Agor y brif ddewislen

Un o Feirdd y Tywysogion a ganai yn ail hanner y 12g oedd Peryf ap Cedifor (fl. 1170), a adnabyddir hefyd fel Peryf ap Cedifor Wyddel. Fe'i gofir yn bennaf am ei ddwy gyfres o englynion marwnad i'r bardd-dywysog Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170) a'i frodyr maeth, brodyr Peryf ei hun.[1]

BywgraffiadGolygu

Fel yn achos sawl un o'r Gogynfeirdd, ni wyddys dim am Peryf ap Cedifor ar wahan i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi ei hun. Roedd yn fab i Gedifor Gwyddel, tad maeth Hywel ab Owain Gwynedd. Rhoddir y cyfenw 'Gwennwys' ar Gedifor ym 'Marwnad Hywel ab Owain Gwynedd', sy'n awgrymu fod Cedifor yn frodor o Went. Ond ceir marwnad i fab 'Cedifor Wyddel' gan Cynddelw Brydydd Mawr: os yr un Cedifor a olygir buasai'n cymorth i esbonio sut y daeth yn dad maeth i Hywel, gan mai Gwyddeles oedd mam Hywel, gwraig Owain Gwynedd. Mae'n bosibl felly mai brodor o Wynedd oedd Peryf.[1]

CerddiGolygu

Lladdwyd Hywel ab Owain Gwynedd a'i frodyr maeth ym mrwydr Pentraeth, Môn, yn erbyn Dafydd ab Owain Gwynedd a'i frawd Rhodri yn 1170. Ceir cyfres o englynion marwnad i'r brodyr maeth a chyres arall i Hywel ei hun. Syrthiodd pedawr o saith frawd Peryf yn y frwydr ac mae'r gerdd yn agor gyda'r llinellau teimladwy,

Tra fuam yn saith, trisaith—ni'n beiddai,
Ni'n ciliai cyn ein llaith,
Nid oes, ysywaeth, o'r saith
Namyn tri trin diolaith.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Peryf ap Cedifor', yn Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o waith Peryf ap Cedifor, yng "Nghyfres Beirdd y Tywysogion".

CyfeiriadauGolygu