Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Rhodri Mawr
Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Rhodri Mawr | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Rhodri ap Merfyn neu Rhodri Mawr (c. 820–877) fel yr adnabuwyd ef yn ddiweddarach, oedd y brenin cyntaf i reoli'r rhan fwyaf o Gymru a'r cyntaf hefyd i gael ei alw'n "Fawr".[1]
Rhoddwyd y teitl hwn iddo oherwydd ei fod yn perthyn i genhedlaeth o reolwyr a oedd wedi ceisio creu (ac wedi llwyddo i greu) undod gwleidyddol yn eu gwledydd eu hunain. Roedd cyfoedion iddo, fel Siarlymaen (fr:Charlemagne) a’r Brenin Alffred, neu Alffred Fawr, wedi llwyddo i greu ymdeimlad o genedligrwydd ymhlith eu pobloedd eu hunain yn Ffrainc ac yn Lloegr.[2] Yn yr un modd, roedd Rhodri wedi uno prif deyrnasoedd Cymru o dan ei arweinyddiaeth, sef Gwynedd, Powys a'r Deheubarth (a oedd yn cynnwys Seisyllwg) ac wedi cyfarwyddo’r Cymry gyda’r syniad o uno o dan un arweinydd yn hytrach na pharhau i fod yn glytwaith o deyrnasoedd bychan.
Daeth yn Frenin Gwynedd yn 844 ar farwolaeth ei dad, Merfyn Frych, yn rheolwr Powys yn 855 a Seisyllwg yn 871. Roedd yn awr yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru, gyda’i deyrnas yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Gŵyr.[3]
Etifeddiaeth a Llinach
golyguLlwyddodd Merfyn Frych a’i fab, Rhodri, i gael eu gafael ar rai o brif deyrnasoedd Cymru drwy gyfrwng cyfres o briodasau gwleidyddol yn hytrach na lansio cyfres o ymgyrchoedd milwrol. Roedd Merfyn ei hun wedi etifeddu Gwynedd yn 825 pan fu farw ei ewythr ar ochr ei fam, Hywel ap Rhodri, yn ddi-etifedd ac yn aelod gwrywaidd olaf teulu Maelgwn. Wedyn, priododd Merfyn â Nest ferch Cadell, o deulu brenhinol Powys, a phriododd Rhodri eu mab ag Angharad, chwaer Gwgon, brenin Ceredigion.[3]
Er bod Cyfraith Cymru yn gwahardd trosglwyddo unrhyw etifeddiaeth drwy linell deuluol y fam, defnyddiwyd cysylltiad Rhodri â Phowys, drwy ei fam, i gyfiawnhau bod Powys yn dod i’w feddiant yn 855 yn dilyn marwolaeth ei ewythr Cyngen ap Cadell tra'r oedd ar bererindod i Rufain. Roedd hynny ar draul y ffaith bod gan Cadell etifeddion.[2]
Yn yr un ffordd, defnyddiodd ei briodas ag Angharad ferch Meurig i gyfiawnhau ei hawl i olynu Gwgon, ei frawd-yng-nghyfraith, yn rheolwr teyrnas Seisyllwg (cyfuniad o Geredigion, Ystrad Tywi a Gŵyr) yn 871. Camp ei deyrnasiad oedd llwyddo i glymu teyrnasoedd Gwynedd, Powys a'r Deheubarth mewn undod fel bod y rhan helaethaf o Gymru o dan ei awdurdod erbyn 878.[4]
Teyrnasiad
golyguAmlygodd Rhodri ei hun nid yn unig yn arweinydd craff ond hefyd fel milwr medrus a dewr. Wynebai fygythiadau ac ymosodiadau o sawl cyfeiriad, oddi wrth y Saeson, y Daniaid a theyrnasoedd eraill yng Nghymru.
