Aberedw

pentref a chymuned ym Mhowys

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Aberedw.[1][2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Gwy, lle mae Afon Edw yn ymuno â hi, ychydig i'r de-ddwyrain o dref Llanfair-ym-Muallt. Ceir olion castell yma, a adeiladwyd tua 1284, ond dinistriwyd llawer ohono i wneud lle i'r rheilffordd. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o tua'r 14g, i sant Cewydd.

Aberedw
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth229 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,054.88 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.1167°N 3.35°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000248 Edit this on Wikidata
Cod OSSO080476 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Cysylltir yr ardal a'r digwyddiadau yn Rhagfyr 1282 pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri. Dywedir i Lywelyn lochesu ger Aberedw, ac mae ogof gerllaw a elwir yn Ogof Llywelyn.

Heblaw pentref Aberedw, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanbadarn Garreg a Rhiwlen. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 219.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberedw (pob oed) (229)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberedw) (25)
  
11.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberedw) (113)
  
49.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Aberedw) (31)
  
29.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]