Glynceiriog
Pentref yng nghymuned Llansantffraid Glyn Ceiriog, mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Glynceiriog[1] neu Glyn Ceiriog.[2] Mae ganddo gysylltiad pwysig â diwydiant chwareli llechi. Gorwedd y pentref ar lan afon Ceiriog a'r ffordd B4500, 6.5 milltir (10 km) i'r gorllewin o'r Waun a 3.5 milltir (5.5 km) i'r de o Langollen. Yn wleidyddol mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, yn etholaeth cynulliad De Clwyd a'r etholaeth seneddol o'r un enw. Roedd chwareli llechi estynedig yno ac adeiladwyd Tramffordd Dyffryn Glyn i gymryd y llechi i lanfa ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig ac yn nes ymlaen i gyfnewid traciau gyda Rheilffordd y Great Western o Gaer i Amwythig.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llansantffraid Glyn Ceiriog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.9333°N 3.1872°W |
Cod OS | SJ202380 |
Cod post | LL20 |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Daearyddiaeth a gweinyddiaeth
golyguHanes gweinyddol
golyguYn hanesyddol, gweinyddwyd Glyn Ceiriog fel plwyf ac yn nes ymlaen fel plwyf gweinyddol Llansanffraid Glyn Ceiriog. O ganol y 16g hyd 1974, llywodraethwyd Glyn Ceiriog gan sir weinyddol Sir Ddinbych, a rannwyd yn sawl ardal wledig. Rhwng 1895 a 1935, roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig y Waun, a gyfunwyd gydag Ardal Wledig Llansilin yn 1935 i greu Ardal Wledig Ceiriog. Roedd Glyn Ceiriog yn rhan o Ardal Wledig Ceiriog wedyn o 1935 hyd 1974.
Yn 1974, cafwyd wared ar yr hen Sir Ddinbych fel sir weinyddol, a chyfunwyd Glyn Ceiriog ag Ardal Glyndŵr yn sir newydd Clwyd. Cafwyd wared ar sir Clwyd ac Ardal Glyn Dŵr yn 1996, a daeth Glyn Ceiriog yn rhan o awdurdod unedol Bwrdeistref Sirol Wrecsam, fel y mae hyd heddiw.
Cynrychiolaeth wleidyddol
golyguGweinyddir Glynceiriog o fewn Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a drodd yn awdurdod unedol yn 1998. Mae'n rhan o ward Dyffryn Ceiriog, ac mae ganddi gynghorwr annibynnol.
Mae yn etholaeth cynulliad De Clwyd a chynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o 1999 hyd 2011 gan Karen Sinclair ac ers 2011 gan Ken Skates, y ddau yn aelod o'r Blaid Lafur.
Saif mewn etholaeth seneddol o'r enw De Clwyd a chynrychiolir yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1997 hyd 2010 gan Martyn Jones ac ers 2010 gan Susan Elan Jones, y ddau yn aelod o'r Blaid Lafur.
Daearyddiaeth/daeareg
golyguLleolir y pentref yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn a grewyd gan Afon Ceiriog. Yn ddaearegol, mae gan y dyffryn stratau Ordoficiaidd a Silwriaidd. Mae'r pridd yn fân ac yn fawnog.
Pobl o Lynceiriog
golyguMae sawl llenor wedi byw yn neu'n agos i Lynceiriog yn y gorffennol, yn cynnwys:
- Guto'r Glyn (1435–1493) – mae cysylltiadau rhwng y bardd canoloesol a Glyn Ceiriog
- Huw Morus (Eos Ceiriog) (1622–1709) – ganed a bu'n byw ger Glyn Ceiriog
- Robert Elis (Cynddelw) (1812–1875) – ieithydd a bardd buddugol yr Eisteddfod; bu'n weinidog yng Nghapel Annibynnol Bedyddwyr Cymru yng Nglyn Ceiriog o 1838 hyd 1840
- Islwyn Ffowc Elis – treuliodd y nofelydd y rhan fwyaf o'i blentyndod ar fferm ger Glyn Ceiriog, er y ganed ef yn Wrecsam
- Gwilym Thomas Hughes – dramodydd
Oriel
golygu-
Merch a'i chi yng Nglyn Ceiriog oddeutu 1885
-
Neuadd "Nantyr"; oddeutu 1875
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Ebrill 2022
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre