Tirabad

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Llangamarch, Powys, Cymru, yw Tirabad.[1][2] Saif yn ne-orllewin y sir ar lan ffrwd fechan Afon Dulas sy'n llifo i'r gogledd i ymuno yn Afon Irfon. Fe'i lleolir yn y bryniau tua 4 milltir i'r de o Lanwrtyd ac 8 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lanymddyfri.

Tirabad
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0589°N 3.6372°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)

I'r dwyrain o'r pentref ceir bryniau moel Mynydd Epynt. I'r gorllewin ceir Coedwig Crychan. Rhed ffyrdd mynyddig o'r pentre i Gynghordy yn y gorllewin a Llangamarch i'r gogledd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

HanesGolygu

Cafodd y pentref yr enw "Tirabad" (cywasgiad o'r enw "Tir yr Abad") pan roddwyd grant helaeth o dir yno i Abaty Ystrad Fflur gan yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth, yn y flwyddyn 1164. Mae'n gorwedd ym mhlwyf gwledig Llanddulas. Am i eglwys newydd gael ei chodi yno yn 1756 ceir y ffurf 'Yr Eglwys Newydd yn Llanddulas' mewn hen ddogfennau. Enw amgen arall oedd 'Aberdulas'.

Fel yn achos sawl cymuned arall yn ardal Mynydd Eppynt, gorfodwyd y rhan fwyaf o'r trigolion i adael y pentref yn yr Ail Ryfel Byd am fod y Fyddin Brydeinig wedi dewis Mynydd Eppynt ar gyfer tir ymarfer saethu. Mae rhan helaeth Mynydd Eppynt yn dal i gael ei nodi fel Ardal Peryglus i'r cyhoedd hyd heddiw, ond adfywiodd y pentref yn y 1950au, pan blanwyd coed gan y Comisiwn Coedwigaeth a chodwyd 25 o dai newydd, ysgol, neuadd pentref a siop i'r gweithwyr.

FfynonellauGolygu

  • Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Wales, cyf. 2 (1836)

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU