Dwyrain Aberpennar
Cymuned a ward etholiadol yn Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Dwyrain Aberpennar. Mae'n cynnwys yn bennaf rhan o dref Aberpennar sydd i'r dwyrain o'r Afon Cynon. Ffurfiwyd y gymuned yn 2016 pan rannwyd hen gymuned Aberpennar yn Ddwyrain a Gorllewin i gyd-fynd â ffiniau'r wardiau.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 3,000 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhondda Cynon Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.685035°N 3.376644°W |
Cod SYG | W04001016 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au y DU | Beth Winter (Llafur) |
Hanes a disgrifiad
golyguDaeth cymuned Dwyrain Aberpennar i rym ar 1 Rhagfyr 2016 yn dilyn deddfu Gorchymyn (Cymunedau) Rhondda Cynon Taf 2016.[1] Mae'n cynnwys pentref Aberpennar i'r dwyrain o'r Afon Cynon a hefyd pentrefi'r Drenewydd, Caegarw, Cwmpennar a Chefnpennar.[2]
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y gymuned boblogaeth o 2,990.[3]
Mae Dwyrain Aberpennar yn cynnwys Eglwys restredig Gradd II y pentref, Eglwys y Santes Farged, a ddyluniwyd gan John Pollard Seddon.[4]
Ward etholiadol
golyguRoedd ward etholiadol Dwyrain Aberpennar yn bodoli eisoes yn y gymuned. Etholodd y ward un cynghorydd sir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ers 1995 cynrychiolwyd y ward ar y cyngor gan gynghorydd Plaid Cymru, Pauline Jarman,[5][6] a fu gynt yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Cwm Cynon. Safodd etholiad am y tro cyntaf yn 1976.[7]
Roedd y Cynghorydd Jarman wedi bod yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Rhondda Cynon Taf ers 1996.[7] Roedd niferoedd Plaid Cymru wedi dyblu i 18 ar ôl etholiad Mai 2017 a dyma oedd yr wrthblaid swyddogol ar y cyngor.[8]
Yn dilyn adolygiad ffiniau llywodraeth leol, unwyd wardiau Dwyrain Aberpennar a Gorllewin Aberpennar i greu un ward newydd yn Aberpennar, gan ethol dau gynghorydd. Safodd Pauline Jarman mewn etholiad yn y ward newydd yn etholiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2022,[9] er iddi fethu ag ennill sedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Rhondda Cynon Taf (Communities) Order 2016" (PDF). Legislation.gov.uk. Cyrchwyd 2 Ebrill 2018.
- ↑ Election maps, Ordnance Survey; adalwyd 7 Ebrill 2018
- ↑ City Population; adalwyd 22 Gorffennaf 2023
- ↑ Church of St Margaret - A Grade II Listed Building in Mountain Ash, Rhondda Cynon Taff, British Listed Buildings; adalwyd 7 Ebrill 2018
- ↑ Rhondda Cyon Taff County Borough Council Election Results 1995-2012, The Election Centre; adalwyd 7 Ebrill 2018
- ↑ County Borough Council Elections 2017, Rhondda Cynon Taf County Borough Council; adalwyd 7 Ebrill 2018
- ↑ 7.0 7.1 Thomas Deacon, Ruth Mosalski (25 Ebrill 2017). "These are the contenders to lead Rhondda Cynon Taf council after May's local elections". Wales Online. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
- ↑ Thomas Deacon (5 May 2017). "Labour clings on to power as Plaid Cymru surge isn't enough to win power in Rhondda Cynon Taf". Wales Online. Cyrchwyd 7 Ebrill 2018.
- ↑ Anthony Lewis (29 Ebrill 2022). "The predicted key seats during Rhondda Cynon Taf's council election". Wales Online. Cyrchwyd 18 Mehefin 2022.
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aber-nant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynys-y-bwl · Ystrad Rhondda