Mae NATO (Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd) yn gynghrair milwrol o 32 o wledydd yn Ewrop a Gogledd America sy'n ffurfio system o gyd-amddiffyn. Rheolir y broses o ymuno â'r gynghrair gan Erthygl 10 Cytundeb Gogledd yr Iwerydd, sy'n caniatáu gwahodd "Gwladwriaethau Ewropeaidd eraill" yn unig ac yn unol ag unrhyw gytundebau diweddarach. Mae'n rhaid i wledydd sy'n dymuno ymaelodi ateb gofynion arbennig a chyflawni proses o sawl cam, gan gynnwys trafodaethau gwleidyddol ac integreiddio milwrol. Goruchwylir y broses o dderbyn aelod newydd gan Gyngor Gogledd yr Iwerydd, corff llywodraethol NATO.

Ehangu NATO
Cronoleg o aelodaeth NATO yn Ewrop.
Mathenrollment, cynnydd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebwithdrawal from NATO Edit this on Wikidata
Yn cynnwys1952 enlargement of NATO, 1955 enlargement of NATO, 1982 enlargement of NATO, ehangiad NATO i'r dwyrain, 2023 enlargement of NATO, 2024 enlargement of NATO, NATO open door policy Edit this on Wikidata

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1949 gyda 12 o aelodau sefydlol—Gwlad Belg, Canada, Denmarc, yr Eidal, Ffrainc, Gwlad yr Iâ, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, Norwy, Portiwgal, y Deyrnas Unedig, ac Unol Daleithiau America—ac ers hynny ehangwyd aelodaeth y gynghrair ar 10 gwahanol achlysur, gan dderbyn 20 o wladwriaethau newydd i gyd.[1] Ychwanegwyd Gwlad Groeg a Thwrci ym 1952, ac yna Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (Gorllewin yr Almaen) ym 1955 wedi diwedd meddiannaeth y wlad honno gan Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau. Ymatebodd yr Undeb Sofietaidd drwy ffurfio cynghrair cyd-ddiogelwch ei hunan, Cytundeb Warsaw, o wledydd y bloc dwyreiniol. Ymunodd Sbaen â NATO ym 1982.

Yn sgil cwymp Mur Berlin, cytunwyd y byddai Gorllewin a Dwyrain yr Almaen yn aduno, ac yn cadw aelodaeth y weriniaeth ffederal o NATO. Wedi cwymp comiwnyddiaeth yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop a diwedd y Rhyfel Oer, a diddymu'r Undeb Sofietaidd ym 1991, ymgeisiodd nifer o gyn-aelodau Cytundeb Warsaw a chyn-weriniaethau Sofietaidd ymaelodi â NATO. Ymunodd Gwlad Pwyl, Hwngari, a Tsiecia â'r gynghrair ym 1999, er gwaethaf anghydfod o fewn NATO a gwrthwynebiad oddi wrth Rwsia. Aeth NATO ati i ffurfioli'r broses o ymaelodi trwy "Gynlluniau Gweithredu Aelodaeth", a daeth saith gwlad arall yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop i'r gynghrair erbyn Uwchgynhadledd Istanbul yn 2004: Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Rwmania, Slofacia, a Slofenia. Ymunodd dwy wlad ar lannau Môr AdriaAlbania a Chroatia—ar 1 Ebrill 2009, cyn Uwchgynhadledd Strasbwrg–Kehl. Dwy arall o wledydd y Balcanau oedd y nesaf i gael eu derbyn, Montenegro ar 5 Mehefin 2017, ac yna Gogledd Macedonia ar 27 Mawrth 2020.

Yn 2022 goresgynnwyd Wcráin gan Rwsia wedi i Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, cyhuddo NATO o gynyddu ei phresenoldeb yn Wcráin ac atgyfnerthu ei grym ar hyd ffiniau Rwsia. Penderfynodd y Ffindir a Sweden wneud ceisiadau i ymuno â'r gynghrair ym Mai 2022, mewn ymateb i'r goresgyniad.[2] Derbyniwyd y Ffindir ar 4 Ebrill 2023, a Sweden ar 7 Mawrth 2024.[3][4][5] Ym Medi 2022, ymgynigodd Wcráin am aelodaeth NATO wedi i Rwsia gyhoeddi cyfeddiannaeth oblastau Donetsk, Kherson, Luhansk, a Zaporizhzhia.[2] Mae dwy wladwriaeth arall wedi hysbysu NATO yn ffurfiol o'u bwriad i ymgeisio am aelodaeth: Bosnia a Hertsegofina a Georgia.[6] Mae llywodraeth Cosofo hefyd wedi cyhoeddi dymuniad i ymuno â NATO.[7] Mae ymaelodaeth yn bwnc trafod mewn sawl gwlad arall yn Ewrop, gan gynnwys Awstria, Cyprus, Gweriniaeth Iwerddon, Malta, Moldofa, a Serbia.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Enlargement and Article 10", NATO (8 Mawrth 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Mawrth 2024.
  2. 2.0 2.1 Harding, Luke; Koshiw, Isobel (30 September 2022). "Ukraine applies for Nato membership after Russia annexes territory". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 October 2022. Cyrchwyd 30 September 2022.
  3. Jackson, John (2022-06-29). "Ukraine Sees Opportunity to Join NATO After Finland, Sweden Invite". Newsweek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 June 2022. Cyrchwyd 30 June 2022.
  4. "NATO launches ratification process for Sweden, Finland membership". France24. 2022-07-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 July 2022. Cyrchwyd 2022-07-05.
  5. "NATO - Sweden Accession Protocol - Notification of Entry Into Force, March 7, 2024". United States Department of State (yn Saesneg). 2024-03-07. Cyrchwyd 2024-03-07.
  6. "Enlargement". The North Atlantic Treaty Organization. 2020-05-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2021. Cyrchwyd 2021-06-11.
  7. "Kosovo asks U.S. for permanent military base, speedier NATO membership". Reuters. 2022-02-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 February 2022. Cyrchwyd 2022-02-27.
  8. Fehlinger, Gunther (9 October 2022). "Malta, Austria and Ireland united in NATO 2023 – Gunther Fehlinger". Times of Malta. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 November 2022. Cyrchwyd 3 November 2022.