Alexander Alekhine

Roedd Alexander Aleksandrovich Alekhine (31 Hydref (19 Hydref ar y pryd yn Rwsia), 189224 Mawrth 1946) yn chwaraewr gwyddbwyll o Rwsia a Ffrainc a ddaeth yn bedwerydd Pencampwr Gwyddbwyll y Byd, teitl a ddaliodd dros ddau deyrnasiad.

Alexander Alekhine
Ganwyd31 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
o choking Edit this on Wikidata
Estoril Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd, Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Saint Petersburg
  • Prifysgol Paris
  • Imperial School of Jurisprudence Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, chess theoretician, llenor, cyfreithegwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Saint Petersburg Edit this on Wikidata
TadAlexander Alekhin Edit this on Wikidata
MamQ110300139 Edit this on Wikidata
PriodGrace Alekhine Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd, pencampwr gwyddbwyll y byd, Order of Saint Stanislaus (House of Romanov) Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonFfrainc, Rwsia Edit this on Wikidata

Erbyn iddo gyrraedd ei ddwy-ar-hugain, roedd Alekhine ymhlith y chwaraewyr gwyddbwyll cryfaf yn y byd. Yn ystod y 1920au, enillodd y rhan fwyaf o'r twrnameintiau lle cystadlodd. Ym 1921, gadawodd Alekhine y Rwsia Sofietaidd ac ymfudodd i Ffrainc, gan chwarae dros Ffrainc ar ôl 1925. Ym 1927, daeth yn bedwerydd Pencampwr Gwyddbwyll y Byd trwy drechu José Raúl Capablanca .

Yn y 1930au cynnar, roedd Alekhine yn tra-arglwyddiaethu chwarae twrnamaint ac enillodd dau o'r radd flaenaf ymhell ar y blaen i'w gyd-chwaraewyr. Bu'n chwarae bwrdd un i Ffrainc mewn pum Olympiad Gwyddbwyll, gan ennill gwobrau unigol ym mhob un (pedair medal a gwobr ddisgleirdeb).

Cynigiodd Alekhine ail-chwarae Capablanca ar yr un telerau heriol ag yr oedd Capablanca wedi'u gosod ar ei gyfer ef, a llusgodd y trafodaethau ymlaen am flynyddoedd a ddod i ddim. Yn y cyfamser, amddiffynnodd ei deitl yn hawdd yn erbyn Efim Bogoljubov ym 1929 a 1934. Fe'i drechwyd gan Max Euwe yn 1935, ond ad-enillodd ei goron yn yr ail ornest ym 1937. Roedd ei record twrnamaint, fodd bynnag, yn anwastad, ac roedd sêr ifanc fel Paul Keres, Reuben Fine, a Mikhail Botvinnik yn bygwth ei deitl. Cafodd y trafodaethau ar gyfer gêm deitl gyda Keres neu Botvinnik eu hatal pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop ym 1939. Roedd trafodaethau gyda Botvinnik ar gyfer gêm teitl byd ar y gweill ym 1946 pan fu farw Alekhine ym Mhortiwgal. Ef yw'r unig Bencampwr Gwyddbwyll y Byd sydd wedi marw tra'n dal y teitl.

Mae Alekhine yn adnabyddus am ei arddull ymosodol ffyrnig llawn dychymyg, ynghyd â'i sgiliau gwych sefyllfaol ac yn y diweddglo. Mae'n uchel ei barch fel awdur a damcaniaethwr gwyddbwyll, ac wedi datblygu amrywiadau newydd mewn ystod eang o agoriadau gwyddbwyll ac wedi rhoi ei enw i 'Amddiffyniad Alekhine' a sawl amrywiad agoriadol arall. Cyfansoddodd hefyd astudiaethau ar y diweddglo.

Bywgraffiad

golygu

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Alekhine i deulu cyfoethog ym Moscow, Rwsia, ar 31 Hydref, 1892. Roedd ei dad, Alexander Ivanovich Alekhine, yn dirfeddiannwr ac yn Gyfrin Gynghorydd i'r Pedwerydd Dwma deddfwriaethol ceidwadol. Roedd ei fam, Anisya Ivanovna Alekhina (g. Prokhorova), yn ferch i ddiwydiannwr cyfoethog. Dysgodd chwarae gwyddbwyll gyda'i fam, ei frawd hŷn Alexei, a'i chwaer hŷn Varvara.

Ei yrfa gwyddbwyll gynnar (1902-1914)

golygu
 
Alekhine ym 1909

Mae gêm gyntaf Alekhine sy'n hysbys yn dod o dwrnamaint 'gwyddbwyll post' a ddechreuodd ar 3ydd o Ragfyr, 1902 ac yntau yn ddeg oed. Cymerodd ran mewn sawl twrnamaint post, a noddwyd gan y cylchgrawn gwyddbwyll Shakhmatnoe Obozrenie ("Adolygiad Gwyddbwyll"), rhwng 1902 a 1911. Ym 1907, chwaraeodd ei dwrnamaint wrth y bwrdd cyntaf, twrnamaint gwanwyn clwb gwyddbwyll Moscow. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, gorffennodd yn gydradd 11-13fed yn nhwrnamaint hydref y clwb; gyda'i frawd hynaf, Alexei yn gydradd 4-6ed. Ym 1908, enillodd Alexander dwrnamaint gwanwyn y clwb, tra'n bymtheg oed. Ym 1909, enillodd Dwrnamaint Amatur Rwsia-Gyfan yn St Petersburg. Yn ystod y blynyddoedd nesaf, chwaraeodd mewn twrnameintiau cryfach, rhai ohonynt y tu allan i Rwsia. Ar y dechrau cafodd ganlyniadau cymysg, ond erbyn ei fod yn un-ar-bymtheg roedd yn un o brif chwaraewyr Rwsia. Chwaraeodd ar fwrdd un mewn dwy gêm tîm cyfeillgar: Clwb Gwyddbwyll St Petersburg vs. Clwb Gwyddbwyll Moscow ym 1911 a Moscow vs.St Petersburg ym 1912 (gan haneru gydag Yevgeny Znosko-Borovsky). Tua diwedd 1911, symudodd Alekhine i St. Petersburg, lle mynychodd Ysgol Imperial y Gyfraith ar gyfer Uchelwyr. Erbyn 1912, ef oedd y chwaraewr gwyddbwyll cryfaf yng nghymdeithas gwyddbwyll St. Petersburg. Ym mis Mawrth, 1912 enillodd dwrnamaint gaeaf clwb gwyddbwyll St Petersburg. Ym mis Ebrill, 1912 enillodd dwrnamaint Categori Un clwb gwyddbwyll St Petersburg. Ym mis Ionawr, 1914 enillodd Alekhine ei dwrnamaint Rwsiaidd mawr cyntaf, yn gydradd-gyntaf gydag Aron Nimzowitsch yn Nhwrnamaint Meistri Rwsia-Gyfan yn St. Petersburg,. Wedi hynny, cafodd gêm gyfatal wrth chwarae am y wobr gyntaf.(enillodd y ddau un gêm). Chwaraeodd Alekhine sawl gornest yn y cyfnod hwn hefyd, ac roedd ei ganlyniadau yn dangos yr un patrwm: cymysg ar y dechrau ond yn gwella'n ddiweddarach..

Uwchfeistr lefel uchaf (1914-1927),

golygu

Yn ystod Ebrill a Mai, 1914 cynhaliwyd twrnamaint gwyddbwyll mawr arall yn St. Petersburg, prifddinas yr Ymerodraeth Rwsiaidd ar y pryd, a gorffennodd Alekhine yn drydydd tu ôl i Emanuel Lasker a José Raúl Capablanca. Yn ôl rhai sylwebyddion, Urddodd Tsar Nicholas II bob un o'r pum chwaraewyr yn y rownd derfynol (Lasker, Capablanca, Alekhine, Siegbert Tarrasch, a Frank Marshall) yn Uwchfeistr Gwyddbwyll. Mae’r hanesydd gwyddbwyll Edward Winter yn amau hyn, gan nodi mai’r ffynonellau cynharaf y gwyddys amdanynt sy’n cefnogi’r stori hon yw erthygl gan Robert Lewis Taylor yn rhifyn Mehefin 15, 1940 o'r The New Yorker a hunangofiant Marshall My 50 Years of Chess (1942). ) Gwnaeth lwyddiant rhyfeddol Alekhine yn y twrnamaint hwn ef yn gystadleuydd go iawn am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd. Os y dyfarnwyd y teitl yn ffurfiol iddo ai peidio, "Diolch i'r perfformiad hwn, daeth Alekhine yn Uwchfeistr yng ngolwg ei hun ac yng ngolwg y gynulleidfa." Ym mis Gorffennaf, 1914 daeth Alekhine yn gydradd gyntaf gyda Marshall ym Mharis.

Y Rhyfel Byd Cyntaf a Rwsia ar ôl y chwyldro

golygu

Yng Ngorffennaf- Awst 1914, roedd Alekhine ar y blaen yn Nhwrnamaint rhyngwladol Mannheim, 19fed Cyngres y DSB (Cyngres Ffederasiwn Gwyddbwyll yr Almaen) yn Mannheim, Yr Almaen, gyda naw buddugoliaeth, un gêm gyfartal ac un golled, pan gychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwobr Alekhine oedd 1,100 marc (gwerth tua 11,000 ewro erbyn heddiw). Ar ôl datganiad o ryfel yn erbyn Rwsia, carcharwyd un-ar-ddeg o chwaraewyr " Rwseg " ( Alekhine, Efim Bogoljubov, Fedor Bogatyrchuk, Alexander Flamberg, N. Koppelman, Boris Maliutin, Ilya Rabinovitch. Peter Romanovsky, Pyotr Saburov, Alexey Selezniev a Samuil Wein) yn Rastatt, Yr Almaen. Ar 14, 17 a 29 Medi, 1914, rhyddhawyd pedwar ohonynt (Alekhine, Bogatyrchuk, Saburov, a Koppelman) a chaniatawyd iddynt ddychwelyd adref. Dychwelodd Alekhine i Rwsia (trwy'r Swistir, Yr Eidal, Llundain, Sweden a'r Ffindir) ym mis Hydref, 1914. Rhyddhawyd pumed chwaraewr, Romanovsky, ym 1915, a cafodd Flamberg, fynd yn ôl i Warsaw ym 1916.

Ar ôl ddychwelyd i Rwsia, bu'n helpu codi arian trwy roi arddangosfeydd ar-y-pryd i gynorthwyo'r chwaraewyr gwyddbwyll oedd yn dal yn garcharorion yn Yr Almaen. Ym mis Rhagfyr, 1915 enillodd Bencampwriaeth Clwb Gwyddbwyll Moscow. Ym mis Ebrill, 1916 enillodd ornest fach yn erbyn Alexander Evensohn gyda dwy fuddugoliaeth ac un golled yn Kiev, ac yn yr haf gwasanaethodd yn Undeb y Dinasoedd (Y Groes Goch) ar ffrynt Awstria. Ym mis Medi, chwaraeodd bump o bobl tra'n gwisgo mwgwd am ei lygaid mewn ysbyty milwrol Rwsiaidd yn Tarnopol. Ym 1918, enillodd "twrnamaint trionglog" ym Moscow. Ym mis Mehefin y flwyddyn ganlynol, ar ôl i'r Rwsia orfodi byddin Yr Almaen i gilio o'r Wcráin, cyhuddwyd Alekhine o gysylltiadau â heddlu cudd y 'Gwynion' a carcharwyd ef am gyfnod byr yng nghell angau Odessa gan y 'Cheka'. Bu sibrydion yn y Gorllewin ei fod wedi ei ladd gan y Bolsieficiaid .

1920–1927

golygu

Wedi i bethau yn Rwsia sefydlogi, profodd Alekhine ei fod ymhlith chwaraewyr gorau'r wlad. Ym mis Ionawr, 1920 ysgubodd Bencampwriaeth Moscow gan sgorio 11/11, ond ni chafodd ei ddatgan yn bencampwr am nad oedd yn byw yn y ddinas. Ym mis Hydref, 1920 enillodd yr Olympiad Gwyddbwyll Rwsia-Gyfan ym Moscow (+9, −0, =6); yn ddiweddarach ail-alwyd y twrnamaint hwn yn Bencampwriaeth gyntaf yr Undeb Sofietaidd. Gorffennodd ei frawd Alexei yn drydydd yn y twrnamaint ar gyfer amaturiaid.

Ym mis Mawrth, 1920 priododd Alekhine gydag Alexandra Batayeva ond bu iddynt ysgaru y flwyddyn ganlynol. Am gyfnod byr ym 1920-21 bu'n gweithio fel cyfieithydd ar y pryd i'r Comiwnyddion Rhyngwladol (Y 'Comintern') a penodwyd ef yn ysgrifennydd i'r Adran Addysg. Yn rhinwedd y swydd hon, cyfarfu â newyddiadurwraig o'r Swistir a chynrychiolydd y Comintern, Annelisse Ruegg, oedd dair- blynedd-ar ddeg yn hŷn nag ef, a phriodasant ar 15 Mawrth, 1921. Yn fuan wedyn, cafodd ganiatâd i adael Rwsia am ymweliad â'r Gorllewin gyda'i wraig. Ni ddychwelodd. Ym Mehefin, 1921 gadawodd ei ail wraig ym Mharis ac aeth i Berlin.  

Ym 1921-1923, chwaraeodd Alekhine saith gornest fach. Ym 1921, curodd Nikolay Grigoriev (+2, −0, =5) ym Moscow, ac ym Merlin cafodd gêm gyfartal gyda Richard Teichmann (+2, −2, =2) ac ennill yn erbyn Friedrich Samisch (+2, −0, =0). Ym 1922, bu'n fuddugol yn erbyn Ossip Bernstein (+1, −0, =1) Arnold Aurbach (+1, −0, =1), y ddau ym Mharis, a Manuel Golmayo (+1. −0. =1) ym Madrid . Ym 1923, enillodd yn erbyn Andre Muffang (+2, −0, =0) ym Mharis.

Rhwng 1921 a 1927, enillodd neu daeth yn gydradd gyntaf mewn tua dwy ran o dair o'r holl dwrnameintiau y chwaraeodd ynddynt. Ei ymdrechion lleiaf llwyddiannus oedd dod yn drydydd yn Fienna, 1922 tu ôl i Akiba Rubenstein a Richard Reti, trydydd yn nhwrnamaint gwyddbwyll Efrog Newydd ym 1924, tu ôl i'r cyn-bencampwr Emanuel Lasker a phencampwr newydd y byd José Raúl Capablanca (ond ar y blaen i Frank Marshall, Richard Reti, Geza Maroczy, Efim Bogoljubov, Savielly Tartakower, Frederick Yates, Edward Lasker, a Dawid Janowski). Yn dechnegol, roedd chwarae Alekhine ar y cyfan yn well na chwarae ei gystadleuwyr — hyd yn oed Capablanca — ond nid oedd ganddo ddigon o hyder tra'n chwarae ei brif gystadleuwyr.

Prif nod Alekhine trwy gydol y cyfnod hwn oedd trefnu gornest gyda Capablanca. Credai nad chwarae Capablanca oedd y rhwystr mwyaf ond y gofyniad o dan "Rheolau Llundain" 1922 i'r heriwr godi pwrs o $10,000 (~$162,000 yn mhres 2022 ), byddai'r pencampwr yn derbyn dros hanner yr arian hyd yn oed pe collai. Heriodd Alekhine Capablanca ym mis Tachwedd, 1921 a heriodd Rubinstein a Nimzowitsch ef ym 1923, ond ni allai'r un godi'r $10,000.  Codi'r arian oedd nod Alekhine; ac aeth ar daith, gan chwarae arddangosfeydd ar-y-pryd am dâl cymedrol ddydd ar ôl dydd. Yn Efrog Newydd ar 27 Ebrill, 1924, torrodd record y byd am chwarae ar-y-pryd gyda mwgwd pan chwaraeodd chwech-ar-hugain o wrthwynebwyr (pump-ar-hugain oedd y record flaenorol, a osodwyd gan Gyula Breyer), gan ennill un-ar-bymtheg o gemau, colli pump, a phump yn gyfartal, ar ôl deuddeg awr o chwarae. Torrodd ei record byd ei hun ar 1af Chwefror, 1925, gan chwarae wyth-ar-hugain o gemau ar-y-pryd gyda mwgwd ym Mharis, gan ennill dwy-ar-hugain, tair yn gyfartal, a tair colled.  

Ym 1924, ymgeisiodd am y tro cyntaf am fraint preswylydd yn Ffrainc, ac am ddinasyddiaeth Ffrengig tra'n dilyn ei astudiaethau yng Nghyfadran y Gyfraith y Sorbonne i ennill ei ddoethuriaeth. Nid oes unrhyw gofnod iddo gwblhau ei astudiaethau, ond roedd yn cael ei adnabod fel "Dr. Alekhine" yn y 1930au.

Gohiriwyd ei gais am ddinasyddiaeth yn Ffrainc oherwydd ei fynych deithiau tramor i chwarae gwyddbwyll ac oherwydd yr adroddwyd unwaith ym mis Ebrill, 1922 yn fuan ar ôl iddo gyrraedd Ffrainc, ei fod yn "bolsiefic a yrrwyd gan y Sofietiaid ar genhadaeth arbennig i Ffrainc". Yn ddiweddarach ym 1927, gofynnodd Ffederasiwn Gwyddbwyll Ffrainc i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ymyrryd o blaid Alekhine i'w gael yn gymwys i arwain tîm Ffrainc yn y Twrnamaint Cenedlaethol cyntaf oedd i'w gynnal yn Llundain ym mis Gorffennaf, 1927. Er hyn, bu’n rhaid i Alekhine aros am gyfraith newydd ar frodoriaeth a gyhoeddwyd ar 10 Awst, 1927. Llofnodwyd y Gorchymyn yn rhoi dinasyddiaeth Ffrengig iddo (ymhlith cannoedd o ddinasyddion eraill) ar 5 Tachwedd, 1927 a'i gyhoeddi yng Ngazette Swyddogol y Weriniaeth Ffrengig ar 14-15 Tachwedd. 1927, tra'r oedd Alekhine yn chwarae Capablanca am deitl Pencampwr y Byd ym Muenos Aires.

Ym mis Hydref, 1926, enillodd Alekhine ym Muenos Aires. Yn ystod Mis Rhagfyr 1926 a Mis Ionawr 1927, curodd Max Euwe 5½–4½ mewn gornest. Ym 1927, priododd ei drydedd wraig, Nadiezda Vasiliev (g. Fabritzky), gwraig hŷn arall, gweddw'r cadfridog Rwsiaidd V. Vasiliev.

Pencampwr Gwyddbwyll y Byd, Teyrnasiad Cyntaf (1927-1935)

golygu

Gornest am y teitl 1927

golygu

Ym 1927, cefnogwyd her Alekhine yn erbyn Capablanca gan grŵp o ddynion busnes o'r Ariannin ac arlywydd yr Ariannin, a warantodd yr ernes. Fe'i drefnwyd gan y Club Argentino de Ajedrez (Clwb Gwyddbwyll yr Ariannin) ym Muenos Aires. Yn yr ornest am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd a chwaraewyd rhwng 16ed Medi a 29ain Tachwedd, 1927 ym Muenos Aires, enillodd Alekhine y teitl, gan sgorio +6,−3, =25. Hon oedd yr ornest ffurfiol hiraf ym Mhencampwriaeth y Byd tan yr ornest enwog ym 1984 rhwng Anatoly Karpov a Garry Kasparov. Synnwyd y byd gwyddbwyll bron i gyd gan fuddugoliaeth Alekhine, gan nad oedd erioed wedi ennill yr un gêm yn erbyn Capablanca cyn hyn. Ar ôl marwolaeth Capablanca mynegodd Alekhine ei syndod am ei fuddugoliaeth, oherwydd nad oedd yn meddwl ei fod yn well na Capablanca ym 1927, ac awgrymodd fod Capablanca wedi bod yn or-hyderus. Aeth Capablanca i'r gêm heb unrhyw baratoi technegol na chorfforol, tra bod Alekhine mewn cyflwr corfforol da ac wedi astudio chwarae Capablanca yn drylwyr. Yn ôl Kasparov, datgelodd ymchwil Alekhine lawer o wallau bach, a ddigwyddodd oherwydd nad oedd Capablanca yn fodlon canolbwyntio'n ddwys. Dywed Vladimir Kramnik mai hon oedd y gystadleuaeth gyntaf lle na chafodd Capablanca unrhyw fuddugoliaethau hawdd.

Cynnig ail-chwarae

golygu

Yn syth ar ôl ennill yr ornest, cyhoeddodd Alekhine ei fod yn barod i chwarae ail ornest gyda Capablanca, ar yr un telerau ag yr oedd Capablanca wedi mynnu arnynt fel pencampwr: rhaid i'r heriwr ddarparu pwrs o $10,000, ac y byddai mwy na hanner ohono yn mynd i'r pencampwr hyd yn oed pe collai. Llusgodd trafodaethau ymlaen am nifer o flynyddoedd, yn aml yn chwalu pan oedd cytundeb yn ymddangos yn agos, ac aeth y perthynas rhyngddynt yn chwerw. Mynnai Alekhine ffioedd ymddangosiad llawer uwch ar gyfer twrnameintiau lle chwaraeai Capablanca hefyd, ac ni chwaraewyd ail ornest rhyngddynt. Ar ôl marwolaeth Capablanca ym 1942, ysgrifennodd Alekhine fod galw Capablanca am ernes o $10,000 wedi bod yn ymgais i osgoi heriau.

Ysgrifennodd yr Uwchfeistr Robert Byrne fod Alekhine yn hollol fwriadol yn ceisio gwrthwynebwyr salach ar gyfer ei ornestau pencampwriaeth dilynol, yn hytrach na rhoi cyfle arall i Capablanca.

Trechu Bogoljubov ddwywaith

golygu

Er na wnaeth gytuno ar delerau ar gyfer ail gêm yn erbyn Capablanca, chwaraeodd Alekhine ddwy ornest am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd gydag Efim Bogoljubov, ym 1929 a 1934, gan ennill yn gyffyrddus y ddau dro. Cynhaliwyd y cyntaf yn Wiesbaden, Heidelberg, Berlin, Yr Hâg, ac Amsterdam o fis Medi i fis Tachwedd, 1929 . Cadwodd Alekhine ei deitl, (gan sgorio +11, −5, =9). O fis Ebrill i fis Mehefin, 1934, chwaraeodd Alekhine gyda Bogoljubov drachefn mewn gornest am y Bencampwriaeth, a gynhaliwyd yn neuddeg o ddinasoedd Yr Almaen, gan orffen yn fuddugol eto, a sgorio +8, −3, =15. Yn ddeugain oed ym 1929, efallai fod Bogoljubov eisoes ar y ffordd i lawr.

Datganiadau gwrth-Bolsieficaidd

golygu

Ar ôl yr ornest am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd, dychwelodd Alekhine i Baris a siarad yn gyhoeddus yn erbyn Bolsieficiaeth. Yn dilyn hyn, cyhoeddodd Nikolai Krylenko, llywydd Ffederasiwn Gwyddbwyll Sofietaidd, femorandwm swyddogol yn nodi y dylid ystyried Alekhine yn 'elyn' y Sofietiaid. Torrodd y Ffederasiwn Gwyddbwyll Sofietaidd bob cysylltiad ag Alekhine tan ddiwedd y 1930au. Fe wnaeth ei frawd hŷn Alexei, oedd efo perthynas glos ag ef, ei farnu yn gyhoeddus a dilorni ei ymadroddion gwrth-Sofietaidd, ond efallai nad oedd ganddo fawr o ddewis ynglŷn â hyn.

