Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022 yn Nhregaron, Ceredigion, rhwng 30 Gorffennaf - 6 Awst 2022. Roedd y Brifwyl hon fod i'w chynnal yn 2020 ond fe'i gohiriwyd ddwywaith yn dilyn pandemig COVID-19, felly dyma'r Eisteddfod gyntaf nôl ar Faes ers 2019.[2]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Tregaron, Ceredigion
Cynhaliwyd 30 Gorffennaf–6 Awst 2022
Archdderwydd Myrddin ap Dafydd
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Elin Jones
Llywydd Ben Lake
Enillydd y Goron Esyllt Maelor
Enillydd y Gadair Llŷr Gwyn Lewis
Gwobr Daniel Owen Meinir Pierce Jones
Gwobr Goffa David Ellis Ceri Haf Roberts
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Siôn Jenkins
Gwobr Goffa Osborne Roberts Lisa Dafydd
Gwobr Richard Burton Cedron Sion
Y Fedal Ryddiaith Sioned Erin Hughes
Medal T.H. Parry-Williams Gwyn Nicholas[1]
Y Fedal Ddrama Gruffydd Siôn Ywain
Dysgwr y Flwyddyn Joe Healy
Tlws y Cerddor Edward Rhys-Harry
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Eiry Price
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Seán Vicary
Medal Aur am Grefft a Dylunio Natalia Dias
Gwobr Ifor Davies Gwenllian Llwyd
Gwobr Dewis y Bobl Natalia Dias
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Elin Hughes
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Sonia Cunningham
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Robin Williams
Gwefan Gwefan 2022 (archif)

Cychwynnodd yr Eisteddfod gyda sioe gerdd yn y Pafiliwn ar y nos Wener. Ysgrifennwyd Lloergan gan Fflur Dafydd gyda chaneuon gan Griff Lynch a Lewys Wyn. Mae'r sioe wedi ei osod yn y flwyddyn 2050, lle mae'r ofodwraig Lleuwen Jones yn gwireddu breuddwyd oes o gael bod y ferch gyntaf ar y lleuad.

Dywedodd yr Eisteddfod bod nifer y cystadleuwyr ychydig i lawr yn 2022 - gyda chystadlaethau corau yn enwedig - ond bod y ffigyrau'n "galonogol". Roedd cyfnod COVID wedi effeithio ar allu nifer o grwpiau i ymarfer.[3]

Y Maes

golygu

Lleolwyd y Maes i'r gogledd o Dregaron ar y tir rhwng yr A485 a’r B4343 (52°13′36″N 3°56′03″W / 52.226641°N 3.934259°W / 52.226641; -3.934259). Roedd y maes carafanau ar ochr orllewinol yr A485.[4] Paratowyd cynllun y Maes mewn amser pan oedd cyfyngiadau COVID yn llymach felly roedd fwy o ofodau a mannau agored nag o'r blaen, yn cynnwys y brif fynedfa, i osgoi pobl gronni yn yr un lle.

Roedd cynllun arbennig yn cynnig 15,000 o docynnau mynediad am ddim i "deuluoedd lleol sydd ddim fel arfer yn mynychu'r Eisteddfod" yn cynnwys teuluoedd difreintiedig a ffoaduriaid.[5] Daeth i'r amlwg wedyn bod nifer o bobl eraill anghymwys wedi hawlio'r tocynnau a byddai rhaid i'r Eisteddfod fynd drwy'r ceisiadau i'w annilysu. Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Tregaron, Elin Jones, fod pobl "farus" wedi hawlio tocynnau "ar draul plant mewn tlodi a ffoaduriaid". Fe setlwyd y mater erbyn dechrau'r Eisteddfod gyda chynllun newydd. [6]

Bythefnos cyn cychwyn yr Eisteddfod, nid oedd yr adeiladau wedi cyrraedd mewn pryd ar gyfer y Ganolfan Groeso, pafiliwn Maes B na'r Theatr, oherwydd problemau’n ymwneud â Brexit a COVID. Dywedodd Elin Jones, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith fod rhaid i'r trefnwyr fynd ar ofyn i ambell syrcas yng ngwledydd Prydain, drwy gyflenwi pabelli eraill yn eu lle.[7]

Daeth glaw trwm ar y nos Sadwrn cyntaf gan greu pyllau dŵr a mwd ar y Sul ond fe sychodd y maes yn gyflym, gyda tywydd braf weddill yr wythnos.[8]

Prif gystadlaethau

golygu

Y Gadair

golygu

Enillydd y Gadair oedd Llŷr Gwyn Lewis (ffugenw "Cnwt Gwirion"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Idris Reynolds, ar ran ei gyd-feirniaid Emyr Lewis a Twm Morys. Roedd 14 ymgeisydd am y wobr - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd, a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y teitl Traeth. Dywedodd y beirniaid fod y "safon gyffredinol drwyddi draw yn dipyn uwch na'r norm" - er nad oedd y tri yn unfrydol yn eu penderfyniad terfynol.[9]

Noddwyd y Gadair gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth, a rhoddir y wobr ariannol er cof annwyl am Eluned ac W Ambrose Bebb, gan eu plant a’u hwyrion. Cynlluniwyd a chrëwyd y Gadair gan Rees Thomas, Bow Street - cyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth..[10]

Y Goron

golygu

Enillydd y Goron oedd Esyllt Maelor (ffugenw "Samiwel"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Cyril Jones ar ran ei gyd-feirniaid Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams. Cystadlodd 24, a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Gwres. Dywedodd y beirniaid mai "digon cyffredin oedd ei hansawdd at ei gilydd" ond fod y dosbarth teilyngdod wedi eu "plesio yn arw". Roedd y beirniaid yn unfrydol mai Esyllt Maelor oedd yn fuddugol. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd yn 1977 yn Y Barri.

Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Ceri Wyn "Ond yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyn i ni drafod, roedd y tri ohonom yn gytûn taw eiddo Samiwel yw coron Ceredigion yma yn Nhregaron." Dywedodd ei bod hi'n "fraint" cael coroni "dewin geiriau go iawn".

Dyluniwyd a chynhyrchwyd y goron gan yr artist, Richard Molineux ac mae'n ddathliad o ddiwylliant Ceredigion a Chymru mewn cyfres o 12 o ffasedau gwydr lliw. Mae'r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen oedd yn rhoi'r goron ac Ifor a Myfanwy Lloyd o'r fridfa sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750.[11]

Gwobr Goffa Daniel Owen

golygu

Yr enillydd oedd Meinir Pierce Jones o Nefyn, Llŷn. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg - a £5,000 gan Brifysgol Aberystwyth. Daeth 14 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid bod "y safon yn gyffredinol yn uchel iawn eleni" er nad oedd y tri yn gytûn ar yr enillydd.

Traddodwyd y feirniadaeth gan Manon Steffan Ros ar ran ei chyd-feirnaid, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd. Er nad oedd y beirniad yn unfryd, roedd Manon Steffan Ros a Ioan Kidd yn credu mai nofel Capten gan "Polly Preston" oedd nofel orau'r gystadleuaeth.[12]

Y Fedal Ryddiaith

golygu

Enillydd y Fedal oedd Sioned Erin Hughes o Foduan gyda'i chyfrol Rhyngom dan y ffugenw "Mesen". Y dasg oedd ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Dianc' gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Roedd 17 o ymgeiswyr a thraddodwyd y feirniadaeth gan Meg Elis ar ran ei chyd-feirniaid Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury. Roedd y tri yn unfrydol mai Mesen oedd yn deilwng o'r Fedal Ryddiaith.[13]

Tlws y Cerddor

golygu

Enillydd y tlws oedd Edward Rhys-Harry (ffugenw "Picard") sy'n byw yn Llundain. Derbyniodd £750 ac ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo'i yrfa. Y dasg oedd creu opera fer o un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o'r opera gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy'n bodoli eisoes.

Roedd 6 ymgais a thraddodwyd y feirniadaeth gan Gwion Thomas ar ran ei gyd-feirniaid, John Metcalf a Patrick Young. Dywedodd fod yr Eisteddfod wedi gosod "her hynod anodd i gyfansoddwyr ac i feirniaid". [14]

Y Fedal Ddrama

golygu

Enillydd y Fedal oedd Gruffydd Siôn Ywain, sy'n wreiddiol o Ddolgellau ond sydd bellach yn byw yn Llundain, am ei ddrama Nyth (ffugenw "Dy Fam"). Hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu am y Fedal Ddrama. Traddodwyd y feirniadaeth gan Janet Aethwy ar ran ei chyd-feirniaid Sharon Morgan a Sera Moore Williams. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Cyflwynwyd y Fedal er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynwyd rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.[15]

Canlyniadau cystadlaethau

golygu

Bandiau Pres

golygu

1. Bandiau Pres Dosbarth 1 1. Band Arian Llaneurgain 2. Band Pres BTM 3. Band Markham a'r Cylch

2. Bandiau Pres Dosbarth 2 1. Seindorf Biwmares 2. Band Arian Tref Rhydaman

3. Bandiau Pres Dosbarth 3 1. Band Arian Cross Keys 2. Band RAF Sain Tathan 3. Seindorf Arian Crwbin

4. Bandiau Pres Dosbarth 4 1. Band Arian Cross Keys 2. Seindorf Arian Yr Oakeley 3. Band Arian Cwm Ogwr

Cerdd Dant

golygu

5. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer 1. Lleisiau Tywi, Dyffryn Tywi 2. Côr Merched Llangwm, Sir Conwy 3. Côr Merched Canna, Caerdydd

6. Parti Cerdd Dant hyd at 20 mewn nifer 1. Parti'r Gromlech 2. Parti'r Greal 3. Lodesi Dyfi

7. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Adran Aberystwyth 2. Merched Plastaf

8. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant 1. Triawd Aeron, Dyffryn Aeron 2. Elin, Lois, Catrin a Non, Ynys Môn

9. Deuawd Cerdd Dant 21 Oed a Throsodd 1. Ceri Haf a Ruth Erin, Caerdydd / Dinbych 2. Carys Griffiths-Jones a Dafydd Jones, Cwrt-newydd / Ciliau Aeron 3. Rhian a Rhonwen, Llanycil / Llandderfel

10. Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed 1. Gwenan ac Ynyr 2. Martha a Sophie 3. Fflur Davies a Leisa Gwenllian

11. Gwobr Aled Lloyd Davies - Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd 1. Llio Meirion Rogers, Efenechtyd, Rhuthun 2. Siriol Elin, Abergele 3. Cai Fôn Davies, Bangor

12. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed 1. Manw Robin 2. Gwenan Mars Lloyd 3. Fflur Davies

13. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed 1. Branwen Medi Jones 2. Ela Mablen Griffiths-Jones 3. Ioan Joshua Mabbutt

14. Unawd Cerdd Dant o dan 12 oed 1. Cari Lovelock 2. Lili Myrddin 3. Anest Gwilym Jones

15. Cystadleuaeth Cyfeilio - i delynorion sydd heb gyfeilio mewn gwyliau cenedlaethol 1. Alwena Mair Owen 2. Emma Cerys Buckley

Cerddoriaeth

golygu

17. Côr Adloniant 1. Cywair 2. Côr Llanddarog 3. Côr Alawbama

18. Côr Cymysg heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côrdydd 2. Côr Llundain

19. Côr Meibion heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Meibion Ar Ôl Tri, Aberteifi 2. Côr Meibion Machynlleth, Machynlleth 3. Bechgyn Bro Taf, Caerdydd

21. Côr i rai 60 oed a throsodd 1. Côr Hen Nodiant 2. Encôr Ynys Môn 3. Côr Nefi Blws

20. Côr Merched heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Aelwyd y Neuadd Fach 2. Ysgol Gerdd Ceredigion

22. Côr Ieuenctid o dan 25 oed heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Ysgol Gerdd Ceredigion 2. Côr Bechgyn Plasmawr 3. Ysgol Penweddig

23. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Caerdydd 2. Côr Dre 3. Côr Hafodwenog

25. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl, er cof am Sioned James Islwyn Evans

26. Côr yr Wyl Côrdydd

27. Ensemble Lleisiol Agored 1. Rhys Meilyr/Rhys Archer/Owain Rowlands 2. Criw COR 3. Adran Aberystwyth

28. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. Eiry Price 2. Rhys Meilyr 3. Robin Gruffudd Hughes

29. Unawd Soprano 25 oed a throsodd 1. Sara Davies, Llandysul 2. Joy Cornock, Talyllychau 3. Eiry Price, Pwllheli

30. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Uwchdenor 25 oed a throsodd 1. Ceri Haf Roberts, Dinbych 2. Helen Jones, Crai 3. Jennifer Parry, Aberhonddu

31. Unawd Tenor 25 oed a throsodd 1. Elis Jones, Rhuthun 2. Efan Williams, Lledrod 3. Aled Wyn Thomas, Llanwnnen

32. Unawd Bariton / Bas 25 oed a throsodd 1. Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn 2. Siôn Eilir Roberts, Rhuthun 3. Kees Huysmans, Llanbedr Pont Steffan

33. Gwobr Goffa David Ellis: Y Rhuban Glas 1. Ceri Haf Roberts, Dinbych

34. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd 1. Vernon Maher 2. Glynn Morris 3. Gwynne Jones

35. Unawd Lieder / Cân Gelf 25 oed a throsodd 1. Elis Jones, Rhuthun 2. Efan Williams, Lledrod 3. Peter Totterdale, Blaendulais, Castell-nedd

36. Unawd Lieder / Cân Gelf o dan 25 oed 1. Rhys Meilyr, Llangefni 2. Kathy Macaulay, Caerdydd 3. Llinos Haf Jones, Penarth

37. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd 1. Owain Rowlands, Llandeilo 2. Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn 3. Gwyn Morris, Aberteifi

38. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Lisa Dafydd, Rhuthun 2. Tesni Jones, Llanelwy 3. Glesni Rhys Jones, Bodedern

39. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Uwchdenor 19 ac o dan 25 oed 1. Llinos Haf Jones 2. Erin Swyn Williams

40. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Rhys Meilyr, Llangefni 2. Rhys Archer, Y Fflint

41. Unawd Bariton / Bas 19 ac o dan 25 oed 1. Owain Rowlands 2. Tomos Heddwyn Griffiths 3. Daniel O'Callaghan

42. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas 1. Lisa Dafydd, Rhuthun 2. Owain Rowlands, Llandeilo 3. Llinos Haf Jones, Penarth 4. Rhys Meilyr, Llangefni

43. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd 1. Cai Fôn Davies 2. Fflur Davies 3. Taylah James

44. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts 1. Fflur Davies

45. Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed 1. Lili Mohammad 2. Nansi Rhys Adams 3. Manw Robin

46. Unawd i Ferched 16 ac o dan 19 oed 1. Eiriana Jones-Campbell 2. Lea Morus Williams 3. Lili Mohammad

47. Unawd i Fechgyn 16 ac o dan 19 oed 1. Twm Tudor 2. Ynyr Lewys Rogers 3. Iolo Tomos Evans

48. Unawd i Ferched 12 ac o dan 16 oed 1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Branwen Medi Jones 3. Beca Marged Hogg

49. Unawd i Fechgyn 12 ac o dan 16 oed 1. Ioan Joshua Mabbutt 2. Peredur Hedd Llywelyn 3. Trystan Bryn Evans

50. Unawd o dan 12 oed 1. Cari Lovelock 2. Lili Myrddin 3. Anest Gwilym Jones

51. Gwobr Goffa Eleri Evans Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano Enillydd: Joseph Cavalli-Price

52. Grŵp Offerynnol Agored 1. Ensemble Taf, Caerdydd 2. Parti'r Efail, Llanrhystud

53. Deuawd Offerynnol Agored 1. Aisha a Mared 2. Deuawd Taf 3. Soffia ac Elenor

54. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd 1. Mared Emyr Pugh-Evans

55. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd 1. Mali Gerallt Lewis 2. Lleucu Parri

56. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd 1. Hannah Lowri Roberts

59. Unawd Telyn 19 oed a throsodd 1. Mared Emyr Pugh-Evans 2. Aisha Gwyneth Palmer 3. Anwen Mai Thomas

61. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Charlotte Kwok

62. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed 1. Chris Sabisky

63. Unawd Llinynnau 16 ac o dan 19 oed 1. Soffia Nicholas 2. Rémy Segrott 3. Carwyn Lloyd

64. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed 1. Charlotte Kwok 2. Lefi Aled Dafydd 3. Beca Lois Keen 3. Lisa Morgan

65. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed 1. Glyn Porter

66. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed 1. Efa Peak 2. Heledd Wynn Newton 3. Chris Sabisky 3. Emma Cerys Buckley

68. Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed 1. Cerys Angharad

69. Unawd Chwythbrennau o dan 16 oed 1. Lea Mererid Roberts 2. Catrin Edwards

72. Unawd Offerynnau Pres o dan 16 oed 1: Ianto Caradog Evans

83. Tlws Coffa Lois Blake 1. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin 2. Dawnswyr Nantgarw, Pontypridd

85. Parti Dawnsio Gwerin o dan 25 oed 1. Dawnswyr Talwenog, Sir Gaerfyrddin 2. Bro Taf, Morgannwg Ganol 3. Dawnswyr Penrhyd, Rhydaman

86. Dawns Stepio i Grŵp 1. Bro Taf, Pontypridd 2. Dawnswyr Talwin, Sir Gaerfyrddin 3. Dawnswyr Seithenyn, Aberystwyth

87. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio 1. Daniel a Morus,Creigiau, Caerdydd 2. Mared Esyllt Evans a Cadi Fflur Evans, Tre-lech 3. Enlli a Lleucu, Caerdydd

88. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 18 oed a Throsodd 1. Daniel Calan Jones, Caerdydd 2. Elwyn Williams, Caerdydd 3. Ioan Wyn Williams, Caerdydd

89. Dawns Stepio Unigol i Ferched 18 oed a Throsodd 1. Lleucu Parri, Caerdydd 2. Cadi Fflur Evans, Tre-lech 3. Sara Brown, Llanpumsaint

90. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn o dan 18 oed 1. Morus Jones 2. Dion Jones 3. Abel Rees

91. Dawns Stepio Unigol i Ferched o dan 18 oed 1. Elen Morlais Williams 2. Erin Jones 3. Esther Defis

94. Dawns Greadigol/ Gyfoes Unigol 1. Elin Lloyd 2. Amy Morgan 3. Alisha Teasdale

95. Dawns Greadigol Gyfoes 1. The Studio

96. Dawns Aml-gyfrwng i Bâr neu Driawd mewn unrhyw arddull 1. Elin, Alisha a Rose 2. Anna ac Amy 3. Caitlin ac Asha

97. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd 12 oed a throsodd 1. Jessica Sier

98. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd o dan 12 oed 1. Olly Louis Fraser Jones 2. Francessca Cooper

99. Dawns Disgo/Hip Hop/Stryd i Bâr neu Driawd 1. Gwen Rowley ac Awen Pritchard

100. Dawns Disgo/Hip Hop/Stryd i Grŵp 1. Y Cellwair Gwyllt 2. Y Drych 3. Ysgol Bro Pedr

Alawon Gwerin

golygu

101. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer 1. Côr yr Heli, Llyn, Eifionydd a Chaernarfon 2. Côr Merched Canna, Caerdydd 3. Côr Gwerin Ger y Lli, Aberystwyth

102. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer 1. Merched Soar 2. Staff Ysgol Bro Teifi 3. Lodesi Dyfi

103. Parti Alaw Werin dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Adran Aberystwyth 2. Merched Plastaf 3. Aelwyd Yr Ynys

104. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 21 oed a throsodd 1. Llinos Haf Jones, Penarth 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Carys Hâf, Caio

105. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed 1. Lili Mohammad 2. Sophie Jones 3. Cadi Gwen Williams

106. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed 1. Branwen Medi Jones 2. Ela Mablen Griffiths-Jones 3. Nia Menna Compton

107. Unawd Alaw Werin o dan 12 oed 1. Gwennan Lloyd Owen 2. Cari Lovelock 3. Nêst Mars-Lloyd

108. Perfformiad Gwreiddiol 1. Ysgol Glanaethwy

109. Grŵp Offerynnol neu offerynnol a lleisiol Cydradd gyntaf: Parti'r Efail a Sesiynwyr Clera

110. Unawd ar unrhyw offeryn gwerin 1. Alwena Mair Owen 2. Heledd Davies 3. Angharad Fflur Thomas

111. Cyflwyno Cân Werin hunangyfeiliant 1. Rhiannon O'Connor

Dysgwyr

golygu

118. Côr Dysgwyr rhwng 13 a 40 mewn nifer 1. Côr Dysgwyr Ceredigion 2. Côr DAW (Dysgwyr Ardal Wrecsam) 3. Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro 4. Côr Cyd Aberystwyth

