Roedd Emanuel Lasker (24 Rhagfyr 1868 - 11 Ionawr 1941) yn chwaraewr gwyddbwyll, mathemategydd, ac athronydd o'r Almaen. Ef oedd ail Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, am gyfnod o 27 mlynedd, o 1894 i 1921, teyrnasiad hiraf unrhyw Bencampwr. Ar ei anterth, roedd Lasker yn un o'r pencampwyr amlycaf, ac fe'i ystyrir yn un o'r chwaraewr cryfaf mewn hanes hyd heddiw.

Emanuel Lasker
Ganwyd24 Rhagfyr 1868 Edit this on Wikidata
Barlinek Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 1941 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen, Gweriniaeth Weimar Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Max Noether Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, chwaraewr gwyddbwyll, bridge player, athronydd, arbenigwr gwyddbwyll Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Tulane Edit this on Wikidata
PriodMartha Lasker Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd, Hall of Fame des deutschen Sports Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonYmerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata

Dywedai ei gyfoeswyr bod Lasker yn defnyddio agwedd "seicolegol" at y gêm, a'i fod weithiau'n chwarae symudiadau israddol yn fwriadol er mwyn drysu ei wrthwynebwyr. Dangosodd dadansoddiad diweddar, fodd bynnag, ei fod o flaen ei amser ac yn defnyddio dulliau mwy hyblyg na'i gyfoeswyr, a oedd yn drysu llawer ohonynt. Roedd Lasker yn astudio'r dadansoddiadau cyfoes o'r agoriadau ond yn anghytuno â llawer ohonynt. Cyhoeddodd gylchgronau gwyddbwyll a phum llyfr gwyddbwyll, ond cafodd chwaraewyr a sylwebwyr hi'n anodd dysgu gwersi o'i ddulliau.

Cyfrannodd Lasker at ddatblygiad gemau eraill. Yr oedd yn chwaraewr 'contract bridge' o'r radd flaenaf[1] ac ysgrifennodd am bridge, Go, a'r gem ddyfeisiodd ei hun, Lasca. Cyflwynodd brobem yn ei lyfrau am gemau sy'n dal i gael ei hystyried yn nodedig mewn dadansoddiad mathemategol o gemau cardiau. Roedd Lasker yn fathemategydd ymchwil a oedd yn adnabyddus am ei gyfraniadau i algebra cymunol, a oedd yn cynnwys profi dadelfeniad sylfaenol o ddelfrydau modrwyau polynomaidd. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw a gafodd ei weithiau athronyddol, a'r ddrama a gyd-ysgrifennodd.

Bywyd a gyrfa

golygu

Blynyddoedd cynnar 1868-1894

golygu
 
Lasker yn ddyn ifanc

Ganwyd Emanuel Lasker ar 24 Ragfyr, 1868, yn Berlinchen yn Neumark (Barlinek yng Ngwlad Pwyl erbyn hyn), yn fab i gantor Iddewig. Pan yn un-ar-ddeg anfonwyd ef i astudio mathemateg ym Merlin, lle bu'n byw gyda'i frawd Berthold, oedd yn wyth mlynedd yn hŷn, a dysgodd Berthold iddo sut i chwarae gwyddbwyll. Roedd Berthold ymhlith deg chwaraewr gorau'r byd ar ddechrau'r 1890au.[2]Er mwyn ychwanegu at eu hincwm, chwaraeai Lasker wyddbwyll a gemau cardiau am bres, yn enwedig yn y Café Kaiserhof.[3][4]

Enillodd Lasker dwrnamaint Gaeaf blynyddol Café Kaiserhof 1888/89 a thwrnamaint ("ail Adran") Hauptturnier A yn chweched Cyngres y DSB (cyngres Ffederasiwn Gwyddbwyll yr Almaen), a gynhaliwyd ym Mreslau. Am ennill yr Hauptturnier dyfarnwyd y teitl "Meistr" iddo. Rhannwyd yr ymgeiswyr yn ddau grŵp o ddeg, gyda'r pedwar uchaf ym mhob grŵp yn cystadlu mewn rownd derfynol. Enillodd Lasker ei adran, 2½ pwynt o flaen ei wrthwynebydd agosaf. Fodd bynnag, cafodd y sgoriau eu hailosod i 0 ar gyfer y rownd derfynol. Gyda dwy rownd i fynd, roedd Lasker 1½ pwynt ar ei hol hi. Enillodd Lasker ei ddwy gêm olaf, tra collodd von Feierfeil oedd ar y blaen yn y rownd olaf ond un (colli ar ol 121 symudiad wedi i'r bwrdd gael ei ail-osod yn anghywir yn dilyn gohiriad) ac yna gêm gyfartal yn y rownd olaf. Roedd y ddau chwaraewr felly'n gyfartal gyntaf. Enillodd Lasker y gêm ail gyfle a chael ei ddyfarnu'n 'Feistr'. Galluogodd hyn iddo chwarae mewn twrnameintiau lefel meistr a dechreuodd ei yrfa gwyddbwyll go iawn.[5]

Gorffennodd Lasker yn ail mewn twrnamaint rhyngwladol yn Amsterdam, o flaen i Mason a Gunsberg.[6][7] Yng ngwanwyn 1892, enillodd ddau dwrnamaint yn Llundain, yr ail oedd y cryfaf o'r rhain a collodd yr un gêm ynddi.[8][9] Yn Ninas Efrog Newydd ym 1893, enillodd bob un o'r tair gêm ar ddeg,[10][11][12][13] un o'r ychydig enghreithiau yng ngwyddbwyll lle mae chwaraewr wedi cael sgôr perffaith mewn twrnamaint pwysig.[14][15][16]

Roedd ei record mewn gemau hefyd yn drawiadol: Ym Merlin ym 1890 cafodd gêm gyfartal mewn gêm ail gyfle fer yn erbyn ei frawd Berthold, ac ennill ei holl gemau eraill o 1889 i 1893, gan mwyaf yn erbyn gwrthwynebwyr o'r radd flaenaf: Curt von Bardeleben (1889), Jacques Mieses (1889), Henry Edward Bird (1890), Berthold Englisch (1890), Joseph Henry Blackburne (1892), Jackson Showalter (1892–93) a Celso Golmayo Zupide (1893).[17][18] Cyfrifodd Chessmetrics mai Emanuel Lasker oedd chwaraewr cryfaf y byd erbyn canol y 1890au,[19] a'i fod yn y deg uchaf o ddechrau ei yrfa ym 1889.[20]

Ym 1892 cyhoeddwyd cylchgrawn gwyddbwyll cyntaf Lasker, The London Chess Fortnightly, a argraffwyd o 15 Awst, 1892 i 30 Gorffennaf, 1893. Yn ail chwarter 1893, bu bwlch o ddeg wythnos rhwng rhifynnau, tybier oherwydd problemau gyda'r argraffydd.[21] Yn fuan ar ôl ei gyhoeddiad olaf, teithiodd Lasker i'r Unol Daleithiau, lle treuliodd y ddwy flynedd nesaf.[22]

Heriodd Lasker Siegbert Tarrasch, a oedd wedi ennill tair twrnamaint rhyngwladol cryf yn olynol (Breslau 1889, Manceinion 1890, a Dresden 1892) i ornest. Gwrthododd Tarrasch yn ddigon sarrug, gan ymateb y dylai Lasker brofi ei allu yn gyntaf trwy ennill un neu ddau o gystadlaethau rhyngwladol mawr.[23]

Cystadleuaeth gwyddbwyll 1894–1918

golygu

Gemau yn erbyn Steinitz

golygu
 
Wilhelm Steinitz, a gollodd i Lasker yng ngemau Pencampwriaeth y Byd ym 1894 a 1896

Wedi’i wrthod gan Tarrasch, heriodd Lasker Pencampwr y Byd, Wilhelm Steinitz, i ornest am y teitl.[23] Cynigodd Lasker chwarae am $5,000 bob ochr, ac yna cytunwyd ar $3,000 bob ochr, ond cytunodd Steinitz i gyfres o ostyngiadau pan gafodd Lasker draffeth godi'i gyfran. Y ffigwr terfynol oedd $2,000, a oedd yn llai nag ar gyfer rhai o gemau cynharach Steinitz (roedd y gyfran derfynol o $4,000 yn werth dros $495,000 ar werthoedd 2006).[24] Chwaraewyd yr ornest ym 1894 yn Efrog Newydd, Philadelphia, a Montreal. Roedd Steinitz wedi datgan y byddai’n ennill heb os nac oni bai, felly roedd yn sioc pan enillodd Lasker y gêm gyntaf. Enillodd Steinitz yr ail gêm, ac yna cafwyd pedair gêm gyfartal. Enillodd Lasker pob un o’r gemau o’r seithfed i’r unfed ar ddeg, a gofynnodd Steinitz am wythnos o orffwys. Pan ailddechreuwyd, roedd Steinitz yn edrych yn well ac enillodd y 13eg a'r 14eg gêm. Tarodd Lasker yn ôl yn y 15fed a’r 16eg gêm, ond ni fedrai Steinitz wneud yn iawn am ei golledion yng nghanol yr ornest, ac enillodd Lasker o 12 - 7 (+10, -5, =4)[25][26][27] ac ar 26 Mai 1894 daeth yn ail Bencampwr Gwyddbwyll y Byd. Yn yr ail ornest ym 1896-97 chwalodd ei wrthwynebwr gan ennill 12.5 - 4.5 ( +10, -2, =5).[17][28]

Llwyddiannau twrnamaint

golygu
 
Braslun o Lasker, tua 1894

Roedd chwaraewyr a newyddiadurwyr dylanwadol yn bychanu gornest 1894 cyn ac ar ôl y digwyddiad. Efallai mai sylwadau gelyniaethus gan Gunsberg a Leonard Hoffer (a oedd wedi bod yn elyniaethus i Lasker ers amser maith)[29] cyn yr ornest oedd un rheswm am anhawster Lasker i godi'r arian[12] Un o’u cwynion oedd nad oedd Lasker wedi chwarae’r ddau arall o’r pedwar uchaf, Siegbert Tarrasch a Mikhail Chigorin [12] – er i Tarrasch wrthod her gan Lasker ym 1892, gan ddweud yn gyhoeddus wrtho am fynd i ennill twrnamaint rhyngwladol yn gyntaf. [21][30] Ar ôl yr ornest dywedodd rhai sylwebwyr, yn cynnwys Tarrasch, fod Lasker wedi ennill yn bennaf oherwydd bod Steinitz yn hen (roedd yn 58 ym 1894).[3][31]

Ymatebodd Emanuel Lasker i'w feirniaid trwy greu record chwarae trawiadol. Daeth yn drydydd yn Hasting 1895 (pan oedd efallai yn dioddef o sgil-effeithiau'r dwymyn teiffoid[3] ), y tu ôl i Pillsbury a Chigorin ond ar y blaen i Tarrasch a Steinitz, ac yna enillodd y gwobrau cyntaf mewn twrnameintiau cryf iawn yn St Petersburg 1895-96 (twrnamaint elitaidd, 4-chwaraewr, o flaen Steinitz, Pillsbury a Chigorin), Nuremberg (1896), Llundain (1899) a Pharis (1900); daeth yn gydradd ail yn Cambridge Springs 1904, a cydradd gyntaf yng Nghofeb Chigorin yn St. Petersburg 1909.[4]

Yna, yn St. Petersburg (1914), ar ôl bod 1½ pwynt ar ei hol hi, curodd y twrnamaint gan orffen o flaen Capablanca ac Alexander Alekhine, y ddau ddaeth yn Bencampwr y Byd yn ddiweddarach[10][18][32][33] Ers degawdau mae ysgrifenwyr gwyddbwyll wedi adrodd bod Tsar Nicholas II o Rwsia wedi rhoi'r teitl Uwchfeistr Gwyddbwyll i bob un yn y rownd derfynol yn St.Petersburg 1914 (Lasker, Capablanca, Alekhine, Tarrasch a Marshall ), ond mae'r hanesydd gwyddbwyll Edward Winter yn amau hyn, gan ddweud bod y ffynonellau cynharaf sy'n cefnogi'r stori wedi'u cyhoeddi ym 1940 a 1942.[34][35][36]

Chwarae yn erbyn Marshall a Tarrasch

golygu

Roedd record gemau Lasker yr un mor drawiadol rhwng ei ail ornest 1896-97 gyda Steinitz a 1914: enillodd bob un ond un o'i ornestau arferol, yn cynnwys tair tra'n amddiffyn ei deitl.

Ym 1906 cytunodd Lasker gyda Geza Marcozy ar delerau ar gyfer gornest am Bencampwriaeth y Byd, ond ni ellid cwblhau'r trefniadau, ac ni chynhaliwyd yr ornest..[37]

Amddiffynnodd Lasker ei deitl am y tro cyntaf yn erbyn Frank Marshall ym 1907. Er gwaethaf ei arddull ymosodol, ni allai Marshall ennill yr un gêm, a collodd 11½–3½ ( +8, =7, -0 ).[38]

Ym 1908 chwaraeodd Lasker gyda Tarrasch am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd, gan ddechrau yn Dusseldorf cyn symyd ymlaen i Munich. Credai Tarrasch bod gwyddbwyll yn cael ei llywodraethu gan set fanwl o egwyddorion.[38] Iddo ef cryfder symudiad gwyddbwyll oedd yn ei resymeg, nid yn ei effeithlonrwydd. Oherwydd ei egwyddorion ystyfnig ystyriau fod Lasker yn amatur a ennillai ei gemau dim ond diolch i driciau amheus, tra bod Lasker yn gwatwar haerllugrwydd Tarrasch a oedd, yn ei farn ef, yn disgleirio'n fwy mewn salonau nag ar y bwrdd gwyddbwyll. Yn y seremoni agoriadol, gwrthododd Tarrasch siarad â Lasker, gan ddweud yn unig: "Mr. Lasker, dim ond tri gair sydd gennyf i'w ddweud wrthych: Schach und Matt!"[39][40]Nodyn:Chess diagram smallAtebodd Lasker wrth y bwrdd, gan ennill pedair o'r pum gêm gyntaf, a chwarae'r math o wyddbwyll na allai Tarrasch ddeall. Er enghraifft, yn yr ail gêm ar ôl 19 symudiad daeth sefyllfa lle roedd Lasker werinwr i lawr, gydag esgob sal a gwerinwyr wedi'u dwblu. Ymddangosai fel bod Tarrasch yn ennill, ond 20 symudiad yn ddiweddarach bu'n rhaid iddo ymddiswyddo.[41] Enillodd Lasker o 10½–5½ yn y diwedd ( +8, =5, -3). Honnodd Tarrasch mai'r tywydd gwlyb oedd ar fai![41]

Chware yn erbyn Janowski

golygu

Ym 1909 bu Lasker yn gyfartal mewn gornest fer (dwy fuddugoliaeth, dwy golled) yn erbyn David Janowski, alltud o Wlad Pwyl ac ymosodwr brwd. Rai misoedd yn ddiweddarach chwaraesont gêm hirach ym Mharis, a mae haneswyr gwyddbwyll yn dal i ddadlau os oedd hon ar gyfer Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd ai peidio[42] Oherwydd arddull Janowski, dewisodd Lasker amddiffyn yn gadarn fel bod Janowski yn ymosod yn rhy fuan a gadael ei hun yn agored i wrth ymosodiad. Enillodd Lasker i y gêm yn hawdd o 8 - 2 ( +7, =2, -1 ).[43] Argyhoeddodd y fuddugoliaeth hon pawb ond Janowski, a fynnodd ail gyfle. Derbyniodd Laskern yr her a chwaraewyd gornest arall am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd ym Merlin yn ystod Tachwedd a Rhagfyr 1910. Bu Lasker yn fuddugol eto, gan ennill o 9½–1½ ( +8, =3, -0).[44] Nid oedd Janowski yn deall symudiadau Lasker, ac ar ôl y dair colled gyntaf fe ddatganodd i Edward Lasker, "Mae eich honomyn yn chwarae mor wirion fel na allaf hyd yn oed edrych ar y bwrdd gwyddbwyll pan mae'n meddwl. Mae arnaf ofn na wnaf unrhyw beth da yn y gêm hon."[43]

Gornest yn erbyn Schlechter

golygu
 
Byddai Schlechter wedi cipio Pencampwriaeth y Byd pe bai wedi ennill neu dod yn gyfartal yn y gêm olaf ym 1910.