Dechrau'r 1930au

golygu

Yn ôl Reuben Fine, roedd Alekhine yn tra-arglwyddiaethu'r byd gwyddbwyll hyd ganol y 1930au. Ei fuddugoliaethau twrnamaint enwocaf oedd yn Nhwrnamaint Gwyddbwyll San Remo ym 1930 (+13, =2, -0, 3½ pwynt o flaen Nimzowitsch yn ail) a Thwrnamaint Gwyddbwyll Bled ym 1931 (+15, =11, -0, 5½ pwynt ar y blaen i Bogoljubov yn ail). Enillodd y rhan fwyaf o'i dwrnameintiau eraill yn glir, daeth yn gydradd gyntaf mewn dau, a'r twrnamaint cyntaf y gorffennodd yn is na cyntaf ynddo oedd Hastings 1933-34 (lle gorffennodd yn gydradd ail, ½ pwynt tu ôl i Salo Flohr). Ym 1933, fe wnaeth ysgubo Rafael Cinton mewn gêm arddangos yn San Juan (+4, −0, =0), ond cafodd gêm arddangos cyfartal gydag Ossip Berstein ym Mharis (+1, −1, =2).

Rhwng 1930 a 1935, chwaraeodd Alekhine ar fwrdd un i Ffrainc mewn pedair Olympiad Gwyddbwyll, gan ennill y wobr ddisgleirdeb gyntaf yn Hamburg ym 1930, medalau aur ar bwrdd un ym Mhrâg ym 1931 a Folkestone ym 1933, a'r fedal arian ar bwrdd Un yn Warsaw ym 1935. Ei golled i Feistr o Latfia Hermanis Matisons ym Mhrâg ym 1931 oedd ei golled gyntaf mewn digwyddiad gwyddbwyll go iawn ers ennill pencampwriaeth y byd.  

Ym mlynyddoedd cynnar y 1930au, teithiodd Alekhine y byd yn chwarae arddanosfeydd ar-y-pryd, gan gynnwys yn Hawaii, Tokyo, Manila, Singapôr, Shanghai, Hong Cong, ac Indonesia. Ym mis Gorffennaf, 1933, chwaraeodd 32 o bobl ar-y-pryd tra'n gwisgo mwgwd (record byd newydd) yn Chicago, gan ennill pedair-ar-bymtheg, naw gêm gyfartal, a colli pedair.

Ym 1934 priododd Alekhine ei bedwaredd wraig, Grace Freeman (g. Wishar); oedd yn un-mlynedd-ar-bymtheg yn hŷn nag ef. Roedd hi yn wraig weddw a aned yn America i blannwr-te Prydeinig yn Ceylon, ac fe gadwodd ei dinasyddiaeth Brydeinig hyd ddiwedd ei hoes, a parhau yn wraig i Alekhine hyd ei farwolaeth.  

Yn nechrau'r 1930au cynnar, tua 1933 yn ôl Reuben Fine, sylwyd bod Alekhine yn yfed mwy a mwy o alcohol. Ysgrifennodd Hans Kmoch fod Alekhine wedi dechrau yfed yn drwm yn ystod y twrnamaint yn Bled ym 1931, ac wedi yfed yn drwm trwy gydol yr ornest ym 1934 yn erbyn Bogoljubov.

Colli Pencampwriaeth y Byd (1935-1937)

golygu
Alekhine yn siarad (1937)
 
Cipiodd Max Euwe Bencampwriaeth y Byd oddi wrth Alekhine ym 1935 ond collodd yr ail gêm ym 1937.

Ym 1933, heriodd Alekhine Max Euwe i gêm am Bencampwriaeth y Byd. Ystyriwyd bod Euwe, ar ddechrau'r 1930au, yn un o tri heriwr credadwy (y lleill oedd José Raúl Capablanca a Salo Flohr). Derbyniodd Euwe yr her ar gyfer Hydref, 1935. Yn gynharach y flwyddyn honno, gofynnodd y newyddiadurwr chwaraeon radio o'r Iseldiroedd, Han Hollander, i Capablanca am ei farn ar y gêm oedd i ddod. Mewn enghraifft brin o ffilm archifol, lle mae Capablanca ac Euwe ill dau yn siarad, mae Capablanca yn ateb: "Mae gêm Dr. Alekhine yn 20% bluff. Mae gêm Dr. Euwe yn glir ac yn syml. Nid yw gêm Dr. Euwe—mor gryf â gêm Alekhine mewn rhai ffyrdd—ond mae'n fwy cytbwys.” Yna mae Euwe yn rhoi ei asesiad yn Iseldireg, gan esbonio bod ei deimladau yn amrywio o optimistiaeth i besimistiaeth, ond yn ystod y deng mlynedd blaenorol, roedd y sgôr rhyngddynt yn gyfartal, sef 7-7.

Ar y 3ydd o Hydref, 1935 dechreuodd yr ornest am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd yn Zandvoort, yr Iseldiroedd. Er i Alekhine fynd ar y blaen ar y dechrau, o gêm 13 ymlaen enillodd Euwe ddwywaith cymaint o gemau ag Alekhine, a dod yn bencampwr newydd ar 16 Rhagfyr, 1935, (+9, =13, -8). Hon oedd yr ornest gyntaf am bencampwriaeth y byd lle cafwyd eilyddion swyddogol: cafodd Alekhine wasanaeth Salo Landau, ac roedd gan Euwe Geza Marcoczy. Roedd buddugoliaeth Euwe yn syndod mawr. Ysgrifennodd Kmoch nad oedd Alekhine yn yfed unrhyw alcohol am hanner cyntaf y gêm, ond yn ddiweddarach roedd yn yfed gwydraid cyn y rhan fwyaf o gemau. Ym marn Salo Flohr, a oedd hefyd yn cynorthwyo Euwe, gor-hyder oedd broblem fwyaf Alekhine yn y gêm hon, ac roedd Alekhine wedi proffwydo y byddai'n ennill yn hawdd. Yn ddiweddarach dadansoddodd Pencampwyr y Byd, Vasily Smyslov, Boris Spassky, Anatoly Karpov a Garry Kasparov yr ornest (er eu budd eu hunain) a daethant i'r casgliad bod Euwe wedi ennill yn haeddiannol a bod safon y chwarae yn deilwng o bencampwriaeth y byd.

Yn ôl Kmoch, ymatalodd Alekhine rhag alcohol yn gyfan gwbl am bum mlynedd ar ôl gornest 1935. Yn y flwyddyn a hanner wedi colli'i deitl, chwaraeodd Alekhine mewn deg o dwrnameintiau, gyda chanlyniadau anwastad: cydradd gyntaf gyda Paul Keres yn Bad Nauheim ym Mai, 1936; cyntaf yn Dresden ym Mehefin, 1936; ail i Flohr yn Podebrady ym mis Gorffennaf, 1936; chweched, tu ôl i Capablanca, Mikhail Botvinnik, Reuben Fine, Samuel Reshevsky, ac Euwe yn Nottingham yn Awst, 1936; trydydd, tu ôl i Euwe a Fine, yn Amsterdam ym mis Hydref, 1936; cydradd gyntaf gyda Salo Landau yn Amsterdam, hefyd yn Hydref, 1936; ym 1936/37 enillodd twrnamaint Y Flwyddyn Newydd yn Hastings, ar y blaen i Fine ac Erich Eliskases; yn fuddugol yn Nice ym mis Mawrth, 1937; yn drydydd, tu ôl i Keres a Fine, ym Margate yn Ebrill, 1937; cydradd bedwerydd gyda Keres, tu ôl i Flohr, Reshevsky a Vladimirs Petrovs, yn Kemeri yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf, 1937; a cydradd ail gyda Bogoljubow, tu ôl i Euwe, yn Bad Nauheim ym mis Gorffennaf, 1937.  

