Tŷ ar y Tywod (drama)


Drama lwyfan Gymraeg gan Gwenlyn Parry yw Tŷ ar y Tywod, a gyflwynwyd am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ym 1968. Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol y Barri 1968. Fe'i cyhoeddwyd gan Llyfrau'r Dryw ym 1969. Fe ddisgrifir hi fel drama "swreal" ac o linach gwaith Ionesco, Ibsen a Pinter.[1][2]

Tŷ ar y Tywod
Dyddiad cynharaf1968
AwdurGwenlyn Parry
CyhoeddwrLlyfrau'r Dryw / Christopher Davies
GwladCymru
IaithCymraeg
Pwncdrama
Argaeleddallan o brint
Genredrama lwyfan

Disgrifiad byr

golygu

"Ceir Gŵr y Ffair sydd eisiau prynu cwt Gŵr y Tŷ er mwyn ymestyn ei ffair ar hyd y traeth. Ond mae Gŵr y Tŷ eisiau aros yn ei gartref lle caiff heddwch i siarad efo’r ddelw gwyr y mae o wedi ei dwyn ac sy’n dod yn fyw yn ei ddychymyg ef, ac o’n blaen ni’r gynulleidfa. Erbyn diwedd y ddrama, mae’r safleoedd grym wedi eu gwyrdroi a Gŵr y Tŷ a Gŵr y Ffair wedi cyfnewid safleoedd. Y frwydr seicolegol ac emosiynol sy’n arwain at hyn yw craidd y ddrama".[1]

Cefndir

golygu

Yn y Rhagymadrodd i'r cyhoeddiad cyntaf (1969) fe ddywedodd Gwenlyn Parry "Fe ofynwyd imi ddweud gair ar y dechrau fel hyn am Tŷ ar y Tywod - ond wnai ddim. 'Dwi ddim yn credu y dylai awdur geisio dadansoddi neu egluro ei waith ei hun rhag iddo wrth neud hynny gyflyru meddyliau ei gynulleidfa.[...] Felly fy mwriad i yn Tŷ ar y Tywod - fel yn Saer Doliau o'r blaen — yw defnyddio bob dyfais bosib, o fewn terfynau'r sefyllfa ar y llwyfan, i gyfathrebu â'r gynulleidfa gan obeithio cysylltu fy mhrofiadau theatrig i â'u profiadau personol hwy — a gwneud hynny y foment honno yn y theatr."[3]

"Rhoes ysgrifennu Tŷ ar y Tywod gyfle i Gwenlyn Parry arbrofi mewn dau gyfrwng ar yr un pryd," yn ôl y darlledwr Aneirin Talfan Davies, "...sef y llwyfan a'r stiwdio deledu, a chafodd llawer o Gymry gyfle i wylio'r ddau berfformiad, y naill gan Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru (cynhyrchydd: Wilbert Lloyd Roberts) a'r llall gan BBC Cymru (cynhyrchydd: George P Owen)", ychwanegodd.[3]

Yn ôl yr adolygydd theatr Gwenan Mared, "Mae Tŷ ar y Tywod yn enghraifft berffaith o hoff themâu a phatrymau theatrig Gwenlyn. Ceir yma ddigonedd o elfennau’r Abswrd, y mudiad y cysylltir Gwenlyn ag ef gan amlaf, ac mae naws Pinteraidd iawn i’r digwydd. [...] Gellwch eu gwylio heb boeni am athroniaeth gan fod yno fel arfer awgrym o reswm tu ôl i’r digwydd, er bod y digwydd hwnnw’n ddigon od."[1]

"Y byd bygythiol [...] y tu allan yw un o'r elfennau sy'n cysylltu Ibsen â Pinter a Parry, yn enwedig felly y tair drama hir gyntaf," yn ôl yr actor Nic Ros, "Er y pwyslais ar yr abswrd wrth ddadansoddi ei waith, mae yma'n aml gynllwyn hollol glasurol. Un o'r peryglon sydd ynghlwm wrth y clasuron yw'r duedd i bob dim ddigwydd oddi ar y llwyfan, ond mae Gwenlyn yn osgoi gwneud hyn oherwydd ei ddefnydd caboledig o ofod y llwyfan, gyda'i ddatblygiad (neu'n hytrach ddirywiad) o'r llwyfan yn ddrych i'r meddwl a'r enaid.", ychwanegodd.[2]

Cymeriadau

golygu
  • Gŵr y Tŷ
  • Lisa
  • Llanc
  • Merch
  • Gŵr y Ffair

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu

Cyflwynwyd y ddrama hon y tro cyntaf ar y llwyfan gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri 1968, ac wedyn ar daith yr Hydref yr un flwyddyn. Cyfarwyddwr: Wilbert Lloyd Roberts; cynllunydd Pauline Whitehouse; goleuo Murray Clark; llwyfannwr cynorthwyol Meic Povey - y cynhyrchiad cyntaf iddo weithio arno; cast:


Addaswyd y ddrama lwyfan ar gyfer y teledu gan BBC Cymru. Cyfarwyddwr George P Owen; cynllunydd Pauline Harrison; goleuadau Barry Smith. Darlledwyd y ddrama gyntaf ar y teledu gan y BBC Nos Sul Rhagfyr 22, 1968.[3]

 
Cynllun set Martin Morley o Tŷ Ar Y Tywod 1983 (gyda chaniatâd MM)

1980au

golygu

Ail lwyfannwyd y ddrama gan Cwmni Theatr Cymru ym 1983, dan gyfarwyddyd Ceri Sherlock; cynllunydd Martin Morley,[4] goleuo : Shangara Singh.[5]

Fel un oedd wedi cynllunio sawl cynhyrchiad arall o waith Gwenlyn Parry, roedd ymgais gyntaf y cynllunydd Martin Morley o lunio'r set yn un mwy diriaethol ac amlwg, gyda'r 'tŷ' yn llythrennol 'ar y tywod'. Ond nid felly oedd y cyfarwyddwr Ceri Sherlock am lwyfannu'r gwaith, yn ôl Martin, a bu'n rhaid meddwl yn fwy haniaethol, gan osod y ddrama mewn lleoliad mwy astrus - "yn hytrach na'r traeth, fel oedd yn y sgript," eglura Martin, "crëwyd awyrgylch mwy glinigol, amgueddfa neu seilam?" [5]

Wrth adolygu cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol yn 2005, soniodd yr actor Nic Ros am gynhyrchiad "haniaethol" Ceri Sherlock : "Haniaethiad y cymeriadau sy'n cyfiawnhau fersiwn aml-haen Ceri Sherlock i Theatrig [Cwmni Theatr Cymru] dau ddegawd yn ôl, lle y tynnwyd i'r wyneb yr is-themâu gwleidyddol a chymdeithasol megis perchnogaeth dynion ar ferched", ychwanegodd. [2]

1990au

golygu

Darlledwyd addasiad radio o'r ddrama gan BBC Radio Cymru gyda Lyn T Jones yn cyfarwyddo.[2]

2000au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Genedlaethol Cymru yn 2005 gyda Judith Roberts yn cyfarwyddo. Cynllunydd Laura Hopkins.[6]

"Naw oed oeddwn i’n 1983, y tro diwethaf i Tŷ ar y Tywod weld golau dydd ar y llwyfan proffesiynol", nododd Gwenan Mared yn 2005, wrth adolygu'r cynhyrchiad i Barn: "A finnau wedi dringo dros y bryncyn tri deg y llynedd, roedd hi’n hen bryd, felly, i rywun roi mêr yn ei hesgyrn o’r newydd [...] roedd disgwyliadau yn drwch yn yr aer a Gwenlyn Parry, yn amlwg, yn dal i fedru denu’r dorf.", ychwanegodd. [1]

"Mae i ddrama fel Tŷ ar y Tywod haenau [...] Mae hi’n dipyn o gontract plesio pawb, a’r hyn y dewisodd Theatr Genedlaethol Cymru ei wneud oedd chwarae’r ddrama gan lynu mor union driw i’r gwreiddiol â bo modd, perfformio’r clasur fel clasur per se. Roedd y set weddol syml yn cyd-fynd â’r naws yma, gan gryfhau’r digwydd ond heb ddwyn sylw oddi wrth yr actorion. Gosodwyd dodrefn y tŷ ar ongl i gyfleu seiliau’r tŷ yn suddo i’r tywod. Yn fy meddwl i roedd y ddyfais hon hefyd yn atgyfnerthu’r naws forwrol gyffredinol gan roi’r argraff bod y dodrefn yn cael eu taflu gan donnau’r môr, neu’r naws swreal, efallai, gyda’r bydolwg groes-gongl yn adlewyrchu troeon dychymyg rhyfedd Gŵr y Tŷ. Defnyddiwyd triciau goleuo a phersbectif i ddangos y ffair yn y pellter, ac fel yr oedd y ddrama’n mynd rhagddi roedd y goleuo yn cyfleu’r syniad bod y ffair yn dod yn nes ac yn nes at ormesu Gŵr y Tŷ."[1]

Dewis i gymharu cynhyrchiad 2005 gyda chynhyrchiad 1983, wnaeth Nic Ros ar wefan BBC Cymru: "Nid yw fersiwn y Theatr Genedlaethol yn ddehongliad radical mewn unrhyw ffordd, ond y mae'n llwyfaniad effeithiol tu hwnt sydd, yn hollol wahanol i nod ac amcan Sherlock, yn dangos ac egluro'r ddrama", mynegodd.[2]

"Roedd yn Theatr Gwynedd nos Sadwrn Ebrill 30, dorf siomedig o dila, ond roedd yna ddrama fawr ar thema oesol (neu ar nifer ohonynt), ac roedd y set, hithau, yn ysblennydd, gyda chynllunio di-gyfnod Laura Hopkins yn dwyn i gof dirluniau trawsnewidiol yr athrylith Americanaidd Robert Wilson. Nid oedd ots mai cwt digon tebyg i un Y Ffin sydd i fod yma. Gwelwyd yn glir y rhwd lle roedd heli'r môr wedi gwneud ei farc, a chyda'r set gyfan wedi ei osod ar ongl megis y tŵr Eidalaidd, bregus iawn oedd ei olwg, gyda'r Ffair yn bygwth o'r tu cefn."[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Y Ffair a'r Ty gan Gwenan Mared; atodiau theatr bARN cyfrol 510, Gorffenaf / Awst 2005". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-08.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-08.
  3. 3.0 3.1 3.2 Parry, Gwenlyn (1969). Tŷ Ar Y Tywod. Llyfrau'r Dryw / Christopher Davies.
  4. "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-09-08.
  5. 5.0 5.1 Morley, Martin (2023-12-20). "Designing 'Ty ar Tywod' by Gwenlyn Parry. Directed by Ceri Sherlock". Martin Morley: a life in theatre and tv design (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-08.
  6. "Tŷ ar y Tywod - Judith Roberts". www.judithroberts.com. Cyrchwyd 2024-09-08.