jones
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Daniel Trivedy
Medal Aur am Grefft a Dylunio Bev Bell-Hughes
Gwobr Ivor Davies Sian Parri
Gwobr Dewis y Bobl Sian Parri
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Hannah Cash
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Tŷ Pawb (Penseiri Featherstone Young, Llundain)
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Sara Hedd Ifan, Gethin Wyn Jones[2]
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Twm Elias[1]
Gwefan Gwefan 2019 (archif)

Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019 fod yr Eisteddfod yma wedi gwneud colled ariannol o £158,982 oherwydd y costau ychwanegol a gododd oherwydd y tywydd gwael. Roedd rhaid cau Maes B a’r maes pebyll ac ad-dalu y tocynnau. Byddai'r golled yn cael ei dalu o gronfeydd canolog a ni fyddai'n cael ei gario drosodd i'r Eisteddfod flwyddyn nesaf.[4] Bydd yr Eisteddfod yn comisiynu adroddiad annibynnol ar sut y penderfynwyd ar leoliad gwreiddiol y brifwyl yn Llanrwst.[5]

Y Maes golygu

Lleolwyd y Maes rhyw filltir i'r de o dref Llanrwst ar ochr ddwyreiniol yr A470, ar gaeau Plas Tirion a Cilcennus (53°06′44″N 3°46′45″W / 53.112268°N 3.779179°W / 53.112268; -3.779179). Roedd y maes carafanau ar ochr orllewinol yr A470. Roedd rhaid diwygio y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer y Maes wedi gofid am berygl o lifogydd mewn rhannau o'r maes a felly nid oedd yn bosib i'w hyswirio.[6]

Roedd rhagolygon o dywydd garw ar ddiwedd yr wythnos a effeithiodd ar nifer o ddigwyddiadau'r Eisteddfod. Daeth cawodydd o law trwm ar y dydd Gwener ac fe ganslwyd gigs Maes B ar gyfer y noson honno a rhai nos Sadwrn. Caewyd y maes pebyll ieuenctid gerllaw hefyd a roedd lloches i'w gael mewn canolfan hamdden.[7]

Daeth mwy o gawodydd glaw ar y dydd Sadwrn ynghyd â gwyntoedd cryfion. Symudwyd gig Dafydd Iwan o Lwyfan y Maes i'r Pafiliwn. Gyda dim ond lle i 1,800 yn y Pafiliwn, cyntaf i'r felin fyddai hi i'r rhai oedd am fynd i'r gig.[8]

Prif gystadlaethau golygu

Y Gadair golygu

Enillydd y Gadair oedd T. James Jones (ffugenw "Wil Tabwr"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Llion Jones, ar ran ei gyd-feirniaid Ieuan Wyn a Myrddin ap Dafydd. Saith ymgeisydd gystadlodd eleni, a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, o dan y teitl Gorwelion. Dywedodd y beirniaid fod yr awdl buddugol "gryn dipyn ar y blaen yn y ras am y gadair eleni, o safbwynt ei huchelgais, ei chyfeiriadaeth, ei meddylwaith a'i mydryddiaeth".[9]

Noddwyd y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru. Crëwyd y Gadair gan Gwenan Haf Jones, y fenyw cyntaf i wneud hynny ers 1999. Mae hi'n gynllunydd gyda chwmni dodrefn a cheginau yng Nghorwen.[10] Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, er cof am y Prifardd Gwynfor ab Ifor gan y teulu.

Datgelwyd mai Huw Dylan Owen oedd yn ail gyda awdl “na welwyd ei thebyg” o'r blaen yn ôl y feirniadaeth. Roedd yr awdl ar ffurf Llyfr Ryseitiau, yn cynnig awgrymiadau am sut i chwalu ffiniau drwy fwydydd traws-ddiwylliannol.[11]

Y Goron golygu

Enillydd y Goron oedd Guto Dafydd (ffugenw "Saer nef"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Ceri Wyn Jones ar ran ei gyd-feirniaid Manon Rhys a Cen Williams. Cystadlodd 29 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Cilfachau. Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Ceri Wyn "Am gerddi sy’n ein difyrru, ein hanesmwytho a’n cyffroi, felly, ma’r Goron leni yn mynd i Saer nef, ac ma’r tri ohonon ni yn ei longyfarch yn fawr."[12]

Dyluniwyd y goron gan Angela Evans o Gaernarfon ac fe'i cyflwynwyd gan y gymdeithas dai, Grwp Cynefin. Roedd yna hefyd wobr ariannol a roddwyd gan John Arthur a Margaret Glyn Jones a’r teulu, Llanrwst.

