Indonesia

(Ailgyfeiriad o Indonesiaid)

Ynysfor mwyaf y byd yw Gweriniaeth Indonesia neu Indonesia. Mae'r wlad hon yn gorwedd rhwng cyfandiroedd Asia ac Awstralia yn ogystal â rhwng Cefnfor India a'r Cefnfor Tawel. Y gwledydd cyfagos yw Maleisia (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Borneo, Kalimantan yw enw'r rhan sy'n perthyn i Indonesia), Papua Gini Newydd (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Gini Newydd, sef ynys Irian yn Bahasa Indonesia) a Dwyrain Timor (ceir ffin rhyngddynt ar ynys Timor).

Indonesia
ArwyddairYr Hyfryd Indonesia Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth archipelagig, gwladwriaeth gyfansoddiadol, ynys-genedl, cyfundrefn arlywyddol, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlIsgyfandir India Edit this on Wikidata
PrifddinasJakarta Edit this on Wikidata
Poblogaeth275,439,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 17 Awst 1945 (Cyhoeddi Annibyniaeth Indonesia) Edit this on Wikidata
AnthemIndonesia Raya Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJoko Widodo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Gorllewin Indonesia, Cylchfa Amser Canol Indonesia, Indonesia Eastern Standard Time, Asia/Jakarta, Asia/Pontianak, Asia/Makassar, Asia/Jayapura Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Indoneseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMIKTA, De-ddwyrain Asia, Y Cenhedloedd Unedig, ASEAN, APEC Edit this on Wikidata
GwladIndonesia Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,904,570 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India, Y Cefnfor Tawel, Môr De Tsieina, Môr Celebes, Môr Arafura Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDwyrain Timor, Maleisia, Papua Gini Newydd, Singapôr, y Philipinau, Awstralia, Gwlad Tai, India, Palaw, Fietnam Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2°S 118°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Indonesia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Ymgynghorol y Bobl Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Indonesia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethPrabowo Subianto Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Arlywydd Indonesia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJoko Widodo Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadIslam, Protestaniaeth, Catholigiaeth, Hindŵaeth, Bwdhaeth, Conffiwsiaeth Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,186,505 million, $1,319,100 million Edit this on Wikidata
Arianrupiah Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.04 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.705 Edit this on Wikidata

Mae'n cynnwys dros ddwy fil ar bymtheg o ynysoedd, gan gynnwys Sumatra, Java, Sulawesi, a rhannau o Borneo a Gini Newydd. Indonesia yw'r 14eg wlad fwyaf yn ôl ardal, sef 1.904,569 km sg (735,358 mi sg). Gyda mwy na 270 miliwn o bobl, Indonesia yw pedwaredd wlad fwyaf poblog y byd a'r wlad fwyafrif Mwslimaidd fwyaf poblog. Mae Java, ynys fwyaf poblog y byd, yn gartref i fwy na hanner poblogaeth y wlad.

Mae Indonesia yn weriniaeth arlywyddol, gyfansoddiadol gyda deddfwrfa etholedig. Mae ganddi 34 talaith, ac mae gan bump ohonynt statws arbennig. Prifddinas y wlad, Jakarta, yw ardal drefol ail-boblog fwyaf y byd. Mae'r wlad yn rhannu ffiniau â Papua Gini Newydd, Dwyrain Timor, a rhan ddwyreiniol Malaysia. Mae gwledydd cyfagos eraill yn cynnwys Singapore, Fietnam, Y Philipinau, Awstralia, Palau, ac India (Ynysoedd Andaman a Nicobar). Er gwaethaf ei phoblogaeth fawr a'i rhanbarthau poblog iawn, mae gan Indonesia ardaloedd helaeth o fannau heb eu poblogi, gydag un o lefelau bioamrywiaeth uchaf y byd.

Mae Indonesia'n cynnwys cannoedd o grwpiau ethnig ac ieithyddol brodorol gwahanol, gyda ohonynt y mwyaf. Rhennir eu hunaniaeth a gwelir hyn yn eu harwyddair " Bhinneka Tunggal Ika " ("Undod mewn Amrywiaeth" yn llythrennol, "llawer, ac eto un"). Mae ganndynt un iaith genedlaethol, amrywiaeth ethnig, plwraliaeth grefyddol o fewn poblogaeth fwyafrif Mwslimaidd, a hanes o wladychiaeth a gwrthryfel yn ei erbyn y gwladychwyr.

Yn 2021, Economi Indonesia oedd y 16fed fwyaf y byd yn ôl CMC enwol a'r 7fed fwyaf gan PPP. Mae'n bŵer rhanbarthol ac fe'i hystyrir yn bŵer canol mewn materion byd-eang. Mae'r wlad yn aelod o sawl sefydliad amlochrog, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Masnach y Byd, G20, ac aelod-sefydlydd o'r Mudiad Heb Aliniad, Cymdeithas Cenhedloedd De-ddwyrain Asia (<a href="./ASEAN" rel="mw:WikiLink">ASEAN</a>), Uwchgynhadledd Dwyrain Asia, a'r Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd.

Geirdarddiad

golygu

Mae'r enw Indonesia yn deillio o'r Groeg Indos ( Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). ) a Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). ( Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). ), sy'n golygu "ynysoedd Indiaidd".[1] Mae'r enw'n dyddio o'r 18g, gan ragflaenu'r wladwriaeth annibynnol o'r enw yma.[2] Ym 1850, cynigiodd George Windsor Earl, ethnolegydd o Loegr, y termau Indunesians am yr ardal a Malayunesians - ar gyfer trigolion yr "Archipelago Indiaidd neu Archipelago Malay ".[3] Yn yr un cyhoeddiad, defnyddiodd un o'i fyfyrwyr, James Richardson Logan, Indonesia fel cyfystyr ar gyfer yr Archipelago Indiaidd.[4][3]

Fodd bynnag, roedd academyddion o'r Iseldiroedd a oedd yn ysgrifennu yng nghyhoeddiadau India'r Dwyrain yn amharod i ddefnyddio Indonesia ; roedd yn well ganddyn nhw Archipelago Malay (Iseldireg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).).[5]

Ar ôl 1900, daeth Indonesia yn fwy cyffredin mewn cylchoedd academaidd y tu allan i'r Iseldiroedd, a mabwysiadodd grwpiau cenedlaetholgar brodorol yr enw.[6] Poblogeiddiodd Adolf Bastian o Brifysgol Berlin yr enw trwy ei lyfr Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).. Yr ysgolhaig brodorol cyntaf i ddefnyddio'r enw oedd Ki Hajar Dewantara pan ym 1913, sefydlodd ganolfan i'r wasg yn yr Iseldiroedd, Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value)..[7]

Ynysoedd

golygu

Mae gan Indonesia 18,108 o ynysoedd, gyda phobl yn byw ar tua 6,000 ohonynt. Mae'r ynysoedd sy'n perthyn yn gyfangwbl i Indonesia yn cynnwys:

Mae'r brifddinas, Jakarta, ar ynys Jawa. Jakarta yw'r ddinas fwyaf, yn cael ei dilyn gan Surabaya, Bandung, Medan, a Semarang.

Taleithiau

golygu

Rhennir Indonesia yn 33 o daleithiau:

Talaith Prifddinas
Nanggroe Aceh Darussalam Banda Aceh
Gogledd Sumatra Medan
Gorllewin Sumatra Padang
Riau Pekanbaru
Ynysoedd Riau Tanjung Pinang
Jambi Jambi
Bengkulu Bengkulu
De Sumatra Palembang
Bangka-Belitung Pangkal Pinang
Lampung Bandar Lampung
Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta Jakarta
Banten Serang
Gorllewin Java Bandung
Canolbarth Java Semarang
Ardal Arbennig Yoggyakarta Yogyakarta
Dwyrain Java Surabaya
Bali Denpasar
Gorllewin Nusa Tenggara Mataram
Dwyrain Nusa Tenggara Kupang
Gorllewin Kalimantan Pontianak
Canolbarth Kalimantan Palangkaraya
De Kalimantan Banjarmasin
Dwyrain Kalimantan Samarinda
Gogledd Sulawesi Manado
Gorontalo Gorontalo
Canolbarth Sulawesi Palu
De-ddwyrain East Sulawesi Kendari
De Sulawesi Makassar
Gorllewin Sulawesi Mamuju
Maluku Ambon
Gogledd Maluku Sofifi
Papua Jayapura
Gorllewin Papua Manokwari

Morwyr o Portiwgal oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ynysoedd Indonesia yn 1512. Dilynwyd hwy gan fasnachwyr o'r Iseldiroedd a Phrydain. Yn 1602 sefydlwyd Cwmni India'r Dwyrain yr Iseldiroedd (VOC), a'r cwmni yma oedd y pwer mawr yn yr ynysoedd hyd 1800, pan ddaethant yn rhan o ymerodraeth yr Iseldiroedd dan y llywodraeth.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd meddiannwyd yr ynysoedd gan Japan. Ar ddiwedd y rhyfel yn Awst 1945, cyhoeddodd y cenedlaetholwyr Indonesaidd, dan arweiniad Sukarno, wladwriaeth annibynnol. Ceisiodd yr Iseldiroedd ad-ennill grym, ond wedi cryn dipyn o ymladd gorfodwyd hwy i gydnabod annibyniaeth Indonesia yn Rhagfyr 1949.

