Aber-porth

pentref a chymuned yng Ngheredigion
(Ailgyfeiriad o Aberporth)

Pentref a chymuned yng Ngheredigion, 10 km i'r gogledd-ddwyrain o Aberteifi, yw Aber-porth[1] neu Aberporth ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Aber-porth, Blaenannerch, Blaen-porth a Pharc-llyn.

Aber-porth
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,374 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,645.93 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.13°N 4.55°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000358 Edit this on Wikidata
Cod OSSN2549251448 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Ers 1938 mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn safle profi rocedi ym mhentref Parc-llyn gerllaw. Yn ddiweddar fe agorwyd 'Parc Aberporth', parc busnes sy'n bwriadu dod yn ganolfan profi awyrennau di-beilot.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Hanes golygu

Cododd y Sacson Gilbert de Clare gaer gadarn ar y mwnt gerllaw fel un o'i ymdrechion i goncro Ceredigion tua'r flwyddyn 1110.

Seliwyd gwaith y cymdeithasegydd David Jenkins ar astudiaeth o drigolion y pentref: mynychwyr dwy dafarn y pentref ar y naill law a'r capel ar y llall.

Carreg Bica golygu

Mae Carreg Bica yn graig eiconig ar Draeth y Dyffryn. Yn ystod Storm Brian, yn Hydref 2017, torrwyd darn anferthol ohoni.[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aber-porth (pob oed) (2,374)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aber-porth) (1,018)
  
44.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aber-porth) (1317)
  
55.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aber-porth) (513)
  
47%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 10 Awst 2023
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. cambrian-news.co.uk; Archifwyd 2017-11-09 yn y Peiriant Wayback. Y Cambrian News; adalwyd 30 Mai 2018.
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.