Llên yr Ariannin

Llenyddiaeth sydd yn tarddu o'r Ariannin, un o brif draddodiadau llenyddol America Ladin, yw llên yr Ariannin. Sbaeneg yw prif iaith llên yr Ariannin, ac mae nifer o lenorion hefyd wedi ysgrifennu drwy gyfrwng Ffrangeg, Almaeneg, ac ieithoedd eraill. Cynhyrchwyd corff o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg gan lenorion y Wladfa ym Mhatagonia.

Llenyddiaeth Sbaeneg golygu

Gellir olrhain llenyddiaeth Sbaeneg yr Ariannin yn ôl i ganol yr 16g, pryd ddechreuodd ymsefydlwyr Sbaenaidd yn Santiago del Estero gyfansoddi barddoniaeth a ysbrydolwyd gan lên lafar y bobloedd frodorol. O'r cychwyn felly, roedd traddodiadau'r brodorion yn rhan o lenyddiaeth ysgrifenedig y wlad. Yn y 18fed arbrofai llenorion Archentaidd â newydd-glasuriaeth, y baróc a'r arwrgerdd. Roedd nifer o lenorion blaenaf y wlad yn genedlaetholwyr ac yn chwyldroadwyr, gan gynnwys Vicente López y Planes (1785–1856) ac Esteban de Luca (1786–1824).

 
Portread o Esteban Echeverría (1874).

Enillodd yr Ariannin ei hannibyniaeth ar Ymerodraeth Sbaen yn sgil Chwyldro Mai 1810 a rhyfel annibyniaeth 1810–18. Trodd dylanwadau diwylliannol y wlad hefyd i ffwrdd o'r famwlad wrth i lenorion edrych i Ffrainc a'r mudiad Rhamantaidd am ysbrydoliaeth. Y mudiad deallusol Archentaidd cyntaf oedd La Generación del '37, a wnaeth ymwrthod â diwylliannau brodorol ac etifeddiaeth Sbaenaidd y wlad, gan geisio creu llenyddiaeth gwbl newydd ar y cyd â magwraeth y weriniaeth. Un o feirdd a ffuglenwyr pwysicaf y cyfnod oedd Esteban Echeverría (1805–51), sy'n adnabyddus am ei stori fer El matadero, gwaith sy'n nodweddiadol o'r gwrthdaro rhwng y gwareiddiad Ewropeaidd a chyntefigiaeth y Byd Newydd sy'n diffinio llên America Ladin yn y 19g. Ymhlith campau eraill yng nghanol y ganrif oedd yr ysgrif hir Facundo (1845) gan Domingo Faustino Sarmiento (1811–88), a'r nofel Archentaidd gyntaf, Amalia (1851–2) gan José Mármol (1818–71).

Themâu tebyg i waith Echeverría a Sarmiento sydd i'r arwrgerdd Martín Fierro gan José Hernández (1834–86), a ystyrir yn un o weithiau pwysicaf yn holl lenyddiaeth yr Ariannin. Mae'n debyg taw'r gwaith hwnnw ydy'r enghraifft wychaf o lenyddiaeth y gaucho, genre boblogaidd yn yr Ariannin, Wrwgwái, a de Brasil yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Delwedd:Borges y Sabato.jpg
Jorge Luis Borges ac Ernesto Sábato.

Prif ddylanwadau'r mudiadau Modernismo yn niwedd y 19g ac Ultraísmo yn nechrau'r 20g oedd Symbolaeth ac arddull Parnasaidd y beirdd Ffrengig. Manteisiodd beirdd megis Leopoldo Lugones (1874–1938) a Jorge Luis Borges (1899–1986) ar fydrau anghonfensiynol a delweddaeth anghyffredin i gyfansoddi barddoniaeth hardd drwy gyfrwng y Sbaeneg. Ystyrir Borges nid yn unig yn llenor pwysicaf yr Ariannin, ond yn un o feistri holl lenyddiaeth yr iaith Sbaeneg. Yn ogystal â'i farddoniaeth, ysgrifennodd Borges straeon byrion dyfeisgar gan dorri tir newydd ar gyfer rhyddiaith arbrofol yn ddiweddarach yn yr 20g, er enghraifft yr wrthnofel Rayuela (1963) gan Julio Cortázar (1914–84). Mae llenorion pwysig eraill yr 20g yn cynnwys yr awdur straeon Adolfo Bioy Casares (1914–99), yr ysgrifwraig Victoria Ocampo (1890–1979), y nofelydd ac ysgrifwr Ernesto Sabato (1911–2011), a'r nofelydd Manuel Puig (1932–90). Ymhlith y llenorion cyfoes yn y wlad mae Luisa Valenzuela (g. 1938) a Alicia Partnoy (g. 1955).

Llenyddiaeth Gymraeg golygu

 
Straeon Patagonia gan R. Bryn Williams (1944).