Rhwng y ddwy ornest yn erbyn Janowski, chwaraeodd Lasker am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd yn ystod Ionawr a Chwefror 1910 yn erbyn Carl Schlechter. Gŵr gwylaidd oedd Schlechter, a oedd yn annhebygol o ennill y prif dwrnameintiau gwyddbwyll oherwydd ei gymeriad heddychlon, ei ddiffygion ymosodol a'i barodrwydd i dderbyn y mwyafrif o gynigion am gêmau gyfartal gan ei wrthwynebwyr (roedd tua 80% o'i gemau yn gorffen mewn gêm gyfartal).[45]

Ar y dechrau ymosododd Lasker, ond ni chafodd Schlechter anhawster wrth amddiffyn, a gorffennodd y pedair gêm gyntaf yn gemau cyfartal. Yn y bumed gêm roedd gan Lasker fantais fawr, ond collodd ar ôl camgymeriad gwael. Felly ar ganol yr ornest roedd Schlechter un pwynt ar y blaen. Pedair gêm gyfartal ddaeth nesaf, er gwaethaf chwarae ffyrnig gan y ddau chwaraewr. Yn y chweched fe lwyddodd Schlechter i gael gêm gyfartal er ei fod werinwr i lawr. Yn y seithfed bu bron i Lasker golli ar ôl aberth cyfnewid hyfryd gan Schlechter. Yn y nawfed dim ond camgymeriad gan Lasker a ganiataodd i Schlechter gael gêm gyfartal mewn diweddglo coll. Y sgôr felly cyn y gêm olaf oedd 5-4 i Schlechter. Ceisiodd Schlechter ennill yn dactegol a chafodd fantais fawr, ond ar ôl methu buddugoliaeth glir ar y 35ain symudiad, parhaodd i fentro'n ormodol, gan golli yn y diwedd.[46] Felly arhosodd Lasker yn Bencampwr y Byd, wedi gornest gyfartal 5 - 5.

Mae rhai wedi dyfalu bod Schlechter wedi chwarae gwyddbwyll anarferol o fentrus yn y ddegfed gêm oherwydd bod telerau'r ornest yn ei gwneud yn ofynnol iddo ennill o ddwy gêm. Ond yn ôl Isaac a Vladimir Linder, mae hyn yn annhebygol. Roedd yr ornest ar y cychwyn i fod am 30 gêm, ac roedd rhaid i Schlechter ennill o ddwy. Ond mae'n nhw'n nodi y dywed yr hanesydd gwyddbwyll o Awstria Michael Ehn, fod Lasker wedi cytuno i roi'r gorau i'r ddarpariaeth ennill o ddwy wedi'r cwtogi i 10 gêm yn unig. I brofi hyn, dyfynnodd Ehn sylw Schlechter a argraffwyd yn yr Allgemeine Sportzeitung (ASZ) ar 9 Rhagfyr, 1909 “Bydd deg gêm i gyd. Bydd yr enillydd ar bwyntiau yn derbyn teitl Pencampwr y Byd. Os yw'r pwyntiau'n gyfartal, y canolwr sydd i benderfynnu."[47]

Heriau na wireddwyd

golygu

Ym 1911 derbyniodd Lasker her am ornest am bencampwriaeth y byd gan y seren newydd José Raúl Capablanca. Nid oedd Lasker yn fodlon chwarae'r “cyntaf i ennill deg gêm” traddodiadol o dan amodau lled-drofannol Hafana, yn enwedig gan fod mwy o gemau cyfartal erbyn hyn, a gallai gornest o'r fath barhau am dros chwe mis. Felly rhoddodd ei wrthgynigion: pe na bai'r naill chwaraewr na'r llall ar y blaen o ddwy gêm o leiaf erbyn diwedd y gêm, dylid ei hystyried yn gêm gyfartal; dylai'r ornest gael ei chyfyngu i'r gorau o ddeg-ar-hugain o gemau, gan gynnwys gemau cyfartal; ac eithrio pe bai'r naill chwaraewr neu'r llall yn ennill chwe gêm ac wedi bod ar y blaen gan o leiaf dwy gêm cyn cwblhau deg-ar-hugain o gemau, dylid datgan mai ef yw'r enillydd; dylai'r pencampwr benderfynu ar y lleoliad a'r arian i'w gynnig, a dylai gael yr hawliau cyhoeddi i'r gemau; dylai'r heriwr dalu blaendal i'w fforffedu o $2,000 (sy'n cyfateb i dros $250,000 yng ngwerthoedd 2020[48] ); dylai'r amseru fod yn ddeuddeg symudiad yr awr; dylid cyfyngu chwarae i ddwy sesiwn o 2½ awr yr un bob diwrnod, pum niwrnod yr wythnos. Gwrthwynebodd Capablanca yr amseru, yr amseroedd chwarae byr, y deg-gêm-ar hugain, ac yn arbennig y gofyniad bod yn rhaid iddo ennill o ddwy gêm i hawlio'r teitl, ystyriau hynny yn hollol annheg. Nid oedd Lasker yn hapus efo'r ffordd y beirniadodd Capablanca yr amod fod rhaid iddo fod ddwy gêm ar y blaen, a gwrthododd drafod ymhellach, a than 1914 nid oedd Lasker a Capablanca yn siarad gyda'i gilydd. Fodd bynnag, yn nhwrnamaint St Petersburg 1914, cynigiodd Capablanca reolau newydd ar gyfer cynnal gemau Pencampwriaeth y Byd, a dderbyniwyd gan yr holl chwaraewyr blaenllaw, gan gynnwys Lasker.[49]

Tua diwedd 1912 bu Lasker yn cynnal trafodaethau ar gyfer gornest am y teitl gydag Akiba Rubinstein - roedd ei record ef mewn twrnamaint cystal â Lasker ac ychydig yn well na Capablanca.[50] Cytunodd y ddau chwaraewr chwarae pe gallai Rubinstein godi'r arian, ond dim ond ychydig o gefnogwyr cyfoethog oedd ganddo ac felly ni chwaraewyd yr ornest. Roedd sefyllfa fel hyn yn dangos rhai o'r diffygion cynhenid yn y system bencampwriaeth a ddefnyddid bryd hynny. Rhoddodd dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn haf 1914 ddiwedd ar y gobeithion y byddai Lasker yn chwarae naill ai Rubinstein neu Capablanca ar gyfer Pencampwriaeth y Byd yn y dyfodol agos.[51][52] Trwy gydol y Rhyfel Mawr dim ond mewn dwy gystadleuaeth gwyddbwyll difrifol y chwaraeodd Lasker. Enillodd yn hawdd (5½−½) mewn gêm ddi-deitl yn erbyn Tarrasch ym 1916.[53] Yn ystod mis Medi a mis Hydref 1918, ychydig cyn y cadoediad, enillodd dwrnamaint pedwar-chwaraewr, hanner pwynt ar y blaen i Rubinstein.[54]

Gweithgareddau academaidd 1894–1918

golygu
 
Anogodd David Hilbert Lasker i gael PhD mewn mathemateg

Er ei ganlyniadau gwyddbwyll gwych, roedd gan Lasker ddiddordebau eraill hefyd. Cydnabyddai ei rieni ei ddoniau deallusol yn ifanc, yn enwedig mewn mathemateg, ac anfonwyd yr Emanuel ifanc i astudio ym Merlin (yno canfu fod ganddo dalent am wyddbwyll hefyd). Enillodd Lasker ei abitur (tystysgrif graddio mewn ysgol uwchradd) yn Landsberg an der Warthe, sydd bellach yn dref Bwylaidd o'r enw Gorzów Wielkopolski ond a oedd ar y pryd yn rhan o Brwsia. Yna astudiodd fathemateg ac athroniaeth ym mhrifysgolion Berlin, Göttingen (lle'r oedd David Hilbert yn un o'i ymgynghorwyr doethurol) a Heidelberg.[55]

Ym 1895 cyhoeddodd ddwy erthygl fathemategol yn Nature.[56] Wedi'i gynghori gan David Hilbert cofrestrodd ar gyfer astudiaethau doethuriaeth yn Erlangen yn ystod 1900-1902.[55] Ym 1901 cyflwynodd ei draethawd doethurol Über Reihen auf der Convergenzgrenze ("Ar Gyfres ger Ffiniau Cydgyfeiriol") yn Erlangen ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn gan y Gymdeithas Frenhinol.[57][58] Dyfarnwyd doethuriaeth mewn mathemateg iddo ym 1902.[55] Cyhoeddwyd ei erthygl fathemategol fwyaf arwyddocaol ym 1905, theorem y datblygodd Emmy Noether ffurf fwy cyffredinol ohoni, sydd bellach yn cael ei hystyried o bwysigrwydd sylfaenol i algebra modern a geometreg algebraidd.[55]

