Aelhaearn

nawdd-sant

Roedd Sant Aelhaearn neu Aelhaearn'[1] fl.(7g cynnar) yn gynffeswr Cymraeg ag yn sant (Rhestr o seintiau Cymru) yr Eglwys Geltaidd. Roedd yn ddisgybl i Sant Beuno. Roed ei wyl Gŵyl Mabsant fel arfer yn cael ei gynnal ar 2 Tachwedd, er mae wedi ei nodi ambell dro i fod ar y cyntaf ond nid yw'n cael ei nodi gan naill ai'r eglwys Anglicanaidd (Yr Eglwys yng Nghymru) na'r eglwys Catholig yng Nghymru.

Aelhaearn
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Powys, Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwLlanaelhaearn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnawddsant Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Tachwedd, 2 Tachwedd Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Mae Sant Aelhaearn yn cael ei restru yng nghyd a Bonedd y Saint (Llinach y Seintiau). Roedd yn frawd i'r seintiau Llwchaiarn (Llanmerewig) a Cynhaiarn ag yn fab i Hygarfael o Gerfael,[2] mab Cyndrwyn, a tywysog Powys (Teyrnas Powys), brenhinlin o Gwrtheyrn, brenin Prydain. Roedd yr ardal oedd wedi ei reoli gan Cyndrwyn wedi ei ganoli ar  Afon Hafren, Amwythig. Yn ôl y sôn, roedd Aelhaearn wedi bod yn ddisgybl i Sant Beuno, a oedd hefyd yn rhan o'r un llinach, ac felly'n gefnder iddo. Roedd gweithgareddau Bueno wedi cael ei gefnogi gan Cadfan ap Iago ac aelodau eraill o frenhinlin Cunedda, Teyrnas Gwynedd; mae'n debygol fod Aelhaearn wedi ymuno ag ef allan o Bowys i Edeirnion ac yna ymlaen at y gogledd-orllewin.

 
Eglwys Llaenhaearn; 12g.

Gwyrthiau golygu

Mae'r prif wyrth sy'n cael ei gysylltu a Aelhaearn yn un a gafodd ei gyflawni gan Beuno, a oedd wedi ei atgyfodi (yn ogystal â chwech arall).[3] Mae dehongliad o'r 18g gafodd ei adrodd i John Ray yn Llanaelhaearn yn darparu Tarddiad gwerin ar gyfer enw anghyfarwydd Aelhaearn. Mae'n honni roedd Beuno yn arfer diflannu o'i gell ger Clynnog Fawr bob nos i deithio 4 mile (6.4 km) er mwyn gweddio ar garreg gwastad yng ynghanol yr Afon Erch. Un noson, wrth i Beuno dychwelyd, gwelodd ryw ddyn yn cuddio'n y tywyllwch; yna gweddiodd pe bai'r dyn ar ewyllys da, y byddai'n llwyddo, ond os oedd e am gwneud drwg, byddai esiampl yn cael ei wneud ohono. Yn syth ar ôl dweud hyn, gwelodd anifeiliad gwyllt yn ymddangos o'r coedwig a'i rwygo'n bedwar a pen. Ailfeddyliodd Beuno pan darganfyddodd mai ei was oedd wedi fod yn ysbio arno. Rhoddodd Beuno'r esgyrn a'r cnawd at ei gilydd oni bai am yr asgwrn o dan ei ael, a oedd ar goll. Yn ei le fe rhoddodd darn o haearn o bigyn ei bicell. (Galwodd Thomas Pennant (awdur), y stori yn "rhy afresymol i'w traethu, yn ei lyfr Tour in Wales, ac felly gwrthododd wneud hynny.)[4] Mae Baring -Gould, wrth ei adrodd, yn ei gymharu gyda adferiad Thor o'i eifr Snarler a Grinder yn Prose Edda.

Ar ôl i Llanaelhaeran gael ei sefydlu ar leoliad adfywiad y gwas, gorchmynodd Beuno i'w orchuchwylio ond, "fel cosb", gweddiodd byddai clychau Clynnog yn cael eu clywed ar hyd a lled y pentref, ond dim tu mewn eglwys Llanhaearn.

Wedi i Aellhaearn farw, hawliodd ei ddynion o diroedd y de ei gorff; dadleuwyd hyn gan mynachod Clynnog. Dywedir fod yna frwydyr wedi cychwyn a pharhaodd hyd y nos. Gyda'r gwawr, roedd yna ddwy arch ar ddwy Elor, cymerwyd un yr un gan y naill garfan. (Mae yna wyrth tebyg yn cael ei gysylltu a Sant Teilo, roedd ei greiriau wedi eu hawlio gan tair eglwys wahanol.)

 
Eglwys Sant Aelhaearn yng Nghegidfa (14g)

Cafodd Aelhaearn ei anrhydeddu ar whahan yng Nghegidfa ger Y Trallwng ym Mhowys ag yn Llanaelhaearn ym Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd. (Roedd yr ail, fodd bynnag, wedi cael ei adnabod ers amser fel "Llanhaiarn" fel llygriad ar ei enw; roedd y stad ger llaw yn cael ei adnobod fel "Elernion", ac mae'n debyg fod yna dechreuad tebyg i enw'r stad yna hefyd.)

Mae'r eglwys yng Nghegidfa wedi cael ei canmol sawl tro i Sant Giles, i'r Holl Seintiau (wrth Wyl Mabsant cyfagos Aelhaearn), ag i Sant Tysilio  (o Gŵyl Mabsant a gynhelir ar 8 Tachwedd). Mae rhan helaeth o eglwysi heddiw yn dyddio yn ôl i'r 14g a'r 15g, pan roedd yna ehangiad o greiddiau'r 12g neu'r 13g; cafodd eu adfywio rhwng 1877 a 1879 ac fe osodwyd cloc fechan yng nghanol y twr canoloesol.[5] Erbyn hyn, mae'n Adeiladau rhestredig Gradd I Powys. Mae'r gardd hefyd wedi ei nodi fel enghraifft hynafol o goed ywen wedi eu gosod mewn cynllun pendant.[5]

Cymynrodd golygu

Mae gan yr eglwys yn Llanaelhaearn waliau yn dyddio o tua'r 12g a cafwyd eu adfywio y tro diwethaf ym 1892.[5] Maent wedi cael eu rhestri fel Gradd 2. Yn ystod ehangiad maes yr eglwys ym 1865, darganfodd gweithwyr y garreg bedd wedi ei arysgrifennu yn Lladin o Aliortus o Elmet, gall o bosib dangos roedd yna sefydliad crefyddol ar y maes cyn cyrrhaeddiad Beuno ac Aelhaearn.[6]

 
Amgaead cyfoes o gwmpas ffynon Llanaelhaearn

Roedd y ddwy lleoliad yn cynnwys ffynon sanctaidd. Ynghynt roedd y ffynon yng Nghegidfa (Ffynon Aelhaearn) yn cael ei ymweld a gan  pobl y plwyf er mwyn iddynt cael diod ar Sul y Drindod. Roedd ffynon Sant Aelhaearn yn faes o werth ar llwybr gogleddol y pereindod i Ynys Enlli[7] ac roedd yn cael ei ymweld gydag yn reolaidd o achos y gwellhad gwyrthiol oedd yn gysylltiedig a'r "chwerthin" neu "anesmwytho'r dwr", golygfa anghyfarwydd o ffrydio swigod drwy'r ffynon. Erbyn y 19g, roedd ffynon Llanaelhaearn wedi ei amgylchynu gan basn a meinciau cerrig; byddai pobl yn gorffwyso arnynt wrth iddyn aros i'r dwr "chwerthin". Ond roedd cychwyniad o diptheria ym 1900, wedi achosi'r cyngor lleol i, yng nghyntaf, amgau'r ffynon, ac yna, ei gloi oddi wrth y cyhoedd. Mae perchnogiaeth y ffynon wedi cael ei dadlau ac mae'n parhau i fod yn anghyraeddadwy;[8] mae'r amgaed presennol yn dyddio o 1975.[5]

Yn ystod yr Yr Oesoedd Canol yng Nghymru, roedd cyrhaeddiad mewndirol Meirionnydd (cantref) hefyd yn cynnwys plwyf o'r enw Llanaelhaearn ger Gwyddelwern cyfoes yn Ninbych. Cafodd ei uno gyda Gwyddelwern ym 1550 ac erbyn hyn yr unig peth sy'n dangos maes ei eglwydd yw coeden ywen.[5] yn yr 20g cynnar, roedd ei pentref lleol dal yn cario'r enw Aelhaearn ond erbyn hyn, mae'n cael ei adnabod fel Pandy'r Capel.

Cyfeiriadau golygu

  1. Baring-Gould, Sabine & al.
  2. Peter C. Bartrum, A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D.1000
  3. Peniarth MS 75 (16g), gweler Baring-Gould, cyf.1
  4. Thomas Pennant
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Coflein.
  6. "Stone, Llanalhaearn Church"
  7. Snowdonia Heritage.
  8. Well Hopper.

Dolenni allanol golygu