Sir
Uned llywodraeth leol yw sir neu swydd.
Etymoleg
golyguDaw'r gair 'sir' o'r Saesneg shire.[1] Mae'r gair 'shire' yn hŷn na'r term mwy cyffredin am sir yn y Saesneg heddiw, sef county ac yn deillio o drefn llywodraeth leol Eingl-Sacsoneg.[2] Mae'r term 'county' yn deillio o'r Hen Ffrangeg conté neu cunté sy'n dynodi awdurdodaeth o dan sofraniaeth 'count' (iarll) neu viscount (is-iarll).[3] Diddorol yw nodi bod y gair Cymraeg 'iarll' yn dod o'r Hen Norseg, jarl a gwelir wrth yn y Saesneg fel 'earldom'.
Siroedd Cymru
golyguRoedd gan Gymru ei system llywodraeth leol gynhenid ei hun lle trefnwyd is-adrannau gweinyddol fewn i: Cantref (lluosog: cantrefi) a Cwmwd (lluosog: cymydau).
Gyda'r goncwest Seisnig yn gyntaf crëwyd saith sir newydd wedi lladd Llywelyn ap Gruffudd yn 1282 a meddiannu ei diroedd (Sir Fôn, Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin i ychwanegu ar Sir Benfro a grëwyd yn sir yn 1138. Yna wedi'r Deddfau Uno Cymru a Lloegr crëwyd y gweddill o'r 'Hen Siroedd' sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog, Sir Forgannwg a Sir Fynwy o hen Arglwyddiaethau'r Mers.
Ad-drefnwyd hen siroedd Cymru wedi Deddf Llywodraeth Leol 1972 ac yn 1974 i crëwyd wyth sir newydd: Gwynedd, Clwyd, Powys, Dyfed, Gorllewin Morgannwg, De Morgannwg, Morgannwg Ganol, a Gwent. O dan y cynghorau sir yma roedd cynghorau dosbarth gyda sawl un wedi ei seilio ar yr hen siroedd blaenorol e.e. Cyngor Dosbarth Ceredigion.
Wedi Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 cafwyd ad-drefniad arall gan greu 22 uned lywodraeth leol a elwir yn awdurdodau unedol neu, ar lafar ac yn swyddogol, yn 'Sir' neu 'Bwrdeistref Sirol'.
Rhyngwladol
golyguYn wahanol i unedau llywodraeth leol eraill fel Llywodraethiaethau sydd bellach yn dueddol o'i cysylltu ag elfen o apwyntio Llywodraethwyr gan y llywodraeth ganolog neu filwrol, mae i'r cysyniad o sir awgrymiad cryfach o lywodraeth ddemocrataidd wedi ei hethol yn lleol a gydag hawliau yn annibynnol o'r canol.
Er bod y term yn cael ei gysylltu'n bennaf â gwledydd Prydain ac Iwerddon, ceir siroedd/swyddi, neu unedau sy'n cyfateb yn agos iddynt, mewn sawl gwlad, yn cynnwys:
Gweler hefyd
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ sir. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
- ↑ https://www.visionofbritain.org.uk/types/type_page.jsp?unit_type=ANC_CNTY
- ↑ The Oxford Dictionary of English Etymology, C. W. Onions (Ed.), 1966, Oxford University Press