Gwlad dirgaeedig
(Ailgyfeiriad o Gwlad dirgaeëdig)
Gwlad dirgaeedig neu wlad dirgylch yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio gwlad a amgylchynir yn gyfan gwbl gan dir, neu wlad ac unrhyw ran o'i harfordir yn gorwedd ar fôr caeedig. Mae 47 o wledydd tirgaeedig yn y byd (gan gynnwys rhai gwledydd a gydnabyddir yn rhannol yn unig). Yr unig gyfandiroedd lle na cheir unrhyw wlad dirgaeedig yw Gogledd America ac Awstralasia.
Gwlad dirgaeedig fwyaf y byd yw Casachstan yng Nghanolbarth Asia.
Ystyrir dwy wlad yn wledydd dwbl dirgaeedig: h.y., maent wedi eu hamgylchynu yn gyfan gwbl gan wledydd tirgaeedig eraill, fel bod rhaid croesi dwy ffin er mwyn cyrraedd arfordir:
- Wsbecistan yng nghanolbarth Asia, a amgylchynir gan Affganistan, Casachstan, Cirgistan, Tajicistan, a Tyrcmenistan.
- Liechtenstein, a amgylchynir gan Y Swistir ac Awstria.
Gelwir gwlad a amgylchynir gan un wlad yn unig yn glofan. Mae 3 clofan yn y byd, sef San Marino, y Fatican a Lesotho.
Rhestr o wledydd tirgaeedig
golyguGwlad | Arwynebedd (km²) |
---|---|
Affganistan | 647,500 |
Andorra | 468 |
Armenia | 29,743 |
Awstria | 83,871 |
Aserbaijan | 86,600 |
Belarws | 207,600 |
Bhwtan | 38,394 |
Bolifia | 1,098,581 |
Botswana | 582,000 |
Bwrcina Ffaso | 274,222 |
Bwrwndi | 27,834 |
Gweriniaeth Canolbarth Affrica | 622,984 |
Tsiad | 1,284,000 |
Y Weriniaeth Tsiec | 78,867 |
Ethiopia | 1,104,300 |
Hwngari | 93,028 |
Casachstan | 2,724,900 |
Kosovo | 10,908 |
Cirgistan | 199,951 |
Laos | 236,800 |
Lesotho | 30,355 |
Liechtenstein | 160 |
Lwcsembwrg | 2,586 |
Macedonia | 25,713 |
Malawi | 118,484 |
Mali | 1,240,192 |
Moldofa | 33,846 |
Mongolia | 1,564,100 |
Nagorno-Karabakh (anghydf.) | 11,458 |
Nepal | 147,181 |
Niger | 1,267,000 |
Paragwâi | 406,752 |
Rwanda | 26,338 |
San Marino | 61 |
Serbia | 88,361 |
Slofacia | 49,035 |
South Ossetia (anghydf.) | 3,900 |
Gwlad Swasi | 17,364 |
Y Swistir | 41,284 |
Tajicistan | 143,100 |
Transnistria (anghydf.) | 4,163 |
Tyrcmenistan | 488,100 |
Wganda | 241,038 |
Wsbecistan | 447,400 |
Fatican | 0.44 |
Sambia | 752,612 |
Simbabwe | 390,757 |