UEFA
Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropaidd neu UEFA (Saesneg: Union of European Football Associations, Ffrangeg Union des associations Européennes de football) ydi'r corff llywodraethol ar gyfer pêl-droed yn Ewrop er fod sawl aelod â thiriogaethau sy'n rhanol neu'n llwyr ar gyfandir Affrica ac Asia. Mae UEFA yn un o chwe chonffederasiwn corff llywodraethol y byd pêl-droed, FIFA, ac mae 54 o gymdeithasau pêl-droed yn aelodau.
Math o gyfrwng | corff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, ffederasiwn pêl-droed, sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 15 Mehefin 1954 |
Aelod o'r canlynol | Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed |
Rhiant sefydliad | Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed |
Pencadlys | Nyon |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Gwefan | https://www.uefa.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae UEFA yn cynrychioli cymdeithasau pêl-droed cenedlaethol Ewrop, yn rhedeg cystadlaethau rhyngwladol a chystadlaethau clwb gan gynnwys Pencampwriaeth UEFA Ewrop, Cynghrair y Pencampwyr UEFA, Cynghrair Europa UEFA a Super Cup UEFA. Mae UEFA yn rheoli'r arian gwobr, y rheolau, a'r hawliau darlledu ar gyfer y cystadlaethau hynny.
Lleolwyd pencadlys cyntaf UEFA ym Mharis cyn symud i Bern ym 1959 ond ym 1995 symudodd UEFA ei bencadlys i dref Nyon yng ngorllewin y Swistir[1].
Hanes
golyguFfurfiwyd UEFA ar 15 Mehefin 1954 mewn cyfarfod yn Basel, y Swistir yn dilyn trafodaethau rhwng Cymdeithasau pêl-droed Yr Eidal, Ffrainc a Gwlad Belg[2] gyda 31 o gymdeithasau yn cytuno i uno o dan orychwyliaeth y corff newydd[3].
Aelodau
golyguMae 54 aelod yn UEFA gyda sawl gwlad trawsgyfandirol yn dewis bod yn rhan o UEFA yn hytrach na Chonffederasiwn Pêl-droed Asia (AFC). Y gwledydd hyn yw Armenia, Aserbaijan, Casachstan, Cyprus, Georgia a Rwsia.
Mae Israel wedi bod yn aelodau UEFA ers 1994 ar ôl cael eu diarddel o'r AFC ym 1974[4][5]. Mae Casachstan hefyd yn gyn-aelodau o'r AFC[6].
Cyn-aelodau
golygu- Undeb Pêl-droed Saarland (1954–1956)
- Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (1954-1990)
- Ffederasiwn Pêl-droed yr Undeb Sofietaidd (1954-1991) daeth yn Undeb Pêl-droed Rwsia ym 1992 gyda'r 14 cyn Weeriniaeth Sofietaidd yn creu eu cymdeithasau eu hunain gan ddod yn aelodau unigol o FIFA ac UEFA neu'r AFC.
- Cymdeithas Bêl-droed Iwgoslafia (1954–1992) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro ym 1992. Daeth Bosnia-Hertsegofina, Croatia, Macedonia a Slofenia yn annibynnol a chreu eu cymdeithasau pêl-droed eu hunain.
- Cymdeithas Bêl-droed Serbia a Montenegro (1992–2006) daeth yn Gymdeithas Bêl-droed Serbia yn 2006. Creodd Montenegro, oedd wedi sicrhau annibyniaeth, ei cymdeithas bêl-droed ei hun.
Pencampwyr presennol
golyguPencampwriaeth | Pencampwyr | Cyst. nesaf |
---|---|---|
Pencampwriaeth UEFA Ewrop | Sbaen | 2016 (Meh-Gorff) |
Pencampwriaeth dan21 UEFA Ewrop | Sweden | 2017 (Mehefin) |
Pencampwriaeth dan19 UEFA Ewrop | Sbaen | 2016 (Gorffennaf) |
Pencampwriaeth dan17 UEFA Ewrop | Ffrainc | 2016 (Mai) |
Pencampwriaeth Merched UEFA | Yr Almaen | 2017 (Gorff–Awst) |
Pencampwriaeth Merched dan19 UEFA Ewrop | Yr Iseldiroedd | 2015 (Gorffennaf) |
Pencampwriaeth Merched dan17 UEFA Ewrop | Sbaen | 2016 (Meh–Gorff) |
Cynghrair y Pencampwyr UEFA | Barcelona | 2015–16 |
Cynghrair Europa UEFA | Sevilla | 2015-16 |
Super Cup UEFA | Real Madrid | 2015 (Awst) |
Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA | FFC Frankfurt | 2015-16 |
Cwpan Futsal UEFA | Kairat Almaty | 2015-16 |
Pencampwriaeth Futsal UEFA | Yr Eidal | 2016 (Chwefror) |
Cwpan Rhanbarthau UEFA | Veneto | 2015 (Meh–Gorff) |
Cynghrair Ieuenctid UEFA | Chelsea | 2015–16 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "UEFA: Location Changes". UEFA.org.
- ↑ "History 1954-1980". UEFA.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2015-07-21.
- ↑ "History of UEFA". Uefa.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-27.
- ↑ "Aust-Asian bid fails". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "UEFA: Israel". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-07. Cyrchwyd 2014-12-27. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "UEFA: Kazakhstan". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-08. Cyrchwyd 2014-12-27. Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol UEFA