Pencampwr Gwyddbwyll y Byd, am yr ail dro (1937-1946)

golygu

1937–1939

golygu

Roedd Max Euwe yn gyflym iawn yn trefnu ail ornest gydag Alekhine: rhywbeth na allai José Raúl Capablanca gael gan Alekhine wedi iddo ef golli ym 1927. Cipiodd Alekhine y teitl yn ôl ym mis Rhagfyr, 1937 o gryn dipyn (+10, −4, =11). Yn yr ornest hon, a gynhaliwyd yn yr Iseldiroedd, eiliwyd Euwe gan Fine, ac Alekhine gan Erich Eliskases. Cafwyd gornest go iawn ar y ddechrau, ond cwympodd Euwe yn agos at y diwedd, a colli pedair o’r pum gêm ddiwethaf. Priodolodd Fine hyn i densiwn nerfol, a waethygwyd o bosibl gan ymdrechion Euwe i ymddangos yn ddigynnwrf. Ni chwaraeodd Alekhine ragor o gemau am y teitl, a bu'n Bencampwr hyd ei farwolaeth.

Dechreuodd 1938 yn dda i Alekhine, ac enillodd Dwrnamaint Gwyddbwyll Montevideo 1938 yn Carrasco (ym mis Mawrth) ac yn Margate (ym mis Ebrill), a gorffennodd yn gydradd gyntaf gyda Syr George Alan Thomas ym Mhlymouth (ym mis Medi). Ym mis Tachwedd, fodd bynnag, daeth yn gydradd 4ydd-6ed gydag Euwe a Samuel Reshevsky, tu ôl i Paul Keres, Reuben Fine, a Mikhail Botvinnik, o flaen Capablanca a Flohr, yn Nhwrnamaint AVRO yn yr Iseldiroedd. Chwaraewyd y twrnamaint am ychydig ddyddiau ar y tro mewn dinasoedd yn yr Iseldiroedd; ac efallai nad oedd yn syndod felly mai sêr y dyfodol a orffennodd yn gyntaf, ail, a thrydydd gan fod y teithio yn flinedig i'r chwaraewyr hŷn, er bod Fine yn diystyru'r esboniad hwn oherwydd bod y pellteroedd rhyngddynt yn fychan.

Yn syth ar ôl twrnamaint AVRO, heriodd Botvinnik, a oedd wedi gorffen yn drydydd, Alekhine i ornest ar gyfer Pencampwriaeth y Byd. Cytunwyd ar y gronfa arian o $10,000, gyda dwy ran o dair yn mynd i'r enillydd, a hefyd pe byddai'r gêm yn cael ei chynnal ym Moscow, y byddai Alekhine yn cael ei wahodd o leiaf dri mis ymlaen llaw fel y gallai chwarae mewn twrnamaint i gael paratoi ar gyfer yr ornest. Ni chytunwyd ar fanylion eraill cyn i ddechrau'r Ail Ryfel Byd dorri ar draws bob dim, ac ni ail-ddechreuwyd y trafodaethau hyd at ar ôl y rhyfel.

Heriodd Keres Alekine i gêm am Bencampwriaeth y Byd hefyd wedi iddo ennill twrnamaint AVRO, ar ôl curo'r gêm ailchwarae yn erbyn Fine. Cafwyd trafodaethau ym 1939 ond daeth popeth i ben efo'r Ail Ryfel Byd. Yn ystod y rhyfel goresgynnwyd gwlad enedigol Keres, Estonia, yn gyntaf gan yr Undeb Sofietaidd, yna gan Yr Almaen, ac yna eto gan yr Undeb Sofietaidd . Ar ddiwedd y rhyfel, rhwystrodd y llywodraeth Sofietaidd Keres rhag parhau â'r trafodaethau, ar y sail ei fod, yn eu tyb nhw o leiaf, wedi cydweithio â'r Almaen yn ystod eu teyrnasiad yn Estonia.

Roedd Alekhine yn cynrychioli Ffrainc ar fwrdd un yn yr 8fed Olympiad Gwyddbwyll ym Muenos Aires 1939 pan ddechreuodd Yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Cytunodd yr holl gapteiniaid tîm, o dan arweiniad Alekhine (Ffrainc), Tartakower (Gwlad Pwyl), ac Albert Becker (Yr Almaen), yn ogystal â llywydd Ffederasiwn Gwyddbwyll yr Ariannin, Augusto de Muro i ddal ymlaen gyda'r Olympiad.

Enillodd Alekhine y fedal arian unigol (+9, -0, =7), tu ôl i Capablanca (dim ond y canlyniadau o rowndiau terfynol A a B—ar wahân i'r ddwy adran—a gyfrifwyd ar gyfer y sgoriau unigol gorau). Yn fuan ar ôl Yr Olympiad, ysgubodd Alekhine dwrnameintiau yn Montevideo (7/7) a Caracas (10/10).

Ar ddiwedd mis Awst 1939, ysgrifennodd Alekhine a Capablanca at Augusto de Muro ynghylch gornest am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd. Roedd Capablanca'n sicr y byddai'r ornest yn digwydd, a hyd yn oed yn datgan y byddai'n aros ym Muenos Aires nes iddi ddigwydd, ond cyfeiriau Alekhine yn helaeth at y baich ariannol yn dilyn Yr Olympiad. Gyda chefnogaeth addewidion ariannol o dde America, heriodd José R. Capablanca Alexander Alekhine i gêm teitl y byd ym mis Tachwedd. Arweiniodd y cynlluniau petrusgar—heb, fodd bynnag, gyda'r blaendal o'r pwrs gofynnol ($10,000 mewn aur)—at gytundeb i chwarae ym Muenos Aires, yr Ariannin, i ddechrau ar 14 Ebrill, 1940.

Yr Ail Ryfel Byd (1939-1945)

golygu

Yn wahanol i lawer o'r chwaraewyr yn yr Olympiad, dychwelodd Alekhine i Ewrop ym mis Ionawr 1940. Ar ôl cyfnod byr ym Mhortiwgal, ymrestrodd ym myddin Ffrainc fel swyddog glanweithdra.

Yn dilyn cwymp Ffrainc (Mehefin 1940), ffodd i Marseille. Teithiodd i Lisbon a gwneud cais am fisa Americanaidd. Ym mis Hydref 1940, ceisiodd ganiatâd i fynd i Giwba, gan addo chwarae gêm gyda Capablanca. Gwrthodwyd y cais hwn. 

Perthynas â'r Almaen Natsïaidd

golygu

Mae haneswyr gwyddbwyll wedi dangos diddordeb mawr mewn perthynas Alekhine gyda'r Almaen Natsïaidd. Mae'r dyfalu yn parhau ymhlith haneswyr sy'n arbenigo mewn gwyddbwyll Ewropeaidd canol yr 20fed ganrif os mai Alekhine oedd awdur nifer o ddarnau o bropaganda gwrth-semitig a gyhoeddwyd ai peidio. Er bod dadansoddiad o arddulliau ysgrifennu yn darparu tystiolaeth sy'n cefnogi'r syniad, gwadodd Alekhine hyn mewn llythyrau ysgrifenedig.

Yn ôl rhai hanesion, er mwyn amddiffyn ei wraig, Grace, a'i heiddo Ffrengig (castell yn Saint Aubin-le-Cauf, ger Dieppe, a ysbeiliwyd gan y Natsïaid), cytunodd i gydweithredu gyda'r Natsïaid. Chwaraeodd Alekhine mewn twrnameintiau gwyddbwyll yn Munich, Salzburg, Kraków/Warsaw, a Phrâg, a drefnwyd gan Ehrhardt Post, prif weithredwr y Grossdeutscher Schachbund natsïaidd ("Ffederasiwn Gwyddbwyll Yr Almaen Fawr")- bu Keres, Bogoljubov, Stoltz, a nifer o feistri cryf eraill o wledydd a feddiannwyd gan y Natsïaid hefyd yn chwarae mewn cystadlaethau o'r fath. Ym 1941, gorffennodd yn gydradd-ail gydag Erik Lundin yn nhwrnamaint gwyddbwyll Munich 1941 (Europaturnier ym mis Medi, enillodd Stoltz), a daeth yn gydradd gyntaf gyda Paul Schmidt yn Kraków/Warsaw (yr Ail Dwrnamaint gwyddbwyll y 'Llywodraeth Gyffredinol', ym mis Hydref) ac ennill ym Madrid (ym mis Rhagfyr). Y flwyddyn ganlynol, enillodd yn Nhwrnamaint Gwyddbwyll Salzburg 1942 (Mehefin 1942) ac ym Munich (Medi 1942; galwodd y Natsïaid hwn yr Europameisterschaft, sef Pencampwriaeth Ewrop). Yn ddiweddarach yn 1942 enillodd yn Warsaw / Lublin / Kraków (y 3ydd TGLLG; hydref 1942) a daeth yn gydradd gyntaf gyda Klaus Junge ym Mhrâg (Jubileé Duras Rhagfyr 1942). Ym 1943, bu'n gyfartal mewn gêm fach (+2, -2) gyda Bogoljubov yn Warsaw (Mawrth 1943), enillodd yn Mhrâg (Ebrill 1943) a gorffen yn gydradd gyntaf gyda Keres yn Salzburg (Mehefin 1943).