Cafodd swyddi tymor byr fel darlithydd mathemateg ym Mhrifysgol Tulane yn New Orleans (1893) a Phrifysgol Victoria ym Manceinion (1901; Un rhagflaenydd i Brifysgol Manceinion oedd Prifysgol Victoria ).[55] Fodd bynnag, ni allai sicrhau swydd tymor hir, a dilynodd ei ddiddordebau ysgolheigaidd yn annibynnol.[59][60]

Ym 1906 cyhoeddodd Lasker lyfryn o'r enw Kampf ("Ymdrechu"),[61] lle ceisiodd greu damcaniaeth gyffredinol o'r holl weithgareddau cystadleuol, gan gynnwys gwyddbwyll, busnes a rhyfel. Cynhyrchodd ddau lyfr arall a ddosberthir fel arfer fel athronyddiaeth, Das Begreifen der Welt ("Deall y Byd"; 1913) a Die Philosophie des Unvollendbar ("Athroniaeth yr Anghyraeddadwy"; 1918).[55]

Gweithgareddau eraill 1894–1918

golygu

Yn ystod 1896–97 cyhoeddodd Lasker ei lyfr Common Sense in Chess, yn seiliedig ar y darlithoedd a draddododd yn Llundain ym 1895.[62]Nodyn:Chess diagram smallYm 1903, chwaraeodd Lasker yn erbyn Mikhail Chigorin yn Ostend, gornest chwe gêm a noddwyd gan gyfreithiwr a diwydiannwr cyfoethog Issac Rice, er mwyn rhoi prawf ar y 'Gambit Rice'. Collodd Lasker y gêm o drwch blewyn. Dair blynedd yn ddiweddarach daeth Lasker yn ysgrifennydd Cymdeithas y 'Gambit Rice', a sefydlwyd gan Rice i'w hyrwyddo, ac ym 1907 dyfynnodd a chanmolodd farn Rice ar gydgyfeiriant gwyddbwyll a strategaeth filwrol.

Sefydlodd Lasker's Chess Magazine, ym mis Tachwedd 1904, ac fe'i gyhoeddwyd tan 1909.

Gan ddechrau ym 1910, ysgrifennodd golofn gwyddbwyll wythnosol i'r New York Evening Post, lle'r oedd yn Olygydd Gwyddbwyll.

Dechreuodd Lasker ymddiddori yn y gêm strategaeth Go ar ôl i Edward Lasker ei gyflwyno iddi, ym 1907 neu 1908 mae'n debyg (ysgrifennodd Edward Lasker lyfr poblogaidd Go and Go-Moku ym 1934 ). Chwaraeodd y ddau Go gyda'i gilydd tra roedd Edward yn ei gynorthwyo i baratoi ar gyfer ei ornest ym 1908 yn erbyn Tarrasch. Chwaraeodd Go am weddill ei oes, a daeth yn un o chwaraewyr cryfaf yr Almaen ac Ewrop gan gyfrannu’n achlysurol i’r cylchgrawn Deutsche Go-Zeitung. Honnir iddo ddweud "Petawn i wedi darganfod Go yn gynt, mae'n debyg na fyddwn wedi dod yn bencampwr gwyddbwyll y byd".

Yn ddwy-a deugain oed, ym mis Gorffennaf 1911, priododd Lasker gyda Martha Cohn (née Bamberger), gweddw gyfoethog oedd flwyddyn yn hŷn nag ef, ag oedd eisoes yn nain. Roeddent yn byw ym Merlin. Ysgrifennai Martha Cohn straeon poblogaidd o dan y ffugenw "L. Marco".

Yn ystod Y Rhyfel Mawr, buddsoddodd Lasker ei arian i gyd mewn Bondiau Rhyfel, ond collodd y rhain bron eu holl werth gyda chwyddiant yn ystod, ac yn dilyn, y rhyfel. Yn ystod y rhyfel, ysgrifennodd bamffled yn honni y byddai gwareiddiad mewn perygl pe bai'r Almaen yn colli.

Gornest gyda Capablanca

golygu

Ym mis Ionawr 1920 arwyddodd Lasker a José Raúl Capablanca gytundeb i chwarae gornest am Bencampwriaeth y Byd ym 1921, oedd yn nodi na allai Capablanca chwarae ym 1920. Oherwydd yr oedi hir, mynnodd Lasker gymal ychwanegol oedd yn caniatáu iddo chwarae unrhyw heriwr arall ar gyfer y bencampwriaeth ym 1920, ac y byddai hynny felly'n dirymu'r gytundeb gyda Capablanca pe bai yn colli ei deitl, ac oedd hefyd yn datgan ymhellach pe bai Lasker yn ymddiswyddo o'r teitl y dylai Capablanca ddod yn Bencampwr y Byd. Roedd wedi cynnwys cymal tebyg yn ei gytundeb cyn y Rhyfel Byd Cyntaf i chwarae Akiba Rubinstein, pe bai Lasker yn ymddiswyddo, y dylai Rubinstein gael y teitl.

Adroddwyd yn y Bwletin Gwyddbwyll Americanaidd (Gorffennaf-Awst 1920) fod Lasker wedi ymddiswyddo o'r teitl o blaid Capablanca oherwydd bod amodau'r ornest rhyngddynt yn amhoblogaidd yn y byd gwyddbwyll. Bu dyfalu yn y Bwletin nad oedd yr amodau'n ddigon amhoblogaidd i warantu ymddiswyddiad, ac efallai mai gwir bryder Lasker oedd nad oedd digon o gefnogaeth ariannol iddo fedru cyfiawnhau neilltuo naw mis i'r gêm. Ni wyddai Lasker pan ymddiswyddodd o blaid Capablanca fod selogion gwyddbwyll yn Hafana wedi codi $20,000 i ariannu'r gêm, ar yr amod ei bod yn cael ei chwarae yno. Pan glywodd Capablanca am yr ymddiswyddiad aeth i'r Iseldiroedd, lle'r oedd Lasker yn byw yr amser hynny, i'w hysbysu y cafwyd addewidion o Hafana i ariannu'r ornest. Felly, ym mis Awst, 1920 cytunodd Lasker i chwarae yn Hafana, ond mynnodd mai ef oedd yr heriwr erbyn hyn ac mai Capablanca oedd y pencampwr. Llofnododd Capablanca gytundeb yn derbyn y pwynt hwn, a cyhoeddodd lythyr yn cadarnhau hyn. Datganodd Lasker hefyd y byddai'n ymddiswyddo o'r teitl pa bai'n fuddugol, fel y gallai meistri iau gystadlu amdano.

Chwaraewyd yr ornest ym misoedd Mawrth–Ebrill 1921. Ar ôl pedair gêm gyfartal, cafwyd camgymeriad gwael gan Lasker yn y pumed gêm gyda Du mewn diweddglo cyfartal. Roedd arddull Capablanca yn caniatáu iddo haneru'r pedair gêm nesaf yn hawdd, heb fentro dim. Yn y degfed gêm, chwaraeodd Lasker efo Gwyn gyda gwerinwr ynysig ar ochr y frenhines ond methodd â chreu'r gweithgaredd angenrheidiol a chyrhaeddodd Capablanca ddiweddglo gwell, ac ennill yn briodol. Yn dilyn dwy fuddugoliaeth arall i Capablanca yn yr 11fed a'r 14fed gêm, ymddiswyddodd Lasker.

Barn Reuben Fine a Harry Golombek oedd fod Lasker wedi chwarae'n anarferol o sâl. Ond roedd Vladimir Kramnik ar y llaw arall, yn meddwl bod Lasker wedi chwarae'n weddol dda a bod yr ornest yn "frwydr gyfartal a hynod ddiddorol" nes i Lasker wneud camgymeriad gwael yn y gêm olaf, tra'n nodi hefyd fod Capablanca 20 mlynedd yn iau, yn chwaraewr ychydig yn gryfach, ac wedi chwarae mwy o gemau cystadleuol yn diweddar.

