Gogledd Cymru (etholaeth Senedd Ewrop)

cyn etholaeth Cymreig ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop

Roedd Gogledd Cymru yn gynetholaeth Senedd Ewrop, a oedd yn cyfateb i'r rhanbarth answyddogol presennol Gogledd Cymru, o 1979 hyd at 1999. Cafodd yr etholaeth ei gynrychioli gan y Blaid Geidwadol o 1979 hyd at 1989, eu hunig sedd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.

Cyn mabwysiadu ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol ym 1999, defnyddiodd y Deyrnas Unedig dull "Y Cyntaf i'r Felin" ar gyfer etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Roedd yr etholaethau Senedd Ewropeaidd a ddefnyddid o dan y system honno'n llai na'r etholaethau cyfredol ac yn ethol un aelod yr un.

Pan gafodd ei chreu ym 1979 roedd Gogledd Cymru'n cynnwys etholaethau Seneddol Môn, Caernarfon, Conwy, Dinbych, Dwyrain y Fflint, Gorllewin y Fflint, Meirionnydd, Trefaldwyn a Wrecsam. Ym 1994 cafodd etholaethau newydd Meirionnydd Nant Conwy a Threfaldwyn eu trosglwyddo i etholaeth Canolbarth Cymru.[1]

Mae etholaethau rhanbarthol Etholiadau'r Cynulliad wedi eu seilio'n fras ar hen etholaethau Senedd Ewrop.

Daeth y sedd yn rhan o etholaeth Cymru gyfan ym 1999.

Aelodau etholiedig Ewropeaidd

golygu
Etholiad Aelod Plaid
1984 Beata Brookes Ceidwadol
1994 Joe Wilson Llafur

Etholiadau

golygu

Canlyniad Etholiad 1979

golygu
Etholiad Senedd Ewrop 1979: Gogledd Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Beata Brookes 71,473 41.9
Llafur T. A. Dillon 46,627 26.4
Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones 34,171 19.3
Rhyddfrydol Nesta Wyn Ellis 21,989 12.4
Mwyafrif 27,546 15.5
Y nifer a bleidleisiodd 35.9

Canlyniad Etholiad 1984

golygu
Etholiadau Ewrop, 1984: Gogledd Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr Beata Brookes 69,139 31.6 -10.3
Dem Cymdeithasol Robert Thomas Ellis 56,861 26.0 +13.6
Llafur Colin Ian Campbell 54,768 25.0 -1.4
Plaid Cymru Dafydd Iwan 38,117 17.4 -1.9
Mwyafrif 12,278 5.6 -9.9
Y nifer a bleidleisiodd 42.4 +6.5
Ceidwadwyr yn cadw Gogwydd

Canlyniadau etholiad 1989

golygu
Etholiad Senedd Ewrop 1989: Gogledd Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Joe Wilson 83,638 33.1 +8.1
Ceidwadwyr Beata Brookes 79,178 31.3 -0.3
Plaid Cymru Dafydd Elis-Thomas 64,120 25.3 +7.9
Gwyrdd P. H. W. Adams 15,832 6.3
Democratiaid Rhyddfrydol R. K. Marshall 10,056 4.0 -22.0
Mwyafrif 4,460 1.8 -3.8
Y nifer a bleidleisiodd 46.8 +4.4
Llafur yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd

Canlyniad etholiad 1994

golygu
Etholiad Ewrop, 1994: Etholaeth Gogledd Cymru
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Llafur Joe Wilson 88,091 40.8 +7.7
Plaid Cymru Dafydd Wigley 72,849 33.8 +8.5
Ceidwadwyr R. G. M. Hughes 33,450 15.5 -15.8
Democratiaid Rhyddfrydol R. E. Parry 14,828 6.9 +2.9
Gwyrdd P. H. W. Adams 2,850 1.3 -5.0
Deddf Naturiol D. E. Hughes 2,065 0.9
Annibynnol J. M. Cooksey 1,623 0.8
Mwyafrif 15,242 7.0 +5.2
Y nifer a bleidleisiodd 45.3 -1.5
Llafur yn cadw Gogwydd

Cyfeiriadau

golygu
  1. "David Boothroyd's United Kingdom Election Results". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-05. Cyrchwyd 2008-01-20.

Gweler hefyd

golygu

Etholaethau Senedd Ewrop yng Nghymru: