Y Beddau

pentref yng Nghymru

Pentref mawr ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw'r Beddau. Mae'n gorwedd 1.5 milltir tu allan i Lantrisant, tua pedwar milltir i’r de-orllewin o Bontypridd a saith milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd, ar briffordd yr A473.

Y Beddau
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.556°N 3.358°W Edit this on Wikidata
Cod postCF38 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]

Addysg

golygu

Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau ydy’r ysgol gynradd Gymraeg. Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn a Ysgol Gynradd Llwycrwn ydy’r ysgolion cyfrwng Saesneg y pentref. Mae’r ddau ohonynt yn porthi i mewn i’r Ysgol Gyfun y pentref, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog.

Chwaraeon

golygu

Mae’r Beddau yn nodedig am ei thalent rygbi'r undeb, yn cynnwys Neil Jenkins, Michael Owen a Gethin Jenkins a fynychai Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn y pentref. Mae gan y pentref dîm rygbi lleol, Beddau RFC, yn ogystal â thîm pêl-droed, Cwm Welfare AFC.

Cludiant

golygu

Mae’r pentref yn cael ei wasanaethu gan wasanaethau bws i Lantrisant, Caerdydd a Phontypridd. Bodolai gorsaf, Gorsaf Rheilffyrdd Arhosfan Y Beddau ar y Gyffordd Rheilffordd Llantristant a Dyffryn Taf, tan 1964 i'r de o'r pentref. Ymestynodd cilffordd rheilffordd breifat o'r gangen Treferig y Cyffordd Rheilffordd Llantrisant a Dyffryn Taf i gweithfeydd glo i'r pentref yn bodoli ers amser. Cilffyrdd helaeth a thraffig rheilffyrdd a wasanaethir Glofa Cwm a gwaith golosg tan 1984 pan cafodd y llinell i Pontyclun ei chau. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i ailagor y llinell hon i draffig teithwyr.

Pobl enwog o'r Beddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Dolenni allanol

golygu