Erbyn diwedd 1943, roedd Alekhine yn treulio ei holl amser yn Sbaen a Phortiwgal, fel cynrychiolydd Yr Almaen mewn digwyddiadau gwyddbwyll. Roedd hyn hefyd yn ei alluogi i ddianc rhag goresgyniad yr Undeb Sofietaidd yn nwyrain Ewrop. Yn 1944, enillodd gêm o drwch blewyn yn erbyn Ramon Rey Ardid yn Zaragoza (+1, -0, =3; Ebrill 1944) ac enillodd yng Ngijón (Gorffennaf 1944). Y flwyddyn ganlynol, enillodd ym Madrid (Mawrth 1945), daeth yn gyfartal ail gyda Antonio Medina yng Ngijón (Gorffennaf 1945, lle bu Antonio Rico yn fuddugol), enillodd yn Sabadell (Awst 1945), gorffennodd yn gydradd gyntaf gyda F. López Núñez yn Almeria (Awst 1945), enillodd yn Melilla (Medi 1945) a dod yn ail yn Caceres, tu ôl i Francisco Lupi (Hydref 1945). Roedd gornest olaf Alekhine gyda Lupi yn Estoril ger Lisbon, yn Ionawr, 1946. Enillodd Alekhine ddwy gêm, colli un, gydag un gêm gyfartal.

Dangosodd Alekhine diddordeb mewn datblygiad gwyddbwyll yr Aruro Pomar ifanc a neilltuo rhan o'i lyfr olaf (¡Legado! 1946) iddo. Chwaraeasant gyda'u gilydd yng Ngijon 1944, lle llwyddodd Pomar, 12 oed ar y pryd, i gael gêm gyfartal gyda'r pencampwr.

Blwyddyn olaf a marwolaeth

golygu
 
Bedd Alexander Alekhine ym Mharis, Ffrainc (ail-adeiladwyd ar ôl i'r gwreiddiol gael ei dinistrio ym 1999)

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, ni wahoddwyd Alekhine i dwrnameintiau gwyddbwyll y tu allan i benrhyn Iberia, oherwydd ei gysylltiadau Natsïaidd honedig. Cafodd ei wahoddiad gwreiddiol i dwrnamaint Llundain 1946 ei dynnu'n ôl pan brotestiodd y cystadleuwyr eraill.

Tra'n cynllunio ar gyfer gornest Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd yn erbyn Botvinnik, bu farw Alekhine yn 53 oed yn ei ystafell westy yn Estoril, Portiwgal, 24ain Mawrth, 1946. Mae amgylchiadau ei farwolaeth yn dal yn ddadleuol. Ceir ei briodoli i drawiad ar y galon fel arfer, ond cafwyd llythyr yn 'Chess Life' gan dyst i'r awtopsi mai tagu ar gig oedd gwir achos ei farwolaeth. Yn yr awtopsi, darganfuwyd darn tair modfedd o hyd o gig heb ei gnoi yn ei bibell wynt. Mae rhai  wedi dyfalu ei fod wedi ei lofruddio gan "Death Squad" o Ffrainc. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd mab Alekhine, Alexander Alekhine, Jr, mai "llaw Moscow a gyrhaeddodd ei dad". Mae Kevin Spraggett, Uwchfeistr o Ganada sydd wedi byw ym Mhortiwgal ers diwedd y 1980au ac wedi ymchwilio i farwolaeth Alekhine yn drylwyr, yn ffafrio'r posibilrwydd hwn. Dadleuodd Spraggett fod heddlu cudd Portiwgal, y PIDE, wedi cuddio gwybodaeth. Cred fod Alekhine wedi ei lofruddio y tu allan i'w ystafell westy, yn ôl pob tebyg gan Asiantau Sofietaidd.

Noddwyd claddu Alekhine gan FIDE, a throsglwyddwyd y gweddillion i'r Cimetiere du Montparnasse, Paris, ym 1956.

Difrodwyd ei garreg fedd gan seiclon ar 26 Rhagfyr, 1999. Cafodd heneb y garreg fedd ei chwythu drosodd, a'i chwalu wrth syrthio ar y brif garreg fedd. Adferwyd hi'n ddiweddarach.

Asesiad

golygu

Cryfder chwarae ac arddull

golygu

Dechrau'r 1930au oedd cyfnod gorau Alekhine, ac enillodd bron pob twrnamaint lle chwaraeodd, weithiau ymhell ar y blaen i'w wrthwynebwyr. Ar ôl 1934 fodd bynnag ni enillodd dwrnamaint o'r radd flaenaf . Wedi iddo adennill ei deitl ym 1937, roedd ganddo sawl cystadleuydd newydd, a byddai pob un ohonynt wedi bod gyda cyfle da yn ei erbyn.Nodyn:Chess diagram smallAlekhine oedd un o'r chwaraewyr ymosodol gorau ac edrychai fel y gallai ddechrau 'cyfuniadau' o ddim. Yr hyn a'i wnai yn wahanol i'r rhan fwyaf o chwaraewyr ymosodol eraill oedd ei allu i weld y potensial am ymosodiad a pharatoi ar ei gyfer mewn sefyllfaoedd lle nad oedd eraill yn gweld dim. Dywedodd Rudolf Spielman, oedd yn feistr tactegol ei hun, "gallaf weld y cyfuniadau gystal ag Alekhine, ond ni allaf gyrraedd yr un sefyllfaoedd i'w chwarae." Dywedodd Dr Max Euwe, "mae Alekhine yn fardd sy'n creu gwaith celf allan o rywbeth na fyddai yn ysbrydoli neb arall i anfon cerdyn post adref amdano." Esboniad a gynigwyd gan Réti oedd, "mae'n curo ei wrthwynebwyr trwy ddadansoddi symudiadau syml sy'n ymddangos yn ddiniwed i'r pen draw un er mwyn gweld a oes posibilrwydd gwreiddiol ar unrhyw adeg, ac felly'n anodd ei weld, yn gudd yno." Dywedodd John Nunn fod "Gan Alekhine allu arbennig i ysgogi cymhlethdodau heb gymryd risgiau gormodol", a galwodd Edward Winter ef yr "athrylith goruchaf mewn sefyllfa gymhleth." Mae rhai o gyfuniadau Alekhine mor gymhleth fel bod hyd yn oed pencampwyr a chystadleuwyr modern yn anghytuno yn eu dadansoddiadau ohonynt.

Fodd bynnag, dywedodd Garry Kasparov fod chwarae ymosodol Alekhine yn seiliedig ar sylfeini lleoliadol cadarn, ac aeth Harry Golombek ymhellach, gan ddweud mai " Alekhine oedd yr athrylith gwyddbwyll mwyaf amlbwrpas, gan ei fod yr un mor gartrefol ym mhob arddull chwarae ac ym mhob rhan o'r gêm." Ysgrifennodd Reuben Fine, oedd yn gystadleuydd go iawn am bencampwriaeth y byd ar ddiwedd y 1930au, mai casgliad o gemau gorau Alekhine oedd un o'r tair harddaf yr oedd erioed wedi'i weld, ac roedd Golombek yn cytuno.

