Trellech Grange

pentref yn Sir Fynwy

Pentrefan yng nghymuned Tyndyrn, Sir Fynwy, Cymru, yw Trellech Grange[1] (Saesneg: Trelleck Grange).[2] Saif tua 3 milltir i'r de o Tryleg, 2 milltir i'r gorllewin o Dyndyrn a thua 7 milltir i'r de o dref Trefynwy.

Trellech Grange
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7108°N 2.7366°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO491017 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Ar un adeg roedd yr ardal yn rhan o faenor Tryleg, gydag eglwys o'r enw Ecclesia Mainuon, ond ym 1138 fe'i rhoddwyd i fynachod Abaty Tyndyrn a sefydlwyd gan Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro, un o Arglwyddi'r Mers. Yna fe wnaeth y mynachod ei drin fel grange, gan ei gwneud yn brif fferm ar gyfer cynhyrchu bwyd i'r abaty.

Mae gan y pentrefan eglwys blwyf fach heb gysegriad hysbys.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Hydref 2021