Datgelwyd mai rhai o'r cystadleuwyr a ddaeth yn agosaf i ennill oedd Damien Walford Davies ('OS'), Aneirin Karadog ('Non') a Mari George.[13]

Gwobr Goffa Daniel Owen golygu

Yr enillydd oedd Guto Dafydd o Bwllheli, a enillodd yr un wobr yn 2016. Traddodwyd y feirniadaeth gan Haf Llewelyn, ar ran ei chyd-feirniaid Dyfed Edwards a Llwyd Owen. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 (£3,500 er cof am Olwen Mai Williams, Foel, Cwm Penmachno gan ei theulu, £1,000 Gwasg Carreg Gwalch, a £500 gan Ymddiriedolaeth D Tecwyn Lloyd). Daeth 8 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid nad oedd y gystadleuaeth yn un gref iawn eleni. Er hynny roedd y nofel fuddugol Carafanio gan "Arglwydd Diddymdra" yn sefyll "ar gyfandir arall" i'r gweddill.[14]

Y Fedal Ryddiaith golygu

Enillydd y Fedal oedd Rhiannon Ifans o Benrhyn-coch gyda'i nofel Ingrido dan y ffugenw "Raphael". Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Cylchoedd" gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Derbyniwyd 18 o gyfrolau eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan Mererid Hopwood ar ran ei chyd-feirniaid Aled Islwyn ac Alun Cob.[15]

Tlws y Cerddor golygu

Y dasg oedd cyfansoddi cyfanwaith i Gôr SATB rhwng chwech ac wyth munud o hyd gyda chyfeiliant neu'n ddigyfeiliant, gan ddefnyddio unrhyw ddetholiad o'r gerdd Llwch y Sêr gan Grahame Davies, i gynnwys dau neu dri darn. Roedd 10 ymgais eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan Richard Elfyn Jones ar ran ei gyd-feriniaid, Gareth Glyn ac Eilir Owen Griffiths. Dywedodd fod llawer o'r cyfansoddiadau yn 'iawn mewn rhannau'. Yn anffodus roedd y beirniaid yn gytûn nad oedd yr un ymgais yn deilwng o'r wobr eleni.[16]

Y Fedal Ddrama golygu

Enillydd y Fedal oedd Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn am ei ddrama Adar Papur (ffugenw "Gwylan"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Bethan Marlow ar ran ei chyd-feirniaid Gethin Evans a Branwen Cennard. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Cyflwynwyd y Fedal er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).[17]

Canlyniadau cystadlaethau golygu

Alawon Gwerin golygu

1. Côr Alaw Werin 1. Lleisiau’r Nant 2. Lodesi Dyfi 3. Côr yr Heli

2. Parti Alaw Werin 1. Genod Garmon 2. Gemau Llŷn 3. Rhiannedd y Cwm

3. Parti Alaw Werin dan 25 oed 1. Aelwyd Chwilog 2. Criw’r Creuddyn

4. Gwobr Goffa Y Fonesig Ruth Herbert Lewis 1. Rhydian Jenkins, Maesteg 2. Teleri Mair Jones, Caergybi 3. Robert Ieuan Edwards,

5. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed 1. Llinos Haf Jones, Penarth 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Llio Meirion Rogers, Rhuthun

6. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed 1. Osian Trefor Hughes, Deiniolen 2. Beca Haf Stuart, Bodorgan 3. Tomi Llywelyn, Llanrug

7. Unawd Alaw Werin dan 12 oed 1. Lowri Anes Jarman, Y Bala 2. Beca Marged Hogg, Yr Wyddgrug 3. Eiri Ela Evans, Llanfair, Rhuthun

8. Cyflwyniad ar lafar, dawns a chân 1. Glanaethwy

9. Grŵp Offerynnol neu offerynnol a lleisiol 1. Tannau Llangadfan 2. Tawerin 3. Y Davaliaid / Sesiynwyr Caerdydd

10. Unawd ar unrhyw offeryn gwerin 1. Gweltaz Davalan, Dinas Mawddwy 2. Mared Lloyd, Llanelli 3. Alwena Mair Owen, Llanybydder

11. Cyflwyno Cân Werin Hunangyfeiliant 1. Elena Puw 2. Nick Blandford 3. Modlen Alun

Bandiau Pres golygu

12. Bandiau Pres Pencampwriaeth / Dosbarth 1 1. Band Llwydcoed 2. Band Arian Llaneurgain 3. Seindorf Arian Deiniolen

13. Bandiau Pres Dosbarth 2 1. Seindorf Arian Crwbin 2. RAF Sain Tathan

14. Bandiau Pres Dosbarth 3 1. RAF Sain Tathan

15. Bandiau Pres Dosbarth 4 1. Seindorf Biwmares 2. Band Porthaethwy 3. Band Llandudno

Cerdd Dant golygu

16. Côr Cerdd Dant 1. Côr Merched Llangwm 2. Lleisiau’r Nant 3. Côr Trillyn

17. Parti Cerdd Dant 1. Parti Tegeirian 2. Parti Trillyn 3. Lodesi Dyfi

18. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Aelwyd Chwilog 2. Parti’r Cwm 3. Criw’r Creuddyn

19. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant 1. Pedwarawd Clwyd 2. Criw’r Creuddyn 3. Pedwarawd Cennin

20. Deuawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd 1. Elis a Sion, Rhuthun 2. Rhian a Rhonwen, Y Bala 3. Carwyn a Dylan, Y Bala

21. Deuawd Cerdd Dant dan 21 oed 1. Cai a Non Fôn Davies, Bangor 2. Siriol Elin a Celyn Llwyd, Abergele a Dinbych 3. Ruth Erin ac Elin Lloyd, Henllan a Llanfairpwll

22. Gwobr Aled Lloyd Davies 1. Mali Fflur, Llandwrog 2. Sioned Mai Williams, Pwllglas 3. Mia Peace, Caerfyrddin

23. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed 1. Owain John, Llansannan 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Llio Meirion Rogers, Rhuthun

24. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed 1. Cadi Gwen Williams, Aberystwyth 2. Manw Robin, Rhostryfan 3. Elain Rhys Iorewrth, Trawsfynydd

25. Unawd Cerdd Dant dan 12 oed 1. Lowri Anes Jarman, Y Bala 2. Beca Fflur Edwards, Dinbych 3. Mabli Swyn, Llannerch-y-medd

Cerddoriaeth golygu

26. Cyfeilio i rai dan 25 oed 1. Emma Cerys Buckley, Cricieth 2. Catrin Elin, Mochdre

28. Cyflwyno Rhaglen o Adloniant 1. Côr Ieuenctid Môn 2. CôRwst 3. Côr Dyffryn Dyfi

29. Côr Cymysg 1. Côr CF1 2. Côr Capel Cymreig y Boro 3. Côr Dre

30. Côr Meibion 1. John’s Boys 2. Côr Meibion y Llannau 3. Côr Meibion y Brythoniaid

31. Côr Merched 1. Aelwyd y Neuadd Fach, Porthyrhyd 2. Tegalaw 3. Cantonwm

32. Côr i rai 60 oed a throsodd 1. Côr Hen Nodiant 2. Encôr 3. Henffych

33. Côr Ieuenctid dan 25 oed 1. Côr Ieuenctid Môn 2. Côr Cytgan Clwyd 3. Ysgol Gerdd Camwy

34. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Dre 2. Adlais 3. Côr Alaw

38. Ensemble Lleisiol 1. Cantilena 2. Glantaf 3. Mam y Fro a’i Chriw

39. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. John Ieuan Jones, Llandrillo-yn-Rhos 2. Eiry Myfanwy Price, Caerdydd 3. Dafydd Allen, Bodelwyddan 4. Ryan Vaughan Davies, Hen Golwyn

40. Unawd Soprano 25 oed a throsodd 1. Kate Griffiths, Bryn Saith Marchog 2. Joy Cornock, Llandeilo 3. Aneira Evans, Machynlleth

41. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Gwrth-denor 25 oed a throsodd 1. Kathryn Nash, Llanelwy 2. Angharad Rowlands, Llundain 3. Rhian Dafydd, Aberaeron

42. Unawd Tenor 25 oed a throsodd 1. Aled Wyn Thomas, Llanwnnen 2. Arfon Rhys Griffiths, Y Bala 3. Efan Williams, Lledrod

43. Unawd Bariton / Bas 25 oed a throsodd 1. Erfyl Tomos Jones, Aberhosan 2. Robert Wyn, Bontnewydd 3. Steffan Jones, Caerdydd

44. Gwobr Goffa David Ellis – Y Rhuban Glas 1. Erfyl Tomos Jones, Aberhosan

45. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd 1. Glynn Morris, Sale 2. Vernon Maher, Llandysul 3. Gwynne Jones, Aberystwyth

46. Unawd Lieder / Cân Gelf 25 oed a throsodd 1. Aled Wyn Thomas, Llanwnnen 2. Efan Williams, Lledrod 3. Glynn Morris, Sale

47. Unawd Lieder / Cân Gelf dan 25 oed 1. Rhydian Jenkins, Maesteg 2. Dafydd Jones, Llanrhaeadr 3. Tesni Jones, Llanelwy

48. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd 1. Dafydd Jones, Llanrhaeadr 2. Joy Cornock, Llandeilo 3. Arfon Rhys Griffiths, Y Bala

49. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Sara Davies, Hen Golwyn 2. Lisa Dafydd, Rhuthun 3. Tesni Jones, Llanelwy

50. Unawd Mezzo Soprano / Contralto / Gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed 1. Erin Rossington, Llanfair TH 2. Ceri Haf Roberts, Henllan 3. Morgana Warren-Jones, Bangor

51. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Rhydian Jenkins, Maesteg 2. Dafydd Jones, Llanrhaeadr 3. Elis Jones, Rhuthun

52. Unawd Bariton / Bas 19 ac o dan 25 oed 1. Emyr Lloyd Jones, Bontnewydd 2. Dafydd Allen, Bodelwyddan 3. Owain Rowlands, Llandeilo

Ysgoloriaeth William Park-Jones i’r unawdydd mwyaf addawol yng nghystadlaethau 49-52
1. Rhydian Jenkins, Maesteg
Soprano mwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52
1. Lisa Dafydd, Rhuthun
Tenor mwyaf disglair yng nghystadlaethau 49-52
1. Elis Jones, Rhuthun

53. Gwobr Goffa Osborne Roberts 1. Dafydd Wyn Jones, Llanrhaeadr, Dinbych

54. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd 1. Celyn Llwyd Cartwright, Dinbych 2. Myfanwy Grace Tranmer, Pwllglas 3. Lois Postle, Bodedern

55. Ysgoloriaeth Wilbert Lloyd Roberts 1. Myfanwy Grace Tranmer, Pwllglas

56. Unawd o Sioe Gerdd dan 19 oed 1. Gabriel Tranmer, Pwllglas 2. Fflur Davies, Caernarfon 3. Mali Elwy Williams, Llansannan

57. Unawd i Ferched 16 ac o dan 19 oed 1. Glesni Rhys Jones, Bodedern 2. Alaw Grug Evans, Pontyberem 3. Elin Fflur Jones, Bodedern

58. Unawd i Fechgyn 16 ac o dan 19 oed 1. Lewys Meredydd, Dolgellau 2. Owain John, Llansannan 3. Gruffydd Rhys Hughes, Caernarfon

59. Unawd i Ferched 12 ac o dan 16 oed 1. Lois Wyn, Rhydymain 2. Lili Mohammad, Caerdydd 3. Lea Morus Williams, Llansannan

60. Unawd i Fechgyn 12 ac o dan 16 oed 1. Ynyr Lewys Rogers, Rhuthun 2. Twm Tudor, Caergybi 3. Morgan Gray Frazer, Pentre Berw

61. Unawd dan 12 oed 1. Eiri Ela Evans, Rhuthun 2. Macsen Stevens, Cyffordd Llandudno 3. Lois Angharad Thomas, Llannerch-y-medd

62. Cyfeilio ar y Piano – Cystadleuaeth Goffa Eleri Evans 1. Sioned Mai Williams, Rhuthun

63. Grŵp Offerynnol Agored 1. Ensemble Ysgol Tryfan 2. Enlli, Lleucu a Carys 3. Triawd Hŷn CGWM 4. Parti Chwyth Lleu

64. Deuawd Offerynnol Agored 1. Harri a Heledd, Caerdydd a Caerffili 2. Angharad a Mariel, Rhuthun a Deganwy 3. Huw a Rachel, Caernarfon

65. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd 1. Luke Jones, Wrecsam

66. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd 1. Enlli Parry, Caerdydd 2. Lleucu Parry, Caerdydd 3. Daniel O’Callaghan, San Clêr

67. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd 1. Olivia Jago, Porthaethwy 2. Hannah Lowri Roberts, Caerdydd

68. Unawd Piano 19 oed a throsodd 1. Cameron Biles-Liddell, Corwen 2. Luke Jones, Wrecsam 3. Gwenno Morgan, Bangor

69. Unawd Offerynnau Pres 19 oed a throsodd 1. Merin Rhyd, Caernarfon

70. Unawd Telyn 19 oed a throsodd 1. Mared Emyr Pugh-Evans, Borth 2. Catrin Elin, Mochdre

71. Unawd Offeryn/nau Taro 19 oed a throsodd 1. Harry Lovell-Jones, Caerdydd 2. Heledd Fflur Gwynant, Caerffili

72. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Ellis Thomas, Bae Penrhyn

73. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed 1. Ruby Howells, Market Drayton 2. Talfan Jenkins, Arberth 3. Rachel Marie Franklin, Caernarfon

74. Unawd Llinynnau 16 ac o dan 19 oed 1. Gwydion Powel Rhys, Bangor 2. Mererid Jones, Llandysul 3. Heledd Jones, Llandysul

75. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed 1. Ellis Thomas, Bae Penrhyn 2. Medi Morgan, Bangor 3. Glesni Rhys Jones, Bodedern

76. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed 1. Gabriel Tranmer, Pwllglas

77. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed 1. Huw Boucher, Penarth 2. Angharad Huw, Rhuthun

79. Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed 1. Rufus Edwards, Wrecsam

80. Unawd Chwythbrennau dan 16 oed 1. Christopher Sabisky, Betws-y-coed 2. Nanw Haf Llwyd, Caernarfon 3. Lily Hall, Abertawe

81. Unawd Llinynnau dan 16 oed 1. Mared Lloyd, Llanelli 2. Felix Llewelyn Linden, Penarth 3. Ben Oliver, Mochdre

82. Unawd Piano dan 16 oed 1. Rufus Edwards, Wrecsam 2. Emma Cerys Buckley, Cricieth 3. Beca Lois Keen, Llangristiolus

84. Unawd Telyn dan 16 oed 1. Heledd Wynn Newton, Caerdydd 2. Christopher Sabisky, Betws-y-coed 3. Holly Catrin Davies, Pwllheli

87. Emyn-dôn i eiriau Tecwyn Ifan Buddugol: Ilid Anne, Glasinfryn, Bangor

88. Trefniant o gân Gymraeg gyfoes a fyddai’n addas ar gyfer y gystadleuaeth gorawl Cyflwyno Rhaglen Adloniant Buddugol: Nia Wyn Jones, Llanychan, Rhuthun

89. Trefniant digyfeiliant o alaw ar gyfer ensemble lleisiol heb fod yn hwy na munud Buddugol: Geraint Davies, Casnewydd

90. Cyfansoddiad ar gyfer un offeryn yn unig, heb fod yn hwy na 6 munud Buddugol: Gareth Olubunmi Hughes, Y Rhath, Caerdydd

91. Cystadleuaeth i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed Dau gyfansoddiad gwrthgyferbyniol mewn unrhyw gyfrwng Buddugol: Gwydion Powel Rhys, Llanllechid, Bangor

92. Cystadleuaeth Tlws Sbardun. Buddugol: Rhydian Meilir Pughe, Cemaes, Machynlleth

Dawns golygu

93. Tlws Coffa Lois Blake 1. Nantgarw 2. Talog

94. Cystadleuaeth Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1. Dawnswyr Môn 2. Dawnswyr Talog

95. Parti Dawnsio Gwerin dan 25 oed 1. Talog 2. Nantgarw 3. Talwenog

96. Dawns Stepio i Grŵp 1. Dawnswyr Talog 2. Dawnswyr Nantgarw 3. Clocswyr Cowin

97. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio 1. Mared, Carwyn, Tomos a Cadi, Caerfyrddin 2. Daniel a Morus, Pontypridd; ac Enlli a Lleucu, Caerdydd

98. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 18 oed a throsodd 1. Daniel Calan Jones, Caerdydd 2. Elwyn Williams, Caerdydd

99. Dawns Stepio Unigol i Ferched 18 oed a throsodd 1. Enlli Parri, Caerdydd 2. Cadi Evans, Caerfyrddin 3. Lleucu Parri, Caerdydd

100. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn dan 18 oed 1. Dion Ioan Jones, Caerfyrddin 2. Morus Caradog Jones, Caerdydd 3. Ioan Wyn Williams, Caerdydd

101. Dawns Stepio Unigol i Ferched dan 18 oed 1. Elen Morlais Williams, Caerdydd 2. Sara Brown, Caerfyrddin 3. Mared Lloyd, Llanelli

102. Props ar y Pryd 1. Erin, Esther a Luned 2.= Lewis a Morus; 2.= Ioan, Daniel ac Iestyn; 2.= Enlli a Lleucu

104. Dawns Greadigol / Gyfoes Unigol 1. Elin John, Caerdydd 2. Ioan Wyn Williams, Caerdydd 3. Caitlin Boyle, Caerdydd

105. Dawns Greadigol/Gyfoes i Grŵp 1. Grŵp Jasmine

106. Dawns Aml-Gyfrwng i Bâr neu Driawd 1. Cari Owen a Ffion Bulkeley, Ynys Môn 2. Caitlin ac Elin, Caerdydd 3. Lowri a Jodie, Llannerch-y-medd

107. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai 12 oed a throsodd 1. Charlie Lindsay, Bala 2. Efa Rhodd Williams, Blaenau Ffestiniog 3. Caitlin Boyle, Caerdydd

108. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai dan 12 oed 1. Jodie Garlick, Llannerch-y-medd 2. Mia Fflur Owen-Hughes, Amlwch 3. Lowri Williams, Llannerch-y-medd

109. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr neu Driawd 1. Elin a Caitlin, Caerdydd 2. Charlie, Jodi a Madi, Y Bala 3. Lia ac Anya, Llannerch-y-medd

110. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Grŵp 1. Perlau, Amlwch 2. Breuddwyd Rhyfeddol Alys, Caernarfon 3. Mediwsa, Caernarfon

Drama golygu

111. Actio Drama neu waith dyfeisedig 1. Cymdeithas y Llawrdyrnu, Sarnau 2. Cwmni Glanaethwy 3. Cwmni Drama Uwchaled

112. Actor gorau cystadleuaeth 111 1. Nest Davies (Cymdeithas y Llawrdyrnu, Sarnau)

113. Cyfarwyddwr gorau cystadleuaeth 111 1. Aled Jones (Cymdeithas y Llawrdyrnu, Sarnau)

114. Gwobr Richard Burton dros 19 oed 1. Morgan Llewelyn-Jones, Llanelli

115. Deialog 1. Anni a Begw, Y Bontfaen 2. Marged a Steffan, Yr Wyddgrug a Rhuthun 3. Manon a Lleucu, Caernarfon

116. Monolog 16 o dan 19 oed 1. Leisa Gwenllian, Llanrug 2. Eirlys Lovell-Jones, Caerdydd 3. Mali Elwy Williams, Llansannan

117. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Owain Sion, Llanfairpwll 2. Manw Robin, Caernarfon 3. Lili Mohammad, Caerdydd

120. Trosi un o’r canlynol i’r Gymraeg. Buddugol: Ffion Gwen Williams, Llannefydd

121. Cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol heb fod yn hwy na 4 munud yr un Buddugol: Dewi Wyn Williams, Caerdydd

122. Cyfansoddi drama radio mewn unrhyw genre na chymer fwy na 30 munud i’w darlledu. Buddugol: Griffith Richard Williams, Groeslon

123. Ffilm fer ar unrhyw ffurf ddigidol, hyd at 10 munud o hyd. Agored i unigolion neu grwpiau. Buddugol: Ben Gregory, Penygroes

124. Cyfansoddi sgets gomedi i rhwng 2 a 6 cymeriad na chymer fwy na 12 munud i’w pherfformio Buddugol: Dewi Lewis, Llanddarog

Dysgwyr golygu

125. Dysgwr y Flwyddyn 1. Fiona Collins, Carrog

126. Côr Dysgwyr 1. Criw Bangor 2. Côr DAW 3. Côr Dysgwyr Sir Benfro

127. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd 1. Helen Franklin, Pwllheli 2. Don Martin, Llanelwy 3. Lynn Bateman, Ponciau

128. Grŵp Offerynnol a/neu leisiol 1. Grŵp Côr y Bryn 2. Parti DAW

129. Unawd Dysgwyr 1. David Herzog, Bae Colwyn 2. Jenna Jones, Bae Colwyn 3. John Stone, Llandudno

130. Grŵp Llefaru Dysgwyr 1. Grŵp Pnawn o Hwyl, Popeth Cymraeg, Prestatyn

131. Sgets 1. Criw Neil 2. Criw y Cwis

132. Cystadleuaeth Y Gadair Buddugol: Wendy Evans, Aberteifi

133. Cystadleuaeth Y Tlws Rhyddiaith Buddugol: Cathy Green, Trefdraeth

134. Llythyr cais Buddugol: Julie Pearce, Y Drenewydd

135. Fy hoff olygfa, tua 200 o eiriau Buddugol: Bob Dennison, Llandrindod

136. Blog: ‘Ar daith’, tua 150 o eiriau Buddugol: Anne Rayment, Yr Wyddgrug

137. Sgwrs grŵp WhatsApp neu Messenger ar ôl noson allan, tua 100 o eiriau Buddugol: Kathy Sleigh, Arberth

138. Blog fideo: ‘Fy ardal’, 5-10 munud o hyd Buddugol: E’zzati Ariffin, Hwlffordd

139. Gwaith Grŵp neu unigol Tudalen flaen papur newydd yn y flwyddyn 2050. Buddugol: Grŵp Jeni Harris, Coleg Cambria, Wrecsam

140. Ysgrifennu 2 sgets, un ar gyfer grŵp maint 7-8 a’r llall ar gyfer grŵp llai 4-5. Atal y wobr

Llefaru golygu

146. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer 1. Genod Llŷn 2. Parti Marchan 3. Lleisiau Cafflogion

147. Parti Llefaru 1. Genod Garmon 2. Gemau Llŷn 3. Rhianedd y Cwm

148. Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn 1. Megan Llŷn, Pwllheli

149. Llefaru Unigol Agored 1. Annest Mair, Tŷ Croes 2. Sion Jenkins, Caerdydd 3. Heulen Cynfal, Y Bala

150. Llefaru / Cyflwyniad Darn Digri 1. Lisa Erin Owen, Y Bala 2. Robert Douglas Owen, Llanfair TH

151. Dweud Stori 1. Elis Jones, Caernarfon 2. Fiona Collins, Carrog 3. Liz Morris, Llandyrnog

154. Llefaru dan 12 oed 1. Ela Mablen Griffith-Jones, Llanybydder 2. Gruff Beech, Bethesda 3. Leusa Elgan Metcalfe, Trefriw

155. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur 16 oed a throsodd 1. Morgan Siôn Owen, Penrhosgarnedd 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Heulen Cynfal, Y Bala

156. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur dan 16 oed 1. Manw Robin, Caernarfon 2. Ioan Joshua Mabbutt, Aberystwyth 3. Nel Lovelock, Llannerch-y-medd

Llenyddiaeth golygu

159. Englyn: Cymwynas Buddugol: Geraint Roberts, Caerfyrddin

160. Englyn crafog: Clown Buddugol: Tudur Dylan Jones, Caerfyrddin

161. Telyneg: Wedi’r llanw Buddugol: Dai Rees Davies, Llandysul

162. Cywydd heb fod dros 24 o linellau: Pont Buddugol: Elin Meek, Abertawe

163. Soned: Paent Buddugol: John Meurig Edwards, Aberhonddu

164. Cerdd wedi ei llunio o chwe phennill telyn: Lleisiau Buddugol: Dafydd Jones, Blaenau Ffestiniog

165. Chwe Thriban: Chwe esgus Buddugol: Vivian Parry Williams, Blaenau Ffestiniog

166. Hir a Thoddaid: Marchnad Buddugol: Iwan Bryn James, Aberystwyth

167. Chwe Englyn Milwr: Cribau Buddugol: Geraint Roberts, Caerfyrddin

168. Cystadleuaeth i rai dan 25 oed. Cerdd benrhydd hyd at 30 llinell: Neges Atal y wobr

173. Ysgoloriaeth Fentora Emyr Feddyg Er cof am Dr Emyr Wyn Jones, Cymrawd yr Eisteddfod Buddugol: Wil Parry, Bryncroes, Pwllheli