Ceir canran uwch o fuddugoliaethau yng ngemau Alekhine nag unrhyw Bencampwr y Byd arall, ac mae ei gemau cyfartal ymhlith yr hiraf o'r holl bencampwyr ar gyfartaledd. Roedd ei awydd i ennill yn ymestyn y tu hwnt i wyddbwyll go iawn. Pan gurodd Fine ef mewn gemau am hwyl ym 1933, mynnodd Alekhine ornest am ernes fach. Ac yn Nhenis bwrdd, a chwaraeai Alekhine gyda brwdfrydedd mawr ond yn sâl iawn, byddai'n aml yn malu'r bêl ar ôl colli.

Mewn erthygl ym 1964, galwodd Bobby Fischer Alekhine yn un o'r deg chwaraewr gorau mewn hanes. Ysgrifennodd Fischer, a oedd yn enwog am burdeb ei chwarae, am Alekhine:

Nid yw Alekhine erioed wedi bod yn arwr i mi, ac nid wyf erioed wedi hoffi ei arddull o chwarae. Nid oes unrhyw beth ysgafn amdano; mae'n gweithio iddo ef, ond prin y gallai weithio i unrhyw un arall. Chwaraeodd gysyniadau enfawr, yn llawn syniadau anhygoel a digynsail. ... Roedd ganddo ddychymyg mawr; a gallai weld yn ddyfnach i sefyllfa nag unrhyw chwaraewr arall yn hanes gwyddbwyll. ... Yn y sefyllfaoedd mwyaf cymhleth y daeth Alekhine o hyd i'w gysyniadau mwyaf mawreddog.

Cafodd arddull Alekhine ddylanwad dwys ar Kasparov, a ddywedodd: "Alexander Alekhine yw'r cysgod mwyaf ymhlith y cysgodion sy'n dal i gael y dylanwad mwyaf arnaf. Rwyf yn edmygu ei fyd, ei agwedd tuag at y gêm, ei syniadau gwyddbwyll. Rwy'n siŵr bod y dyfodol yn perthyn i wyddbwyll Alekhine." Dywedodd Levon Aronian yn 2012 ei fod yn ystyried mai Alekhine oedd y chwaraewr gwyddbwyll gorau erioed.Nodyn:Chess diagram smallMae nifer o agoriadau ac amrywiadau agoriadol wedi'u henwi ar ôl Alekhine. Yn ogystal â'r Amddiffyniad Alekhine adnabyddus (1.e4 Nf6) ac ymosodiad Albin-Chatard-Alekhine yn yr amrywiad 'uniongred' Paulsen o'r Amddiffyniad Ffrengig, ceir amrywiadau Alekhine: yng ngambit Bwdapest, gêm Fienna, amrywiad cyfnewid y Ruy Lopez, amrywiad Winawer o'r Amddiffyniad Ffrengig; amrywiad y ddraig o'r Amddiffyniad Sisilaidd, gambit y Frenhines a dderbynnir, yr Amddiffyniad Slafaidd, gêm gwerin y Frenhines, agoriad Catalwnia ac Amddiffyniad yr Iseldiroedd (lle mae tair llinell wahanol yn dwyn ei enw). Fel y dywedodd Irving Chernev, "Gemau Alekhine yw'r agoriadau, gydag ychydig o amrywiadau."

Cyfansoddodd Alekhine hefyd ychydig o astudiaethau ar y diweddglo, a dangosir un ohonynt yn y diagram, astudiaeth gydag uchafswm o saith darn.

Ysgrifennodd Alekhine dros ugain o lyfrau ar wyddbwyll, rhifynnau anodedig o'i gemau yn bennaf mewn gornestau neu dwrnamaint mawr, ynghyd â chasgliadau o'i gemau gorau rhwng 1908 a 1937. Yn wahanol i Wilhelm Steinitz, Emanuel Lasker, Capablanca ac Euwe, ni ysgrifennodd unrhyw lyfrau yn esbonio ei syniadau am wyddbwyll neu i ddysgu dechreuwyr sut i wella. Mae ei lyfrau yn apelio at chwaraewyr da yn hytrach na dechreuwyr: maent yn cynnwys llawer o ddadansoddiadau hir o amrywiadau mewn sefyllfaoedd tyngedfennol, "sefyllfaoedd unigol a'r eithriadau oedd eu fyd, dim rheolau a symleiddiadau".

Er y galwyd Alekhine yn 'elyn' i'r Undeb Sofietaidd ar ôl ei ddatganiad gwrth-Bolsieficaidd ym 1928, cafodd ei ailsefydlu'n raddol ym myd gwyddbwyll Sofietaidd wedi ei farwolaeth ym 1946 . Ar ôl ymchwil Alexander Kotov ar gemau a gyrfa Alekhine, cafwyd bywgraffiad, Alexander Alekhine, ac arweiniodd hyn at gyfres Sofietaidd o dwrnameintiau Coffa Alekhine . Enillwyd y cyntaf o'r rhain, ym Moscow ym 1956, ar y cyd gan Botvinnik a Vasily Smyslov. Yn eu llyfr, 'Ysgol Gwyddbwyll Sofietaidd' neilltuodd Kotov ac Yodovich bennod i Alekhine, a'i alw'n "chwaraewr mwyaf Rwsia" a canmol ei allu i gael y blaen mewn gêm trwy chwarae tactegol pendant yn yr agoriad. Ysgrifennodd Botvinnik fod yr Ysgol Sofietaidd o wyddbwyll wedi dysgu o rinweddau ymladdol Alekhine, ei allu i hunanfeirniadaeth a'i weledigaeth gyfunol. Ysgrifennodd Alekhine i gael llwyddiant mewn gwyddbwyll fod angen "Yn gyntaf, hunan-wybodaeth; yn ail, dealltwriaeth gadarn o gryfder a gwendidau fy ngwrthwynebydd; yn drydydd, nod uwch - ... cyflawniadau artistig a gwyddonol sy'n cydsynio ein gwyddbwyll â chelfyddydau eraill."

Cyhuddiadau o "wella" gemau

golygu

Nodyn:Chess diagram smallYsgrifennodd Samuel Reshevsky, "honnir fod Alekhine yn gwneud gemau i fyny yn erbyn gwrthwynebwyr ffug ac yna'n eu cyhoeddi mewn amrywiol gylchgronau gwyddbwyll." Mewn llyfr diweddar mae Andy Soltis yn rhestru "15 Gwelliant Alekhine". Yr enghraifft enwocaf yw ei gêm gyda pum brenhines ym Moscow ym 1915. Yn y gêm go iawn, curodd Alekhine, yn chwarae gyda Du, yn erbyn Grigoriev yn nhwrnamaint Moscow 1915; ond yn un o'i lyfrau cyflwynodd yr amrywiad "Pum Brenhines" (gan ddechrau gyda symudiad a wrthododd fel Du yn y gêm wreiddiol) fel gêm go iawn a enillwyd gan y chwaraewr Gwyn ym Moscow ym 1915. (Nid oedd yn dweud yn y llyfr pwy oedd pwy yn y fersiwn hwn, nac ei fod mewn twrnamaint).

Yn y sefyllfa a ddangosir yn y diagram, na ddigwyddodd erioed mewn chwarae go iawn, honnodd Alekhine fod Gwyn yn ennill gyda 24.C-h6, ac ar ôl chwarae cymhleth mae Du yn colli neu'n gorffen mewn diweddglo brenhines i lawr. Daeth dadansoddiad diweddarach gyda chymorth cyfrifiadurol i'r casgliad y gall Gwyn orfodi buddugoliaeth, trwy ddargyfeirio o ddilyniant Alekhine ar yr 20fed symudiad, pan nad oes ond tair brenhines.

Ymchwiliodd yr hanesydd gwyddbwyll Edward Winter i gêm yr honnir i Alekhine ei hennill mewn pymtheg symudiad gan aberthu ei frenhines yn Sabadell ym 1945. Darganfuwyd rhai lluniau o'r gêm a ddangosai y chwaraewyr yn ystod y gêm ynghyd a'r bwrdd gwyddbwyll. Yn seiliedig ar sefyllfa y darnau ar y bwrdd gwyddbwyll yn y llun hwn, ni allai'r gêm fod wedi gorffen fel a wnaeth yn y fersiwn a gyhoeddwyd. Roedd hyn yn codi amheuon bod y fersiwn a gyhoeddwyd wedi'i wneud i fyny. Hyd yn oed os yw'r fersiwn a gyhoeddwyd yn ffug, nid oes amheuaeth bod Alekhine wedi trechu ei wrthwynebydd yn y gêm iawn, a nid oes tystiolaeth mai Alekhine oedd ffynhonnell y fuddugoliaeth pymtheg symudiad enwog yr amheuir ei ddilysrwydd.

