Hywel Ystorm

clerwr, neu fardd gogan

Bardd Cymraeg a gysylltir â de Cymru oedd Hywel Ystorm (fl. ail hanner y 14g?).[1]

Hywel Ystorm
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ni wyddys nemor dim amdano. Mae'r Dr John Davies o Fallwyd yn cynnig y dyddiad 1380 yn y rhestr o feirdd a luniwyd ganddo ar gyfer ei eiriadur enwog (Dictionarum Duplex, 1632). Ond does dim byd yn yr unig gerdd y gellir ei derbyn fel gwaith y bardd i ategu hynny.[1]

Anodd dweud ai epithed personol yw'r Ystorm yn ei enw neu enw lle. Ceir Stormy (Sturmieston) ym mlwyf Llandudwg, gorllewin Morgannwg, ond dyfaliad pur fyddai ei gysylltu â'r bardd.[1]

Dim ond un testun o waith Hywel Ystorm sydd wedi goroesi, sef dychan i un Addaf Eurych. Ar un adeg credid fod cerddi eraill sy'n ei dilyn yn Llyfr Coch Hergest yn waith y bardd hefyd, ond ni dderbynnir hyn bellach. Ceir darluniau trawiadol o oerni aelwyd Addaf a'i anfoesgarwch yn y gerdd honno. Mae'n bosibl mai bardd isradd - un o'r Glêr - oedd yr Addaf anffodus hwn.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Huw Meirion Edwards (gol.), Gwaith Prydydd Breuan a cherddi dychan eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2000). Rhagymadrodd.