Bu Sukarno yn arlywydd hyd 1968. Gwanychwyd ei safle yn ddirfawr gan ddigwyddiadau 30 Medi 1965, pan laddwyd chwech cadfridog yn yr hyn a hawlid oedd yn ymgais gan Blaid Gomiwnyddol Indonesia (PKI) i gipio grym. Ymatebodd y fyddin, dan arweiniad y cadfridog Suharto, trwy ladd miloedd lawer o gomiwnyddion ac eraill y dywedid eu bod mewn cydymdeimlad â hwy. Credir i rhwng 500,000 a miliwn o bobl gael eu lladd. Daeth Suharto yn arlywydd yn ffurfiol ym mis Mawrth 1968.

Yn ystod cyfnod Suharto bu tŵf economaidd sylweddol, ond effeithiwyd ar yr economi yn ddifrifol gan broblemau economaidd Asia yn 1997 a 1998. Cynyddodd protestiadau yn erbyn Suharto, ac fe'i gorfodwyd i ymddiswyddo ar 21 Mai 1998. Yn 1999 pleidleisiodd Dwyrain Timor i adael Indonesia a dod yn wladwriaeth annibynnol.

Yn dilyn ymddiswyddiad Suharto, sefydlwyd trefn fwy democrataidd, a chynhaliwyd yr etholiad uniongyrchol cyntaf i ddewis Arlywydd yn 2004.

Arlywyddion Indonesia

golygu

Ecoleg

golygu
 
Orangutan Sumatra, rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu

Oherwydd maint a hinsawdd drofannol Indonesia, yma y ceir y lefel ail-fwyaf o fioamrywiaeth yn y byd; dim ond Brasil sydd a lefel uwch. Ar yr ynysoedd gorllewinol, ceir anifeiliad tebyg i'r rhai ar gyfandir Asia. Mae nifer o'r rhywogaethau o famaliaid mawr megis teigr Sumatra, rheinoseros Java, yr orangwtang, yr eliffant ac eraill mewn perygl o ddiflannu. Mae llawer o'r fforestydd trofannol wedi eu colli yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd torri coed, llawer ohono yn anghyfreithlon, a llosgi'r coed yn fwriadol.

Disgrifiodd y naturiaethwr o Gymro, Alfred Russel Wallace, y llinell rhwng rhywogaethau Asiaidd a rhywogaethau Awstralaidd, a elwir yn Linell Wallace. Mae'n gwahanu Kalimantan a Sulawesi, yna'n gwahanu Lombok a Bali. I'r dwyrain o'r llinell yma, mae'r anifeiliaid a phlanhigion o fathau Awstralaidd.

Economi

golygu

Roedd Indonesia un un o'r aelodau a sefydlodd ASEAN yn 1967.

Lluniau

golygu
Chwiliwch am Indonesia
yn Wiciadur.
  1. Tomascik, Tomas; Mah, Anmarie Janice; Nontji, Anugerah; Moosa, Mohammad Kasim (1996). The Ecology of the Indonesian Seas – Part One. Hong Kong: Periplus Editions. ISBN 978-962-593-078-7.
  2. Anshory, Irfan (16 Awst 2004). "The origin of Indonesia's name" (yn Indoneseg). Pikiran Rakyat. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 December 2006. Cyrchwyd 15 December 2006.
  3. 3.0 3.1 Earl 1850.
  4. Logan, James Richardson (1850). "The Ethnology of the Indian Archipelago: Embracing Enquiries into the Continental Relations of the Indo-Pacific Islanders". Journal of the Indian Archipelago and Eastern Asia 4: 252–347.
  5. van der Kroef, Justus M (1951). "The Term Indonesia: Its Origin and Usage". Journal of the American Oriental Society 71 (3): 166–171. doi:10.2307/595186. JSTOR 595186.
  6. van der Kroef, Justus M (1951). "The Term Indonesia: Its Origin and Usage". Journal of the American Oriental Society 71 (3): 166–171. doi:10.2307/595186. JSTOR 595186.van der Kroef, Justus M (1951).
  7. Anshory, Irfan (16 Awst 2004). "The origin of Indonesia's name" (yn Indoneseg). Pikiran Rakyat. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 December 2006. Cyrchwyd 15 December 2006.Anshory, Irfan (16 Awst 2004).