Cwmni Ieuenctid Dolwyddelan

Cwmni drama a sefydlwyd gan griw o bobol ifanc yn Nolwyddelan yn Sir Conwy oedd Cwmni Ieuenctid Dolwyddelan. Sefydlwydd y cwmni ym 1986 dan arweiniad Paul Griffiths. Amrywiodd yr aelodau dros y blynyddoedd i gynnwys Glyn Jones, Rhodri Williams, Tamzyn Williams, Tiffany Williams, Fiona Goodwin, Lois Dauncey Roberts, Eirian Goodwin, Sharon Williams a Nerys Price.

Sgetsus

golygu

Sgetsus fel rhan o nosweithiau llawen a chyngherddau oedd cynyrchiadau cynnar y cwmni, a hynny mewn nosweithiau wedi'u trefnu'n arbennig gan y cwmni neu o dan adain mudiad ieuenctid Dolwyddelan, sef Cylch yr Ifanc. Y Bwji o waith Rhiannon Parry, Llansannan oedd y sgets gyntaf, a hynny ar yr 22ain o Fai 1986 yn y Ganolfan, Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Yn dilyn llwyddiant y noson hon, aeth y Cwmni ymlaen i berfformio sgetsus o waith Gari Williams, Paul Griffiths ac Ifan Gruffydd, mewn canolfannau cyn belled â Dyffryn Nantlle.

Gwyliau dramâu

golygu

Ym 1990, penderfynodd y Cwmni gystadlu yng Ngŵyl Ddramâu’r papur bro lleol Yr Odyn yn Neuadd Goffa, Betws y Coed. Colli John Albert, eto o waith Rhiannon Parry, oedd y ddrama gyntaf i’w llwyfannu yn yr ŵyl, dan gyfarwyddyd Paul Griffiths. Robin a Laura Jones, Conwy oedd y beirniaid. Cafodd y Cwmni ganmoliaeth am eu gwaith, a chyfeiriodd Myrddin ap Dafydd at eu gwaith mewn erthygl yn Golwg dan y teitl Moliant y Ddrama Fro: “Mae nifer o gynhyrchwyr ymroddedig yn yr ardal a thros y blynyddoedd magwyd to o actorion profiadol. Yr hyn sy’n galonogol yw bod to newydd yn codi eto. Iechyd i’r galon oedd gweld Paul Griffiths, llanc 16 oed o Ddolwyddelan, yn cipio tlws yr Actor Mwyaf Addawol eleni. Ef hefyd oedd cynhyrchydd y cwmni ieuenctid buddugol a gadawodd llyfnder y cyflwyniad hwnnw argraff ddofn”.

Wedi llwyddiant yr Ŵyl gyntaf, parhau i deithio a chystadlu’n flynyddol wnaeth y cwmni fel a ganlyn:

Colli John Albert gan Rhiannon Parry Cast: Tamzyn Williams, Fiona Goodwin, Lois Dauncey Roberts, Tiffany Williams a Paul Griffiths. Cyfarwyddwr: Paul Griffiths.

Chwefror 14eg Gŵyl Ddrama’r Odyn, Betws y Coed Beirniaid: Robin a Laura Jones Cyntaf yn yr Adran Ieuenctid a Paul Griffiths Actor Mwyaf Addawol yr Ŵyl.
Chwefror 22ain Canolfan Gymdeithasol Dolwyddelan
Mawrth 13eg Neuadd Capel Llangefni
Mawrth 15fed Gŵyl Ddrama’r Gadlas, Llangernyw Beirniad: Dyfan Roberts Ail yn yr Adran Ieuenctid a Paul Griffiths Actor Mwyaf Addawol yr Ŵyl.
Ebrill 3ydd Gŵyl Ddrama’r Pentan Beirniad: Y Parch John Owen, Rhuthun
Mai 9fed Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst

Helynt y 'Dolig gan Paul Griffiths Cast: Eirian Goodwin, Lois Dauncey Roberts, Tiffany Williams, Sharon Williams a Paul Griffiths. Cyfarwyddwr: Paul Griffiths.

Chwefror 13eg Gŵyl Ddrama’r Odyn, Betws y Coed Beirniad: Ednyfed Williams, Diserth Eirian Goodwin Actor Mwyaf Addawol yr Ŵyl.
Chwefror 23ain Canolfan Gymdeithasol Dolwyddelan
Mawrth 8fed Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst
Mawrth 15fed Neuadd Pwllglas, Rhuthun
Mawrth 18fed Gŵyl Ddrama’r Pentan, Conwy Beirniad: Morien Phillips Lois Dauncey Roberts Actor Mwyaf Addawol yr Ŵyl.

Sul y Blodau gan Paul Griffiths

Cast: Eirian Goodwin, Lois Dauncey Roberts, Nerys Price a Paul Griffiths. Cyfarwyddwr: Paul Griffiths.

Chwefror 18fed Gŵyl Ddrama’r Odyn, Betws y Coed Beirniad: John Roberts, Caernarfon Cyntaf yn yr Adran Ieuenctid
Chwefror 28ain Ysgol Cerrig y Drudion
Mawrth 7fed Canolfan Gymdeithasol, Dolwyddelan
Mawrth 20fed Gŵyl Ddrama’r Gadlas, Llangernyw Beirniad: Gaenor Morgan Rees

Y Groesffordd gan William Gwyn Jones

Cast: Tamzyn Williams, Lois Dauncey Roberts, a Paul Griffiths. Cyfarwyddwr: Paul Griffiths.

Chwefror 16eg Gŵyl Ddrama’r Odyn, Betws y Coed Beirniad: Mair Penri Jones Cyntaf yn yr Adran Ieuenctid a Lois Dauncey Roberts Actor Mwyaf Addawol yr Ŵyl.
Chwefror 26ain Canolfan Gymdeithasol Dolwyddelan
Mawrth 31ain Gŵyl Ddrama’r Pentan, Conwy Beirniad: Richard T Jones Ail yn yr Adran Ieuenctid a Lois Dauncey Roberts Actor Mwyaf Addawol yr Ŵyl.
Mai 6ed Gŵyl Ddrama Corwen Beirniad: Ednyfed Williams, Diserth Cyntaf yn yr Adran Ieuenctid a Lois Dauncey Roberts yn derbyn Tlws HTV i'r Actor Gorau dan 30oed.
Mai 14eg Gŵyl Ddrama Dyffryn Tanant Llanrhaeadr ym Mochnant Beirniad: Mair Penri Jones Cyntaf yn y Prif Ŵyl
Mai 20fed Gŵyl Ddrama Eisteddfod Môn Theatr Fach Llangefni Beirniad: J.O.Roberts Cyntaf yn yr Adran Ieuenctid
Mai 22ain Gŵyl Ddrama Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid Beirniad: Iola Gregory Lois Dauncey Roberts Actor Mwyaf Addawol

Sylwadau'r Beirniaid

golygu

Ednyfed Williams: Mae'n glod i'r cwmni ifanc hwn iddo lwyddo'n helaeth i greu sefyllfa ddramatig a theatrig drwy amseru da ar y ddeialog, drwy symudiadau bwriadus oedd yn codi o'r ddeialog y rhan amlaf, a thrwy ddefnydd deallus o adnoddau llwyfan...Un o uchafbwyntiau wythnos Corwen i mi heb amheuaeth. Pwysicach o lawer na hynny, fe lwyddwyd i wneud i gynulleidfa'r Ŵyl, sydd bob amser mor hoff o gomedi a ffars, ac yn barod i chwerthin yn barhaus, wrando'n astud a manwl, ac ymdeimlo â'r awyrgylch tynn a grewyd gennych

Iola Gregory: Roedd y cynhyrchiad yn gafael o'r cychwyn cyntaf...yr actio yn ddiffuant a'r cymeriadu yn effeithiol...Cynhyrchiad syml ond effeithiol"

Pan Ddaw Yfory addasiad Paul Griffiths o ddrama Branwen Cennard

Cast: Tamzyn Williams, Eirian Goodwin, a Paul Griffiths. Cyfarwyddwr: Paul Griffiths.

Chwefror 15fed Gŵyl Ddrama’r Odyn, Betws y Coed Beirniad: Robin a Laura Jones Cyntaf yn yr Adran Ieuenctid
Mawrth 22ain Gŵyl Ddrama’r Pentan Beirniad: R. Alun Evans Ail yn yr Adran Ieuenctid a Paul Griffiths Actor Mwyaf Addawol.
Mawrth 26ain Gŵyl Hwyl Clwyd, Theatr Twm o'r Nant Beirniad: Ednyfed Williams, Diserth Ail yn yr Ŵyl.
Ebrill 2il Canolfan Gymdeithasol Dolwyddelan

Diwedd y daith

golygu

Daeth y Cwmni i ben yn fuan wedyn, a hynny'n bennaf oherwydd gyrfaoedd colegol. Fe wahoddwyd Paul Griffiths i sefydlu cwmni cymunedol yn ardal Pwllheli gan fynd ati'n flynyddol ar y cyd ag Annette Bryn Parri a Glyn Roberts i gyfansoddi a llwyfannu dramâu cerdd ar gyfer yr Ŵyl Fai flynyddol.