Bywyd a theithiau Ewropeaidd

golygu

Yn fuan wedi colli'r Bencampwriaeth i Capablanca, ac yntau erbyn hyn yn ei 50au cynnar, ymddeolodd o chwarae gemau cystadleuol ; ei unig ornest arall oedd arddangosfa fer yn erbyn Frank James Marshall ym 1940, ond ni chwblhawyd hi oherwydd salwch Lasker, ac yna ei farwolaeth ychydig fisoedd ar ôl dechrau.[6]  Ar ôl ennill twrnamaint gwyddbwyll Moravska Ostrava 1923 (heb golli'r un gêm ) a thwrnamaint gwyddbwyll Efrog Newydd 1924 (1½ pwynt ar y blaen i Capablanca) a gorffen yn ail ym Moscow yn 1925 (1½ pwynt y tu ôl i Efim Bogoljubow, a ½ pwynt o flaen Capablanca), ymddeolodd i bob pwrpas o wyddbwyll o bwys.[4]

 
Emanuel Lasker (chwith) a'i frawd hyn Berthold Lasker ym 1907

Yn ystod twrnamaint gwyddbwyll Moscow 1925, cafodd delegram yn ei hysbysu bod y ddrama a gyd-ysgrifennwyd ganddo ef a'i frawd Berthold, de (Vom Menschen die Geschichte) ("Hanes y ddynoliaeth"), wedi'i dderbyn i'w berfformio yn theatr Lessing ym Merlin. Wedi i'r newyddion hyn eu gynhyrfu chwaraeodd yn sâl iawn y diwrnod hwnnw a colli yn erbyn Carlos Torre. Nid oedd y ddrama, fodd bynnag, yn llwyddiant.

Ym 1926, ysgrifennodd Lasker Lehrbuch des Schachspiels, a gyhoeddodd yn Saesneg ym 1927 'Lasker's Manual of Chess'. Ysgrifennodd hefyd sawl llyfr arall ar gemau gyda gallu meddwl: Encyclopedia of Games (1929) a Das verständige Kartenspiel ("Chwarae Cardiau Call"; 1929; cyfieithwyd i'r Saesneg yn yr un flwyddyn), ac roedd y ddau lyfr yn peri problem mewn dadansoddiad mathemategol o gemau cardiau; Brettspiele der Völker ("Gemau Bwrdd y Cenhedloedd"; 1931), sy'n cynnwys 30 tudalen am 'Go' ac adran am y gêm a ddyfeisiodd ef ym 1911, sef 'Lasca'.

Tra'n ohebydd arbennig i bapurau newydd yr Iseldiroedd a'r Almaen ym 1930 adroddodd ar ornest 'bridge' Culbertson-Buller a ddaeth yn athro cofrestredig o system Culbertson i ddysgu 'Contract Bridge'. Daeth yn chwaraewr arbennig iawn,[1] gan chwarae i'r Almaen mewn cystadlaethau rhyngwladol yn y 1930au cynnar,[22][26] ac ysgrifennodd Das Bridgespiel ("Y gêm 'Bridge' ") ym 1931.

Ym mis Hydref 1928 bu farw ei frawd, Berthold.[22]

Cychwynnodd Adolf Hitler ei ymgyrch yng ngwanwyn 1933 o ddychryn a brawychu yn erbyn Iddewon, gan eu hamddifadu o'u heiddo a'u dinasyddiaeth. Gorfodwyd Lasker a'i wraig Martha, ill dau yn Iddewon, adael Yr Almaen y flwyddyn honno. Yn dilyn arhosiad byr yn Lloegr, gwahoddwyd hwy ym 1935 i fyw yn yr Undeb Sofietaidd gan Nikolai Krylenko, y Commissar Cyfiawnder fu'n gyfrifol am dreialon cyhoeddus 'gelynion' Stalin, ac yn rhinwedd ei swydd arall fel Gweinidog Chwaraeon, yn gefnogwr brwd o wyddbwyll. Ymwrthododd Lasker â'i ddinasyddiaeth Almaeneg a derbyniodd ddinasyddiaeth Sofietaidd. Aeth i fyw ym Moscow, a rhoddwyd swydd iddo yn Sefydliad Mathemateg Moscow a swydd hyfforddwr tîm cenedlaethol yr Undeb Sofietaidd. Dychwelodd Lasker i wyddbwyll cystadleuol i wneud rhywfaint o arian, a gorffen yn bumed yn Zurich 1934, ac yn drydydd ym Moscow 1935 (yn ddiguro, ½ pwynt y tu ôl i Mikhail Botvinnik a Salo Flohr; ac ar y blaen i Capablanca, Rudolf Spielmann a sawl Meistr Sofietaidd), chweched ym Moscow 1936 ac yn gyfartal. seithfed yn Nottingham 1936. Galwyd ei berfformiad ym Moscow 1935 yn 66 oed yn "wyrth fiolegol".

Symud i'r Unol Daleithiau

golygu

Gadawodd Martha ac Emanuel Lasker yr Undeb Sofietaidd ym mis Awst, 1937 a symud i'r Unol Daleithiau (i Chicago yn gyntaf, ac yna i Efrog Newydd) ym mis Hydref, 1937. Roeddent yn ymweld â merch Martha, ond efallai eu bod wedi'u hysgogi hefyd gan y cynnwrf gwleidyddol yn yr Undeb Sofietaidd. Yn yr Unol Daleithiau ceisiodd Lasker wneud bywoliaeth trwy ddarlithio a gyda arddangosfeydd gwyddbwyll a 'bridge', gan ei fod erbyn hyn yn yn rhy hen i gystadlu.[22] Yn 1940 cyhoeddodd ei lyfr olaf, The Community of the Future, lle cynigiodd atebion i broblemau gwleidyddol difrifol yr oes, yn cynnwys gwrth-Semitiaeth a diweithdra.

Asesiad

golygu

Arddull a chryfder chwarae

golygu

Ystyriwyd bod gan Lasker ddull chwarae "seicolegol" lle byddai'n ystyried rinweddau goddrychol ei wrthwynebydd, ynghyd â gofynion gwrthrychol y sefyllfa ar y bwrdd. Cyhoeddodd Richard Reti ddadansoddiad maith o chwarae Lasker gan ddod i'r casgliad bod Lasker yn fwriadol yn chwarae symudiadau israddol er mwyn gwneud ei wrthwynebydd yn anghyfforddus. Dywedodd W.H.K. Pollock, "Nid yw'n hawdd ymateb yn gywir i symudiadau gwael Lasker."

Gwadodd Lasker yr honiad ei fod yn chwarae symudiadau sâl yn fwriadol, ac mae'r mwyafrif o awduron modern yn cytuno. Yn ôl yr Uwchfeistr Andrew Soltis a'r Meistr Rhyngwladol John L. Watson, mae'r nodweddion a wnaeth ei chwarae yn ddirgelwch i'w gyfoeswyr bellach yn ymddangos yn rheolaidd mewn chwarae modern: ymosodiad "Picell" g2-g4 yn agoriad y Ddraig Sisilaidd; aberthu i ennill mantais lleoliadol; chwarae'r symudiad "ymarferol" yn hytrach na cheisio dod o hyd i'r symudiad gorau; gwrthymosod a chymhlethu'r gêm cyn i anfantais fynd yn waeth. Dywedodd cyn Bencampwr y Byd Vladimir Kramnik, "Sylweddolai y gallai gwahanol fathau o fantais fod yn gyfnewidiol: gellid troi mantais tactegol yn fantais strategol, ac i'r gwrthwyneb", ac roedd hyn yn drysu ei gyfoedion oedd ond newydd ddod i arfer â damcaniaethau Steinitz.

Roedd Max Euwe o’r farn mai’r prif reswm am lwyddiant Lasker oedd ei “dechneg amddiffynnol eithriadol” ac y “gellid dangos bron y cyfan sydd i’w ddangos am wyddbwyll amddiffynnol mewn enghreifftiau o gemau Steinitz a Lasker”, amddiffyniad amyneddgar gan Steinitz ac amddiffyniad bywiog gan Lasker.

