Nodyn:Pigion/Wythnos 40
Pigion
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Vincent van Gogh. Roedd yn un o'r Ôl-argraffiadwyr, ac mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed. Fe'i ganwyd yn Zundert ar y degfed ar hugain o Fawrth, 1853, a bu farw ar y nawfed ar hugain o Orffennaf, 1890 yn Auvers-sur-Oise. Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr - ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn. Ym 1880 y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym Mharis ar y pryd... mwy... |
Erthyglau dewis
|