Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd dicotyledonau, deuhad-ddail, deugibogion). Maent yn cynnwys tua 200,000 o rywogaethau.[1] Fe'u dosberthir yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau o'u DNA a'u paill yn dangos bod nhw'n ffurfio sawl grŵp gwahanol; yr ewdicotau yw'r grŵp mwyaf ac maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r deugotyledonau.
Fel arfer, mae gan y deugotyledonau ddail llydan coesog gyda gwythiennau rhwydog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o bedwar neu bump.
Mae dosbarthiad y deugotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[2] Mae dosbarthiad cywir nifer o deuluoedd yn ansicr.
Urdd
|
Enghreifftiau
|
Amborellales
|
Nymphaeales
|
lili'r dŵr
|
Austrobaileyales
|
coeden anis
|
Chloranthales
|
"Magnoliidau"
|
Canellales
|
Laurales
|
llawryfen
|
Magnoliales
|
magnolia, nytmeg, afal cwstard
|
Piperales
|
pupur du, esgorlys
|
Ceratophyllales
|
cyrnddail
|
"Ewdicotau"
|
Ranunculales
|
blodyn ymenyn, pabi
|
Teulu Sabiaceae
|
Proteales
|
protea, planwydden, lotws
|
Trochodendrales
|
Buxales
|
pren bocs
|
"Ewdicotau craidd"
|
Gunnerales
|
Teulu Dilleniaceae
|
Saxifragales
|
tormaen, eirinen Fair, briweg, rhosyn y mynydd
|
Berberidopidsales
|
Santalales
|
uchelwydd
|
Caryophyllales
|
carnasiwn, cactws, ffigysen yr Hotentot
|
"Rosidau"
|
Vitales
|
gwinwydden
|
"Ewrosidau I"
|
Zygophyllales
|
Celastrales
|
brial y gors
|
Oxalidales
|
suran y coed
|
Malpighiales
|
llaethlys, eurinllys, llin, mangrof, helygen, fioled
|
Cucurbitales
|
cucumer, melon, pwmpen
|
Fabales
|
ffeuen, pysen, meillionen, pysgneuen
|
Fagales
|
ffawydden, derwen, bedwen
|
Rosales
|
rhosyn, afal, llwyfen, danhadlen, cywarch
|
"Ewrosidau II"
|
Geraniales
|
pig yr Aran, mynawyd y bugail
|
Myrtales
|
myrtwydden, llysiau'r milwr, melyn yr hwyr, grawnafal
|
Crossosomatales
|
Picramniales
|
Huerteales
|
Brassicales
|
bresychen, mwstard, rêp
|
Malvales
|
hocysen, pisgwydden, cotwm, cor-rosyn
|
Sapindales
|
oren, lemon, mahogani
|
"Asteridau"
|
Cornales
|
cwyrosyn
|
Ericales
|
grug, rhododendron, ffrwyth ciwi, te, briallen
|
"Ewasteridau I"
|
Teulu Boraginaceae
|
cyfardwf, sgorpionllys
|
Teulu Vahliaceae
|
Teulu Icacinaceae
|
Teulu Metteniusaceae
|
Teulu Oncothecaceae
|
Garryales
|
Gentianales
|
crwynllys, coffi
|
Lamiales
|
mintys, marddanhadlen, lafant, bysedd y cŵn, olewydden
|
Solanales
|
codwarth, tomato, taten, planhigyn ŵy, taglys
|
"Ewasteridau II"
|
Aquifoliales
|
celynnen
|
Asterales
|
blodyn Mihangel, llygad y dydd, letysen, dant y llew
|
Escalloniales
|
esgalonia
|
Bruniales
|
Paracryphiales
|
Dipsacales
|
cribau'r pannwr, gwyddfid
|
Apiales
|
moronen, persli
|
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Magnoliidau, Ewdicotau, Rosidau, Asteridau, Ewrosidau, Ewasteridau o'r Saesneg "Magnoliids, Eudicots, Rosids, Asterids, Eurosids, Euasterids". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
|