174. Gwobr Stori Fer Tony Bianchi, hyd at 3,000 o eiriau: Anrheg. Buddugol: Geraint Lewis, Treganna

175. Llên Micro - Casgliad o saith darn: Saith diwrnod Buddugol: Iona Evans, Pandy Tudu

176. Ysgrif hyd at 2,000 o eiriau: Tynfa Buddugol: Manon Wynn Davies, Llandaf, Caerdydd

177. Stori ffantasi hyd at 3,000 o eiriau: Cysgodion Atal y wobr

178. Dilyniant o negeseuon ar unrhyw gyfrwng cymdeithasol geiriol, hyd at 1,000 gair: Agored Buddugol: Rebeca Roberts, Prestatyn, Sir Ddinbych

179. Portread hyd at 2,000 gair: Hoelen wyth Buddugol: Roger Kite, Llanandras, Powys

180. Araith a gymer hyd at 5 munud i’w thraddodi: Y drwg yn y caws Buddugol: Aled Gwyn Jôb, Y Felinheli, Gwynedd

181. Llythyr achwyn: Agored Buddugol: Huw Evans, Cwrtnewydd, Ceredigion

182. Erthygl hyd at 3,000 o eiriau: Cyfoeth cudd bro’r Eisteddfod. Buddugol: Gari Wyn Jones, Pentir, Bangor, Gwynedd

183. Cystadleuaeth i rai o dan 25 oed - Ymson hyd at 2,000 o eiriau: Croesffordd Ni fu cystadlu.

184. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin: Y Gymraeg ym Mhatagonia dros y degawd nesaf neu Fy argraffiadau o Gymru. Buddugol: Alwen Green, 9203 Trevelin, Chubut, Ariannin

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Cyhoeddi enillwyr dwy o fedalau'r Eisteddfod Genedlaethol , BBC Cymru Fyw, 13 Ebrill 2019.
  2. Catalog Y Lle Celf, 2019
  3.  Tim cryf i arwain yr Eisteddfod yn Sir Conwy. Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1 Tachwedd 2017).
  4. Tywydd gwael wedi costio’n ddrud i Brifwyl Llanrwst , Golwg360, 23 Tachwedd 2019.
  5. Colled o £159,000 wedi tywydd garw Prifwyl Llanrwst , BBC Cymru Fyw, 23 Tachwedd 2019.
  6.  Eisteddfod yn cadarnhau safle 2019 yn Llanrwst (13 Mai 2019). Adalwyd ar 5 Awst 2019.
  7. Canslo gigs Maes B nos Wener a nos Sadwrn , Golwg360, 9 Awst 2019. Cyrchwyd ar 10 Awst 2019.
  8. Dafydd Iwan yn y glaw – symud ei gyngerdd o’r maes i’r pafiliwn , Golwg360, 10 Awst 2019.
  9. T James Jones yw enillydd y Gadair yn yr Eisteddfod , BBC Cymru Fyw, 9 Awst 2019.
  10. Y ferch gyntaf i greu’r Gadair ers ugain mlynedd , Golwg360, 8 Awst 2019.
  11. Huw Dylan Owen oedd yr agosaf at Gadair Sir Conwy , Golwg360, 11 Awst 2019. Cyrchwyd ar 12 Awst 2019.
  12. Guto Dafydd yn cipio’r Goron , Golwg360, 5 Awst 2019.
  13. Enwau mawr yn agos at y Goron eleni , Golwg360, 6 Awst 2019. Cyrchwyd ar 12 Awst 2019.
  14. Gwobr Goffa Daniel Owen i Guto Dafydd , BBC Cymru Fyw, 6 Awst 2019.
  15. Rhiannon Ifans yn ennill y Fedal Ryddiaith yn Sir Conwy , Golwg360, 7 Awst 2019.
  16. Neb yn deilwng o Dlws y Cerddor , BBC Cymru Fyw, 7 Awst 2019.
  17. Gareth Evans-Jones yn cipio'r Fedal Ddrama , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2019.