Mynydd Epynt

ucheldir ym Mhowys
(Ailgyfeiriad o Epynt)

Ardal o fryniau canolig eu huchder yn ne Powys yw Mynydd Epynt (anghywir yw'r amrywiad Eppynt a geir weithiau); cyfeiriad grid SN961464. Gorweddant yng nghanol y rhan o ogledd Brycheiniog a adnabyddid fel Cantref Selyf yn yr Oesoedd Canol.

Mynydd Epynt
Mathucheldir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1167°N 3.5°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r enw'n ddiddorol. Daw o'r gair Brythoneg/Cymraeg Cynnar *epo-s 'ceffyl(au)' (sy'n rhoi enw'r dduwies Geltaidd Epona a'r gair Cymraeg ebol)[1] a hynt, a'r ystyr yw '(lle) crwydra ceffylau'.

Gorwedd Mynydd Epynt mewn ardal o ucheldir a amgylchinir gan ffyrdd yr A483 i'r gorllewin, yr A40 i'r de a'r A470 i'r dwyrain, gyda'r conglau'n cael eu dynodi gan Llanymddyfri ac Aberhonddu i'r de a Llanfair-ym-Muallt i'r gogledd.

Mae'r afonydd sy'n tarddu ar ei lethrau yn cynnwys Afon Honddu, Afon Ysgir, a Nant Brân (yn bwydo Afon Wysg) ac Afon Dulas.

Hanes yr ardal

golygu

Cafodd y mynydd ei feddiannu gan y Swyddfa Ryfel ar gyfer ymarfer saethu ac mae rhannau helaeth o'r bryniau ar gau i'r cyhoedd hyd heddiw. Cyhoeddwyd bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu Mynydd Epynt yn 1939. Er gwaethaf ymdrechion Undeb Cymru Fydd i warchod yr ardal a rhwystro llywodraeth Prydain, methiant fu. Erbyn mis Mehefin 1940, gwasgarwyd y 400 o Gymry fu'n ffermio ar y mynydd a'r saith cwm o'i amgylch ac roedd 16,000 hectar o Fynydd Epynt wedi'u troi'n faes tanio i'r Fyddin Brydeinig. Fel y noda John Davies: "O ganlyniad i weithred y Swyddfa Ryfel, symudwyd ffin y Gymraeg bymtheg cilomedr i'r gorllewin."[2]

Ganed y Piwritan John Penry yn ffermdy Cefn-brith, ger Llangamarch ar lethrau gogleddol Mynydd Epynt yn y flwyddyn 1563.

Cymreictod yr ardal

golygu
 
Dros y gamfa bren! Camfa ar y llwybr o Gwm-Llythin i Epynt.

Mae Cymreictod yr ardal, o ganlyniad i'r tir a'r ffermydd a gollwyd a datblygiad coedwigaeth fasnachol gan y Comisiwn Coedwigaeth ar y llethrau isaf, yn arbennig i'r gorllewin yn ardal Tirabad, wedi edwino'n sylweddol erbyn heddiw. Bu cymdeithas Gymraeg gref ym mynydd Epynt tan yn gymharol ddiweddar. Roedd yr ardal yn un o gadarnleoedd y Cymry am ganrifoedd yn wyneb ymosodiadau'r Normaniaid a brenhinoedd Lloegr.

Dosbarthiad

golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 478 metr (1568 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Copaon

golygu

Pentrefi cyfagos

golygu

Gweler hefyd

golygu

Dolennau allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru
  2. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 580.
  3. “Database of British and Irish hills”