Llwybr Arfordirol Ynys Môn

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn llwybr hir o 200 km/125 milltir o gwmpas arfordir Ynys Môn, y rhan fwyf ohono o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Crëwyd y llwybr fel rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau trwy ganiatâd. Mae’n ffurfio cylch o gwmpas yr ynys heblaw am fylchau yn Llanfachraeth ac ystâd Plas Newydd ac yn rhan o Lwybr yr Arfordir. Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]

Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Mathllwybr, hiking trail Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1348°N 4.4147°W Edit this on Wikidata
Hyd200 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Llwybr Arfordirol Ynys Môn
200-cilometr (124 milltir)
Y llwybr ger Benllech.
Rhan o'r llwybr yng ngogledd yr ynys.
Y llwybr ger Porth Dafarch, Trearddur.

Mae arwyddion amlwg ar hyd y llwybr cyfan.

Crëwyd y llwybr mewn partneriaeth rhwng Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn. Agorwyd y llwybr yn ffurfiol gan Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, ar 9 Mehefin 2006.

Llwybrau lleol golygu

Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:

  1. Taith gylchol Mynydd Mechell. Taith hawdd 5 km yw hon sy'n cymryd oddeutu dwyawr. Y man cychwyn yw Capel Jeriwsalem ar Fynydd Mellech (SH360899).
  2. Taith Mynydd Parys. Y porthladd yn Amlwch (SH452936) yw man cychwyn a gorffen y daith hon ac mae'r cerddwr yn pasio pentir a goleudy Trwyn y Balog a Mynydd Parys. Mae hon yn daith 22 km ac fe gymrith tua 6 awr.[2]
  3. Ynys Llanddwyn. Llwybr i gerddwyr yn unig yw hon gan mai tywod sydd o dan draed - mae'n draeth godidog gyda golygfeydd o Eryri i'w goroni. Cychwyn y daith yw maes parcio Llanddwyn SH415649 ac mae'n 2.3 km o ran hyd. Mae sarn (neu rimyn o dir) yn ei chysylltu â'r tir mawr pan fo'r llanw allan. Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr eglwys a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr troed ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r 16g ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny.

Llefydd ar hyd y llwybr golygu

 
Llwybr Arfordirol Môn (Cyfrol)

O gychwyn yng Nghaergybi a cherdded yn glocwedd, mae’r llwybr yn mynd heibio i:

Cyfeiriadau golygu

  1. "All-Wales Coast Path Nears Completion". Newyddion y BBC. BBC. 17 Hydref 2011. Adalwyd 2 Ionawr 2012.
  2. "Copper Coast Circular". Cerddwyr Ynys Môn / MônRamblers. Ramblers Association. Cyrchwyd 13 Awst 2013.

Ffynonellau golygu

  • Carl Rogers, Llawlyfr Swyddogol Llwybr Arfordirol Ynys Môn (Mara Books, 2005)

Dolenni allanol golygu