Cyhoeddwyd llawer o farddoniaeth ac ysgrifau'r cyfnod cynnar yn Y Drafod, y newyddiadur pythefnosol a gychwynnwyd gan Lewis Jones. Efallai mai prif lenorion y Wladfa oedd Eluned Morgan, awdur nifer o lyfrau megis Dringo'r Andes a ystyrir yn glasuron, ac R. Bryn Williams, a enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol am ei awdl Patagonia ac a oedd hefyd yn awdur nifer o nofelau megis Bandit yr Andes. Ymhlith llenorion y Wladfa yn y cyfnod diweddar, gellir nodi Irma Hughes de Jones.

Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o atgofion am y Wladfa, yn eu plith Atgofion o Batagonia (1980) gol. R. Bryn Williams, sy'n cynnwys ysgrifau gan nifer o drigolion y Wladfa, Pethau Patagonia (1984) gan Marian Elias ar sail cyfweliadau gyda Fred Green, Atgofion am y Wladfa (1985) gan Valmai Jones a Nel fach y bwcs (1992) gan Marged Lloyd Jones.

Cyhoeddodd R. Bryn Williams flodeugerdd o farddoniaeth y Wladfa yn Awen Ariannin (1960). Enillodd Sian Eirian Rees Davies Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Eryri a'r Cyffiniau 2005 gyda I Fyd Sy Well, nofel hanesyddol am ddechreuadau'r Wladfa.

Llenyddiaeth Ffrangeg golygu

Enillodd diwylliant Ffrengig le arbennig ym meddylfryd yr Ariannin yn y 19g, wrth i lenorion ac arlunwyr Archentaidd ceisio troi cefn y genedl ar yr etifeddiaeth drefedigaethol ac efelychu gwlad Ewropeaidd arall, Ffrainc, yn hytrach na'r hen ymerodraeth, Sbaen. Erbyn y belle époque, cafodd y Ffrangeg ei hystyried yn iaith ddiwylliedig a siaredir gan oreuon cymdeithas a chan nifer o drigolion y brifddinas Buenos Aires, ac roedd arddulliau Ffrengig i'w gweld ym mhob un o'r celfyddydau yn yr Ariannin.[1] Yn niwedd y 19g, roedd siopau llyfrau Buenos Aires yn llawn nofelau, barddoniaeth, ac athroniaeth Ffrangeg, y clasuron a'r cyfoedion fel ei gilydd, roedd papurau newydd a chyfnodolion o Baris ar werth ar draws y ddinas, ac roedd myfyrwyr Archentaidd yn dysgu'r iaith.[2]

Dechreuodd y traddodiad llenyddol Ffrangeg yn yr Ariannin gyda Pablo ou la vie dans les Pampas (1869) gan Eduarda Mansilla de García (1834–92). Yn nechrau'r 20g, blodeuai mudiad barddonol yn Ffrangeg, ac un o'r beirdd amlycaf oedd María Isabel Biedma (1903–2000), a enillodd wobrau yn jeux floraux Languedoc am ei gwaith.[3] Cafodd syniadau ac arddulliau llenyddiaeth Ffrangeg effaith hynod o gryf ar y criw a oedd yn dominyddu llên yr Ariannin yn yr 20g ac yn gysylltiedig â Victoria Ocampo a'i chylchgrawn Sur: Silvina Ocampo (1903–1993), Borges, Bioy Casares, Sabato, a Cortázar. Bu Borges a llenorion eraill, gan gynnwys Ricardo Güiraldes (1886–1927) ac Enrique Larreta (1875–1961), yn ysgrifennu drwy gyfrwng yr iaith Ffrangeg ei hun. Ymfudodd nifer o awduron a newyddiadurwyr Archentaidd yr 20g i Ffrainc, gan gynnwys Héctor Bianciotti (1930–2012), Arnaldo Calveyra (1929–2015), Juan José Saer (1937–2005), Silvia Baron Supervielle (g. 1934), Luisa Futoransky (g. 1939), a Alicia Dujovne Ortiz (g. 1939), a throdd y mwyafrif ohonynt at Ffrangeg fel priod iaith eu cynnyrch llenyddol.[4]

Y wasg a'r diwydiant cyhoeddi golygu

Mae'r wasg wedi ffynnu yn Buenos Aires ers canol y 19g. Papur newydd mwyaf boblogaidd y wlad yw Clarín, a sefydlwyd yn 1945, ac mae La Prensa (s. 1869) a La Nación (s. 1870) yn uchel eu bri yn y byd Sbaeneg. Cyhoeddir hefyd y papur dyddiol Saesneg Buenos Aires Herald.

Cyfeiriadau golygu

  1. Sas, Louis Furman. “The Spirit of France in Argentina”, The French Review, cyfrol 15, rhif 6, 1942, tt. 468–477.
  2. Daughton, J. P. “When Argentina Was ‘French’: Rethinking Cultural Politics and European Imperialism in Belle‐Époque Buenos Aires”, The Journal of Modern History, cyfrol 80, rhif 4, 2008, tt. 831–864.
  3. Carlos Alvarado-Larroucau, "María Isabel Biedma, poète francophone d'Argentine", Çédille cyfrol 14 (2018), tt. 65–81.
  4. Sara Kippur (2009) "Pour ou contre une littérature-monde?: Héctor Bianciotti, Silvia Baron Supervielle, and the case of Argentina", Contemporary French and Francophone Studies, 13:2, 211-222, DOI: 10.1080/17409290902790870