Y Gyngres Geltaidd
Sefydlwyd Y Gyngres Geltaidd (Llydaweg: Ar C'hendalc'h Keltiek, Cernyweg: An Guntelles Keltek, Manaweg: Yn Cohaglym Celtiagh, Gaeleg: A' Chòmhdhail Cheilteach, Gwyddeleg: An Chomhdháil Cheilteach, Saesneg: The International Celtic Congress) yn 1902, ond ni chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf tan 1917, yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Ei nod yw hyrwyddo gwybodaeth, defnydd a gwerthfawrogiad o ieithoedd a diwylliant y chwe gwlad Geltaidd, sef yr Alban, Llydaw, Cymru, Iwerddon, Cernyw ac Ynys Manaw. Mae cangen genedlaethol ym mhob un o'r chwe gwlad yma.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad diwylliannol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1917 |
Yn wahanol i'r Undeb Celtaidd, mae'r Gyngres Geltaidd yn anwleidyddol. Cynhelir cynhadledd flynyddol, ym mhob un o'r gwledydd Celtaidd yn eu tro.
Mae'n enghraifft o fudiad Pan-Geltaidd.
Hanes
golyguSefydlwyd y Gyngres Geltaidd yn 1917 gan Edward Thomas John (a adnabwyd hefyd fel E.T. John), cenedlaetholwr Cymreig a fu’n AS dros Ddwyrain Sir Ddinbych o 1910 hyd 1918 ac yn noddwr Deddf Senedd i Gymru yn 1914. Cafodd ei ysgogi’n rhannol gan y ddelfryd o adfywio gwaith y Gymdeithas Geltaidd gynharach a’i Chyngresau Pan-Geltaidd blynyddol, ond dylanwadwyd arno hefyd gan ganlyniadau cymdeithasol a diwylliannol y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliodd y Gyngres Geltaidd newydd ei chyfarfod cyntaf yn 1917 yn Eisteddfod Penbedw.[1] Cynhaliwyd y Gyngres yng Nghaeredin yn 1920, ac yn 1921 ar Ynys Manaw. Ym 1925 cynhaliwyd y Gyngres yn Nulyn, ac un o'r siaradwyr oedd Douglas Hyde. Ffigur amlwg oedd Agnes O'Farrelly, a oedd hefyd yn rhan o Conradh na Gaeilge ac a fu am gyfnod yn aelod o Cumann na nBan (mudiad parafilwrol merched gweriniaethol Gwyddelig). Chwaraeodd ran fawr yn y sefydliad ar ôl marwolaeth John ym 1931.
Ym 1935, Caerdydd oedd y lleoliad, a darlledodd Rhanbarth Gorllewinol y BBC y trafodion (roedd Cymru wedi ei chynnwys fel rhan o ranbarth gorllewin Lloegr hyd nes i ymgyrch gan genedlaetholwyr fel Saunders Lewis, Plaid Cymru ac aelodau'r Cylch Dewi cynnar newid hynny). Cynhaliwyd Cyngres 1938 ar Ynys Manaw mewn gwahanol neuaddau, fel bod y mynychwyr yn cael dewis o ddarlithoedd, dadleuon a thrafodaethau.[1] Roedd y cyfarfodydd yn afreolaidd cyn yr Ail Ryfel Byd er yn y 1920au, ceisiodd Plaid Genedlaethol yr Alban (rhagflaenydd Plaid Genedlaethol yr Alban fodern) gyfranogiad, a chydsyniodd Taoiseach Iwerddon ar y pryd, Éamon de Valera i fod yn noddwr y sefydliad yn y 1930au.
Bu bwlch o un mlynedd ar ddeg cyn y Gyngres Geltaidd ym Mangor ym mis Awst 1949, lle'r oedd y cynrychiolwyr yn cynnwys Syr Ifor Williams a Conor Maguire, Prif Ustus Iwerddon.[2] Mae cyfarfodydd wedi eu cynnal bron bob blwyddyn ers hynny. Bu Cyngres Geltaidd 1950, a gynhaliwyd yn Sefydliad Brenhinol Cernyw yn Truru, yn gatalydd ar gyfer sefydlu Mebyon Kernow y flwyddyn ganlynol.[3] Cynhaliodd cangen Cymru y cyfarfod yn Aberystwyth yn 1960.[1]
Mae pob un o'r chwe changen yn annibynnol gyda'u rhaglenni eu hunain o weithgareddau yn ystod y flwyddyn. Cynhelir y Gynhadledd ym mhob un o’r chwe gwlad yn eu tro, a’r wlad sy’n cynnal y gynhadledd sy’n cael y fraint o ddewis thema’r darlithoedd am y flwyddyn honno. Mae Cyngres Geltaidd Ryngwladol yn cynnwys darlithoedd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb diwylliannol a hanesyddol, a digwyddiadau cerddoriaeth a dawns.
Lleoliadau
golygu
|
Dolenni allanol
golygu- Safle we y Gyngres Geltaidd Archifwyd 2021-10-21 yn y Peiriant Wayback
- Y Gyngres Geltaidd Ryngwladol, 2021
- John, Edward T., "Address delivered at the Edinburgh Celtic Conference", 24 Mai 1920
- Cyhoeddi Gorsedh Kernow yn y Gyngress Geltaidd yn 2019 ar Youtube
-
- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Ellis, Mari. "A short history of the Celtic Congress", Proceedings of the Aberystwyth Congress, 1983". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2015.
- ↑ The Manchester Guardian CELTIC CONGRESS AT BANGOR: First for Eleven Years; 9 August 1949
- ↑ Deacon, Bernard; Cole, Dick; Tregidga, Garry (2003). Mebyon Kernow and Cornish Nationalism. Wales: Welsh Academic Press. tt. 29. ISBN 1860570755.
- ↑ "Coronavirus Information 2020 - Celtic Congress". internationalcelticcongress.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-10. Cyrchwyd 2021-06-10.