Madog ap Gwallter
Bardd a brawd crefyddol o Gymru oedd Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13g?). Yn ôl pob tebyg, roedd yn frodor o Lanfihangel Glyn Myfyr (sir Conwy heddiw), er nad oes sicrwydd am hynny.[1]
Madog ap Gwallter | |
---|---|
Ganwyd | 13 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguNi wyddys llawer amdano ar wahân i'r hyn y gellir casglu oddi wrth ei waith. Cofnododd John Davies o Fallwyd ei enw fel y brawd Fadog ap Gwallter mewn nodyn ganddo yn Llyfr Coch Hergest ac mewn llawysgrif arall cofnoda'r dyddiad fl. A.D. 1250. Ar sail hyn a natur ei waith mae lle i gredu ei fod yn frawd crefyddol ac efallai'n un o'r Brodyr Llwydion. Mae'n amlwg ei fod yn hyddysg yn y Beibl yn ogystal â bod yn fardd hyfforddedig.[1]
Cerddi
golyguCerdd Ladin
golyguMae'n bosibl mai Madog yw awdur cerdd Ladin hir sy'n dathlu dawn filwrol y Brythoniaid (sef y Cymry) a'u buddugoliaethau dros y Saeson. Mae'r gerdd wladgarol hon i'w chael mewn llawysgrif (Caerdydd 2.611) sy'n dyddio o ddiwedd y 13g neu ddechrau'r 14g. Cofnodir yr awdur fel Frater Walensis madocus edeirnianensis ("y brawd o Gymro, Madog o Edeirnion").[1]
Cerddi Cymraeg
golyguCedwir dwy awdl ac un gadwyn englynion o waith Madog, ond gellir bod yn sicr ei fod wedi cyfansoddi llawer mwy. Mae'r awdl gyntaf yn adrodd geni'r Iesu ac yn adnabyddus weithiau dan enw'r llinell agoriadol 'Mab a'n rhodded' neu fel 'Geni Crist'. Ystyrir y gerdd hon y garol gyntaf i'w chyfansoddi yn Gymraeg.[2]
Dyma ran o'r gerdd:
- Mab a'n rhodded,
- Mab mad aned dan ei freiniau,
- Mab gogoned,
- Mab i'n gwared, y mab gorau,
- Mab fam forwyn
- Grefydd addfwyn, aeddfed eiriau,
- Heb gnawdol Dad
- Hwn yw'r Mab rhad, rhoddiad rhadau...
- Cawr mawr bychan,
- Cryf, cadarn, gwan, gwynion ruddiau;
- Cyfoethog, tlawd,
- A'n Tad a'n Brawd, awdur brodiau.
- Iesu yw hwn
- A erbyniwn yn ben rhiau.
- Uchel, isel,
- Emanuel mêl meddyliau...
- Pali ni fyn,
- Nid urael gwyn ei gynhiniau.
- Yn lle syndal
- Ynghylch ei wâl gwelid carpiau...
- Ei leferydd
- Wrth fugelydd, gwylwyr ffaldau.
- Engyl yd fydd,
- A nos fal dydd dyfu'n olau.
- Yna y traethwyd
- Ac y coeliwyd coelfain chwedlau,
- Geni Dofydd
- Yng nghaer Ddafydd yn ddiamau...
- Nos Nadolig,
- Nos annhebyg i ddrygnosau,
- Nos lawenydd
- I lu bedydd, byddwn ninnau.
- Bendigaid fyg
- Yw'r Nadolig deilwng wleddau,
- Pan aned Mab,
- Arglwydd pob Pab, pob peth piau,
- O Arglwyddes
- A wna i'n lles, a'n lludd poenau,
- Ac a'n gwna lle
- Yn nhecaf bre yng ngobrwyau.
Mae'r ail yn gerdd ddramatig sy'n ymbil ar Dduw i achub enaid y bardd a'r drydedd yn ymwneud â Sant Fihangel a'i frwydr â'r cythraul.[1]
Cedwir testun dwy gerdd yn Llyfr Coch Hergest a'r cyfan yn llawysgrif NLW 4973B (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru).[1]
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Golygir gwaith y bardd yn:
- Rhian M. Andrews (gol.), 'Gwaith Madog ap Gwallter', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Caerdydd, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.
Ceir testun cyfleus mewn orgraff ddiweddar o'r gerdd 'Geni Crist' yn:
- Thomas Parry (gol.), Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1962; sawl argraffiad er hynny)
- E. Wyn James, Carolau a'u Cefndir (1989)
Gweler hefyd:
D. Myrddin Lloyd, 'Y Brawd Fadawg ap Gwallter a'i Gân i'r Geni', Y Tyst, 25 Rhagfyr 1947 (a ailgyhoeddwyd yn y cylchgrawn Canu Gwerin yn 1992).
Cyflwyniad yr Athro E. Wyn James i'r gerdd am y Geni mewn oedfa yng Nghapel Cildwrn, Llangefni, 26 Rhagfyr 2021: https://www.youtube.com/watch?v=Iuw_AHzLFS4&t=2s
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Rhian M. Andrews (gol.), 'Gwaith Madog ap Gwallter'.
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd Hydref 2015.