Agor y brif ddewislen

Roedd Daniel ap Llosgwrn Mew (fl. 1170 - 1200) yn fardd llys yng Ngwynedd yn chwarter olaf y 12g. Dim ond un o'i gerddi sydd wedi goroesi, ond roedd yn un o gerddi mwyaf poblogaidd o waith Beirdd y Tywysogion yn yr oesoedd canlynol, a barnu wrth nifer y copïau a geir yn y llawysgrifau.[1]

BywgraffiadGolygu

Ni wyddys odid dim am fywyd y bardd ar wahân i'r ychydig y gellir casglu o dystiolaeth yr unig gerdd o'i waith sydd ar glawr. Mae enw ei dad, Llosgwrn Mew, ymhlith y rhyfeddaf o'r llysenwau Cymraeg sy'n britho hanes Cymru'r Oesoedd Canol (ystyr arferol y gair Cymraeg Canol llosgwrn yw "cynffon"; mae ystyr mew yn ansicr). Bron y cwbl y gellir dweud am y bardd â sicrwydd yw ei fod yn fardd mewn un o lysoedd Gwynedd a bod y brenin Owain Gwynedd ymhlith ei noddwyr.[1]

CerddiGolygu

Ceir y testun cynharaf o farnwad Daniel ap Llosgwrn Mew i Owain Gwynedd yn Llawysgrif Hendregadredd yn llaw gŵr o Abaty Ystrad Fflur (tua 1300).[1] Mae'n un o dair marwnad i Owain sydd ar glawr (Cynddelw Brydydd Mawr a Seisyll Bryffwrch piau'r ddwy arall). Mae'n bosibl fod y bardd wedi canu'r farwnad yn angladd Owain Gwynedd yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar ddiwedd Tachwedd, 1170. Ynddi mynega'r bardd ei ofid am golli'r brenin dawnus a nerthol hwnnw a'i bryder am y dyfodol ar ei ôl. Ceir nodyn personol iawn yn y mynegiant sy'n gosod y farwnad hon ochr yn ochr â marwnad enwog Gruffudd ab yr Ynad Coch i Lywelyn yn 1282/83. Mae'r gerdd yn cloi ar nodyn beiddgar iawn gyda'r bardd yn datgan y byddai'n barod i geryddu Duw ei hun am ddwyn Owain, pe bai'n bosibl:

A nu bei gallwn ymgerydd—â Duw
Ydd oedd imi ddefnydd.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Daniel ap Llosgwrn Mew', yn Kathleen A. Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion.'

CyfeiriadauGolygu