Siân Lewis (Caerdydd)
Mae Sian Lewis (ganed 5 Awst 1970; enw bedydd, Siân Erin Jobbins) wedi arwain dau fudiad hyrwyddo'r iaith Gymraeg, Menter Iaith Caerdydd ac, ers 2018 mae'n Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.[1]
Siân Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1970 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Magwraeth
golyguGaned Siân yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd ('Cardiff Royal Infirmary') yn Glossop Terrace, oddi ar Ffordd Casnewydd, Caerdydd a'i magu ym maestrefi Llanedeyrn ac yna'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf, ac wedi cau'r ysgol hwnnw i Ysgol Gynradd Gymraeg Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd ac yna Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Ystum Taf yn y ddinas. Yn dilyn siom canlyniadau Lefel O a'r sylweddoliad nad oedd cyrsiau Lefel A o ddiddordeb na pherthnasedd i'w dyheuadau a bywyd, aeth i Goleg Rhymni (sydd bellach yn rhan o Goleg Caerdydd a'r Fro a dilyn cwrs Astudiaethau Busnes. Mae'n dweud iddi ffynnu yn y Coleg a hefyd cwrdd â "grŵp mwy amrywiol o ffrindiau" yno gan gynnwys cefndiroedd ethnig a dosbarth.[1] Astudiodd ymlaen i astudio Busnes yn Athrofa Caerdydd [2](Met Caerdydd bellach) ac fel gradd ym Politecheg Pontypridd (Prifysgol De Cymru bellach).
Gyrfa
golyguWedi derbyn gradd aeth Lewis ymlaen i weithio fel ysgrifenyddes i gwmni teledu Fflic am beth amser ac yna yn wreiddiol fel swyddog yn rhedeg adran i'r Urdd fin nos ac yna fel swyddog llawn amser Urdd rhwng 1994-2003 gan weithio i gychwyn yn hen Ganolfan yr Urdd, Conway Rd, Pontcanna sydd bellach wedi cau.[2]
Oddi yno, daeth yn Brif Weithredwr ar Fenter Caerdydd a Menter Iaith Bro Morgannwg.[3] Ymysg ei llwyddiannau oedd sefydlu'r ŵyl flynyddol Gymraeg llwyddiannus, Tafwyl. Dechreuodd yr ŵyl ym maes parcio Tafarn y Mochyn Du (fel y'i gelwid) ger Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru oddi ar Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd ac erbyn i Lewis adael, roedd y digwyddiad yng ngerddi Castell Caerdydd.[1] Cynyddodd trosiant y Fenter o £36,000 pan gychwynnodd y swydd i bron £750,000 pan adawodd hi gydag incwm o £250,000.[2]
Wrth gyhoeddi'r newyddion am benodi Lewis yn Brif Weithredwr yr Urdd yn 2017, dywedodd Tudur Dylan Jones, cadeirydd yr Urdd bod "...hi wedi profi ei bod hi'n arweinydd naturiol, ac mae'r mudiad yn edrych ymlaen at gyfnod cyffrous o dan ei harweiniad."[3]
Prif Weithredwr yr Urdd
golyguYn ystod ei chyfnod fel Prif Weithredwr y mudiad bu rhaid i Lewis ddelio gyda sawl her a datblygu sawl agwedd newydd:
- Covid-19 - bu'n haid canslo dau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar-safle yn 2020 a 2021 oherwydd Covid-19. Yn eu lle cynhaliwyd Eisteddfod-T, sef cystadleuthau ar-lein gyda'r cystadleuwyr yn danfon fideos o'u hymdrechion.[4][5] Collodd y mudiad gwerth £15M o incwm yn ystod COVID, collodd 167 o weithlu ei swyddi (staff 230 yn 2020) a gwynebwyd dyled o dros £3.5M – erbyn 2024 roedd y gweithlu wedi codi i dros 390 o staff, 41% ohonynt o dan 25oed.
- Derbyn Ffoaduriaid - yn dilyn llwyddiant y mudiad wltra-geidwadol Islamaidd, y Taliban i gipio grym yn Afghanistan, derbyniodd yr Urdd ffaoduriaid o'r wlad yn 2021.[6] Yn sgil Rhyfel Rwsia ar Wcráin a ddechreuodd yn Chwefror 2022 lletyodd y mudiad ffoaduriaid o'r wlad yng Nghwersyll Llangrannog.[7]
- Eisteddfod yn Esblygu - gwelwyd datblygiadau newydd i'r Eisteddfod flynyddol. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2022 cyflwynwyd llwyfan gerddoriaeth Gymraeg Triban l fel aduniad i aelodau a chyn-aelodau.[8]
- Partneriaeth gyda'r Gwyddelod - yn 2020 ffurfiwyd partneriaeth gyda'r mudiad iaith Wyddeleg i bobl ifanc yn yr Iwerddon, TG Lurgan. Mae aelodau o'r ddau fudiad yn ymweld â'r ddwy wlad gan gydweithio i greu a recordio caneuon a rhannu diwylliant.[9]
- Fel Merch - yn 2021 sefydlwyd ymgyrch #FelMerch gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru er mwyn " ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru merched ifanc i gadw’n actif a chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.".[10]
- Buddsoddiad mewn Gwersylloedd - bu dros £11M o fuddsoddiad Cyfalaf i Wersylloedd yr Urdd rhwng 2020 – 2024 gyda 4ydd Wersyll yr Urdd yn agor yn Pentre Ifan ym mis Medi 2023[11] a Glan-Llyn Isaf yn agor fel Canolfan Preswyl 16+.[12]
- Adran Ryngwladol - sefydlwyd startegaeth ac Adran Rhyngwladol er mwyn cynnig profiadau i bob ifanc Cymru lysgenhadu ein iaith, diwylliant a gwlad ar draws y byd. Ers 2020, mae aelodau’r Urdd wedi ymweld a chreu partneriaethau yn India, Gwlad Belg, Fraint, Llywdaw, Japan, Zeland Newydd, Awstralia, America, Iwerddon, Kenya, Norwy, Dubai, Yr Almaen a Gwlad y Basg.[13] Bu hefyd iddynt gynrychioli Cymru yng Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant yn Llydaw.[14]
- Ailsefydlu'r Cwmni Theatr - gyda cefnogaeth o £1M gan LLC yn 2022, ail-sefylwyd Theatr Ieuenctid yr Urdd.[15]
- Cyflogwr Cyflog Byw - yn 2023 daeth yr Urdd yn Gyflogwr Cyflog Byw Go iawn.[16]
- Plant Difreintiedig - yn 2021 lansiodd yr Urdd Gronfa i blant difreintiedig fynychu’r Gwersylloedd Haf am ddim.[17]
Blwyddyn Canmlwyddiant
golyguLansiwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn ei Chanmlwyddiant yn 2022 yn y Ganolfan Heddwch yn Norwy yng nghwmni aelodau’r Urdd a Prif Weindiog Cymru Mark Drakeford, rhannwyd y Neges gan Hillary Clinton, a Boris Johnson.
Yn mlwyddyn ei chanmlwyddiant sefydlwyd #FelMerch, Urban Games Ieuenctid cyntaf Cymru a Gŵyl Triban.
Anrhydeddau ac eraill
golyguDerbyniwyd Siân Lewis i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 2016. Ei henw yng Ngorsedd yw "Merch y Ddinas".[18]
Apwyntiwyd hi i fod yn aelod o Awdurdod S4C[19] yn 2014 ac ailapwyntio yn 2018.[20]
Bywyd Personol
golyguMae Siân yn briod â Gary Lewis, brodor o'r Bala sydd yn Gyfarwyddwr Chwaraeon yr Urdd. Mae ganddynt ddau o blant, Zac a Mari. Ei rhieni yw Alan a Catherine. Bu ei thad yn weithredol yn sefydlu Clwb Ifor Bach a'i mam yn sefydlu Cylch Meithrin gyntaf Caerdydd a chynnal Aelwyd yr Urdd yn yr 1980au yn yr Eglwys Newydd. Mae ganddi frawd, Siôn Jobbins, a chwaer, Siwan sy'n gynhyrchydd teledu.[2]
Dolenni allanol
golygu- Cyfweliad gyda Siân Lewis ar raglen Beti George ar BBC Radio Cymru, Beti a'i Phobl (2018)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Shipton, Martin (8 Ionawr 2020). "Urdd Chief on how she Fought Back after Failing Exams". Western Mail.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Beti a'i Phobl Siân Lewis". BBC Radio Cymru. 29 Ebrill 2018.
- ↑ 3.0 3.1 "Penodi Sian Lewis yn brif weithredwr newydd yr Urdd". BBC Cymru Fyw. 2 Hydref 2017.
- ↑ "Llwyddiant Eisteddfod T yn 'arloesol a hanesyddol'". BBC Cymru Fyw. 2020-05-30. Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ "Yr Urdd yn cyhoeddi trefniadau Eisteddfod T 2021". BBC Cymru Fyw. 2021-02-11. Cyrchwyd 2021-02-11.
- ↑ "Gwaith "arloesol" yr Urdd wrth gynnig lloches i deuluoedd o Afghanistan". Gwefan yr Urdd. 2021.
- ↑ "Yr Urdd yn newid gwersylloedd haf i gefnogi ffoaduriaid". BBC Cymru Fyw. 28 Mehefin 2022.
- ↑ "Eisteddfod yr Urdd: Tri llwyfan ond dim rhagbrofion". BBC Cymru Fyw. 10 Mawrth 2022.
- ↑ "Iwerddon Dysgwch fwy am bartneriaeth yr Urdd a TG Lurgan". Gwefan yr Urdd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-27. Cyrchwyd 27 Awst 2024.
- ↑ "Beth yw #FelMerch". Gwefan yr Urdd. Cyrchwyd 27 Awst 2024.
- ↑ "Urdd Agor gwersyll newydd ym Mhentre Ifan, Sir Benfro". BBC Cymru Fyw. 28 Medi 2023.
- ↑ "Penodi Mair Edwards yn gyfarwyddwr newydd Glan-llyn". BBC Cymru Fyw. 6 Tachwedd 2023.
- ↑ "Urdd Project will help Young People in India". Nation.Cymru. 31 Mai 2024.
- ↑ "Yr Urdd am gyflwyno Cymru a'r Gymraeg i Ffrainc a Llydaw ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd". Golwg360. 2023.
- ↑ "'Hanfodol' bod Theatr Ieuenctid yr Urdd yn dychwelyd". BBC Cymru Fyw. 1 Medi 2023.
- ↑ "Urdd becomes 500th real Living Wage employer in Wales". Nation.Cymru. 14 Gorffennaf 2023.
- ↑ "27 Feb 2024". Nation.Cymru.
- ↑ "anrhydeddau". Gorsedd Cymru. 2016. Cyrchwyd 27 Awst 2024.
- ↑ "Tri Aelod Newydd o Awdurdod S4C". S4C. 8 Gorffennaf 2014.
- ↑ "S4C Reappointments". Llywodraeth San Steffan. 13 Awst 2018.