119. Parti Canu, hyd at 12 mewn nifer 1. Parti Cyd Aberystwyth 2. Côr Bach DAW

120. Ymgom 1. Grwp y Llannau 2. John Pearman

121. Cyflwyniad Grŵp, hyd at 5 munud ar destun 'Fy ardal i' 1. Grwp Diane

123. Unawd lleisiol 1. Sarah Bee

Llefaru

golygu

132. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer 1. Côr Sarn Helen,Llanbedr Pont Steffan, Llandysul ac Aberaeron 2. Côr Merched Tawe, Pontarddulais a'r Cyffiniau 3. Lleisiau Cafflogion, Efailnewydd a Llanaelhaearn

133. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer 1. Aelwyd Cwm Rhondda 2. Parti Man a Man 3. Lleisiau RhymniCwm

134. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsodd 1. Siôn Jenkins, Llandysilio, Sir Benfro

135. Llefaru Unigol Agored 1. Cai Fôn Davies, Bangor 2. Daniel O'Callaghan, Pwll-trap 3. Meleri Morgan, Bwlch-llan

136. Perfformio Darn Digri Agored 1. Gwion Dafydd Bowen 2. Mair Jones 3. Rhys Owen Jones

138. Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed 1. Owain Siôn 2. Zara Evans 3. Erin Swyn Williams

139. Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed 1. Beca Dwyryd 2. Erin Llwyd 3. Ela Mablen Griffiths-Jones

140. Llefaru Unigol o dan 12 oed 1. Awel Grug Lewis 2. Meia Elin Evans 3. Gwennan Lloyd Owen

141. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd 1. Steffan Alun Leonard 2. Lisa Jones 3. Daniel O'Callaghan

142. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur o dan 16 oed 1. Mai Owen 2. Olwen Roberts 3. Trystan Bryn Evans

Theatr

golygu

168. Actio Drama neu Waith Dyfeisiedig 1. Cwmni Drama'r Gwter Fawr 2. Cwmni Drama Licris Olsorts

169. Actor Gorau Cystadleuaeth 168 1. Gweni King

170. Cyfarwyddwr Gorau Cystadleuaeth 168 1. Mel Morgans

171. Gwobr Richard Burton 19 oed a throsodd 1. Cedron Sion

172. Deialog 1. Zara Evans a Megan Dafydd, Tregaron / Llangeitho 2. Ela Mablen Griffiths-Jones a Swyn Efa Tomos, Cwrt-newydd / Pencarreg

173. Monolog 16 ac o dan 19 oed 1. Owain Siôn 2. Manw Robin 3. Glain Llwyd Davies

174. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Swyn Efa Tomos 2. Mai Owen 3. Neli Rhys


Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwyn Nicholas yn ennill Medal Goffa Syr TH Parry-Williams. Eisteddfod Genedlaethol (20 Mai 2022). Adalwyd ar 1 Awst 2022.
  2. Lluniau Dydd Sadwrn: Eisteddfod Ceredigion , BBC Cymru Fyw, 30 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd ar 31 Gorffennaf 2022.
  3. Eisteddfod: Covid 'wedi cael effaith' ar faint sy'n cystadlu , BBC Cymru Fyw, 30 Gorffennaf 2022.
  4.  Cyrraedd y Maes (31 Gorffennaf 2022). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2022.
  5. 'Siom' yr Eisteddfod Genedlaethol wedi 'twyll' tocynnau am ddim , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2022.
  6. Elin Jones: 'Gorhawlio' tocynnau Eisteddfod 'wedi'i setlo' , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2022.
  7. Yr Eisteddfod “wedi mynd ar ofyn” syrcas yn sgil diffyg adeiladau , Golwg360, 31 Gorffennaf 2022.
  8. 'Mesurau mewn lle' i ddelio â glaw ar y maes , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2022.
  9. Llŷr Gwyn Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2022.
  10.  Llyr Gwyn Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion. Eisteddfod Genedlaethol (5 Awst 2022).
  11. Eisteddfod Genedlaethol 2022: Esyllt Maelor yn ennill y Goron , BBC Cymru Fyw, 1 Awst 2022.
  12. Meinir Pierce Jones yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen , BBC Cymru Fyw, 2 Awst 2022.
  13. Sioned Erin Hughes yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Ceredigion , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2022.
  14. Eisteddfod 2022: Edward Rhys-Harry yn ennill Tlws y Cerddor , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2022.
  15. Eisteddfod 2022: Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama , BBC Cymru Fyw, 4 Awst 2022.

Dolenni allanol

golygu