Cyhuddiadau o wrth-semitiaeth

golygu

Yn ystod Yr Ail Ryfel Byd, chwaraeodd Alekhine mewn sawl twrnamaint a gynhaliwyd yn Yr Almaen neu diriogaeth a feddiannwyd ganddynt, fel y gwnaeth llawer o chwaraewyr cryf eraill. Ym mis Mawrth, 1941 ymddangosodd cyfres o erthyglau o dan enw Alekhine yn y Pariser Zeitung, papur newydd Almaeneg a gyhoeddwyd ym Mharis gan luoedd meddiannu'r Almaen. Ymhlith pethau eraill, dywedodd yr erthyglau hyn fod gan Iddewon ddawn wych i fanteisio ar wyddbwyll ond nad oeddent yn dangos unrhyw arwyddion o gelfyddyd gwyddbwyll; disgrifiodd damcaniaethau tra-fodern Nimzowitsch a Réti fel "y blyff rhad, yr hunan-gyhoeddusrwydd digywilydd hwn", yn cael ei wthio gan y "mwyafrif o ffug-ddeallusion Eingl-Iddewig"; a galwodd ei ornest ym 1937 ag Euwe fel "buddugoliaeth yn erbyn y cynllwyn Iddewig".

Yn ystod cyfweliadau gyda dau bapur newydd Sbaeneg ym mis Medi, 1941 beirniadodd Alekhine strategaeth gwyddbwyll Iddewig. Yn un o'r rhain, dywedodd fod gwyddbwyll Aryan yn ymosodol ond "cyfaddefodd wyddbwyll Semitic y syniad o amddiffyn pur", felly yr arddull "Iddewig" oedd i ganolbwyntio ar fanteisio ar gamgymeriadau'r gwrthwynebwyr yn unig. Canmolodd hefyd ei wrthwynebydd Capablanca am ennill y teitl oddi wrth "Yr Iddew Lasker". Adroddir iddo fynegi barn debyg mewn cyfweliad I'r cyfryngau Tsiec Svět ym 1942.

Bron yn syth ar ôl rhyddhau Paris (a chyn i'r Ail Ryfel Byd ddod i ben), dywedodd Alekhine yn gyhoeddus bod "rhaid iddo ysgrifennu dwy erthygl am wyddbwyll ar gyfer y Pariser Zeitung cyn i'r Almaenwyr ganiatau fisa ymadael iddo ... Dywed Alekhine i erthyglau a oedd yn wyddonol yn unig gael eu hailysgrifennu gan yr Almaenwyr, eu newid a'u cyhoeddi fel ag i ymdrin a gwyddbwyll o safbwynt hiliol." Gwadodd ei fod yn wrth-semitig mewn o leiaf ddau ddatganiad pellach, mewn llythyr agored at drefnydd twrnamaint Llundain 1946 (W. Hatton-Ward) ac yn ei lyfr a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth ¡Legado!. Mae'r tri wedi'i geirio yn wahanol.

Nid yw ymchwiliadau helaeth gan Ken Whyld wedi dangos unrhyw dystiolaeth bendant o ddilysrwydd yr erthyglau. Dywed yr awdur gwyddbwyll Jacques Le Monnier mewn cyfrol a gyhoeddwyd ym 1986 o Ewrop Échecs y gwelodd ym 1958 rai o lyfrau nodiadau Alekhine a chanfu, yn llawysgrifen Alekhine ei hun, union destun yr erthygl gwrth-semitig gyntaf, a ymddangosodd yn y Pariser Zeitung ar 18 Mawrth, 1941. Yn ei lyfr 75 Parties d'alekhine ("75 o gemau Alekhine"), a gyhoeddwyd ym 1973 fodd bynnag, ysgrifennodd Le Monnier "ni fydd byth yn hysbys a oedd Alekhine y tu ôl i'r erthyglau hyn neu a gawsant eu newid gan olygydd y Pariser Zeitung."

Nododd yr hanesydd gwyddbwyll Prydeinig Edward Winter bod yr erthyglau yn y Pariser Zeitung wedi camsillafu enwau nifer o feistri gwyddbwyll enwog, a gellid dehongli hyn fel tystiolaeth o ffugio, neu fel ymdrech gan Alekhine i nodi ei fod yn cael ei orfodi i ysgrifennu pethau nad oedd yn gredu; ond gallai'r rhain hefyd fod wedi bod yn wallau cysodi, gan nad oedd llawysgrifen Alekhine yn hawdd i'w darllen. Roedd yr erthyglau yn cynnwys honiadau anghywir (yn ôl pob tebyg) bod Lionel Kieseritzky (Kieseritsky yn Saesneg, Kizierycki ym Mhwyleg) yn Iddew Pwylaidd, er nad oedd Kieseritzky yn Bwylaidd nac yn Iddewig. Daw Winter i'r casgliad: "Er, fel y mae pethau ar hyn o bryd, ei bod yn anodd adeiladu llawer o amddiffyniad i Alekhine, dim ond darganfod yr erthyglau yn ei lawysgrifen ei hun fydd yn datrys y mater y tu hwnt i bob amheuaeth." O dan gyfraith hawlfraint Ffrainc, ni ddaeth llyfrau nodiadau Alekhine i'r parth cyhoeddus tan 1af Ionawr 1, 2017.

Mae tystiolaeth nad oedd Alekhine yn wrth-semitig yn ei berthynas personol, nac yn ei berthynas gwyddbwyll gydag Iddewon. Ym Mehefin 1919, cafodd ei arestio gan y Cheka, ei garcharu yn Odessa a'i ddedfrydu i farwolaeth. Yakov Vilner, meistr Iddewig, a'i achubodd trwy anfon telegram at gadeirydd Cyngor Comisariaid y Bobl yr Wcrain, a wyddai am Alekhine a gorchmynnodd ei ryddhau.  Derbyniodd Alekhine, ac mae'n debyg iddo ddefnyddio, dadansoddiad gwyddbwyll gan Charles Jaffe yn ei gêm Pencampwriaeth y Byd yn erbyn Capablanca. Meistr Iddewig oedd Jaffe a oedd yn byw yn Ninas Efrog Newydd, ac ar ôl dychwelyd i Efrog Newydd ar ôl trechu Capablanca, chwaraeodd Alekhine gêm fer fel ffafr i Jaffe, heb dâl ariannol. Eilydd Alekhine ar gyfer gornest 1935 gyda Max Euwe oedd y meistr Salo Landau, Iddew o'r Iseldiroedd. Ysgrifennodd yr uwchfeistr Iddewig Americanaidd Arnold Denker ei fod yn gweld Alekhine yn gyfeillgar iawn, gan gymryd rhan mewn gemau ymgynghori a sesiynau dadansoddi. Ysgrifennodd Denker hefyd fod Alekhine wedi talu am ginio y Denker iau di-nod ar sawl achlysur yn Efrog Newydd yn ystod y 1930au, pan oedd yr economi yn wan iawn oherwydd y Dirwasgiad Mawr . Ychwanegodd Denker fod Alekhine, yn ystod y 1930au cynnar, o'r farn mae'r uwchfeistr Iddewig Americanaidd Issac Kashdan fyddai yr herwr nesaf iddo (ni ddigwyddodd hyn). Rhoddodd wersi gwyddbwyll i Gerardo Budoeski, Iddew Almaenig 14 oed ym Mharis yng ngwanwyn 1940. Priododd Alekhine fenyw Americanaidd a allai fod wedi bod o llinach Iddewig, Grace Wishaar, ei bedwaredd wraig. Grace Alekhine oedd pencampwr merched Paris yn 1944.

Cyfeiriadau

golygu

{{cyfeiriadau))