Cafodd ei fuddugoliaeth enwog yn erbyn José Raúl Capablanca yn St. Petersburg ym 1914, pan oedd angen ennill er mwyn dal i fyny ag ef, ei roddi fel tystiolaeth o'i ddull "seicolegol". Dywedodd Reuben Fine fod dewis agoriad Lasker, yr Amrywiad Cyfnewid yn y Ruy Lopez, fel un "diniwed ond grymus yn seicolegol".[4] Barnodd Ludek Pachman bod dewis Lasker yn creu penbleth i'w wrthwynebydd : tra ddim ond hanner pwynt ar y blaen, byddai Capablanca wedi dymuno chwarae'n ddiogel; ond gall strwythur gwerin yr Amrywiad Cyfnewid roi mantais i Gwyn yn y diweddglo, a rhaid i Du ddefnyddio ei Esgobion yn ymosodol yn ystod y gêm-ganol er osgoi hyn. Fodd bynnag, mae dadansoddiad o ddefnydd Lasker o'r amrywiad hwn trwy gydol ei yrfa yn dangos ei fod wedi cael canlyniadau rhagorol ag ef gyda Gwyn yn erbyn gwrthwynebwyr o'r radd flaenaf, ac weithiau fe'i defnyddiodd mewn sefyllfaoedd lle'r oedd "angen ennill". Ym marn Kramnik, dengys chwarae Lasker yn y gêm ddealltwriaeth ddofn lleoliadol, yn hytrach na seicoleg.

Barnai Fine nad oedd Lasker yn talu fawr o sylw i'r agoriadau,[4] ond roedd Capablanca'n o'r farn ei fod yn anghytuno â llawer o ddadansoddiad agoriadol cyfoes. Yn wir cyn yr ornest am bencampwriaeth y byd ym 1894, astudiodd Lasker yr agoriadau yn drylwyr, yn enwedig hoff linellau Steinitz. Chwaraeodd agoriadau e4 yn bennaf, yn enwedig y Ruy Lopez. Agorodd gyda 1.d4 yn bur anaml, er bod gan ei gemau d4 ganran buddugol uwch nag efo e4. Gyda'r darnau Du, ymatebodd i 1.e4 yn bennaf gyda'r Amddiffyniad Ffrengig, a 1.d4 gyda Gambit y Frenhines. Roedd Lasker hefyd yn defnyddio'r Amddiffyniad Sisilaidd yn weddol aml. Ym marn Capablanca, nid oedd unrhyw chwaraewr yn rhagori ar Lasker o ran ei allu i asesu sefyllfa yn gyflym ac yn gywir, a phennu pwy oedd â'r rhagolygon gorau o ennill a pha strategaeth y dylai pob ochr fabwysiadu. Ysgrifennodd Capablanca hefyd fod Lasker mor hyblyg fel nad oedd yn chwarae mewn unrhyw arddull bendant, a'i fod yn amddiffynnwr dygn ac yn gorffen ei ymosodiadau ei hun yn effeithiol iawn.

Dilynodd Lasker egwyddorion Steinitz, a dangosodd y ddau batrwm gwyddbwyll hollol wahanol i'r syniadau "rhamantus" a ddaeth o'u blaen. Diolch i Steinitz a Lasker, daeth chwarae lleoliadol i'r bri (gyda Tarrasch, Schlechter a Rubinstein yn rhagori yn hyn o beth). Ond, tra creodd Steinitz 'ysgol' newydd o wyddbwyll, yr oedd doniau Lasker yn llawer anos i'w hamgyffred ; ac felly ni chafwyd 'Ysgol Lasker'.

Yn ogystal â'i sgiliau gwyddbwyll rhagorol, dywedwyd bod gan Lasker anian gystadleuol gref: fel dywed ei wrthwynebydd Siegbert Tarrasch, "Gall Lasker golli gêm yn achlysurol, ond nid yw byth yn colli ei ben."[4] Mwynhaodd Lasker yr angen i addasu ei arddull i wahanol wrthwynebwyr, a ffawd gyfnewidiol twrnameintiau.[3] Er ei fod yn gryf iawn mewn gornestau, roedd hyd yn oed yn gryfach mewn twrnameintiau. Am dros ugain mlynedd, roedd bob amser yn gorffen ar y blaen i'r Capablanca iau: yn St. Petersburg 1914, Efrog Newydd 1924, Moscow 1925, a Moscow 1935. Dim ond ym 1936 (15 mlynedd ar ôl eu gornest am Bencampwriaeth y Byd), a gyda Lasker erbyn hyn yn 67, y gorffennodd Capablanca o'i flaen.

Cyhoeddwyd erthygl ym 1964 gan Bobby Fischer yn y cylchgrawn Chessworld yn rhestru y deg chwaraewr gorau mewn hanes. Nid oedd yn cynnwys Lasker ar ei restr, gan ei wawdio fel "chwaraewr salon [nad oedd] yn gwybod dim am yr agoriadau nag yn deall gwyddbwyll lleoliadol". Cafwyd arolwg barn o brif chwaraewyr y byd beth amser wedi i restr Fischer ymddangos, ac fe ddywedodd Tal, Korchnoi, a Robert Byrne i gyd mai Lasker oedd y chwaraewr gorau erioed. Yn ddiweddarach dywedodd Pal Benko a Byrne fod Fischer wedi ail-ystyried ac wedi dweud fod Lasker yn chwaraewr gwych.

Mae systemau graddio ystadegol yn gosod Lasker yn uchel iawn ymhlith y chwaraewyr gorau. Mae'r llyfr Warriors of the Mind yn ei osod yn chweched, y tu ôl i Garry Kasparov, Anatoly Karpov, Fischer, Mikhail Botvinnik a Capablanca. Yn ei lyfr a gyhoeddwyd ym 1978 The Rating of Chessplayers, Past and Present, dyfarnodd Arpad Elo sgoriau ôl-weithredol i chwaraewyr yn seiliedig ar eu perfformiad dros gyfnod pum mlynedd gorau eu gyrfa. Rhoddodd Lasker yn gydradd ail efo Botvinnik, tu ôl i Capablanca). Mae system fwy diweddar, Chessmetrics, braidd yn sensitif i hyd y cyfnodau sy'n cael eu cymharu, ac yn gosod Lasker rhwng yr ail a'r pumed cryfaf mewn hanes yn dibynnu ar pa gyfnodau brig a ddefnyddir, gan amrywio o flwyddyn i ugain mlynedd. Daeth sylfaenydd Chessmetrics, yr ystadegydd Jeff Sonas, i'r casgliad mai dim ond Kasparov a Karpov a ragorodd ar oruchafiaeth hir-dymor Lasker. Yn ôl cyfrifo Chessmetrics, roedd Lasker yn rhif 1 am 292 o wahanol fisoedd - cyfanswm o dros 24 mlynedd. Ei safle rhif 1 cyntaf oedd Mehefin 1890, a'r olaf oedd mis Rhagfyr 1926 - rhychwant o 36½ mlynedd. Mae Chessmetrics hefyd yn dweud mai ef yw y chwaraewr 67 mlwydd-oed cryfaf mewn hanes: ym mis Rhagfyr 1935, yn 67 oed, roedd ei radd yn 2691 (rhif 7 yn y byd), ychydig yn uwch na gradd Victor Korchnoi ddaeth yn ail iddo, gyda gradd o 2660 pan yn 67 oed (rhif 39 yn y byd, ym mis Mawrth 1998).

Ei ddylanwad ar wyddbwyll

golygu
 
Lasker yn ei gartref ym Merlin, ym 1933

Ni sefydlodd Lasker unrhyw 'ysgol' o chwaraewyr a oedd yn ei efelychu.[4] Dywedodd Max Euwe, Pencampwr y Byd 1935–1937, (gyda sgôr o 0–3 yn ei erbyn): , “Nid yw’n bosibl dysgu llawer ganddo - dim ond edrych a rhyfeddu." Fodd bynnag, cafodd agwedd bragmatig, ymosodol Lasker ddylanwad mawr ar chwaraewyr Sofietaidd fel Mikhail Tal a Viktor Korchnoi.

Ceir sawl "Amrywiadau Lasker" yn yr agoriadau, gan gynnwys Amddiffyniad Lasker yng Ngambit y Frenhines, Amddiffyniad Lasker yng Ngambit Evans (a ddaeth a defnydd o'r gambit hon i ben mewn chwarae twrnamaint, hyd at adfywiad yn y 1990au), ac Amrywiad Lasker yn Amrywiad McCutcheon o'r Amddiffyniad Ffrengig.