Roedd yn gorfod wynebu pwysau gan yr Eingl-sacsoniaid ac yn gynyddol gan y Daniaid hefyd, a fu'n anrheithio Môn yn 854 yn ôl y croniclau. Yn 856 enillodd Rhodri fuddugoliaeth nodedig dros y Daniaid ger y Gogarth, Llandudno, gan ladd eu harweinydd Gorm (a elwid weithiau yn Horm).[1]
Roedd ei fuddugoliaeth dros y Northmyn yn nodedig, a soniwyd amdani yn llenyddiaeth y cyfnod. Roedd ei fuddugoliaeth yn hysbys ar draws y Cyfandir. Mae dwy gerdd gan Sedulius Scotus, y bardd ac ysgolhaig Gwyddelig, wedi eu hysgrifennu yn llys Siarl Foel, brenin y Ffranciaid Gorllewinol, yn dathlu buddugoliaeth "Roricus" dros y Llychlynwyr. Cyfeiriwyd at y fuddugoliaeth yn y Brut Gwyddelig hefyd. Roedd hon yn fuddugoliaeth filwrol bwysig gan fod pŵer milwrol y Northmyn yn gryf ac yn ddidrugaredd. Erbyn 865 roeddent wedi cyrraedd ynysoedd yr Alban a sefydlu trefedigaethau yn Iwerddon, gan gynnwys un yn Nulyn. Aethant ymlaen wedyn i feddiannu teyrnasoedd brenhinol Lloegr oni bai am Wessex, a chipio tiroedd yng ngogledd Ffrainc. Cymaint oedd eu henwogrwydd bu'n rhaid i Alffred Fawr ffoi i Wlad yr Haf a Rhodri i Iwerddon ar un adeg er mwyn dianc rhag rhaib y Northmyn.[3]
Cafodd Rhodri fuddugoliaeth arall yn erbyn y Daniaid ym Mrwydr Parciau yn 872. Mae Cronicl y Tywysogion yn nodi buddugoliaeth mewn dau le, sef Bangolau (Bann Guolou neu Bannoleu) lle trechodd y Llychlynwyr yn Ynys Môn mewn brwydr galed, a’r ail ym Manegid neu Enegyd, lle cafodd y Llychlynwyr eu dinistrio.[5]
Yn 876 ymladdodd Rhodri frwydr arall yn erbyn y Daniaid, ond y tro hwn bu'n rhaid iddo ffoi i Iwerddon. Pan ddychwelodd y flwyddyn wedyn yn 877, dywedir iddo ef a'i fab Gwriad gael eu lladd gan y Saeson, sef gwŷr Mersia, er nad yw'r manylion yn hysbys.[1] Sonia rhywfaint o ffynonellau’r cyfnod mai Ceolwulf o Mercia a’i filwyr a’u lladdodd gan fod Alffred Fawr yn ymladd yn erbyn y Llychlynwyr yn Nwyrain Anglia ar y pryd. Pan enillodd ei fab, Anarawd ap Rhodri, fuddugoliaeth dros wŷr Mersia ym Mrwydr Conwy yn 881 fe'i dathlwyd yn y brutiau fel "dial Duw am Rhodri".[1]
Roedd Rhodri Fawr yn gefnogwr brwdfrydig i ddiwylliant y beirdd - traddodiad a oedd yn cofnodi hanesion y Cymry, ac mae cerdd gan yr ysgolhaig Gwyddelig, Sedulus Scottus, i Rhodri yn dangos ei bwysigrwydd fel noddwr a chefnogwr diwylliant. Hwn oedd cyfnod Canu Heledd a Llywarch Hen[6] a’r cyfnod pan fu diddordeb yn y cysylltiad brenhinol rhwng yr Hen Ogledd a llinach frenhinol teyrnasoedd Cymru. Mae’n amlwg bod safon dysg yng Nghymru’r cyfnod yn cael ei gydnabod gan Loegr, oherwydd gwahoddwyd yr ysgolhaig Asser o Dyddewi draw i Wessex gan Alffred Fawr i ysgrifennu ei gofiant.[1][3]
Yr olyniaeth
golyguYn ôl rhai haneswyr roedd pedwar o feibion gan Rhodri, ond dywedai eraill bod chwech ganddo. Ymhlith y meibion hynny roedd ei fab hynaf, sef Anarawd, a etifeddodd Wynedd a Phowys. Y gangen hon o’r teulu sefydlodd llys Aberffraw, ac roedd Gruffudd ap Cynan a Llywelyn Fawr ymhlith ei ddisgynyddion. Cadell oedd un o’r meibion eraill, a thad Hywel Dda, a’r gangen hon a ymsefydlodd gangen frenhinol teulu Dinefwr, a ddaeth yn bencadlys i deyrnas y Deheubarth.
Plant
golygu- Anarawd ap Rhodri (bu farw 913)
- Cadell ap Rhodri (854 -907)
- Gwriad ap Rhodri: a laddwyd mewn brwydr yn erbyn y Saeson gyda’i dad, Rhodri yn 877. Lladdwyd ei fab, Gwgawn yn 955.
- Tudwal ap Rhodri (ganwyd 860)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 79, 82. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
- ↑ 2.0 2.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 79. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 43–47. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "RHODRI MAWR (bu farw 877), brenin Gwynedd, Powys, a Deheubarth | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
- ↑ Anhysbys. The Chronicle of the SaxonsorBrut y Saeson.
- ↑ Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Stephens, Meic, 1938- (arg. Arg. newydd). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. tt. 86–7. ISBN 0-7083-1382-5. OCLC 38068896.CS1 maint: others (link)
Llyfryddiaeth
golygu- John Edward Lloyd, A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest(Longmans, Green & Co, 1911)
- Ceinwen H. Thomas, "Rhodri Mawr", yn Ein Tywysogion (1954)
Rhagflaenydd: Merfyn Frych ap Gwriad |
Brenin Gwynedd 844–878 |
Olynydd: Anarawd ap Rhodri |
Rhagflaenydd: Cyngen ap Cadell |
Brenin Powys 855–878 |
Olynydd: Merfyn ap Rhodri |
Rhagflaenydd: Gwgon |
Brenin Seisyllwg 872–878 |
Olynydd: Cadell ap Rhodri |