Johny Williams (paffiwr)

Roedd Johnny Williams (25 Rhagfyr 19266 Chwefror 2007) yn baffiwr proffesiynol Cymreig yn y 1940au a'r 1950au. Ym 1952 ef oedd pencampwr pwysau trwm Prydain a'r Ymerodraeth Brydeinig[1].

Johny Williams
Ganwyd25 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Abermaw Edit this on Wikidata
Bu farw6 Chwefror 2007 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerlŷr Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Williams ar fferm Cellfechan Abermaw ar ddydd Nadolig 1926. Pan yn dair oed symudodd ei deulu i redeg fferm yn Rugby, Swydd Warwick. Cafodd Williams ei fwlio yn yr ysgol yn Rugby gan ei fod yn Gymro uniaith a dysgodd cwffio er mwyn amddiffyn ei hun rhag ei erlidwyr. Gwelodd bod modd gwneud arian o baffio trwy i Robin, ei frawd, betio gyda phlant eraill yr ysgol nad oedd modd iddynt wneud i Johnny crio[2]. Yn 10 oed dechreuodd paffio am wobrau mewn ffeiriau. Er mwyn ennill arian dechau yn y bythau bocsio roedd raid ymladd mewn nifer o ornestau yn olynol, gan hynny dysgodd Williams fod osgoi ergydion cyn bwysiced a'u glanio er mwyn goroesi; arweiniodd hyn at feirniadaeth ohono fel bocsiwr proffesiynol fel un orofalus[3].

Gyrfa broffesiynol golygu

Trodd Williams yn broffesiynol ym 1946, daeth yn adnabyddus am arddull gwyddonol yn y cylch. Un o'i ornestau enwocaf oedd yr un yn erbyn Jack Gardner ar 17 Gorffennaf 1950 yng Nghaerlŷr; roedd yn frwydr am deitl y Gymanwlad lle collodd Williams ar bwyntiau mewn ornest a disgrifiwyd gan y BBC fel un o'r ornestau mwyaf erchyll flinedig yn hanes y gamp yng ngwledydd Prydain, bu'n rhaid i'r ddau baffiwr gwario noson yn yr ysbyty wedi'r ymrafael[4]

Ymladdodd Williams a Gardner yn erbyn ei gilydd eto ym 1952 ac enillodd Williams wedi 15 rownd, gan hawlio'r teitlau Prydain a'r Ymerodraeth.

Llwyddodd i amddiffyn ei deitlau yn erbyn Johnny Arthur o De Affrica ym 1952, cyn ei golli ar bwyntiau dros 15 rownd i Don Cockell o Loegr ym 1953. Wedi cyfres o ornestau gwael ym 1955 a 1956, gan gynnwys un lle cafodd ei fwrw allan ar ôl pum rownd gan ei hen wrthwynebydd, Gardner, rhoddodd Williams y gorau i focsio ym 1956 ar ôl ennill 60 ornest, dod yn gyfartal mewn 4 a cholli 11.[5]

Gwariodd gweddill ei oes yn ffermio.

Bywyd personol golygu

Priododd Jocelyn (Joyce) Sarsfield ym 1949, bu iddynt un ferch. Bu farw ger Rugby yn 80 mlwydd oed.

Gornestau proffesiynol golygu

Enill 60 (38 trwy fwrw allan, 22 ar bwyntiau), Colli 11 (6 trwy fwrw allan, 5 ar bwyntiau), 4 yn gyfartal [1] Archifwyd 2015-04-07 yn y Peiriant Wayback.

Nodyn: KO = Bwrw allan; TKO = Bwrw allan technegol; PTS = Dyfarniad ar bwyntiau

canlyniad Record Gwrthwynebydd Math Rownd Dyddiad Lleoliad Nodiadau
Colli 33-9   Joe Bygraves TKO 6 16/11/1956   Belle Vue Zoological Gardens, Manceinion
Colli 28-0-1   Joe Erskine PTS 15 27/08/1956   Stadiwm y Maendy, Caerdydd BBBofC Teitl pwysau trwm.
Colli 26-4-1   Tommy "Hurricane" Jackson TKO 4 13/04/1956   Uline Arena, Washington, DC Dyfarnwr yn stopio'r ornest wedi 2:49 o'r 4edd rownd.
Cyfartal 45-5-1   Willi Hoepner PTS 10 04/02/1956   Festhalle Frankfurt, Frankfurt, Hesse
Ennill 23-3-2   Kitione Lave TKO 1 26/07/1955   Embassy Sportsdrome, Birmingham
Colli 26-5   Jack Gardner KO 5 06/06/1955   Nottingham Ice Stadium, Nottingham BBBofC Gornest dileu Teitl pwysau trwm y gymanwlad.
Ennill 7-4-1   Lucien Touzard TKO 3 18/04/1955   Stadiwm y Maendy, Caerdydd
Ennill 13-2-1   Hennie Quentemeijer KO 2 05/03/1955   Y Drenewydd
Ennill 12-3-1   Roger Francis Coeuret TKO 4 10/12/1954   Belle Vue Zoological Gardens, Manceinion
Ennill 15-2   "Miracle" Jack Hobbs TKO 7 14/09/1954   Harringay Arena, Llundain BBBofC Teitl pwysau trwm gornest dileu.
Ennill 14-3-10   Hugo Salfeld PTS 10 04/04/1954   Stadion Rote Erde, Dortmund,
Ennill 42-4-6   Gerhard Hecht KO 2 22/01/1954   Sportpalast, Schoeneberg, Berlin
Ennill 4-4-1   Bernard Verdoolaeghe PTS 10 10/11/1953   Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain
Ennill 28-7   Fred Powell KO 2 05/10/1953   Granby Halls, Caerlŷr
Colli 59-11-1   Don Cockell PTS 15 12/05/1953   Harringay Arena, Llundain BBBofC/Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Ennill 15-11-1   Ansell Adams PTS 10 13/04/1953   Granby Halls, Caerlŷr
Colli 25-1-4   Heinz Neuhaus KO 9 15/02/1953   Westfalenhallen, Dortmund,
Ennill 23-2-4   Werner Wiegand KO 5 10/12/1952   Harringay Arena, Llundain
Ennill 20-2   John Duncan Arthur TKO 7 13/10/1952   Granby Halls, Caerlŷr Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Ennill 13-13-7   Jimmy Rouse TKO 7 22/07/1952   Meadowbrook Bowl, Newark, New Jersey
Ennill 22-4   Jack Gardner PTS 15 11/03/1952   Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain BBBofC/Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Ennill 46-15   Omelio Agramonte PTS 10 04/12/1951   Harringay Arena, Llundain
Cyfartal 21-0-3   Heinz Neuhaus PTS 10 14/10/1951   Stadion Rote Erde, Dortmund
Ennill 28-8-1   Jo Weidin TKO 6 05/06/1951   Stadiwm White City, Llundain
Ennill 17-3   Aaron Wilson PTS 8 27/03/1951   Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain
Ennill 29-5-4   Reg Andrews KO 2 19/03/1951   Granby Halls, Caerlŷr
Colli 42-21-5   Bill Weinberg TKO 6 12/12/1950   Harringay Arena, Llundain
Ennill 19-2   George Kaplan TKO 7 14/11/1950   Earls Court Arena, Kensington, Llundain
Colli 19-2   Jack Gardner PTS 12 17/07/1950   Granby Halls, Caerlŷr BBBofC/gornest dileu Teitl pwysau trwm y Gymanwlad.
Colli 72-11-2   Pat Comiskey TKO 6 06/06/1950   White City Stadium, Llundain
Ennill 23-11   Vern Escoe PTS 10 28/02/1950   Harringay Arena, Llundain Teitl pwysau trwm y Gymanwlad gornest dileu.
Ennill 18-8   Lloyd Barnett PTS 10 20/02/1950   Embassy Sportsdrome, Birmingham
Ennill 18-10   Piet Wilde KO 4 24/01/1950   Empress Hall, Earl's Court, Kensington, Llundain
Ennill 19-8-1   Stephane Olek PTS 8 06/09/1949   Harringay Arena, Llundain
Ennill 17-8   Piet Wilde PTS 10 17/08/1949   Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl
Ennill 11-4   Paddy Slavin TKO 3 20/06/1949   St Andrew's Stadium, Birmingham
Ennill 10-5-1   Nils Andersson PTS 8 02/06/1949   White City Stadium, Llundain]]
Ennill 23-8-4   Ken Shaw TKO 8 19/04/1949   Royal Albert Hall, Llundain
Ennill 14-6-2   Nick Wolmarans TKO 4 29/01/1949   Wembley Stadium, Johannesburg
Ennill 3-3-1   Billy Wood KO 4 16/12/1948   City Hall, Durban, Kwa-Zulu Natal
Ennill 10-6   Fred Vorster PTS 8 06/11/1948   Wembley Stadium]], Johannesburg
Ennill 17-9-3   Jock Frederick Taylor PTS 6 21/09/1948   Harringay Arena, Llundain]]
Ennill 22-13-7   Reg Spring TKO 6 02/09/1948   Exeter Civic Hall, Exeter, Dyfnaint
Ennill 32-4-1   Don Cockell TKO 2 27/07/1948   Embassy Rink, Birmingham
Ennill 7-12   Gene "KO" Fowler KO 3 22/06/1948   St James Park, Exeter
Colli 28-4-1   Don Cockell PTS 8 18/05/1948   Highfield Road, Coventry
Ennill 6-0   Bobby Ogg PTS 6 20/04/1948   Harringay Arena, Llundain
Ennill 1-0   Sid Falconer RTD 3 11/03/1948   Smethwick, Sandwell
Ennill 1-0   Billy Phillips TKO 3 17/02/1948   Harringay Arena, Llundain
Ennill 21-3   Allan Cooke TKO 1 12/02/1948   Hull Arena, Hull
Ennill 12-12-3   Matt Locke KO 1 26/01/1948   Coventry Drill Hall, Coventry
Ennill 13-13-1   Des Jones PTS 8 15/01/1948   Rink Market, Smethwick, Sandwell
Colli 14-10-6   Reg Spring PTS 8 02/12/1947   Co-op Hall]], Rugby
Ennill 4-1   Doug Richards PTS 8 24/11/1947   Cheltenham Town Hall, Cheltenham
Ennill 7-7   George Barratt TKO 3 10/11/1947   Coventry
Ennill 9-7-1   Jimmy Carroll KO 5 03/11/1947   Granby Halls, Caerlŷr
Ennill 27-27-7   Trevor Burt KO 2 16/09/1947   Battery Drill Hall, Rugby
Ennill 7-6   Jimmy Carroll TKO 5 12/08/1947  Wembley Town Hall, Wembley, Llundain
Ennill --   Bernard O'Neill TKO 2 07/07/1947   Wembley Town Hall, Wembley, Llundain
Cyfartal 26-7-5   Johnny Houlston PTS 8 16/06/1947   Corporation Bus Depot, Casnewydd
Ennill 41-59-5   Paddy Roche TKO 7 03/04/1947   Leamington
Ennill 2-1   Jock Kerry TKO 5 24/03/1947   Birmingham
Ennill 2-2   Wally With PTS 8 19/03/1947  Caledonian Road Baths, Islington, Llundain
Ennill 2-3   Art Owen TKO 6 24/02/1947   Kettering
Ennill 19-42-6   Ted Barter KO 3 10/02/1947   Oxford Town Hall, Rhydychen
Ennill 2-2-2   Tommy Bostock TKO 4 09/12/1946   Assembly Rooms, Market Harborough,
Ennill 0-1   Joe Burt PTS 8 04/11/1946   Birmingham
Cyfartal 12-3-4   Jim Greaves PTS 8 21/10/1946   Granby Halls, Caerlŷr
Ennill 7-2-1   Jim Hollis PTS 6 24/09/1946   Embassy Rink, Birmingham
Ennill 12-17-2   Harry O'Grady KO 4 04/06/1946   Battery Drill Hall, Rugby
Ennill --   Joe Williams PTS 8 15/04/1946   Birmingham
Ennill 5-4   "Seaman" Tom Smith TKO 5 01/04/1946   Birmingham
Ennill -- Michael Guerin KO 1 26/02/1946   Co-op Hall, Rugby Guerin yn cael ei fwrw allan wedi 1:40 o'r rownd gyntaf.
Ennill 2-3   "Seaman" Tom Smith PTS 6 15/02/1946   Crossington Street Baths, Caerlŷr
Ennill 1-0   Billy Rhodes PTS 6 12/02/1946   Crossington Street Baths, Caerlŷr

Dolenni allanol golygu

  • British Pathe News. Ffilm o'r ornest rhwng Williams a Garner ym 1955. Williams yw'r un efo stribed wen ar ei drowsus. Gwelir Mrs Williams, yn eistedd efo'r hyrwyddwr Mike Jacobs (y dyn efo'r sigâr).

Cyfeiriadau golygu