Synnwyd Lasker gan dlodi Wilhelm Steinitz pan fu farw ac roedd ofn gorffen mewn amgylchiadau tebyg. Daeth yn enwog am fynnu ffioedd uchel ar gyfer chwarae gemau a thwrnameintiau, a dadleuai y dylai chwaraewyr fod yn berchen ar hawlfraint eu gemau yn hytrach na bod cyhoeddwyr yn cael yr elw i gyd.[3] Cythruddai hyn olygyddion a chwaraewyr eraill ar y dechrau, ond yn y pen draw bu’n gymorth i baratoi’r ffordd ar gyfer y cynnydd mewn gweithwyr proffesiynol llawn amser sy’n ennill eu bywoliaeth drwy chwarae, ysgrifennu ac addysgu.[3] Bu hawlfraint mewn gemau gwyddbwyll yn bwnc llosg mor bell yn ôl â chanol y 1840au, a mynnodd Steinitz a Lasker y dylai chwaraewyr fod yn berchen ar yr hawlfraint ac ysgrifenasant gymalau hawlfraint yn eu cytundebau i ornestau. Fodd bynnag, roedd gofynion Lasker y dylai'r herwyr godi pyrsiau mawr yn atal neu'n gohirio rhai gemau Pencampwriaeth y Byd y bu disgwyl mawr amdanynt - er enghraifft heriodd Frank James Marshall ef i gêm ym 1904 ar gyfer Pencampwriaeth y Byd ond ni allai godi'r arian a ofynnwyd gan Lasker tan 1907.[51][55] Parhaodd y broblem hon yn ystod teyrnasiad ei olynydd, Capablanca.

Oherwydd rhai o’r amodau dadleuol y mynnai Lasker ar gyfer gemau pencampwriaeth ceisiodd Capablanca ddwywaith (1914 a 1922) gyhoeddi rheolau ar gyfer gemau o’r fath, a cytunodd chwaraewyr blaenllaw eraill iddynt.[49]

Gwaith mewn meysydd eraill

golygu

Ym 1905 mewn erthygl ar algebra cymudol, cyflwynodd Lasker ei ddamcaniaeth am ddadelfeniad sylfaenol o ddelfrydau, gafodd ddylanwad ar y ddamcaniaeth o 'gylchoedd Noetherian'. Gelwir modrwyau sydd â'r priodwedd dadelfennu sylfaenol yn "gylchoedd Lasker" er clod iddo.[55]

Dilynwyd ei ymgais i greu damcaniaeth gyffredinol o'r holl weithgareddau cystadleuol gan ymdrechion mwy cyson gan von Neumann ar 'ddamcaniaeth gemau', a dangosodd ei ysgrifau diweddarach am gemau cardiau broblem sylweddol mewn dadansoddiad mathemategol o gemau cardiau.

Nid yw ei weithiau dramatig ac athronyddol wedi cael llawer o barch, fodd bynnag.[59]

Marwolaeth

golygu

Bu farw Lasker o haint ar yr arennau yn Efrog Newydd ar 11 Ionawr, 1941, yn 72 oed, tra'n glaf elusennol yn Ysbyty Mynydd Sinai. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol yng Nghapel Coffa Riverside, ac fe'i claddwyd ym mynwent hanesyddol Beth Olam, yn Queens, Efrog Newydd.

Bywyd personol, teulu a chyfeillion

golygu

Fe'i oroeswyd gan ei wraig Martha a'i chwaer, Mrs. Lotta Hirschberg.

Roedd y bardd Else Lasker-Schuler yn chwaer-yng-nghyfraith iddo.

Honnodd Edward Lasker, a aned yn Kempen (Kępno), Gwlad Pwyl (Prwsia ar y pryd), Meistr Rhyngwladol gwyddbwyll, peiriannydd, ac awdur, ei fod yn perthyn o bell i Emanuel Lasker. Chwaraeodd y ddau yn nhwrnamaint gwyddbwyll mawreddog Efrog Newydd ym 1924.

Roedd Lasker yn gyfaill mawr gydag Albert Einstein, ac ysgrifennodd Einstein y cyflwyniad i'r cofiant Emanuel Lasker, The Life of a Chess Master gan Dr. Jacques Hannak (1952). Yn y rhagair mynegodd Einstein ei foddhad o gwrdd â Lasker, gan ysgrifennu:

Emanuel Lasker was undoubtedly one of the most interesting people I came to know in my later years. We must be thankful to those who have penned the story of his life for this and succeeding generations. For there are few men who have had a warm interest in all the great human problems and at the same time kept their personality so uniquely independent.

Cyhoeddiadau

golygu

Gwyddbwyll

golygu
 
Clawr Tachwedd 1906 o Lasker's Chess Magazine
  • Y Pythefnosol Gwyddbwyll Llundain (1892–3)[21]
  • Common Sense in Chess (1896), crynodeb o 12 darlith a draddodwyd i gynulleidfa yn Llundain yn 1895
  • Lasker's How to Play Chess (1900)
  • Cylchgrawn Gwyddbwyll Lasker 1904–1907.[22]
  • Y Gyngres Gwyddbwyll Ryngwladol, St. Petersburg, 1909 (1910)
  • Mae Lasker's Manual of Chess (1925), yr un mor enwog mewn cylchoedd gwyddbwyll am ei naws athronyddol ag am ei gynnwys.
  • Lehrbuch des Schachspiels (1926); fersiwn Saesneg: Lasker's Manual of Chess (1927)
  • Lasker's Chess Primer (1934)

Gemau eraill

golygu
  • Encyclopedia of Games, cyf.1: Card Strategy (Efrog Newydd, 1929)
  • Das verständige Kartenspiel ["Chwarae Cardiau Synhwyrol"] (Berlin, 1929)
  • Brettspiele der Völker ["Gemau Bwrdd y Cenhedloedd"] (Berlin, 1931) - yn cynnwys rhannau am Go a Laska.
  • Das Bridgespiel ["Bridge"] (1931)

