Cross Ash
Pentref yng nghymuned Llangatwg Feibion Afel, Sir Fynwy, Cymru, yw Cross Ash[1][2] neu Croes Onnen.[3][4] Saif mewn ardal wledig yng ngogledd-ddwyrain y sir, ar ffordd y B4521 rhwng Y Fenni ac Ynysgynwraidd.
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.873°N 2.863°W |
Cod OS | SO407197 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[6]
Enw
golyguYr enw Cymraeg yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal yn ôl cofnodion mapiau hanesyddol o hanner cyntaf y 19eg ganrif.[4][7] 'Croesffordd gydag onnen' yw ystyr yr enw.[8]
Yn 2004 ychwanegwyd yr enw "Croes Onnen" at arwyddion ffyrdd y tu allan i'r pentref er mwyn eu dwyieithogi. Er ymddengys taw hwn yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal,[4] mynnodd ymgyrchwyr lleol nad oedd sail hanesyddol iddo a’i fod yn fathiad diangen, a chwyno na fu unrhyw ymgynghori â phentrefwyr.[9][10] Llwyddodd yr ymgyrchwyr i gael yr enw Cymraeg wedi'i dynnu o'r arwyddion yn 2011.[11] Ailgyflwynwyd yr enw Cymraeg i brif stryd y pentref yn 2021 pan osodwyd arwydd ysgol newydd gan yr ysgol gynradd.[3] "Cross Ash" yw'r ffurf sy'n ymddangos ar restr Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Rhagfyr 2021
- ↑ 3.0 3.1 "Arwydd Ysgol Gynradd Croes Onnen". Twitter. 6 Medi 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Budgen, Charles (1813). "Darluniau'r Arolwg Ordnans: Wysg". Y Llyfrgell Brydeinig. Cyrchwyd 17 Chwefror 2022.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Map degwm Ynysgynwraidd". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 1842. Cyrchwyd 18 Chwefror 2022.
- ↑ Owen, Hywel Wyn (2007). Dictionary of the place-names of Wales. Richard Morgan. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 978-1-84323-901-7. OCLC 191731809.
- ↑ Nicholas, Roy (24 Chwefror 2011). "Don't blame the Welsh Language Board". Monmouthshire Beacon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2022.
- ↑ Brendan Hughes (1 Mehefin 2011). "Villages' Welsh names painted out by council". Western Mail. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
- ↑ "Rockfield and Cross Ash signs have Welsh names removed". BBC News. 1 Mehefin 2011. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
Trefi
Brynbuga · Cas-gwent · Cil-y-coed · Y Fenni · Trefynwy
Pentrefi
Aber-ffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Bryngwyn · Caer-went · Castellnewydd · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Hengastell · Little Mill · Llanarfan · Llan-arth · Llanbadog · Llancaeo · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llandogo · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Gobion · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llan-ffwyst · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · Sudbrook · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd