Llys-wen

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Bronllys, Powys, Cymru, yw Llys-wen[1] (hefyd Llyswen).[2] Fe'i lleolir yn ardal Brycheiniog tua hanner ffordd rhwng Y Gelli ac Aberhonddu. Saif Llys-wen ar lan Afon Gwy ar y briffordd A470 sy'n cysylltu Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt. Y pentref agosaf yw Pipton, i'r dwyrain.

Llys-wen
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0336°N 3.2667°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO129384 Edit this on Wikidata
Cod postLD3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Eglwys golygu

Ceir Eglwys y Santes Wenna yn y pentref, a sefydlwyd gan y Normaniaid. Ad-adeiladwyd yr hen eglwys yn gyfangwbl yn 1862 a dim ond y bedyddfaen Normanaidd sy'n aros o'r eglwys wreiddiol.

 
Eglwys y Santes Wenna

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.