Mathemateg

golygu

Athronyddiaeth

golygu
  • Kampf ["Ymgeisio"] (1906)
  • Das Begreifen der Welt [{"Amgyffred y Byd"] (1913)[55]
  • Die Philosophie des Unvollendbar ["Athroniaeth yr Anghyraeddadwy"] (1918)[55]
  • Vom Menschen die Geschichte ["Hanes Ddynoliaeth" (1925), drama, wedi'i chyd-ysgrifennu gyda'i frawd Berthold][59]
  • Cymuned y Dyfodol (1940)[59]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Gweler Robert van de Velde, "Nicht nur Schach Emanuel Lasker als Bridgespieler", yn Emanuel Lasker Denker Weltenbürger Schachweltmeister, gol. Richard Forster, Stefan Hansen a Michael Negele (Berlin, 2009), tt.332–63
  2. Jeff Sonas. "Chessmetrics Player Profile: Berthold Lasker". Chessmetrics. Cyrchwyd 30 Mai 2008.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Tyle, L.B., gol. (2002). UXL Encyclopedia of World Biography. U·X·L. ISBN 0-7876-6465-0. Cyrchwyd 30 Mai 2008.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 Fine, Reuben (1952). "Emanuel Lasker". The World's Great Chess Games. Andre Deutsch (now as paperback from Dover). ISBN 0-679-13046-2.
  5. "The Start of a Chess Career", yn Lasker & His Contemporaries, rhif 1 (Thinkers Press)
  6. 6.0 6.1 Dr. J. Hannak (2011). Emanuel Lasker: The Life of a Chess Master. Dover. ISBN 978-0486267067.
  7. "Amsterdam (1889)". chessgames.com. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2019.
  8. Di Felice, Gino (2004). Chess Results, 1747–1900 (yn Saesneg). McFarland & Company. tt. 133–134. ISBN 0-7864-2041-3.
  9. Gillam, A.J. (2008). London March 1892; London March/April 1892; Belfast 1892. The Chess Player. ISBN 978-1-901034-59-2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2015. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2008.
  10. 10.0 10.1 "I tornei di scacchi dal 1880 al 1899". La grande storia degli scacchi. Cyrchwyd 4 Medi 2009.
  11. Di Felice, Gino (2004). Chess Results, 1747-1900. McFarland & Company. t. 142. ISBN 0-7864-2041-3.
  12. 12.0 12.1 12.2 "Ready for a big chess match". New York Times. 11 Mawrth 1894. https://timesmachine.nytimes.com/timesmachine/1894/03/11/106900358.pdf. Adalwyd 30 Mai 2008.
  13. "From the Editorial Chair". Lasker's Chess Magazine 1. Ionawr 1905. http://en.wikisource.org/wiki/Lasker%27s_Chess_Magazine/Volume_1. Adalwyd 31 Mai 2008.
  14. Hooper, David; Whyld, Kenneth (1992). The Oxford Companion to Chess. Oxford University Press. t. 81. ISBN 0-19-866164-9.
  15. Soltis, Andrew (2002). Chess Lists Second Edition. McFarland & Company. tt. 81–83. ISBN 0-7864-1296-8.
  16. Sunnucks, Anne (1970). The Encyclopaedia of Chess. St. Martin's Press. t. 76. ISBN 0-7091-1030-8.
  17. 17.0 17.1 "I matches 1880/99". La grande storia degli scacchi. Cyrchwyd 12 Chwefror 2020.
  18. 18.0 18.1 Select the "Career details" option at Jeff Sonas. "Chessmetrics Player Profile: Emanuel Lasker (career details)". Chessmetrics.com. Cyrchwyd 30 Mai 2008.
  19. Jeff Sonas. "Chessmetrics Monthly Lists: 1885–1895". Chessmetrics. Cyrchwyd 30 Mai 2008.
  20. Jeff Sonas. "Chessmetrics Summary: 1885–1895". Chessmetrics. Cyrchwyd 30 Mai 2008.
  21. 21.0 21.1 21.2 Lasker, Emanuel. The London Chess Fortnightly (PDF) (yn Saesneg). Moravian Chess. Cyrchwyd 6 Mehefin 2008.
  22. 22.0 22.1 22.2 22.3 22.4 Bill Wall. "Emanuel Lasker". Bill Wall's Chess Page (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Ebrill 2023.
  23. 23.0 23.1 Hannak, J. (1959). Emanuel Lasker: The Life of a Chess Master. Simon & Schuster. t. 31. ISBN 0-486-26706-7.
  24. Gan ddefnyddio incwm wedi'i addasu fel y canlyniad yn dibynnu ar ychydig fisoedd o waith caled gan y chwaraewyr; os defnyddir prisiau ar gyfer y trawsnewid, mae'r canlyniad dros $99,000 - gweler "Six Ways to Compute the Relative Value of a U.S. Dollar Amount, 1774 to Present". MeasuringWorth. Cyrchwyd 30 Mai 2008. Fodd bynnag, dangosodd Lasker yn ddiweddarach fod y chwaraewr buddugol yn derbyn $1,600 a'r chwaraewr a gollodd yn derbyn $600 o'r $4,000; y cefnogwyr oedd wedi betio ar yr enillydd a gafodd y gweddill. "From the Editorial Chair" (yn en). Lasker's Chess Magazine 1. Ionawr 1905. http://en.wikisource.org/wiki/Lasker%27s_Chess_Magazine/Volume_1. Adalwyd 31 Mai 2008.
  25. Kažić, B. M. (1974). International Championship Chess: A Complete Record of FIDE Events. Pitman. t. 212. ISBN 0-273-07078-9.
  26. 26.0 26.1 Giffard, Nicolas (1993). Le Guide des Échecs (yn Ffrangeg). Éditions Robert Laffont. t. 394.
  27. "Lasker v. Steinitz – World Championship Match 1894". ChessVille. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-16. Cyrchwyd 30 Mai 2008.
  28. Kažić, B. M. (1974). International Championship Chess: A Complete Record of FIDE Events. Pitman. t. 213. ISBN 0-273-07078-9.
  29. Winter, E. "Kasparov, Karpov and the Scotch". ChessHistory. Cyrchwyd 30 Mai 2008.
  30. "Emanuel Lasker". Chess-Poster. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2008. Cyrchwyd 5 Mehefin 2008.
  31. "Chess World Champions – Emanuel Lasker" (yn Saesneg). ChessCorner. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-26. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2008.
  32. "I tornei di scacchi dal 1900 al 1909". La grande storia degli scacchi. Cyrchwyd 4 Medi 2009.
  33. "I tornei di scacchi dal 1910 al 1919". La grande storia degli scacchi. Cyrchwyd 4 Medi 2009.
  34. Winter, Edward (1999). Kings, Commoners and Knaves: Further Chess Explorations (arg. 1). Russell Enterprises, Inc. tt. 315–316. ISBN 1-888690-04-6.
  35. Winter, Edward (2003). A Chess Omnibus (arg. 1). Russell Enterprises, Inc. tt. 177–178. ISBN 1-888690-17-8.
  36. Winter, Edward. "Chess Note 5144: Tsar Nicholas II". ChessHistory. Cyrchwyd November 21, 2008.
  37. An underrated world-class player: Geza Maroczy, Chessbase, 4 Mawrth 2020
  38. 38.0 38.1 Giffard, p.396
  39. Stefan Löffler. "Check and Mate". The Atlantic Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mai 2011.
  40. Giffard, p.397
  41. 41.0 41.1 Giffard, p.398
  42. Several authors have considered this match as a World Chess Championship, for instance:
  43. 43.0 43.1 Giffard, Nicolas (1993). Le guide des échecs (yn Ffrangeg). Éditions Robert Laffont. t. 400.
  44. "I matches 1900/14". La grande storia degli scacchi. Cyrchwyd 12 Chwefror 2020. (Eidaleg)
  45. Giffard 1993, p. 404
  46. Giffard 1993, p. 406
  47. Isaak and Vladimir Linder (2010). Emanuel Lasker, 2nd World Chess Champion. Russell Enterprises Inc. t. 109.
  48. Using average incomes as the conversion factor; if prices are used for the conversion, the result is about $45,000—see "Six Ways to Compute the Relative Value of a U.S. Dollar Amount, 1774 to Present" (yn Saesneg). MeasuringWorth. Cyrchwyd 5 Mehefin 2008.
  49. 49.0 49.1 "1921 World Chess Championship" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2005. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2008.
  50. Jeff Sonas. "Chessmetrics Player Profile: Akiba Rubinstein". Chessmetrics. Cyrchwyd 4 Mehefin 2008.
  51. 51.0 51.1 Horowitz, I.A. (1973). From Morphy to Fischer. Batsford.
  52. Wilson, F. (1975). Classical Chess Matches, 1907–1913. Dover. ISBN 0-486-23145-3.
  53. "I matches 1915/29". La grande storia degli scacchi. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 12 Chwefror 2020.
  54. "Berlin 1897, 1918 and 1928". Endgame. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2008. Cyrchwyd 5 Mehefin 2008.
  55. 55.00 55.01 55.02 55.03 55.04 55.05 55.06 55.07 55.08 55.09 "Lasker biography". University of St Andrews. Cyrchwyd 31 Mai 2008.
  56. Lasker, Emanuel (Awst 1895). "Metrical Relations of Plane Spaces of n Manifoldness". Nature 52 (1345): 340–343. Bibcode 1895Natur..52R.340L. doi:10.1038/052340d0. https://zenodo.org/record/1429368.; Lasker, Emanuel (Hydref 1895). "About a certain Class of Curved Lines in Space of n Manifoldness". Nature 52 (1355): 596. Bibcode 1895Natur..52..596L. doi:10.1038/052596a0. https://zenodo.org/record/1429372.
  57. Reshevsky, Samuel (1976). Great Chess Upsets. Arco. ISBN 0-668-03492-0.
  58. Lasker, Emanuel (1901). "Über Reihen auf der Convergenzgrenze". Philosophical Transactions of the Royal Society A 196 (274–286): 431–477. Bibcode 1901RSPTA.196..431L. doi:10.1098/rsta.1901.0009.
  59. 59.0 59.1 59.2 59.3 "Lasker: New Approaches". Lasker-Gesellschaft. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2008.
  60. Sieg, Ulrich; Dreyer, Michael (2001). Emanuel Lasker: Schach, Philosophie und Wissenschaft (Emanuel Lasker: Chess, Philosophy and Science). Philo. ISBN 3-8257-0216-2..
  61. Many sources say Kampf was published in 1907, but Lasker said 1906 - Lasker, Emanuel (1960) [1932]. Lasker's Manual of Chess. Courier Dover. ISBN 0-486-20640-8.
  62. Lasker, Emanuel (1965) [1896 (German edition)]. Common Sense in Chess. Courier Dover. ISBN 0-486-21440-0. Cyrchwyd 2 Mai 2008.