Gwernen ap Clyddno

Un o Feirdd y Tywysogion oedd Gwernen ap Clyddno (fl. 12g neu'r 13g).[1]

Gwernen ap Clyddno
GanwydCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd13 g Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlawysgrif Hendregadredd Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Gwernen yw'r lleiaf adnabyddus o'r Gogynfeirdd. Ni wyddys dim o gwbl amdano. Does dim cyfeiriad at neb arall o'r enw yn achau'r cyfnod. Mae'r enw personol Gwernen ei hun yn anghyffredin iawn; ceir enghraifft ohono yn Llyfr Llandaf (yn y ffurf Gwerngen).[1]

Cerddi

golygu

Dim ond dri Englyn Unodl Union o waith Gwernen sydd wedi goroesi, sy'n rhan o gadwyn hirach sydd bellach ar goll. Cedwir y testun yn Llawysgrif Hendregadredd a chwech llawysgrif diweddarach. Tynged dyn yw testun y gerdd, sy'n sôn am ryfelwr dienw na ddaeth yn ôl o gyrch rhyfel.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • "Gwaith Gwernen ap Clyddno", gol. N. G. Costigan (Bosco), yn Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg, gol. N. G. Costigan et al., Cyfres Beirdd y Tywysogion 6 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Gwaith Gwernen ap Clyddno", gol. N. G. Costigan



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch